Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

MESUR YR ESGOB.

News
Cite
Share

MESUR YR ESGOB. Mae Esgob Llanelwy wedi cynllunio Mesur Addysg newydd, gyda'r amcan o roddi terfyn ar yr anghydfod presennol ynglyn a'r ysgolionenwadolarhydalledy wlad. Ar un olwg edrycha'n fath o gyd- ymgais o du'r faine Esgobol a'r Eglwys i Fesur Mr. M'Kenna, gyda'r bwriad o hudo Ty'r Arglwyddi i wrthod yr olaf ar draul rhoddi bendith i'r hyn a gynygir gan y gwleidyddwr craff o Llanelwy. Ond prin y credwn mai rhyw symudiad gwleidyddol cywrain yn unig yw. Mae Esgob Llanelwy yn ddigon craffi a goleuedig i weled an- hawsterau yr Ymneillduwyr yn ogystal a hawliau yr Eglwyswyr. Gwyr yn dda am sefyllfa yr ysgolion yng Nghymru a'r gwrth- wynebiad naturiol sydd gan y rhieni i'w plant gael eu dysgu mewn credoau nad arferir. yn eu capeli; a gwyr liefyd os cyll yr Eglwys ei holl hawliau ar yr ysgolion hyn, y bydd wedi colli un o'r rhwymau cadarnaf sydd yn ei chylymu wrth werin y genedl heddyw. Mae i'r Mesur ei ragoriaethau yn ogystal C, a'i wendidau. Yn y lie cyntaf gesyd yr holl ysgolion tan reolaeth bendant y Cyngor Sirol neu'r Cyngor Addysg. Gan y cyngor y bydd penodiad pob athraw a gofal am yr adeiladau. Er hynny, gorfodir rhoddi addysg Feiblaidd ynddynt oil, a gall yr athraw neu rhyw berson penodedig arall roddi hynny, ond rhaid ei wneud ar draul y cyhoedd fel ag a wneir yn awr yn yr Ysgolion Sirol. Yn rhagor at hyn bydd hawl gan rieni i ofyn am addysg enwadol i'w plant ym mhob ysgol-yn yr ysgolion enwadol a'r sirol yn ddiwahaniaeth. Ond rhaid i'r addysg enwadol gael ei roddi ar draul yr enwad fydd yn gofyn am dano, a chan athraw neu berson penodedig gan yr enwad. Gall y ficer neu'r curad hawlio myned i ysgolion y Cyngor, a gall y pregethwr Ymneillduol fyned i mewn i draethu ei gredo yn yr Ysgolion Eglwysig. Rhyw sicrhau drws agored fel hyn yw amcan pennaf y Mesur, a bydd yn werth gweled pa mor bell y cania- teir y rhyddid enwadol yma gan Dy'r Arglwyddi pan ddygir y Mesur ger broD. Yn un peth mae'n Fesur rhyddfrydig iawn, ac er fod ei bosibiliadau enwadol yn edrych yn beryglus, y mae lie i gredu y caiff dder- byniad parchus gan lu mawr o Ymneilldu- wyr yn ogystal ag Eglwyswyr.

> A ,BYD Y GAN.