Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y SENEDD.

Cleber y Clwb.

News
Cite
Share

Cleber y Clwb. Nos Fercher. Dim politics heno," fechgyn, meddai Syr John, pan ddechreusom grynhoi o gylch y tan i fwynhau noson lawen, "er hynny," ychwanegai, wrth droi at Mr. Lloyd-George i ysgwyd ei law, gadewch i mi eich llon- gyfarch, fel Cymro, ar y safle anrhydeddus ydych wedi esgyn iddo, a synwn ni damaid na chaiff hen wr fel fi y mwynhad a'r fraint o weled Cymro yn brif-weinidog Prydain, a Chymro arall," gan droi at S.T., yn brif arglwydd yn y Ty uchaf." A chwarddodd pawb yn llawen wrth feddwl am hen rebel fel Sam yn eistedd yn urddasol ar y sach wlan yn cyfarwyddo holl urddasolion y deyrnas sut i ymddwyn, a pha fodd i ddangos eu teyrngarwch. "A phaham lai ? holai Syr S.T., yn chwareus, "ydych chi ddim yn meddwl y gall bachan o fro Morganwg ofalu am dref- nusrwydd y lie urddasol hwnnw cystal a rhyw labwst o fab i bendefig na welodd ddim byd ond gwagedd cymdeithas ar hyd ei oes ? Yn llawer iawn gwell," ebai Tom Price, gan chwythu mygyn, a chan edrych i bell- deroedd y cwmwl ddaeth o'i enau, ychwan- egodd, yr oeddwn innau ar un adeg yn meddwl nad oedd neb wedi ei alw i fod yn Seneddwr neu'n arweinydd os heb ei eni a llwy aur ar ei wefus, ond erbyn gweled tipyn o'r hen fyd yma deuais i ganfod fod gwell siawns o lawer gan y boys yma sydd wedi gorfod ymladd eu ffordd tan lu o anhawsterau, i ddod yn svleidyddwyr da, na'r rhai na chawsant eu profi yng nghaled- waith yr ymladdfeydd." Hear, hear," torrai John Hinds i fewn, ac mae yr un peth yn wir am y bobl sy'n llwyddo yn y cylchoedd masnachol, hefyd. Y bechgyn sydd wedi esgyn i'r grisiau uchaf yma ym mywyd prysur Llundain yw'r bechgyn a aned ar aelwydydd caled Cymru, ac a ddygwyd i fynu ar gawl a thato a bara haidd. Mae'r pethau hyn yn rhoddi grit yn y Cymro i ymladd ei ornest ac yn ei alluogi i ennill y gamp ym mhob cylch." "Quite true," eiliai Pritchard Jones, a'r unig reol euraidd yn hanes pob Cymro llwyddianus yn ein cylchoedd Cymreig heddyw yw diwydrwydd a dyfalbarhad." Ond mae'n rhaid wrth y ddawn a'r athrylith, hefyd," meddai Syr John, "neu, pa fodd y gallwch gyfrif am lwyddiant Lloyd-George yma ? Wel," ebai George, oni chefais innau fy rhan o galedwaith y cylchoedd gwleid- yddol. Mae'r ugain mlynedd hyn wedi bod mor brysur yn fy hanes i ac yn hanes Mr. Jones, ond ei fod ef wedi llwyddo i wneud ei filoedd, tra nad wyf fi ond megys yn cael y cyfraniad cyntaf o'r treuliau, a thai am yr amser a roddais at achosion y wladwriaeth." Mae hyna yn eitha cywir," ebe Syr John, a'n dymuniad ni yw ar i chwi barhau yn hir yn y swydd a boed i'ch gyrfa barhau yr un mor llwyddianus ac mae wedi bod yn y gorffenol." I newid ymadrodd," ebe Gwylfa, yr hwn oedd yma ar ymweliad bregethwrol, sut mae'r Eisteddfod ym myned ymlaen gennych ? Yn lied dda," ebai Rhuddwawr, ond mae cryn lawer o waith eto i'w gyflawni." Yn yr adran lenyddol yn unig," oedd ychwanegiad Dr. Dan, fel pe bae am ddangos fod y cantorion, tan ei gyfarwyddyd ef, wedi hen orffen eu trefniadau." "Mae'r llenorion wedi gwneud cymaint a gwyr y gan, beth bynnag," oedd ateb parod Vincent, a mwy na hynny, 'roeddent yn unol bob amser yn eu trefniadau, hefyd." Pwy yw eich beirniaid "? oedd ymholiad gofalus Gwylfa, wedyn. A ydi y rheini wedi eu penodi eto ? gofynodd Syr John, yn syn.