Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
EISTEDDFOD BURDETT ROAD.
EISTEDDFOD BURDETT ROAD. Yn yr Eisteddfod hon, a gynhaliwyd nos Iau, y 9fed cyfisol, y buddugwyr oeddynt:— Am adrodd Bedd fy Mam (i rai dan 14eg oed), goreu Elizabeth Davies, Jewin; ail oreu, Mary Davies a Willie Morris, Mile End a Bessie Thomas, Fulham, yn gyfartal. Llythyr serch—goreu, Mr. Edwards, Mile End. Yr oedd beirniadaeth Dr. Hartwell Jones yn un o'r rhai mwyaI doniol a glywais erioed. Digrif ydoedd clywed hen lane yn pwyso teilyngdod llythyrau serch Am y prize bag, gwobrwywyd Miss Blod- wen Jones, Mile End. Am ddau benill i Ardd Gethsemane, goreu Amicus." Am restr o'r emynau mwyaf adnabyddus, goreu Miss Elizabeth Davies, Mile End. Am adrodd Yr Eneth Ddall," goreu Miss Davies, Holloway. Mr. John Jones (o Gapel Moorfields, E.G.) wobrwywyd am araith dri munud ar Bryd- londeb." Am draethawd ar Ddysgeidiaeth Grist yn y bregeth ar y Mynydd," goreu Mr. J. G. Davies, Sussex Street. Y beirniaid oeddynt Adroddiadau, &c., Parch. G. Hartwell Jones, D.D. Prize-bags Mrs. Davies, Commercial Road, a Miss Jones, High Street, East Ham. Accompanist, Mrs. Campbell, Snaresbrook. Arweinydd, Parch. W. L. Watkin. Trysorydd, Mr. H. L. Thomas. Ysgrifennydd, Mr. W. J. Williams. Y mae gair o glod yn ddyledus i'r Cadeir- ydd, Mr. W. H. Thomas, aelod ffyddlawn o'r genhadaeth hon. Yn ei anerchiad gwnaeth sylwadau buddiol iawn. Hefyd rhoddodd swm i'r drysorfa ydoedd yn brawf sylweddol o'i deimlad caredig a chynnes tuag at yr achos." I Ceir sylwadau ar yr adran gerddorol, yng Ngholofn y Gan]. P.A.
[No title]
MAE brodor o sir Benfro, a fu hyd yn ddi- weddar yn aelod o Senedd New South Wales, yn un o brif ddynion y wlad honno. Mr. Albert Bruntnell yw ei enw, a daw yn fuan i'r wlad hon am dro, a bydd yn siarad ar ddirwest dan nawdd yr United Kingdom Alliance. Efe yw ysgrifennydd Cyngrair Dirwest Deheudir Cymru Newydd, a bu yn arwr llawer o frwydrau pwysig yn y wlad honno. Mae yn siaradwr rhagorol, a phroff- wydir y bydd yn sicr o wneud ei fare yn yr hen wlad.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y PAsc.-Disgwylir amryw o ddoniau y Cyfundeb Methodistaidd i lenwi pulpudau y ddinas yn ystod y Sul nesaf. LLAWENHAU Mae'r dinasyddion yn llawenhau oil ar ddyrchafiad haeddianol Mr. Lloyd-George a 'does neb drwy'r deyrnas yn gwarafun iddo y tair mil punnoedd ychwanegol yn ei gyflog. Y SEIRI RHYDDlON.- Yng nghyfunfa ddi- weddaf yr Urdd hon, deallwn mai Mr. Tom Hinds sydd wedi ei ethol yn bennaeth am y flwyddyn nesaf, yn olynol i Mr. J. T. Lewis, cyfreithiwr, Chancery Lane. Y CLWB CYMREIG.—Deallwn fod trefniadau wedi eu cwblhau i sicrhau ystafelloedd mwy clyd at wasanaeth yr aelodau yn 2, Whitehall Court. Cwynai rhai yn flaenorol fod y lie yn rhy uchel ar hyn o bryd, ac mae ystafell- oedd ereill wedi eu trefnu, y rhai fyddant yn hawddach i'w carraedd o hyn allan. ARDDANGOSFA.—Mae arddangosfa fawr i'w chynnal ym Mehefin yn yr Agricultural Hall, yr hon a drefnir gan y Gymdeithas Gen- hadol. Mae nifer o'r Eglwysi Cymreig yn trefnu i gynorthwyo yn y gwaith, a cheir engreifftiau yno o'r gwaith cenhadol ym mhob gwlad. GYDA'I BOBL.-Disgwylid Mr. Lloyd- George i fod yn Paris ddydd Sadwrn di- weddaf, ond bu raid iddo aros gartref er mwyn cwblhau'r trefniadau ynglyn a ffurfiad y Weinyddiaeth newydd. Yn yr hwyr aeth ef a'i briod i gyngerdd mawr Castle Street, a threuliodd amser dedwydd yno ymysg ei bobl i wrando ar eu canu. CLOD I'R CANTORION.—Ar derfyn y gan- tawd, caed ycbydig eiriau canmoliaethus ganddo, a rhoddodd air calonogol iawn i'r arweinydd—Mr. Nicholas Lewis-am ei lafur gyda'r gwaith. "Yr oedd yn syn gennyf glywed eu canu rhagorol, a gweled eu medr yn dysgu'r fath waith, ynghanol prysurdeb eu gwahanol alwadau. Wrth edrych dros y copi yma sydd o'm blaen a gweled y llu trawsgyweiriadau (chwerthin), yr oedd yn dda gennyf eu clywed yn dod trwyddynt mor ddiogel, o herwydd mae'r beirniaid yma yn manylu bob amser ar y trawsgyweiriadau. 'Rwyf innau, medda nhw, yn mynd trwy rhyw drawsgyweiriadau y dyddiau hyn, ac rwyn disgwyl na fydd y gan i orffen yn fflat chwaith (cymeradwyaeth mawr)."—Ac felly y profodd y papurau ddydd Llun. Y DDIWEDDAR MISS JONES, WARWICK ST.— Collwyd o'r cylch Cymreig yn Llundain un o'r cymeriadau parchusaf a mwyaf hoffus ym marwolaeth y foneddiges uchod. Daeth y digwyddiad prudd yn hynod anisgwyl- iadwy, er galar dwys i lu mawr o gyfeillion a chydnabod. Bu yn ddioddefydd mawr bob gauaf ers blynyddoedd oddiwrth y bronchitis, eithr ymadnewyddai ym misoedd y gwanwyn, ac ni thybiodd neb nad adnewyddai yr un fath y flwyddyn hon. Ond profodd awelon difaol mis Mawrth eleni yn ormod i gyfan- soddiad oedd eisoes yn llesg i'w gwrthsefyll. Brodor oedd Miss Jones o ardal Rhydymain, gerllaw Dolgellau. Daeth i Lundain fwy na deugain mlynedd yn ol; ac fel Miss Jones, Twickenham, yr adnabyddid hi am gyfnod hir. Rhyw ugain mlynedd yn ol cymerodd 62, Warwick Street, a chadwodd ef fel Llety- dy hyd ei marwolaeth. Ar ei dyfodiad i Lundain, ymunodd a'r eglwys yn Sloane Street-yr eglwys sydd yn awr yn Radnor Street, Chelsea. Ni chafodd eglwys erioed aelod ffyadlonach, nag un a gymerai ddydd- ordeb dyfnach ymhob peth cysylltiedig a'r achos. Yr oedd yn un o aelodau hynaf yr- eglwys, ac edrychid i fynu ati gan bawb. Yn ddiddadl, gellir dywedyd am dani, Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth." Gosodwyd ei gweddillion i orphwys yn Fulham Cemetery, yng ngwydd tyrfa fawr, pryd y gweiuydd- wyd gan y Parch. J. Machreth Rees, gwei- nidog yr eglwys yn Radnor Street. Cyd- ymdeimlir yn fawr a'i pherthynasau galarus, llawer o ba rai sydd yng ngwahanol barthau y ddinas. MARWOLAETH.—Drwg gennym gofnodi yr wythnos hon farwolaeth y wraig addfwyn, rinweddol, Mrs. Ellis, Poplar, yn ei phres- wylfod, 255a, Abbott Road, yr hyn gymerodd le foreu Sul diweddaf. Dioddefodd gystudd hir a chaled yn amyneddgar iawn- fel Cristion. Ei phrofiad yn ami yn ddi- weddar oedd fod y groes yn drom," ond, meddai bob amser, Beth yw fy nghroes i i'r groes gariodd Ef." Yr oedd yr ymadaw- edig yn un a hoffid ac a berchid gan bawb a'i hadwaenai. Deallwn y cymer yr angladd le yng nghladdfa y teulu yn. Abney Park Cemetery, dydd Iau nesaf, yr 16eg, am 4 o'r gloch y prydnawn. Nodded y Nef fyddo dros ei phriod a'i phlant. BORO'.—Cafodd Cymdeithas Lenyddol y lie uchod gyfarfodydd llwyddianus iawn i orffen y tymor eleni. Rhoddodd Mr. R. Wood bapur rhagorol ar Brydlondeb a Ffyddlondeb i Foddion Gras." Hefyd rhoddodd y Parch. D. D. John, B.A., Forest Gate, ddarlith alluog ar Christmas Evan& a'i Amserau." Un o blant y Boro' yw Mr. John, a chafodd dderbyniad tywysogaidd gan yr Eglwys. Diolchwyd yn gynnes iddo am ei ddarlith werthfawr gan Miss Wood a Mr. D. J. Lewis, ysgrifenyddion y Gym- deithas. CASTLE STREET.—Caed cyngerdd rhagorol yng nghapel Castle Street, nos Sadwrn di- weddaf, a chan ei fod o nodwedd eithriadol, haedda air o sylw. Profodd y cyfeillion drwyddo nad oes angen am y champion solo a'r man gystadlu i ddenu y torfeydd mawr, oherwydd caed cynulliad llawn, ac yn eu plith rai o gerdd-garwyr goreu'r ddinas. Prif atyniad y rhaglen oedd yr addewid y buasid yn rhoddi datganiad o'r gantawd "Song of Thanksgiving" (Maunder), gan gor y lie, o dan arweiniad Mr. J. Nicholas Lewis, ac ni siomwyd neb yn y gwaith, chwaith. Yr oedd Mr. Lewis wedi llwyddo i gael cor rhagorol ynghyd, a pan ystyriom yr anhawsterau sydd ar y ffordd i gael ymarfer- iad yn Llundain, rhaid rhoddi gair o glod i'r cor am ei lafur. O'r dechreu i'r diwedd gwnaeth ei waith yn rhagorol, a chynorth- wywyd ef yn feistrolgar gan yr unawdwyr, Miss Eleanor Jones Hudson, Miss Gwladys Roberts,Mr. John Roberts, a Mr. David Evans, ynghyd a Mrs. Lloyd-Williams, a Mr. D. Richards yn gofalu am y cyfeiliant. Cad- eiriwyd gan Mr. W. Lloyd Taylor, Y.H., a chaed areithiau edmygol ar y diwedd ganddo ef a Mr. D. Lloyd-George, A.S., a chan y gweinidog, Mr. Herbert Morgan. Fel rhag- flaenydd i'r gantawd caed nifer o unawdau gan y cantorion adnabyddus hyn, a phe baem yn myned i chwilio bai ar Mr. John Owen, y trefnydd, buasem yn dweyd ei fod wedi rhoddi gormod o arlwy am y pres. Yr oedd y cyfan o nodwedd aruchel, ac yn sicr mae gweled y fath hoffder tuag at gerddor- iaeth aruchel yn sicr o fod yn galondid i'r cor a'r arweinydd i barhau gyda gweitkiau clasurol o'r fath. ST. BENET.—Y nos Sul dilynol, Ebrill, 12fed, bu cor Eglwys St. Benet, tan arwein- iad Mr. J. E. Davies (Clwydian) yn rhoddi datganiad o'r gwaith Prynedigaeth y Byd,"
Cleber y Clwb.
0 ydynt," ebai Vincent, beth bynnag rai o honynt, "ond mae'r rhestr gyflawn i ddod o flaen y pwyllgor cyffredinol yr wyth- nos nesaf." A'i gwir y sibrwd mai Marchant a Chadfan sydd i feirniadu'r awdl" ? ebe Tom Price. Fe ddywedir hynny," ebwn innau, ac mai Llinos Wyre sydd i fod yn ganolwr os methant gytuno. Ar un adeg buwyd yn meddwl rhoi J. Morris Jones ar yr awdl, ond tystiai Marchant na wyddai hwnnw ddim am farddoniaeth, ond feallai ei fod yn awdurdod ar bapur." Rhyw go chydig wyr e am bapur, hefyd," ebe Gwylfa, onide buasai wedi bod yn beirniadu papur llyfr Marchant, oher- wydd doedd dim byd ond y papur yn hwnnw yn werth sylwi arno, ac fe adawodd hwnnw heb roi ei farn am dano." Chwarddodd pawb ar hyn, ac aeth pawb ymaith yn gynnar er mwyn dal y trens i dreulio eu gwyliau yn y wlad. A phawb yn dymuno Gwyliau hapus y naill i'r llall. Ar SHON.