Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y PRIFWEINIDOG TOM PRICE.

News
Cite
Share

Y PRIFWEINIDOG TOM PRICE. EI YMWELIAD A GWLAD El FEBYD. EI LWYDDIANT MAWR YN AWSTRALIA. [GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG]. Hanes rhamantus rhyfedd yw hanes Tom Price, Prifweinidog Deheu Awstralia. Rhyw bum mlynedd ar hugain yn ol yr oedd yn saer maen cyffredin yn Lerpwl, heddyw yn brif-weinidog urddasol ar un o daleithau mwyaf llewyrchus y Byd Newydd. Yr wythnos hon cefais y cyfle i gael ymgom a Mr. Price ar ei ddyfodiad i Lundain, ac ymgom ddyddorol fu, hefyd. Mae Mr. Price-neu Tom Price, fel y myn ef gael ei alw-yn ddyn tal, golygus, ond yn meddu yr hyn a eilw y Sais yn colonial cut" o'i goryn i'w wadn. Y gwallt yn dechreu britho, gwyneb agored, a llygaid treiddgar byw a ddengys y gwr bywiog a gweithgar sydd wedi gwthio ei ffordd o ris iselaf yr ysgol i fynu i binacl anrhydedd. A ydi'r Gymraeg mor llithrig ag erioed gennych ? meddwn. Na," meddai Mr. Price, hoffwn i ddim annerch cynulleidfa drwy ei chyfrwng yn awr. Rhaid i chwi gofio mai yn Lerpwl y treuliais y rhan fwyaf o foreu'm hoes, ac er mewn ysgol Gymraeg ar y Sal, eto Saesneg oedd iaith yr wythnos, ac ar ol i mi symud i Australia rhyw 25 mlynedd yn ol, nid wyf wedi cael cyfle i siarad ond ambell i fraw- ddeg gyffredin." A oes llawer o Gymry yn eich tiriog- aethau ? Q, oes, llawer iawn; ond gwasgarog ydynt, fel rheol. Mae acw bobl o bob gwlad a chenedl, ar oil yn bobl deyrngar i'r llywodraeth. Mewn gair, mae pedwar o wyr blaenaf ein Senedd yn perthyn i wahanol genhedloedd. 'Rwyf fi, fel Cymro, yn brif-weinidog. Mae Sais yn llywydd addysg; Scotsman yn gyfreithiwr cyffred- inol; a gwr o'r Ynys Werdd yn ysgrifen- nydd cyffredinol. Yr ydym mor wahanol a hynny, wedyn, yn ein daliadau crefyddol 'Rwyf fi'n Fethodist, arall yn Eglwyswr, arall yn Bresbyterian, a'r olaf yn Babydd." A ydyw plaid Llafur yn lied ddylan- wadol yn eich talaeth ? Wel, y mae'n ddigon dylanwadol i'm gosod i fel prif-weinidog. Mae'r blaid mewn mwyafrif yn y Senedd, ac yr ydym wedi bod mewn swydd bellach ers yn agos i dair blynedd, a does neb yn achwyn nad yw'r gwaith wedi ei gyflawni yn rhagorol. Yn wir, yr ydym fel plaid Llafur yn ymfalchio yn y ffaith fod ein deddfau arbennig wedi bod, yn barod, o les mawr i'r holl Drefedig- aeth." Beth yw eich cenhadaeth yn bennaf. A'i yr un yw eich rhaglen a phlaid Llafur ym Mhrydain ? Ie, llesiant y bobl yw ein prif arwydd- air. Yn bersonol, cyfrifir fi yn Sosialist eithafol, ac rwyf yn credu yn nhegwch fy nghredo, hefyd. Mae pob deddf ydym wedi basio wedi ei thrwytho a daliadau Sosialaeth, ac er yr edrychir arnynt ar y cychwyn fel pethau eithafol a chwyldroadol, eto, pan y gosodir hwynt mewn arferiad, gwelir ar unwaith mor deg a-chyfiawn ydynt." Beth am Gyfalafwyr y lie a'r hen ar- weinwyr Toriaidd. A ydynt yn cydweithio a chwi ? "0, ydynt. Y maent wedi newid ei syniadau yn ddirfawr. Ar un adeg yr oeddent yn barod i'm crogi ar y gangen agosaf at law, a 'd08dd yr un anathema yn ddigon cas i hyrddio at fy mhen fel ar- weinydd plaid Llafur ar hyd y blynyddau, ond mae'r rhod wedi troi. Pan oeddwn yn ymadael y dydd o'r blaen daeth marsiand- wyr blaenaf Adelaide, yr arianwyr a'r cyf- oethogion oil i roddi ffarwel i mi, ac i ddymuno gwyliau hapus i mi a thaith lwyddianus. Dywedent eiriau edmygol am danaf, a gellid meddwl eu bod yn fwy hoff o honof nag aelodau fy mhlaid fy hunan ac mae'r holl barch ac edmygedd yma wedi ei ermill gan y blaid heb golli ymddiriedaeth un o'm cefnogwyr mwyaf distadl. 'Dwyf fi ddim yn credu mewn ymwadu a'r ysgol ar hyd yr hon y dringais i safle a llwyddiant." "A oes modd cael anerchiad gennych i Gymry Llundain ? meddwn. Bydd yn bleser mawr gennyf ddod i gyfarfod a'm cydgenedl yn y ddinas fawr YR ANRHYDEDDUS TOM PRICE (Prifweinidog Deheu Awstralia). < 11

> A ,BYD Y GAN.