Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

CHWAREU AG EGWYDDORION.

News
Cite
Share

CHWAREU AG EGWYDDORION. Yr wythnos hon yr ydym wedi cael esiamplau nodedig o wagedd a rhagrith y bywyd gwleidyddol. Yn yr etholiad ym Manceinion, fel yr uu yn Peckham rai wythnosau yn ol, mae'r naill blaid fel y Hall wedi bod ar eu heithaf yn rhoddi pob math o addewidion, gan anwybyddu pob egwyddor o onestrwydd, gyda'r unig amcan o hudo'r etholwyr i'w gyrru i'r Senedd. Mae'r prif ymgeiswyr ym Manceinion wedi enwogi eu hunain am eu anghysonderau. Er engraifft, wele arweinydd ieuanc y cadau Rhyddfrydol yn dylifo allan ei raglen, gan addaw popeth a ofynasid iddo gan Wyddel neu Iddew, a hynny megys cyn i adsain ei areithiau gwrth-Ryddfrydig gilio o glustiau y rhai a'i canlynent fel Tori penboetli rai blynyddau yn ol. Mae'r egwyddorion a'r hawliau a roddai fel sylfaen ei gredo gynt wedi eu gyrru o'r neillda erbyn heddyw, ac mae'n llyncu'r gredo Radicalaidd gyda'r fath rwyddineb nes synnu hyd yn oed ei gefnog- wyr mwyaf selog. Cadw y sedd yw'r gamp, a rhaid addaw popetb er gwneud hynny Yr un modd 'roedd ei wrtbwynebydd Toriaidd. Ycbydig amser yn ol honnai ei fod yn bleidiol iawn tros ddirwest. Gosodai ei hun i fyny fel awdurdod ar faterion sob- rwydd. Pan oedd Dirprwyaeth arbennig yn chwilio i hawliau y fasnach feddwol a'r trwyddedau rai blynyddau yn ol, efe oedd y cadarnaf o'r boll dystion o blaid lleihau nifer y tafarndai. Dywedai yn ddifloesgni mai dyna'r unig ffordd i sicrbau sobrwydd. Ym mhellach, dadleuai tros gyfyngu yr hawl o iawn i dafarnwyr i bum' mlynedd, a llawer o welliantau cyffelyb. Ond gan fod y blaid Ryddfrydig wedi dwyn Mesur i mewn ar y llinellau a gymeradwywyd y pryd hwnnw, weJe ef ar ei eitbaf yn ei gondemnio gan gyboeddi ei fod yn eitbafol, yn anonest, yn bopetb ond yn gymortb i sobrwydd, a hynny pan mae cynnygion y Mesur yn llawer llai eitbafol na'r hyn a hawliai o flaen y Ddirprwyaeth honno. Ond gwr heb sedd Seneddol yn y golwg oedd ef pryd bynny! Nis gallai neb syrthio yn is mewn egwyddor ac anonestrwydd na hyn. Mae hawl gan bawb i newid eu barn a gwella ar eu gwy- bodaeth, ond pan welir y daliadau yn cael eu newid gyda'r unig amcan o gydymffurfio a daliadau plaid neillduol, yna does yr un gwertb yn y dyn. Nid goleuni ar egwyddor y maent wedi gael, ond goleuni ar y budd a'r llesiant personol; a thra y gosodir hyn ym mlaenaf gan gynrycbiolwyr Seneddol ein gwlad, ofer, yn wir, fydd ein disgwyliadau am lywodraetb lin a rhydd. 0 dipyn i beth fe ddaw y wlad i weled gwegi y cynllwynion hyn, a'r etbolwyr i brotestio yn erbyn cael eu gwneud yn cbwareubetbau dinod ar fwrdd ymgeiswyr gwleidyddol o'r fatb

NODIADAU LLENYDDOL.