Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. SEIBIANT. Ar ol rialtwch dathliadau Gwyl Dewi ca'r byd Cymreig ychydig seib- iant am rai dyddiau. GVVERTH Y Cymizo.-Beth wnai'r Wein- yddiaeth bresennol heb Mr. Lloyd-George? Efe yw ei harwr a'i phrif lywydd wedi'r cyfan, a gallem gasglu oddiwrth y croesaw mawr roed iddo yn y Queen's Hall nos Wener diweddaf, fod y wlad yn dechreu sylweddoli hynny. TRO YSMALA.-Aeth Pedr Hir ag umber- elo'r Parch. T. C. Williams o'r City Temple noson yn ol mewn camgymeriad. Ond pa angen am umberelo sydd ar Faptist ? Hwyrach mai teimlo oedd Pedr Hir fod angen bedydd ar T.C., a chafodd un hefyd yn y gwlaw trannoeth cyn cael ei wlawlen yn ol. Y DDWY WYL.—Oni fuasai yn ddoeth i'r ddau gyfarfod, y naill yn y City Temple a'r Hall yn St. Paul, gael eu cynnal ar nosweith- iau gwahanol fel ag a wnaed eleni. Trwy hyn caed gwell cynulliadau yn y ddau le, a rhoddwyd cyfle i arweinwyr y naill a'r Hall i fwynhau'r ddau gyfarfod. Y DISIANWST. Melltithio'r tywydd, a grwgnach tan yr anwydwst—neu'r disian- wst, waeth pa un o'r enwau hyll ddefnyddir —mae Cymry Llundain y dyddiau hyn. Yr oedd nifer liosog o'n pobl flaenllaw yn an- alluog i fod yn bresennol yn y dathliadau cyhoeddus a gaed ddechreu'r wythnos hon oherwydd y pla newydd yma. CAN WATCYN W YN.-Cyfeiriodd Parch. Herbert Morgan yng nghyngerdd Castle Street nos Sadwrn diweddaf at y wawd-gan ddoniol a wnaed gan y bardd o'r Gwynfryn gynt i gantorion oeddent mor hoff o ganu Italaeg yn ein cyfarfodydd cenedlaethol. Gan mai yn y CELT y cyhoeddodd Watcyn ei gan gyntaf y mae'n werth rhoddi cyhoeddus- rwydd iddi eto yn y dyddiau gwrth-Gymreig hyn :— CAN GYMRAEG-ITALAEG [Gan Hen Fardd Newydd, i'r hwn y mae "Italian Songs" wedi profi'n toddion gras yn ein cyng- herddau cenedlaethol.] 1. Gwalia, Gwalia, mae Italia Ar dy sodlau, gyda i hodlau, Mendia mendia, tendia tendia, Tro tro ffo flo Ha ha Ho ho II. Angylesi o lancesi Sydd yn canu, nes ein gwanu Yn ein c'lone, dan ein brone, A rhyw top, to tà, La Re Ri Ra III. Lyco lyco, gwel di'r nyco, Bachgen jolly, wedi ffoli, Ac yn camu ac yn gwrido,— Wrth garlamu, do re-mi-doh Doh Doh, La la, Si so, Ffa ffa, Bi ba! IV. Ma nhwn'n odli, ac yn codli, Ac yn iapo, a chalapo, Ninau'n wylo a chlapo dwylo Am fod Gwalia'n troi'n Italia,- Tra mor, tra mor oncor, oncor V. Gwel di lanto, a'i gariad ganto Wedi talu am ga'l rhali, Yn llygadu ar y Lady, Gwel di'r lelo'n troi'r umbrello,— Tip t6 tip to Brav o Brav o VI. Beth ti'n wha-lu dyna rali Yw eu gwrando ma nhw'n grand-o Yn top-noto, ac yn soto, Canu derots, canu perots,— Tra la! tra la! tra la! Hwra Watcyn Wyn. EGLWYSI UNDODAIDD.—Ar ol gwasanaethu yn dra llwyddianus fel gweinidog Undod- aidd yn Southend, y mae Mr. Delta Evans, golygydd y Christian Life, wedi dychwelyd i Lundain, ond parha i bregethu yma a thraw bob Sabboth. Bydd Mr. Evans yn pregethu yng nghapel Undodaidd Avondaleroad, Peckham, bob nos Sul drwy fis Mawrth ac wedi hynny y mae yn debyg y cymer ofal yr eglwys yn West Ham Lane, Stratford, am dri mis. Y mae yr achos yn Stratford wedi myned i lawr gryn dipyn yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, a chredir y llwydda Mr. Evans i'w ail godi i'w sefyllfa flaenorol. Ar- nos Suliau yn unig y pregethir ganddo yn Stratford. WALHAM GREEN.— Y Gymdeithas Ddiwyll- iadol.-Nos Fercher, Ohwefror 2Gain, caed dadl fywiog ar y testyn, Pa un ai y wlad ai- y dref sydd yn fwyaf manteisiol i fyw bywyd crefyddol ? Agorwyd y ddadl gan ddwy o chwiorydd ieuamc ein Cymdeithas, sef Miss E. 0. Roberts, dros y wlad a Miss A. E. Williams o blaid y dref." Daeth cynulliad cymharol dda ynghyd, er mor anlfafriol yr hin, ac ar ol y papurau agoriadol a ddarllenwyd caed ychydig syl- wadau gan bron yr oil o'r aelodau oeddynt yn bresennol. Wrth gyfrif y pleidleisiau ar y diwedd, caed fod mwyafrif o bedwar o blaid "y wlad." Cadeiriwyd gan Mr, John Hughes. R. Y CYMRY A DIRWEST.-A barnu oddiwrth y eynulliad ddaeth i'r Gymanfa Ddirwestol yn Jewin nos Fawrth diweddaf, mae achos sobrwydd yn myned ar gynnydd yn ein plith. Yr oedd yn noson arw, a llawer wedi methu dod i'r cwrdd oherwydd cyffredinol- rwydd yr anwyd. En raid cael cadeirydd yn lle'r Parch. J. E. Davies, M.A., am ei fod dan y pla, a gwnaeth y Parch. Wilson Roberts ei waith yn ddeheuig fel dirprwy. Rhoddwyd adroddiad calonogol gan Mr. Isaac T. Lloyd ynglyn a'r mudiad dirwestol ymhlith eglwysi Cymreig y ddinas, ac 'roedd yn llawenydd clywed fod y cymdeith- asau hyn yn dod yn fwy poblogaidd y naill dymor ar ol y Hall Yr oedd y pwyllgor wedi sicrhau gwasanaeth areithwyr nodedig i gymeryd rhan yn y cwrdd, sef Mr. Leif Jones, yr hynafgwr Plenydd, a Miss Eleanor Williams. Rhoddodd y cyntaf fraslun o hanes a nodweddion y Mesur Trwyddedau newydd, manylion, feallai, oeddent yn fwy addas i ddadl Seneddol nac i gynulliad edmygol fel hwn. Caed gan Plenydd hanes hyn o'i brofiad yn yr hen wlad yn adeg y Diwygiad a gwerth sobrwydd i grefyddwyr ieuainc, a rhoddodd Miss Williams anogaeth daer ar i'r eglwysi gymeryd mwy o sylw o'r drwg hwn 0 hyn allan. Yn ystod yr hwyr caed caneuon swynol gan Miss Florrie Jenkins a Mr. Tim Evans, dau o gantorion poblogaidd yn Jewin.

Advertising

GWYL DEWI.