Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CAPEL M.C. CLAPHAM JUNCTION.

News
Cite
Share

CAPEL M.C. CLAPHAM JUNCTION. Y PARCH. D. TYLER DAVIES YN DECHREU EI OFAL. Gwyr Cymry Llundain erbyn hyn fod Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Beau- champ Road, Clapham Junction, wedi sicr- hau gwasanaeth y Parch. D. Tyler Davies, o'r Bwlch, Brycheiniog, i ddod i'w bugeilio, a dydd Sul diweddaf dechreuodd ar ei ofal o fewn cylch Cyfarfod Misol Llundain. Yn y cyfarfod ymadawol a gynhaliwyd i ffarwelio ac i ddymuno yn dda i Mr. a Mrs. Davies yn eu cartref newydd yn Llundain, rhoddodd Eglwys y Bwlch dystiolaeth ddiamwys o'i serch a'i pharch i'r Gweinidog ffyddlon oedd wedi bod yn llafurio mor llwyddianus fel ei bugail am 14 o flynyddau. Nid mewn geiriau yn unig y cafwyd y dyst- iolaeth hon, ond mewn cyflwyniad iddynt o god drom o aur dillyn, yn yr hon yr oedd yr holl gymdogaeth wedi dangos ei dy- muniad i fod yn gydgyfranogion a'r Eglwys. Yr oeddent o'r blaen, yn 1902, wedi cyf- lwyno i Mr. Davies, ynglyn ag anerchiad goreuedig, bwrs o Y,120, ac wedi hvnny, ar eu priodas, wedi cyflwyno piano drudfawr i Mr. a Mrs. Davies. Mae gwerthfawrogiad a theimlad yr Eglwys hon at ei bugail, nid yn unig yn adlewyrchu anrhydedd arni ei hun, ond yn esiampl werthfawr i eglwysi y corff. Yr oedd holl weinidogion gwahanol eglwysi y cylch wedi dyfod i'r cyfarfod i dalu eu gwarogaeth o barch; a holl Ys- weiniaid a gwyr mawr y gymdogaeth yn ymuno gyda'r gwreng yn eu galar o'r golled a gaent yn ei ymadawiad. Oblegid nid oedd Mr. Davies wedi cvfyngu ei waith i'r eglwys, ond wedi bod a rhan flaenllaw ynghyd a phob mudiad i ddyrchafu yr ardal yn foesol a gwleidyddol. Nid rhyfedd mae ei ddymuniad iddynt wrth ymadael oedd. A Thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwch- law pob deall, a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu." Dyma'r gwr ac y mae Eglwys Clapham Junction wedi bod mor ffodus i'w ddenu i'w bugeilio. Ac os oedd galar y Bwlch yn fawr o'i golli, mae y llawenydd yma yn gyfatebol fawr o'i gael, ac y mae y teimlad hwn o lawenydd yn dyfnhau yn yr ystyriaeth o'r aberth mawr a wnaeth Mr. Davies wrth adael lie mor ddymunol a phobl mor anwyl a pharchus o hono. Y mae ei ddyfodiad eisoes wedi codi yr Eglwys i frwdfrydedd mawr. Mae yr Eglwys wedi rhoddi sel ei hawdurdod a'i gwys i unarddeg o flaenoriaid ymroddgar a phrof- edig i'w gynorthwyo yn ei waith, ac wedi trethu ei hadnodau yn drwm i'w gydnabod yn deilwng. A chredwn y bydd yr undeb hapus yn ddechreuad cyfnod o lwyddiant ac a esyd yr Eglwys hon yn fuan yn un o eglwysi cryfaf y cyfundeb yn Llundain. Er mor anymunol yr hm, yr oedd y capel yn 11awn nos Sul i groesawu y Gweinidog newydd a'i briod hawddgar. Yr oedd Mr. Davies yn amlwg dan deimladau dwys iawn. Teimlad o hiraeth a theimlad o gyfrifoldeb byw ei sefyllfa newydd. Ond buan y teim- lwyd fod adnoddau ei nerth o rywlln mwy na dyn, ac yr oedd y gair o'i enau dan eneiniad y Sanctaidd hwnnw, a'r genadwri yn cael gafael ar galon a chydwybod y gynulleidfa. Y geiriau a ddewisodd yn destyn oedd cenadwri Duw i Moses pan yn adeiladu y Tabernacl, Canys gwel medd Efe ar wneuthur o honot bopeth yn ol y portread a ddangoswyf iti yn y mynydd." (Heb. 8, 5.) Tynnodd gyffelybiaeth hapus o nodweddau tebyg ceoedl Israel a'r genedl Gymreig, cenedl a'i hymffrost yn ei mynydd oedd, a'i holl bentrefi a threfi. wedi ei hadeiladu ar ben neu ar ael y mynydd. I'r mynydd y neullduai ei phroffwydi i gael cymundeb a'u Duw. Gobeithiau ef ei fod yntau a'r Eglwys wedi bod ar y mynydd. Yr angen- rhaid cyntaf oedd cael gweledigaeth." Gwelediad clir, ac yna wroldeb i'w thraethu a'i chario allan. Beth bynnag a ddywed Efe wrthych gwnewch." Yr oedd yna ddwy ysgol o ddysgawdwyr yn bregethwyr a lienorion yn cynrychioli dwy ysgol. Y realistic a'r idealistic." Un yn meddwl mae gwell i ddyn oedd edrych ar fywyd fel yr oedd yn ei drueni noeth a'r Hall yn edrych ar ddyn, nid yn yr hyn oedd ond yn ei dybiadau a'r hyn ddymunai fod. Gwell ganddo ef yr idealistic," ac anogai y bobl ieuainc i dreio rhagori, nid ar ereill, ond arnynt ei hunain. Cadw nod uchel gerbron y meddwl, a pheidio digaloni os yn methu ei gyrraedd. Dymunai ar yr eglwys beidio dirprwyo ei dyledswyddau iddo ef, ond cofio mae gwas oedd yntau er mewn cylch uwch. Gwas er hynny. Cafwyd llawer dyfyniad hapus o Ruskin, ac o lyfr rhyw "Forsyth" ar gysylltiad Eglwys a'i Bugail ag oedd yn amlwg wedi cael argraph ddofn iawn ar feddwl Mr. Davies. Credai y dylasai y gweinidog ymgeisio at godi i lefel uwch mewn pethau ysbrydol. Bai Aaron oedd ymddarostwng i lefel y bobl. Canlyniad hynny oedd i'r bobl fynd i addoli llo aur, ac y mae hyn yn berygl mawr ein hoes ni, darostwng y safon, yr ideal. Yr 'oedd yn dda iawn ganddo ef feddwl bob amser fod Duw wedi trefnu a chynysgaeddu rhyw Bezaleel yn gydweithiwr a Moses. Un yn dychmygu cywreinrwydd." Yr oedd ef yn gobeithio y cai yn yr eglwys lawer Bezaleel wedi ei ddonio gan Dduw i ddychmyga cywreinrwydd. Pregeth yn gosod i fynu safon uchel i waith yr Eglwys, a phregeth a erys yn hir yng nghof a chydwybod pawb a'i gwran- dawodd oedd y bregeth hon. Gellir yn briodol ei galw y Bregeth ar y mynydd," ac allwedd dechreuad gweinidogaeth y Parch. D. Tyler Davies yn Clapham Junction. Yn y Cymundeb yn dilyn, cyfeiriodd Mr. Davies yn deimladwy iawn at y Cymundeb o'r blaen yr oedd yn bresennol ynddo. Yroedd galar dwfn yr Eglwys ar ol colli un o'i hanwyliaid mwyaf yn cael ei gysegru, megis ac yn y Cymundeb hwn y cysegrid llawenydd ei hundeb fel Bugail a phraidd. v

Bwrdd y Gol.

Advertising