Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Y WEINYDDIAETH NEWYDD.

[No title]

News
Cite
Share

BETH bynnag ddaw o Fesur Addysg Esgoh Llanelwy, y mae un peth yn sicr: ei fod wedi agor drws cytundeb ag Eglwys Loegr ar bwnc addysg y plentyn. AMCANA Mr. Birrell gael dwy Brifysgol i'r Iwerddon—un yn Belfast a'r llall yn Dublin. Rhydd y Llywodraeth £ 150,000 tuag at yr adeilad yn Dublin a 160,000 at yr un yn Belfast. Yn rhagor, rhoddir £ 80,000 yn flynyddol at eu cynhaliaeth, yn ychwanegoi at yr ugain mil a dderbynir o Gronfa Dad- sefydliad yr Eglwys yn yr Iwerddon. Pa bryd y caiff Cymru y fath driniaeth hael ? EFIFIOR T/T,AWRT,WV. GWR gweithgar iawn ar ran yr Eglwys yng Nghymru yw'r Esgob Edwards o Lanelwy. Mae yn Gymro trwyadl o ran iaith, ond nid yw yn credu llawer yn ei gwerth a'i pharhad, a hynny yn bennaf, feallai, am mai gwanychu y mae tu fewn i furiau yr Eglwys. Mae ei Fesur Addysg newydd wedi creu cyffro yn Nhy'r Arglwyddi; ac er nad ydym yn cytano a llawer o'i syniadau, y mae amcan y Mesur, sef cymodi ar gwestiwn addysg, yn beth gwerth ei ystyried. PAN gyferfydd y Senedd ar ol gwyliau'r Pasc, trefnir ar unwaith i fyned ymlaen a'r ddadl ar Fesur y Trwyddedau. DYWED Elfed fod y teimlad o blaid Mesur Trwyddedau y Llywodraeth yn myned ar gynnydd bob dydd trwy Ddeheudir Cymru. Pan ddaw'r werin i ddeall mor Ryddfrydig yw'r Mesur, ac mor deg ei adranau, bydd yn anhawdd deall y miri a'r gwaeddi presennol a wna'r tafarnwyr yn ei erbyn. Yn wir, pe gwnai'r Llywodraeth ei dyledswydd byddai'r Mesur yn llawer mwy caeth nag ydyw ar hyn o bryd.