Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLUNDAIN,…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLUNDAIN, 1909. Rhestr Gyntaf o'r Testynau. Ar ol wythnosau lawer o weithio caled, y mae Pwyllgor Eisteddfod Llundain, 1909, wedi penderfynu ar restr hirfaith o destynau, a rhoddir cyhoeddusrwydd i nifer o honynt yr wythnos hon. Mewn Pwyllgor lliosog a gaed nos Lun diweddaf, mabwysiadwyd yr oil o'r awgrymiadau a wnaed gan y gwahanol is-bwyllgorau, yn ymdrin a'r adrannau llen- yddol, cerddorol, a chelfyddydol, yn ogystal ag eiddo y pwyllgor arianol. Trefnir ar fyrder i roddi cyhoeddusrwydd priodol i'r testynau, ynghyd a'r holl fanylion a'r amodau, a phob cyfarwyddyd i'r gwa- hanol gystadleuwyr. DYDD YR WYL. Awgrymwyd gan y Pwyllgor Arianol mai'r adeg oreu i gynnal yr Wyl fyddai yr un o'r wythnosau olaf o Fehefin, 1909--yr wythnos sy'n diweddu ar y 19eg, neu'r 26ain, o'r mis ac os na fydd y rhai hyn yn addas, yna yr wythnos sy'ngorffen ar y 17eg o Gorphennaf. Yn yr Albert Hall y bwriedir cynnal y cynull- iadau mawr Eisteddfodol, tra y trefnir i sicrhau y Queen's Hall at wasanaeth y cyngherddau yn yr hwyr. YE ORSEDD.. Penodwyd is-bwyllgor, yn cynrychioli gwahanol adrannau y Pwyllgor Cyffredinol, i ofalu am y trefniadau ynglyn a chynnal cyfarfod i gyhoeddi yr Wyl. Awgrymai rhywun y byddai Stonehenge yn llanerch ddyddorol i gynnal y fath gyfarfod; ond pwnc i'r Pwyllgor i'w ystyried fydd, y lie a'r dyddiad. Y prif ddarnau cystadleuol ydynt fel a ganlyn BARDDONIAETH. Awdl y Gadair, Gwlad y Bryniau (dim dros 600 llinell), £ 20 a chadair. Pryddest y Goron, Yr Arglwydd Rhys (dim dros 1,000 llinell), £ 20 a choron. Cywydd, Mynachlog Ystrad Fflur (120 llinell)', 17. Myfyrdraeth, Goronwy Owen yn ffarwelio a Phrydain (300 llinell), 110. Balad, "Owen Lawgoch," £ 4. Cyfres o Delynegion, TymhorauBywyd," 17. Bugeilgerdd ar destyn Cymreig, £ 10. Pump Hir-a-thoddiad, £ 10. Englyn, Ceninen Fawrth (Daffodil), 12. Drama fer yng Nghymraeg, un act, £ 10. Cyfres o wyth o Ymddiddanion Dych- mygol, £ 10. RHYDDIAETH. Traethodau Cymraeg neu Saesneg :— Welshmen in the Wars of the Roses, 930. Manners and Morals of the Mabinogion, £ 20. Folklore of Radnorshire, £ 10. Text Book—Oral teaching of Welsh, £ 10. The Welsh Jacobites, £ 10. History of the efforts to found Welsh Colonies in lands over seas, £10. Traethodau Cymraeg:- Bywyd a gwaith y Myddeltoniaid, C25. Carolwyr a Charolau Oymreig, £ 10. Nofel Gymreig, £ 25. CYFIEITHIADAU. Fr Gymraeg o'r Saesneg; i'r Saesneg o gywydd Cymraeg; ac i'r Gymraeg o'r Ffrancaeg. AREITHEG. Adroddiad i fechgyn o ddarn Cymraeg. Adroddiad i ferched o ddarn Cymraeg. CERDDORIAETH. Prif ddarn Corawl (160-200 o leisiau) (a) Come ye daughters," Bach <f(b) "Rest, Soldier rest," J. H. Roberts; (c) "The Tempest," Camelius. Gwobr, £ 150 ail, £50. Ail Gystadleuaeth Gorawl (75-100 o leisiau) (a) My Lady Oriana," Wilbye (b) "Yr Arglwydd yw fy Mugail," Harry Evans. R50; ail, £10. Cor Merched (40—60): (a) "The Sky- lark," J. C. McLean; (b) "Sound Sleep," R. Vaughan Williams. £ 25 ail, 910. 0 Cor Meibion (75-100): (a) "Fair Semele's high-born Son," Mendelssohn; (b) "The Reveille," Elgar; (c) "0, peaceful night," E. German. £ 75 ail, £25. Mae cystadleuaeth i bartion ereill, ped- warawdau, deuawdau, ac unawdau i'r chwe llais, a man ddarnau ereill. OFFERYNOL. I'r Gerddorfa (40- 60 o chwareuwyr), A Welsh Rhapsody," German. £ 50; ail, ZCIO. Unawdau i nifer o wahanol offerynwyr. CYFANSODDIADAU. Ballad for Chorus and Orchestra, words to be selected from "The Lay of Prince Gruff- ydd," by W. Llewelyn Williams, Esq., M.P. £30. Set of four Welsh Songs, £10. CELF. Yn adran y celfau, rhoddir cyfres faith o wobrwyon am arluniaeth, cerfluniau, a chyn- lluniau gwaith mewn lledr, gwaith got, a gwniadwaith. Yn ystod yr wythnosau nesaf, penodir beirniaid, a chwblheir y trefniadau, fel ag i gyhoeddi y rhaglen erbyn adeg cyhoeddi yr Eisteddfod.

Advertising