Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

--A OES HEDDWCH?

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Enwogion Cymru. Erbyn hyn y mae Geiriadur Bywgraffyddol Asaph," ar Gymry enwog, wedi ei gwblhau neuo leiaf, mae'r adran a fu yng nghystad- leuaeth Caernarfon wedi ei gorffen. Gan mai yn ymwneud a chyfood arbennig, sef o 1700 i 1900, oedd yr adran honno, mae ym mwriad yr awdwr i gyhoeddi ail gyfrol, yn cynnwys hanes y gweddill o Gymry enwog, sef rhai cyn 1700, ac ereill sydd wedi huno er 1900. Ni fwriedir i'r bywgraffiadati fod yn faith, eithr yn unig gosod y prif ffeithiau am danynt, ynghyd a manylion am unrhyw ysgrifau coffadwriaethol am danynt. Yn Saesneg y mae Asaph wedi ysgrifennu, ond y mae cyfrol Gymraeg i'w chyhoeddi cyn hir, yn rhoddi'r gwaith a wobrwywyd yn yr Eisteddfod honno. Y mae un peth yn nodweddiadol o'r gystadleuaeth fawr honno. Mae eisoes bedwar neu bump o'r gweithiau anfuddugol wedi eu cyhoeddi, ond 'dyw'r gwaith goreu hyd yma ddim wedi cael goleu dydd. Onid yw'n hen bryd i Gymdeithas yr Eisteddfod frysio ychydig gyda'r cyhoeddi yma. H Cyril Bede, B.A." Tra yn son am weithiau anghoeddedig Cymdeithas yr Eisteddfod, yr ydym wedi cael ein hadgoffa yr wythnos hon, mewn modd pruddaidd iawn, am waith arall sydd heb ddod trwy'r wasg. Cyfeirio yr ydym at gynyrchion buddugol Cyril Bede "-nell Thomas Evan Jacob, a rhoddi iddo ei enw priodol. Bu'r llenor anffodus hwn yn fuddugol ar draethawd dysgedig ar Hanes Cymru tan Victoria," a rhoddwyd iddo hanner can punt o wobr. Y cyfan hyd yn hyn yn ofer Mae'r gwaith tan glo gan Gym- deithas yr Eisteddfod, feallai, neu wedi ei ddychwelyd, hwyrach, i'r awdwr, i'w golli am byth a'r hanner can punt wedi eu gwastralfu yn ddiles Onid yw'n hen bryd i newid rhywbeth ar delerau'r gwobrwyon mawr yma? Nid yw'r oil ond gwastraff anesgusodol, fel y saif pethau yn awr Gweithiau T. E. Jacob. Bu'r awdwr hwn yn f uddugol ar draethawd arall, sef un ar "Hanes yr Esgob Morgan." Rhoddwyd gwobr o gan punt am y gwaith gan bwyllgor arbennig, a'r cyfansoddiad o waith T. E. Jacob oedd y goreu. Cyhoedd- wyd dau rifyn o'r "Hanes," os ydym yn cofio yn dda, a bwriadai yr awdwr ddwyn y gweddill allan mewn tri o rifynau dilynoi, ond nid oes gennym sicrwydd fod y rhai hyn wedi gweled goleu dydd. Beth sydd wedi dod o'r ysgrif ? A oes modd cael cyhoeddusrwydd i'r gwaith yn awr ? Cofus i'r beirniaid ar y pryd roddi gair uchel o glod i'r ysgrif fuddugol, a byddai yn golled dirfawr os aiff y cyfan i ddifancoll. Yr ail oreu ar y pryd oedd y diweddar Charles Ashton-gwaith yr hwn sydd wedi ei gy- hoeddi. Ond y mae'n ffaith hynod, a galarus, i'r ddau weithiwr hyn-Jacob ac Ashton—i ddiweddu eu dyddiau ar y ddaear trwy gyflawni hunan-laddiad. Eisteddfod Gwrecsam. Fel y sylwyd yn yr ysgrif goffa am Mr. Jacob; yn Eisteddfod Gwrecsam, 1888, y daeth i sylw. Rhanwyd gwobr o £ 2it rhyngddo ef ac Elfed am draethawd ar The influence of Celtic Genius on English Literature." Dywedodd Principal Reichel, o Fangor, yn ei feirniadaeth fel hyn VON RCCKIIAKDT has written by far the longest essay of all the competitors, as much, indeed, as all rhe five others put together, and his work, if printed, would fill a considerable volume. He has an altogether unusual knowledge of the early chroniclers—Welsh and English-and of some of the less familiar Elizabethan poets. His style is always flowing, at times nervous and pointed and he writes as if he thoroughly enjoyed his work. Yr oedd traethawd Elfed ar y pryd yn anorphenedig, ond yr oedd yn rhagori mewn