Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

CROESAWU TOM PRICE.

News
Cite
Share

CROESAWU TOM PRICE. Yr wythnos hon cafodd Cymry'r ddinas gyfleustra i roddi croesaw cynnes i'r Anrhy- deddus Tom Price, y Cymro sydd yn Brif- weinidog ar Ddeheubarth Awstralia. Mae Mr. Price, fel y sylwyd yn ein rhifyn blaenorol, ar ymweliad a'r wlad hon am ychydig wythnosau, ac er cymaint ei alwad- .au, addawodd, gyda pharodrwydd, ddod i .gyfarfod pen-tymor Undeb y Cymdeithasau Llenyddol nos Sadwrn diweddaf, a rhodd- wyd iddo groesaw calonog dros ben. Nos Fawrth bu'n cydwledda ag aelodau y Clwb Cymreig yn Whitehall Court, a daeth amryw o wyr enwog yno i dreulio noson lawen yn ei gwmpeini. Llywyddwyd gan Syr John H. Puleston, hen wron sydd yn adnabyddus drwy bob cylch Cymreig, ac ymhlith y rhai oedd yn bresennol gwel- wyd Mri. Herbert Lewis, A.S., Syr S. T. Evans, A.S., T. H. W. Idris, A.S., Mr. John Hinds, Mr. J. H. Davies, M.A., Mr. D. Lleufer Thomas, Mr. William Evans, Mr. Howel Thomas, Mr. J. T. Lewis, Mr. Tom Davies, Parchn. D. Bryant, J. Machreth Rees, a J. Humphreys, a'r ysgrifennydd, Mr. -J. C. Jenkins. J. HERBERT LEWIS, YSW, A.S. YR ANRHYDEDDUS MR. TOM PRICE.

UNDEB Y CYMDEITHASAU LLENYDDOL.