Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. Nos lAU NESAF.—Fel y dylai holl Gymry Llundain wybod, ar y noson hon y cynhelir Eisteddfod Flynyddol y Genhadaeth yn Burdett Road ac y mae yr anturiaeth yn un ddylai apelio yn gryf at bawb, canys y mae yr Achos yn un gwan, ac un amcan i'r Eis- teddfod ydyw ceisio elw, fel ag i'w gynorth- wyo. Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol, y testyn mwyaf poblogaidd, yn ddiau, ydyw yr unawd, am y datganiad goreu 0 ba un y rhoddir cwpan arian. Gan fod y darn i barti, sef Y Nant a'r Blo- -deuyn," yn gystadleuol hefyd yn Eisteddfod Shirland Road, gobeithiaf y daw nifer dda o bartion ymlaen i'w ganu. Rhaid i enwau y •cystadleuwyr gyrraedd yr ysgrifennydd erbyn heno (y Sadwrn). MR. MADOC DAVfEs.-Fel y gwyr llawer -erbyn hyn, y mae y llais-ddisgyblwr poblog- aidd hwn newydd gael o dan ei ofal efrydydd ieuanc sydd eisoes wedi rhagori ar ei ddis- gyblion ereill ef. Y rhyfeddod yw na fa erioed o dan unrhyw feistr arall. Dywedir fod ei lais yr un mwyaf cerddorol" a glywodd Mr. Davies erioed y mae mor dda gyda'r llafariaid (vowels)-am yr hyn beth y mae yr athraw mor ofalus. Y ffaith yw fod gan y cantor hwn lawer iawn i'w ddysgu ynghylch y cydseiniau (consonants), canys nid yw ond rhyw fis oed 0 galon yr wyf yn llongyfarch Mr. a Mrs. Davies ar enedig- aeth eu mab AWGRYM I LEISWYR IEUAINC.—Rhydd Signor Bonci, cantor Italaidd poblogaidd, awgrym i'r cyfryw, ac y mae yn werth ei gofnodi yma. Dyma ddywed:— Purity of tone, purity of style, and purity of diction," he said in a recent interview, "are the essentials of artistic singing. When a tone is properly placed, the word need not affect it, but a great" deal of harm is caused by applying the word too early, and, beyond this, by using several languages. It is a question, and a serious one, whether those who teach singing understand the applica- tion of the word to the tone, and the dangers are obvious in languages where nasals and gutterals prevail. Italian is the easiest language to sing, then comes Russian, and I should put English next. All languages affect the tone unless the tone is first able to carry the weight of the language. A singer may study in any language, but in only one, until after the tone is placed beyond any possibility of being affected by the demands of the different languages. Studying in several languages is very bad for the voice, and must of necessity retard the growth more than months of serious study can overcome. Few people realise what a delicate organ the voice really is, and probably no other is more abused." Cofier yr hanfodion: (1) purdeb ton (2) purdeb arddull; (3) purdeb ymadroddiad. Y syndod yw fod Signor Bonci yn gosod yr iaith Saesonaeg yn drydydd oreu i ganu ynddi! Mewn erthygl ar Madoc Davies, yn y Gentleman's Journal, darllenir a ganlyn:— Mr. Davies has come to the final conclusion that the Italian system of teaching singing is the best that has been or can be discovered. The reasons for this are thoroughly scientific. In articulating the pure Italian vowels, the pupil gradually gains power to control his larynx, and, once he has that organ under command and has learnt how to regulate in a natural manner the flow of air from the lungs, he has already gained the main essentials towards becoming a successful singer. The explanation of the fact that the Welsh as a Nation have such fine voices is that their native language is pronounced in much the same manner and in the same tone as the Italian." Pe buasai yr Eidalwr wedi dysgu'r G-ymraeg, credaf y buasai yn ei gosod o flaen iaith Shon Bentarw. SEFYDLIAD CENEDLAETHOL CERDDOROL. Y mae'r Saeson newydd gychwyn mudiad sydd yn debyg o roddi symbyliad mawr i gerddoriaeth yn Lloegr. Yr amcan ydyw (1) Cynnal gwyl gerddorol flynyddol uwch- raddol, mewn trefn gyfleus; (2) I gefnogi yn y gwyliau hyn weithiau newyddion, neu anadnabyddus (3) I ymarfer y defnyddiau "Ileol," perthynol i bob cylch; (4) Drwy y moddion hyn i ddwyn cyfansoddwyr, chwar- euwyr, a cherdd-ganwyr i gyffyrddiad a'u gilydd, ac i ymdrin a materion cerddorol. Fel hyn, ehaugir y terfynau perthynol i'r gwyliau mawrion ydynt eisoes mor boblog- aidd a llesol—megis yr eiddo Leeds, Worcester, Norwich, Sheffield, &c. ac yn sicr bydd i'r cyfryw wyliau fanteisio ar waith yr Undeb newydd. Gwyn fyd na ellir cychwyn rhywbeth o'r fath yng Nghymru! Beth pe bai Y Cerddor yn gwahodd barn ei ddarllenwyr ar hyn ? MANUEL GARCIA.-Y mae hanes bywyd yr athraw lleisiol enwog hwn newydd ddod o'r wasg. Fel y gwyr y darllennydd, bu Garcia farw 1906, yn 101 mlwydd oed. Chwaer iddo ydoedd y brif-gantores Malibran—cylch llais yr hon ydoedd yr ehangaf a wybuwyd am dano erioed. Bu hi farw yn 28ain mlwydd oed. Fel y gellid disgwyl, ceir llawer o ystoriau ynghylch Garcia a'i ddisgyblion. Pan yr aeth Miss Etherington-sef y boblogaidd Marie Tempest-ato y tro cyntaf, yr oedd ganddi wisg dlos, ond clos iawn ac yr oedd yn falch iawn o'i gwasg (waist) pedair- modfedd-ar-bymtheg. Ar ol iddi ganu ei chan brawf, dywedodd y meistr wrthi am fyned gartref a rhwygo ei gwasgrwym (stays), gan ollwng allan ei gwasg hyd, o leiaf, bum modfedd ar hugain Wedi gwneud hynny yr oedd i ddychwelyd i ail- ganu, pryd y caffai wybod oedd ganddi lais ai peidio Nid anghofia Miss Tempest y wers hon byth a da fyddai i lawer ereill o'r merched ei chofio.

[No title]

Am Gymry Llundain.

NODIADAU LLENYDDOL.