Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

THOMAS EVAN JACOB.

News
Cite
Share

THOMAS EVAN JACOB. Un o blant y gauaf oedd Thomas Evan Jacob. Gwelodd ddechreu oes pan oedd awelon oerion ac ystormydd chwerw canol Rhagfyr, 1852, ar eu heithaf, ac yn swn blinderau gauafol bywyd y treuliodd ei yrfa ymhlith plant dynion. Ac ar derfyn y gauaf presennol ceisiodd am wanwyn tecach yn yr angeu foreu Sul, Mawrth 15fed, mewn llety dinod yng nghanol Llundain, yn ddi- gyfaill, yn ddigartref, ac heb neb i roddi gair o gysur na Haw gynorthwyol iddo yn awr ei adfyd. Nid cymeriad cyffredin oedd Thomas Evan Jacob. Wedi ei eni yn y Felin-newydd, gerllaw Aberystwyth, ymdrechodd ei rieni roddi iddo bob mantais addysgol oedd o fewn eu cyrraedd. Profodd ei hun yn deil- wng o'r aberth wnaed ar ei ran. Hynododd ei hun yn hen ysgol ramadegol Abermeurig, ac aeth i'r Brifysgol yn Lloegr, lie y gradd- iodd yn B.A. yn gynnar yn ei fywyd. Ar ol gorffen a'r coleg, aeth i geisio ennill ei damaid drwy fod yn athraw yn yr ysgolion uwchraddol, ond bu'n anffodus yn ei geis- iadau. Ni feddai ar y ddawn fasnachol, a gwnaeth un camgymeriad pwysig trwy ym- briodi yn rhy ieuanc, ac heb obaith am sefyllfa i'w gadw yn unol a'i safle. Symudodd i Lundain, ac er chwilio llawer, ni ddaeth o hyd i wenau ffawd, eithr cyfarfyddai a siomedigaethau parhaus. Ar wahan i'w alluoedd fel ysgolor profodd i» • n .1 • i ei hun yn lienor o gryn in. jjaetn i syiw yn y cylchoedd Cymreig yn ei waith yn ennill y prif draethawd yn Eisteddfod Gwrecsam 1888, pryd y rhoddid gwobr o Y,50 am "Hanes Cymru tan deyrnasiad Victoria." Y beirniad ydoedd y Proffeswr William Edwards, B.A., Pontypool. Bu'r un testyn yn Llundain y flwyddyn flaenorol, ond teimlai'r beirniaid ar y pryd nad ydoedd i fynu a'r safon a ddisgwylid, ac felly rhoddwyd ail gynnyg y flwyddyn ddilynol. Yn ei feirniadaeth yng Ngwrecsam dywedodd y beirniad fod y gwaith yn teilyngu y wobr. Yn yr un eisteddfod llwyddodd i gipio hanner y wobr o £ 20 ar draethawd ar The Influence of Celtic Genius on English Literature." Aeth hanner arall y wobr i Elfed—gwr ieuanc arall oedd ar y pryd yn dechreu dod i sylw y cyhoedd. Efe hefyd oedd y goreu ar hanes yr Esgob Morgan, ond 'does yr un o'r gweithiau hyn wedi eu cyhoeddi yn gyfrolau, hyd yn awr. Ar un adeg bu'n ysgrifennydd cyson i golofnau y papur hwn, a darllenid ei lithiau gyda bias. Gadawodd lythyr maith ar ei ol yn egluro paham y cymerai ei einioes. Yr oedd yn gyfansoddiad pruddaidd, gydag ambell i belydryn llachar o'i athrylith fyw, ond bu'n ddigon i arwain y trengholydd a'r rbeithwyr i benderfynu eu barn am ystad ei feddwl. Os bu'r byd yn angharedig tuag ato, efe ei hun fu ei elyn pennaf yn y diwedd. Wedi deall ei fod mor ddiymgeledd penderfvnodd Dr. Morgan Davies, a rhai o'i hen gydnabod, na chawsai'r corff ei osod ym medd y tlotyn, ac felly casglwyd ychydig bunnoedd er mwyn ei yrru C5 yn ol i gael gorweddfa ddaearol yn hen fynwent Llan- badarn. Nos Lun diweddaf aed a'r corff gyda'r tren hwyrol o Lundain i'w gladdu ganol dydd tran- noeth, a daeth amryw o'i hen gydnabod i'r orsaf er talu eu cymwynas olaf o barch iddo er mor anffodus a di-ddisgwyl y daeth y diwedd. Huned yn dawel ger y fan a hoffai mor fawr yn ei fachgendod, ar lan y weilgi ac yn swn tonnau suol y mor sydd gerllaw.

STRATFORD.

Am Gymry Llundain.

Y PRIFWEINIDOG TOM PRICE.