Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. MR. T. VINCENT DAVIES.—Yr wythnos hon eyflwynir darlun o'r cerddor hwn i'm dar- llenwyr. Y mae, yn sicr, wedi ennill yr hawl i fod yn rhestr anfarwolion Cymreig ein dinas, ac, am hynny, y mae yn gwbl deilwng o le yn oriel cantorion y CELT. Ganwyd ef yng Nghapel Isaf, lie bychan ym mhlwyf Merthyr Cynog, Sir Frycheiniog, 46 mlynedd yn ol. Symudodd y teulu i Bontypridd (Morganwg) pan ydoedd y bachgen ond pum mlwydd oed. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth —fel llawer o wyr enwog ereill-gan ei fam. Meddai hi gryn lawer o wybodaeth gerdd- orol, ac felly gallodd roddi cychwyniad da i'r bachgen. Aeth hefyd drwy y ddisgyb- laeth gyffredin, sef o dan gyfarwyddyd Addysgwr lleol," mewn ymarfer a'r ber- doneg, &c. Wedi hynny daeth yn efrydydd gyda Mr. Lee Williams, organydd Eglwys Gadeiriol Llandaff. Yn ddilynol bu yn ddisgybl i Mr. Hugh Brooksbank, yr or- ganydd. Ym Mhontypridd bu am ddeuddeng mlynedd, am wyth o ba rai y gweithredai fel Athraw Cerddorol. Bu yn organydd Eglwys GyfeilIon am chwe mlynedd, ym mha eglwys yr ydoedd y Parch. Bickerton Edwards, brawd Esgob presennol Llanelwy, yn gwasanaethu. Ym Mhontypridd rhoddodd lawer o gyng- herddau fuont yn sicr yn symbyliad i .chwaeth y trigolion. Ym mhlith y cantorion ganasant ynddynt ydoedd Mrs. Nancy Davies, Eos Morlais, Signor Foli, &c. Ar ei yma- -dawiad o'r lie, yn 1877, cyflwynwyd iddo Anerchiad, ynghyda phwrs yn cynwys y swm o ddeugain punt. I Lundain y daeth, a gwelir ei fod yma bellach ers un-mlynedd- ar-hugain. Bu yn organydd Eglwys St. Benet, Queen Victoria Street, am dros chwe mlynedd ac y mae yn organydd Eglwys St. Mair, Paddington, ers pedair blynedd. Arwein- iodd y canu am dair blynedd yng Ngwyl Flynyddol Dewi Sant, a gynhelir yn Eglwys Gadeiriol St. Paul, a chwareuodd ar yr organ yno mewn dwy Wyl. Y mae ei gyngerdd blynyddol yn hysbys i lawer, yn enwedig i drigolion Gogledd- barth ein dinas. Y mae yn athraw prysur iawn ceir fod o ddeugain i hanner cant o ddisgyblion yn cael ei sylw bob wythnos. Fel cyfansoddwr, hefyd, y mae yn dod i fwy o sylw yn barhaus; a'r syndod yw ei fod yn gallu cael amser i gynnyrchu y fath nifer o ddarnau! Ceir fod ganddo nifer fawr i'r berdoneg, y Crwth a'r berdoneg nifer o ganeuon, anthemau, rhan-ganeuon, gwasanaethau," &c.-Cyhoeddedig gan yr Orpheus Music Publishing Company, Moor- gate Street. Y mae amryw o'i ddarnau wedi eu had- olygu yn y golofn hon a chredaf, oddiwrth yr hyn a welais o'i gerddoriaeth, fod ganddo allu arbennig i gynnyrchu caneuon. Yn sicr, bydd i rai o'r cyfryw fyw," yn enwedig y gan "Elfin King"—darn y dylai pob cantor Cymreig. o leiaf, ei feddu. Carwn pe byddai y nodiadau hyn yn gym- helliad i lawer o gerddorion ieuainc ein dinas i adnabod Mr. Davies yn well, ac i eistedd wrth ei draed. Y mae ei brofiad yn un digon eang, a'i allu yn ddiamheuol. Dy- munaf iddo hir oes i wasanaethu'r cylchoedd cerddorol. N Y GYMANFA GANU.-Y mae sylwadau Cemlyn ar hon yn haeddu sylw cyffred- inol. Fel y dywed, y mae yr Eisteddfod leol bron wedi lladd y Gymanfa, o leiaf y mae wedi tynnu ymaith lawer o'r bias oedd i'w gael gyda hi flynyddoedd yn ol. Hen ddywediad ydyw fod yr Eisteddfod yn apelio at chwaeth y cerddorion drwy eu pocedau a chymaint ydyw y gafael sydd MR. T. VINCENT DAVIES. ganddi arnynt fel nad yw y Gymanfa Ganu bellach yn atynfa yn y byd. Dywed Cemlyn fod peth arall yn effeithio yn niweidiol ar y Gymanfa, sef diffyg ysbryd priodol yn rhai o'r Arweinwyr a ddewisir. Yn sicr os yw hyn yn bod, sef fod bydol- rwydd meddwl yn hynodi y cyfryw ddynion, nis gellir disgwyl bendith ar eu gwaith. Yr oedd pregethwr mawr Americanaidd, yr hwn y byddwn bob amser yn ei edmygu, ac y cefais y fraint o'i glywed yn pregethu, yn gwrthod myned i'r pulpud i bregethu pan drosodd yma heb gael y tal yn ei law cyn dechreu y gwasanaeth. Pe gallwn gael prawf fod hyn yn wir, byddai gennyf feddwl bychan iawn o'r gwr hwnnw o hynny allan! Dywedai fy nhad wrthyf am bregethwr enwog o L- na ddeuai i'm cartref i bregethu o dan swm neillduol, er y dylasai wybod yn eithaf da nas gallai'r cyfeillion dalu y fath swm. Ar ol hynny dyna fy edmygedd o'r gwr hwnnw wedi darfod Yr un modd gyda Arweinydd Cymanfa Ganu. Nis gallaf ddirnad sut y gallai dyn fyddo yn llawn o'r Ysbryd hwnnw sydd yn arwain rhai at Dduw gynllunio pa fodd i gael y swm mwyaf a fyddo yn bosibl am arwain A byddai i ddyn brofi drwy y blynyddau mai er lies ei boced ei hun y llafuriau, ac nid er lies ei genedl, yn sicr o beri diflasdod i bobl pan y gwelid ef yn arwain yn y Gym- anfa Ganu-ar ba wyl yr offrymir Mawl i'r Goruchaf! Na, gwaith cysegredig iawn ydyw gwaith y Gymanfa, a rhaid i'r cantor- ion oil ofalu am fod a'u telynau wedi eu cyweirio yn briodol. Os felly y mae awelon yr Ysbryd yn sicr o'u cyffwrdd. Bydd i seiniau a gynyrchir yn y ffordd hon ad- seinio drwy ddyfnderau calon y dyn ei hun, a gwrandewir arnynt mewn syndod gan Angylion Fel y dywed Cemlyn, y mae gennym eisiau dynion yn meddu ysbrydolrwydd meddwl, megys ag a nodweddai Ieuan Gwyllt. Pan y ceir hwynt, bydd bias adne- wyddol ar y Gymanfa Ganu, a cheir mawr fendith drwyddi. MR. HERBERT EMLYN.—Ceir gwall mewn gair yn fy nodiad yr wythnos ddiweddaf. Ysgrifennais mai efe ydoedd y tenor "mwynaf" a feddwn. Argraffwyd y gair mwyaf." CERDDORIAETH A'R DDAWNS.—Y mae merch ieuanc yn bresennol yn tynnu cryn sylw yn Llundain at y mater hwn. Y mae, debygir, wedi profi y gellir egluro cerddoriaeth offerynol drwy y ddawns Fel y gwyddis, y mae cerddoriaeth a dawns yn gymdeithion hen iawn yn hanes y byd, ac y mae y ddawn wedi amrywio yn ol natur y gerddor- iaeth, er yn foreu. Ond yn ddiweddar y cafwyd prawf o'r modd y gellir drwy y ddawns egluro meddwl, ie, meddyliau, cyfansoddwr darn offerynol. Maud Allan ydyw enw yr hon sydd yn defnyddio y dull hwn o egluro cerddoriaeth, ac nis gallaf wneud yn well na dodi yma ei geiriau hi ei hun. I plan out all my dances in a sort of out line' form, yet for the details and steps I rely entirely on the inspiration of the moment. Every lover of music, I imagine, is familiar with Mendels- sohn's beautiful 'Spring Song,' and although, until I made the attempt, I had never heard of anyone trying to illustrate the composer's music meaning in dance steps, yet, as a matter of fact, music lends itself to illustration in quite an unusual manner. Thus, in interpreting it, I try to show by various motions the joyousness of spring, girls picking posies, butterflies flitting from flower to flower; in fine, I endeavour to portray in my steps the music, phrase by phrase, and I feel sure dancing enthusiasts who may decide to experiment on these lines will find real pleasure in trying to realise the poetry of music in their steps." Y mae dawnsio "ibwrpas," fel hyn, yn beth i'w gymeradwyo, a diau y ceir clywed am lawer ereill cyn hir yn dod allan fel eglurwyr cerddoriaeth ar ddawns.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.