Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

JAMES HUGHES YR ESBONIWR.

News
Cite
Share

JAMES HUGHES YR ESBONIWR. Daeth James Hughes (Iago Trichrug) i'r Brifddinas yn niwedd 1799, yn facbgen ieuanc 20ain oed, mewn amgylchiadau eith- riadol o isel, ac yn amddifad o Saesneg ac, mewn canlyniad, bu raid iddo ymladd brwydrau cethin ag anhawsterau am gryn amser. Lie anfarddonol iawn yw'r ddinas ar y gore, ac yn enwedig felly i rai yn yr amgylchiadau ag yr oedd Iago Trichrug ynddynt yn ystod blynyddoedd cyntaf ei drigiad yn y lie. Yr oedd ei anfanteision mor fawr, ei fyd mor galed, ei deulu'n lliosogi ac yn ychwanegol at hyn oil, yr oedd ei benderfyniad i ddysgu a meistroli yr iaith Saesneg mor gryf, fel nad oedd yn bosibl iddo, am y deng mlynedd cyntaf, wrando rhyw lawer ar gymhellion yr Awen. Gan nad i ba raddau y gallasai efe fod wedi ymgaredigo a'r Awen yng Nghiliau Aeron, nid yw yn debyg iddo wneud llawer o gynnyg ar ganu yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn Llundain a chan iddo dreulio deng mlynedd yn y ddinas cyn cael golwg ar "Reolau Barddoniaeth," nid yw yn debyg fod yr un o'i gynyrchion, sydd heddyw ar gael, wedi ei gyfansoddi cyn hynny. Dichon iddo dynghedu i ddifancoll bob peth oedd wedi wneud yn flaenorol, neu ynte ddiwygio'r cwbl yn drwyadl ar ol gweled y Rheolau." Rywbryd oddeutu 1810, wedi deng mlyn- edd o fyw yn Llundain, sef yr adeg y dechreuodd bregethu, daeth Rheolau Barddoniaeth" i'w law; ac o hynny ym mlaen hyd ddiwedd ei oes, bu ei awen yn bur gynyrchiol; a gwelid ei gyfansoddiadau yn fynych, mynych yng nghyfnodolion y dyddiau hynny. Ymddengys iddo, yng nghylch yr adeg a nodwyd, ddyfod i gyff- yrddiad pur agos ag ysbrydion cydnaws- sef dynion fel y Dr. William Owen Pughe (Idrison), a Thomas Edwards (Caerfallwch), y ddau yn rhyw gymaint o feirdd, yn ieith- wyr da, yn llenorion gwych, ac yn eiriadur- wyr llafurfawr. Ychydig yn ddiweddarach ychwanegwyd Eryron Gwyllt Walia—gwell bardd na'r un o honynt-at y cylch. Trwy ddyfod i gyffyrddiad a'r dynion hyn cafodd awen Iago symbyliad newydd ac er ei fod ar y pryd dros 30ain oed dechreuwyd cyfnod newydd yn ei hanes. Cyneuwyd tAn o'i fewn, deffrowyd ei holl natur, tynwyd allan ei alluoedd gan gymdeithas y Cymry aiddgar a nodwyd, a dechreuodd yntau ganu, gan fyned rhagddo ac ymberffeithio hyd ddiwedd ei oes. Yng nghyfnod olaf ei oes yr oedd canu wedi myn'd yn ail natur iddo. Canai am na fedrai beidio: a mawr gymaint a wnaeth wedi i'r awen gael ei deffro yn iawn o'i fewn, ac iddo yntau ymgydnabyddu a'r Rheolau," a'u meistroli agos yn eu holl fanylion. Bu'r blodeuyn yn hir cyn agor; ond pan yr agorodd daeth allan yn ei lawn ogoniant. Ymddengys i Iago Trichrug fynd i lafur mawr er mwyn ymberffeithio yn y gelfyddyd farddol. Y mae'r hanes am dano ef, mewn undeb ag Idrison, Caerfallwch, ac Eryron, yn nodedig 0 ddyddorol. Byddent yn cyf- arfod a'u gilydd yn fynych, yn cyd-lafurio, yn canu ac yn beirniadu cyfansoddiadau eu gilydd, a hynny, yn ddiau, er budd ac adeil- adaeth mawr i bob un o honynt. Haiarn a hoga baiarn" oedd hi ym mhlith y gwyr hyn. Byddai math o gystadleuaeth farddol yn cymeryd He rhyngddynt yn fynych, mynych ac amrywiai y gystadleuaeth honno gryn lawer, o ran ei ffurf a'i mater, o bryd i bryd. Weithiau penderfynent yn eu plith eu hunain ar destyn, ac yna cyfansoddent bob un ei ddarn ar y testyn hwnnw ac wedi cyfansoddi, beirniadent eu gilydd yn rhydd ac yn frawdol, heb wobr yn y byd amgen na'r budd personol a gaent fel cyfansodd- wyr oddi wrth y feirniadaeth. Weithiau byddent yn anfon cywyddau annerch y naill i'r Hall, ac yn cael llawer o ddifyrwch. yn gystal ag adeiladaeth wrth wneud. Y mae rhai o'r cywyddau hynny ar gael heddyw, ac y maent yn Ilawn o fywyd ac aspri diniwaid. Ffordd arall ddyddorol iawn o gario ymlaen y gystadleuaeth, er budd eu gilydd, ydoedd i un anfon "Can Holi i'r Hall, ac yna i'r Hall ateb rhyw fath o ymgom farddol rydd a chariadus oedd y wedd hon ar bethau yn eu plith a mawr y mwynhad a brofid yn y gwaith. Nid mwynhad ychwaith oedd y cwbl; oblegid byddai y pynciau yr ymdrinid a hwynt yn fynych yn ymwneud a hanfodion pethau, anhawsterau dyrus yn cael eu trafod; a chynnydd mawr mewn goleuni a gwybod- aeth, fyddai'r canlyniad. Y mae llu mawr o'r ymgomiau barddol hyn yn argraffedig yng nghyfnodolion yr oes honno, yn enwedig o'r rhai a gymerasant le rhwng Iago ac ldrison. Ffurf arall ar y cystadlu brawdol a nodwyd oedd, yr hyn a gymerodd le ym mhlith y gwyr hyn ynglyn a chyfieithu; a sicr yw i hynny brofi yn fendithiol iawn i bob un o honynt. Ymgymerent a'chyfieithu darnau anhawdd o waith y beirdd Seisnig, a beirniadent gynyrchion eu gilydd yn llym, er mwyn cael cymaint o fendith ag oedd yn bosibl oddi wrth eu gwaith. Profodd y cynllun hwn ei hun yn ysgol ardderchog iddynt, a bu o fantais fawr mewn llawer ystyr. Rhaid cydnabod fod Iago Trichrug yn gyfieithydd ardderchog. Er mor ddi- eithr ydoedd i'r Saesneg ar ei ddyfodiad i Lundain, daeth, drwy lafur ac ymarferiad, ac yn enwedig drwy nerth talent, a'r cynllun a nodwyd, yn feistr ar y gwaith. Gwelir amryw engreifftiau o ffrwyth eu llafur yn y oyfeiriad hwn yn llenyddiaeth gyfnodol eu hoes a rhaid i bob beirniad teg gydnabod teilyngdod uchel y cyfieithiadau.-(Y Parch. J. E. Davies, M.A., yng "Nglieninen Gwyl Dewi.)

Advertising