Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CYNGERDD Y BEDYDDWYR. — Cynhaliwyd hwn nos Iau, yr 2il cyfisol, yn y Tabernacl, Leonard Street, City Road, cartref newydd y brodyr fuont ar grwydr er pan y gadawsant Eldon Street. Lie hwylus iawn ydyw eu man cyfarfod presennol, ac y mae yr adeilad yn un prydferth. Synnaf os nad el llawer i'r cyrddau Cymreig a gynhelir ynddo o hyn allan. Amlwg yw fod y brodyr hyn a'u llygaid yn agored am rai fyddent yn debyg o dynnu." Y tro hwn ni lywyddwyd i lenwi yr adeilad ond rhaid cofio ei fod yn lied fawr, ac nad yw y Cymry yn gynefin ag ef hyd yn hyn. Oddigerth Mr. Andrew Jones a Miss Loriot, yr oedd y datganwyr yn rhai adna- byddus i Gymry Llundain. Am y fonedd- iges, gellir dweyd ei bod yn bur fedrus fel -crythor. Yr oedd arbenigrwydd mewn rhannau o'i darnau hi, a brofai ei chwaeth a'i meddylgarwch. Chwareuodd Noc- turne yn E fflat (Chopin); Bohemian Dance (Randegger, ieu.), a Scenes de la Czarda (Hubay). Cafodd wrandawiad da —teyrnged i'w detholiad a'i chyflwyniad hi o'r cyfryw. Am Mr. Andrew Jones-gwr ieuanc sydd wedi tynnu cymaint o sylw, a'r hwn sydd yn efrydydd yn y Coleg yma yn bresennol- rhaid cofio mai efrydydd ydyw, ac, am hynny, dylid edrych dros bethau y bydd yn sicr o ymberffeithio ynddynt gydag astud- iaeth ofalus a chyson. Nid ydyw rhan isaf ei lais gystal, fel llais naturiol, ag y buasid yn disgwyl. Y mae y nodau uwchaf yn dda ac o well ansawdd. Ond gall celfyddyd wneud llawer i'w helpu dros ddiffygion presennol. Y mae dau beth i'w canmol yn Mr. Jones (1) Y mae ei eiriau yn eglur (2) y mae yn taflu llawer iawn o ysbrydiaeth i'w ganu. Ei ddarnau unigol oeddynt "A May morning"; "Unwaith eto yng Nghymru anwyl." Da gennyf glywed Miss Alma Jones un- waith eto. Canodd Because a Entreat me (Gounod), yn rhagorol. Contralto dda ydyw. Tybiaf fod ei llais yn ysgafnach na chynt, o'r hyn lleiaf yr oedd cylch y llais yn eang iawn i fynu-i gontralto. Pur anaml y clywais well datganiad o'r gan Because." Canodd Mr. Tim Evans Glyndwr" a A jolly old Cavalier yn dda iawn. Fel y gwyr ein darllenwyr yn dda, medd lais baritone hyfryd iawn. Da gennyf y clywir ef yn fynych yn eincyngherddau. Y mae Tim yn un ewyllysgar iawn ac yn gwasan- aethu i bwrpas gyda'r gan. Madame Laura Evans ydoedd y soprano, ac y mae yn canu yn rhagorol-cystal ag unrhyw soprano ddiweddar o Gymraes y gwn am dani. Yn sicr nid yw hyn yn or- ganmol. Ei darnau oeddynt Llam y Cariadau a With verdure clad." Canwyd hefyd y darnau canlynol:— Dwyawd, "Y ddau arwr," Tim Evans ac Andrew Jones. Dwyawd, Maying," Miss Alma Jones a Tim Evans. Dwyawd, "Hywel a Blodwen," Madame Laura Evans ac Andrew Jones. Pedwarawd, Strange Adventure," Mm. Laura Evans, Alma Jones, Tim Evans, ac Andrew Jones. Cyfeiliodd Miss Deborah Rees yn dda, fel arfer. Yr ydym bellach yn disgwyl llawer ganddi pan wrth y berdoneg, ac ni'n siomir un amser. Y Cadeirydd ydoedd Mr. J. Jay Williams, Cymro twymngalon, ond un (meddai ef wrth y dorf) sydd ar fin priodi Seisnes. Gobeithio na wnaiff hi Sais o hono! GWYL GERDDOROL (SAESNEG) BATTERSEA. —Y mae yr wyl y soniais am dani beth amser yn ol wedi cael ei chynnal, a bu yn llwyddiant mawr. Yr oedd yno 1,400 o ymgeiswyr ? Yr oedd saith-ar-hugain o gorau yn cys- tadlu Nid oedd yr un o honynt yn rhai Cymreig. Gresyn nad elai corau King's Cross, Falmouth Road, a Jewin i gystadleu- aeth fel yr uchod. Gobeithio y bydd iddynt gadw llygad ar yr wyl y flwyddyn nesaf. GWYL Y SAESON YN STRATFORD.—Y mae hon hefyd yn cynyddu bob blwyddyn. Eleni yr oedd ynddi 2,500 o ymgeiswyr! Rhaid, felly, oedd ei gwneud yn wyl saith niwrnod Fel y sylwais eisoes yn y golofn hon, y mae dylanwad yr wyl hon ar drigolion Dwyrein- barth Llundain yn un mawr. Dygir i sylw dalentau newyddion bob blwyddyn, a thrwy y gwahanol ddosbarthiadau," ceir cyfleus- derau i fuddugwyr un flwyddyn i ragori y flwyddyn ddilynol. Mwy na'r oil, symbylir y cerddorion i lafurio yn bennaf er mwyn yr anrhydedd a ddeilliaw iddynt, ac nid er mwyn pocedu pres. Y mae cor rydd wyth- nosau o lafur i ddarpar gogyfer a chystad- leuaeth yng ngwyneb gwobr o dair punt i'w ganmawl, ac awgrymir yma "gariad at y gwaith." CLWYDIAN."—Y mae y cerddor hwn yn parhau i wneud ei ran er llesoli cerddoriaeth Eglwys St. Benet. Y mae yr anhawsterau i ddarpar cyfan-weithiau cerddorol, i'w canu o fewn y ddinas, yn rhai mawrion, ond gall dyfal-barhad wneud gwrhydri. Gobeithio yr el llawer iawn i wrandaw y datganiad o'r Gantawd Prynedigaeth y Byd nos y fory (y Sul). Ni ddylid ychwaith anghofio'r datganiad o'r gwaith A Song of Thanksgiving," gan gor Castle Street heno (y Sadwrn). Nis gwn am gapel nac eglwys Gymreig sydd yn darpar gymaint gogyfer a cherddgarwyr Cymreig Llundain a'r capel hwn. Da yn wir yw fod canol bwynt mor ddyddorol a hwn ynghanol cynifer o atyniadau mor wahanol yn y West End. RUBINI.- Yn y cor yn chwareudy Bergamo, yn yr Eidal, y dechreuodd Rubini ei yrfa gerddorol. Teiliwr ydoedd o ran galwedig- aeth,acyny fforddhon yr helpai i gadw ei fam. Un diwrnod daeth y cantor enwog Nozari i'w siop i roddi archeb am ddillad. Gofynodd Nozari iddo a'i nid oedd wedi ei weled yn flaenorol ? Dywedodd y teiliwr ei fod yn un o gor y Chwareudy. Oes gennych lais da," meddai Nozari. Gweddol dda," atebai'r teiliwr. Prin y gallaf gyrraedd A uchel." Gwnaeth Nozari iddo ganu yn y fan. Cyrhaeddodd yr A drwy ymdrech. Yn awr, B," meddai Nozari. Gwrth- dystiai y teiliwr yn gryf, ond yn ofer. Rhaid ydoedd iddo wneud yr ymgais, ac er syndod iddo ei hun, cynyrchodd y sain. Gwelwch," ebai Nozari, fod yn bosibl i chwi gyrraedd y nodyn; a gallaf sicrhau i chwi os bydd i chwi ymarfer yn ddyfal, y deuwch yn brif denor yr Eidal. Y teiliwr hwn ydoedd Rubini. THE SPRING. 0 gentle Spring revealing Nature's glory, As forth it comes, undimned by Winter hoary Like bride adorned, sweet smiling in its beauty On all around, our homage is but duty 0 joyful Spring thou fillest us with singing, For thou art life recloth'd new hopes thou'rt [bringing Of further joy, when, merged into the Summer, What loveliness around our heart is clinging o matchless Spring we would like thee be ever A source of purest joy to all around And through the years, we ask of the Great Giver That Spring may always in our heart be found! CANU PENILLION.- Yn ddiweddar y mae Miss Kate Rhys wedi ail ennyn dyddordeb yn y math hwn o ganu. Wele benillion y mae yn eu canu gyda mawr gymeradwyaeth y dyddiau hyn :— Y BLAID GYMREIG. Mae baner rhyddid Gwalia wen Yn awr ar ben pob mynydd, Gwleidyddwyr hon, o'r gwledydd gwar Yn gynar noddent gynydd 0 blaid pob gwir, o blaid pob gwan, Mae Cymry'n gyfan gufydd. Syr Alfred Thomas, blaenor cad, Dros enwog wlad y bryniau, • Arweinia'i lu'yn fedrus iawn, Hyn yw ei ddawn yn ddiau V A deddfau'n llawn daioni sy', I'r Cymry yn eu camrau. Holl blaid Syr Alfred 'nillant glod, Ni fu erioed eu cystal, Y dewrion glew, ymdyra'n gwlad Mewn mawr foddhad i'w harddel; Llewelyn Williams, William Jones, Ac Ellis Griiffths uchel. Mae Syr Frank Edwards, gref ei ddawn, Yn weithiwr llawn o egni, Syr Ivor Herbert hefyd sydd Yn fab y Dydd i Gymru A phwy fel Mabon, lawn o hwyl, Gwr anwyl cawr o yni. Y brwd ddirwestwr Roberts sydd A'i wên fel dydd yn gwawrio, Syr David Brynmor a Lief Jones, Oil ar eu goreu'n gweithio Ac Herbert Lewis lona'm bron Er iddo'n ffyrnig chwipio. r Y Cymro 'nawr ga'i le o hyd I helpu'r byd i'w siwrne, Lloyd George a'i ddawn, heddycha'n llawn, Bob helynt-byd a railway, A Syr S. T. pwy'n well ei dras I'n teyrnas yn ben twrne. DEWI VYCHAN.

CYFANSODDIADAU

[No title]