Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Y SENEDD.

News
Cite
Share

Y SENEDD. Y CYMRY YN DRINGO. SAFLE UCHEL MR. LLOYD-GEORGE. Heddyw mae Cymru yn llawenhau. Mae un o'i meibion glewaf wedi dringo i un o'r safleoedd mwyaf anrhydeddus ym myd gwleidyddol y Sais ac mae'r dyrchafiad yn un o'r penodiadau mwyaf poblogaidd yn y Senedd. Pan ddaeth y newydd fod Syr H. Campbell-Bannerman wedi ymddiswyddo yr wythnos ddiweddaf aeth pawb i ymholi pwy gawsai yr anrhydedd o fod yn olynydd iddo. Nid oedd ond un gwr a hawliai y fath safle, a Mr. Asquith oedd hwnnw. Ond y pwnc nesaf oedd pwy a gawsai le gwag Mr. Asquith, fel is-arweinvdd v blaid a rheolwr cyllid y deyrnas ? Yr oedd llawer o .nwau yn codi ar unwaith o flaen y meddwl, enwau hen arwyr oeddent wedi brwydro llawer dros Ryddfrydiaeth, ac wedi gwasan- aethu y blaid mewn ami i gylch, a hynny trwy lawer iawn o aberth. Yr oedd rhai o ben-swyddwyr gweinyddiaeth Gladstone yn -aros o hyd. Yr oedd amryw o wyr ieuainc cyfoethog y blaid yn cael eu gwthio gan gefnogwyr y gwyr mawr," a theuluoedd urddasol gwlad y Sais, ond ni osododd y werin fwy nag un enw i lanw'r fath safle, a'r enw hwnnw oedd MR. D. LLOYD-GEORGE, y Cymro ieuanc oedd wedi cyflawni y fath wrhydri yn rheolaeth Bwrdd Masnach yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf hyn, a phan ddaeth rhestr Mr. Asquith o flaen y cyhoedd foreu Llun caed fod prophwydoliaeth y cyhoedd wedi ei gyflawni yn hollol, ac wele'r aelod tros Gaernarfon ar derfyn dwy flynedd o'i wasanaeth yn y Weinyddiaeth yn cael ei osod yn bennaeth ar yr adran bwysicaf yn y deyrnas-ag eithrio safle y Prifweinidog ei hun! Nid rhyfedd fod Cymru yn llawenhau. Ni chafodd erioed y fath gynrychiolwyr yn Westminster ag sydd ganddi heddyw, ac ni welodd yn ei hanes neb o'i phlant yn llanw swyddi mor urddasol. Ar un adeg ceisiai rhai cenedlaetholwyr cul honni mai'r unig ffordd i Gymru i ennill ei hawliai oedd trwy gadw draw o holl Gynghorau'r Sais. Rhoddid yr Iwerddon bob amser fel esiampl i ni gan anghofio fod plaid o bedwar ugain yn dra gwahanol i barti bychan o ychydig dros ugain. Gall y Gwyddel fforddio i ymladd, oherwydd mae'r blaid yn unol a chadarn ar bob achlysur, ond rhaid i genedl wan fel y Oymry apelio at ryw gynllun ar wahan i nifer ei phleidleisiau ar lawr y Senedd. Lie palla cryfder rhaid arfer cyfrwysdra, ac mae'r cynllun diweddaf yma o osod ei phlant yn rhai o'r swyddi uchaf yn y deyrnas yn dechreu dwyn ffrwyth ar ei ganfed. Mae ei Ilais yn cael clust ymwrandawiad, ac mae ei hawliai yn cael eu hegluro byth a beunydd yng nghyfrin gynghorau y Weinyddiaeth. Y canlyniad yw fod ein hangenion yn cael eu cydnabod a'n bywyd cenedlaethol yn dod yn rhywbeth sylweddol a byw yn hytrach na delfryd disylwedd ar y llwyfan neu ar lawr Ty'r Senedd. Yn y Weinyddiaeth newydd a drefnwyd gan Mr. Asquith y mae un arall o'r aelodau 'Cymreig wedi cael dyrchafiad rhagorol, sef MR. R. M'KENNA, yr aelod tros ranbarth o Fynwy, yr hwn a esgynodd i'r Morlys o fod yn Weinidog Addysg. Dyn ieuanc galluog yw yntau, hefyd, a daeth i sylw yn bennaf drwy iddo fod am dymor yn un o is-ysgrifenyddion i Syr H. Campbell-Bannerman. Yn a:pffodus ymedy Mr. M'Kenna i'r Bwrdd Addysg cyn owblhau ei waith. Dygodd i fewn ei Fesur -enwog ychydig amser yn ol, a'r pwnc i'w benderfynu yn awr yw a wna'r Ty barhau i'w wthio drwodd. Sonir gan rai fod ym mwriad y Weinyddiaeth i dderbyn cynllun Esgob Llanelwy, ac y caniateir i'r hyn a benderfynir yn Nhy'r Arglwyddi i ddod yn fesur y Weinyddiaeth cyn terfyn y tymor hwn. Beth bynnag fydd tynged Mesur Llanelwy y mae'n eglur nas gellir disgwyl i Mr. M'Kenna barhau gyda'i gynllun ef, ac y bydd yn rhaid i'r gwr a'i canlyna yn y Swyddfa Addysg ddwyn rhyw gynllun ym mlaen cyn hir i roddi taw bythol ar y cwerylon sectyddol yma ym myd addysg. Yn ychwanegol at y ddau hyn mae'r Cymry-Syr S. T. Evans yn cadw ei le fel Cyfreithiwr Cyffredinal, a Mr. Herbert Lewis yn chwip i'r holl haid fel y mae gan Gymru le i lawenhau heddyw am y safleoedd pwysig a lenwir gan ei phlant ar lawr Ty'r Cyffredin. Y GWIR ANRHYDEDDUS D. LLOYD-GEORGE, YSW. 6 (Canghellydd y jjTrysorlys). RHODDODD Dyfed adroddiad mewn Cwrdd Misol, y dydd o'r blaen, o'i ymweliad ef a blaenor ag eglwys neillduol yn ardal Caer- dydd i ddewis blaenoriaid, fel hyn Cyn- ygiwyd pawb a dewiswyd dau." Dywedodd un o'r gweinidogion, oedd yn gwrando, wrth yr aelodau i gofio fod Dyfed nid yn unig yn fardd, ond mai efe oedd prif-fardd Cymru! BYDD Cofiant i'r diweddar Barch. D. Lloyd Jones, M.A., Llandinam, yn barod i'r wasg yn fuan. Y Parch. Elias Jones, o'r Dref- newydd, sydd yn paratoi y rhan hanesyddol o hono ac y mae yn sicr nad oes neb cym- wysach nac ef i wneud hynny. Bu y ddau yn byw yn ymyl eu gilydd am lawer o flynyddoedd, ac felly cafodd lawer o fanteis- ion i ymgydnabyddu a Mr. Lloyd Jones ac i'w adnabod yn drwyadl. Mae y Parchn. John Williams, Brynsiencyn, a Thos. Chas. Williams, Menai Bridge, ynghyda Mr. 0. M. Edwards, wedi addaw ysgrifennu hefyd i Z:5 gynorthwyo.

Cleber y Clwb.