Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EGLWYS " MOORFIELDS."

Advertising

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Mr. D. Samuel, M.A. (hen gyd-efrydydd iddo), Mr. Richard Richards, B.A., Capten D. James, Mr. Jenkin James, Llywydd Addysg Ceredigion a Ficer Llanbadarn, y Parch. Nathaniel Thomas. Miss MORFA HUGHES.—Daeth y gantores hon i drybini o'r diwedd, a chafodd ei gyrru i garchar am ddeuddeng mis, dydd Gwener diweddaf. Yr oedd yn eyflawn haeddu'r gosp hefyd, yn ol y tystiolaethau. Bu yn canu mewn amryw gyngherddau Cymreig tua wyth mlynedd yn ol, a dywedai mai merch i offeiriad Oymreig ydoedd. Cofir am dani yng nghyngerdd mawr Clapham, yn y Victoria Hall. Yno y daeth i sylw gyntaf, yng nghwmni Miss Teify Davies a Miss Ada Crossley. Daeth i'r Swyddfa hon ar y pryd, a rhoddodd archebion am nifer o nwyddau, y rhai sydd heb eu talu hyd heddyw. Ar dwyll a lladrad, mae'n debyg, y bu am flynyddau yn ceisio byw, ond gobeithio y caiff hamdden yn awr i ystyried mai nid dyna'r ffordd i lwyddiant yn y pendraw. Ei LLINACH.-Merch yw Miss Morfa Hughes i Mr. John Charles Morfa Hughes, Y.H., Plymouth, ac yn y ddinas honno ei ganed yn 1876. Brodor o ardal Aberystwyth yw ei thad, ac mae'r teulu yn berchen ar ystad Morfa Bychan ac Aberllolwyn. Yr oedd y Parch. John Morfa Hughes, un o sefydlwyr Ysgol Ramadegol Ystradmeurig, yn hen-daid iddi, ac mae ei brawd yn un o Ymddiriedolwyr yr Ysgol ar hyn o bryd. DARLUN SYR S.T."—Mae'r arlunydd, Mr. J. Kelt Edwards, newydd orffen darlun hardd o'r Cyfreithiwr Cyffredinol, Syr S. T. Evans, yn ei wisgoedd swyddogol ac o gyflawn faintioli. Bu'r gwaith yn cael ei ddangos ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, cyn ei anfon i'r Academy, ac ym mysg y rhai fu yn ei edmygu oedd Mr. a Mrs. D. Lloyd- George, Syr Francis a Lady Edwards, Esgob Llanelwy, Mr. Vesey Knox, K.C., Mrs. Mary Davies, a'r Anrhydeddus Miss Sackville West. ST. BENET.—Rhydd Cor Eglwys St. Benet ddatganiad o'r cantata, Prynedigaeth y Byd," nos Sul, Ebrill, 12fed. Mae y ger- ddoriaeth gan Valentine Hemery, a'r geiriau gan Wilfrid Mills, ac wedi eu golygu. i'r Gymraeg gan Mr. D. Emlyn Evans. Mae y Cor wedi bod yn prysur baratoi dan arwein- iad Clwydian am rai wythnosau, a disgwylir datganiad grymus. Rhifa y Cor dros ddeu- gain. Mae trefniadau ym myned ym mlaen ar hyn o bryd i ad-drefnu'r goleu yn yr Eglwys hon, a hyderir y bydd y lie yn cael ei oleuo gan dry dan yr un noson. MARWOLAETH MR. RICHARD MORGAN, 13, Marsham Street, Westminster.—Hanner y nos Iau, Mawrth 19eg, bu farw y gwr anwyl uchod, wedi nychdod blynyddoedd, a chys- tudd trwm iawn am ychydig wythnosau tua diwedd y daith. Daeth y diwedd yn bur sydyn, er pob ymdrech ar ran ei feddyg, Dr. Finucane, ac er iddo gael mantais ar fedr y gwr mawr, Syr Thomas Barlow. Ymddengys ei fod yn ddarostyngedig i glwyf mewnol, o'r hwn nad oedd obaith gwellhad. Bu farw mewn heddwch mawr, gan adael gweddw a dau o feibion i alaru eu colled. Teimlir yn ddwys iawn ar ei ol gan lu o berthynasau agos, a thyrfa fawr o gyfeillion. Yr oedd Mr. Morgan yn un o'r dynion mwyaf siriol, a hawddgar, ffraeth ei air, a pharod ei gymwynas. Heuodd gymwynasau ar hyd y daith, a phrofodd dydd ei angladd eu bod wedi cael eu gwerthfawrogi gan bob dos- barth a gradd. Brodor ydoedd Mr. Morgan o ardal Cwmbrwyno, Sir Aberteifi-un o wehelyth y Morganiaid sydd wedi bod, ac yn bod, yn amlwg iawn yn enwad y Wesleyaid. Symudodd i'r ddinas pan yn bur ieuanc, a daeth yn un o ddynion mwyaf adnabyddus Westminster-mewn masnach, ac ar Vestri a Chyngor. Yr oedd yn aelod a swyddog yn Eglwys y Wesleyaid yn City Road ar hyd y blynyddau, a chaifi yr eglwys golled fawr ar ei ymadawiad. Gadawa ar ol, yn ychwanegol at ei weddw a'i blant, un brawd, sef Mr. William Morgan, St. John's Wood, ac un chwaer, sef Mrs. Jones, priod y Parch D. Meurig Jones, Ashton-in-Makersfield. Dydd Mawrth, y 24ain, claddwyd ei weddillion ym Mynwent Abney Park. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd yn West- minster ers llawer blwyddyn. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parch. J. Humphreys, ac wrth y bedd ganddo ef, a'r Parchn. J. E. Davies, M.A., J. G. Jones, Llanidloes, Mri. Granville Smith a Mr. W. Davies, J.P., Battersea. Arweinwyd y canu gan Mr. E. Maengwyn Davies, R.A.M. Bydd y gwasan- aeth coifadwriaethol yn City Road nos Sul, pryd -y pregethir gan y Parch. J. Humphreys. BORo'Prydnawn Sul, Mawrth 22ain, cafwyd papyr neillduol o ddyddorol ac adeiladol ar Y Beibl Cymraeg gan Mr. W. Davies, Scawen Road. Anhawdd fuasai cael testyn mwy cymwys i draethu arno o flaen mynychwyr yr Ysgol Sul; ac yr oedd traethawd Mr. Davies yn dangos ol llafur ac ymchwiliad mawr. Rhoddodd restr faith o'r gwahanol argraffiadau o'r Beibl sydd wedi ymddangos yn yr iaith Gymraeg, ynghyd a llawer o hanes am danynt. Dangosodd, hefyd, y cynnydd dirfawr sydd wedi bod yn hanes ein cenedl er pan y mae y Beibl wedi dod i ddwylaw y werin. Buasai yn fantais i bob Ysgol Sul sydd gan y Cymry yn y brif-ddinas glywed y papyr hwn, a deallwn fod un o Ysgolion Sul y Methodistiaid wedi cael addewid am dano gan Mr. Davies. Gallwn eu sicrhau, oddiar brofiad personol, fod gwledd yn eu haros.