Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

GWYL DEWI.

News
Cite
Share

GWYL DEWI. DATHLU COFFA SANT Y GENEDL. CYNULLIADAU MAWR YN LLUNDAIN Myn y Oymry fod yn genedlgarol ar y dydd cyntaf o Fawrth. Dyma ddydd coffa Nawdd-Sant y genedl, a phriodol ei wneud yn uchel-wyl gan ei phobl. Ym mhob gwlad lie mae nifer o Gymry yn trigo, yn ogystal ag ym mhrif drefi Oymru ei hun, daw ei phlant ynghyd i gadw gwyl ac i ddangos eu cariad at yr henwlad, ac at iaith ac arferion cenedl y Cymry. Eleni, fel yn y blynyddoedd gynt, caed fod y cariad cenedl- aethol mor bybyr ag erioed, a daeth y tor- feydd ynghyd i ddathlu Dydd Gwyl Dewi gyda chymaint o frwdfrydedd ag a welwyd ar un adeg yn eu hanes. 0 holl drefi Cymreig yr henwlad, o brif drefi. Lloegr a'r Iwerddon, o wahanol ddin- asoedd yr America yn ogystal a gwledydd tramor ereill pellebrwyd y newydd fod meibion a merched Gwalia yn cadw yn fyw -eu hen nodweddion, ac fod yr arwyddeiriau, Ein hiaith, ein gwlad, ein cenedl," a Hiroesi Gymru," yn destynau clodfawr ym mhob man. Er mai dathliadau cenedlaethol oeddent i gyd dylid cofio fod ei genedlaethol- deb yn rhan o grefydd y Cymro, a phan y dygir iddo atgof am yr hen wlad daw swyn ei chrefyddoldeb yn ddeffroad adnewyddol i'w enaid ac yn, a thrwy, y deffroad hwnnw y mae i ni achos llawenydd yng ngwerth a llesiant y gwyliau blynyddol hyn. Tra y gellir cadw iaith a chrefydd syml Cymru yn drysorau gwerthfawr yng ngolwg ei phlant y mae parhad ei bywyd cenedlaethol yn sicr. Yn Llundain caed y dathliadau arferol eleni, ond gan fod yr wyl yn disgyn ar y Saboth bu'n achos i liosogi'r trefniadau. Dechreuwyd ar nos Iau trwy gynnal gwas- anaeth mawr gan yr Ymneillduwyr yn Y CITY TEMPLE, lie y daeth llond yr adeilad o addolwyr i gadw'r wyl ar ddull hen Gymanfaoedd Cymrll. Y pulpud a'r areithfa ydynt nod- weddion amlycaf Ymneillduaeth ein cenedl, a phriodol, trwy gyfrwng y rhain, oedd cadw colfa un o arwyr crefyddol y tir. Daeth holl weinidogion Cymreig y ddinas yno; y Parchn. J. E. Davies, M A., H. Elfet Lewis, Justin Evans, Thomas Nicholson, S. E. Prytherch, F. Knoyle, Ll. Bowyer, J. Crowle Ellis, W. Richards, a llu ereill. Y Parch. G. H. Havard, B.D, Wilton 'Square, oedd a gofal y trefniadau eleni, ac arweiniodd weithrediadau y cyfarfod gyda doethineb a medr. Dechreuwyd trwy ganu emyn 0 tyred Arglwydd mawr," ac yna darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan y Parch. J. Machreth Rees. Gweddiwyd gan y Parch. J. Humphreys, City Road, a phregethwyd gan y Parchn. T. C. Williams, M.A., a Pedr Williams (Pedr Hir), ac offrymwyd y fendith ar y diwedd gan y Parch. J. Wilson Roberts, Stratford. Wrth yr organ eleni rhoed Mr. D. Richards, organydd King's Cross, a gofalodd Mr. Tim Evans am arweinyddiaeth y canu. Gwnaeth Mr. Evans ei waith yn effeithiol iawn mewn dull di-dramgwydd, ac yn esiampl gwerth ei C3 efelychu gan arweinyddion y cymanfaoedd dyfodol. Ond beth am y pregethau? Onid y rhai hyn ydynt bethau mawr yr wyl ? Yn eu pulpud mae'r Ymneillduwyr yn ymfalchio bob amser, ac nid mewn seremoniau allanol, a chan mai cyfarfod yr Ymneillduwyr ydoedd rhaid oedd cael doniau goreu yr enwadau i gadw urddas y pulpud yn ei fri. Yr oedd y ddau yn cynrychioli dwy elfen nodedig yn ein pulpud hefyd—y naill yn ysgolor ieuanc diwylliedig, y llall yn henafgwr, cynnyrch yr hen oruchwyliaeth. Un yn fyw i werth a dylanwad yr efengyl yn y bywyd hwn, a'l Hall yn clodfori Calfaria a gobeithion y byd a ddaw. Un yn gelfgar a choeth yn ei gyfansoddiad, ac yn ddiwylliedig a gafaelgar yn ei draethiad, a'r llall yn dibynnu ar ei ddawn farddonol a'r hen hwyl Gymreig er ennill pobl i iachawdwriaeth. Un yn rhy fyr am ei fod yn swynol, a'r Hall yn rhy hir am ei fod yn methu cael y dyrfa tan ei ddylan- wad. Ond pa les beirniadu. Onid oedd y ddau yn amcanu at yr un nod ? Ar yr un pryd mae'n werth sylwi i'r ddau anghofio mai dathliad cenedlaethol oedd y cwrdd. Am- canu at ein gwneud yn well crefyddwyr oedd y ddau, ac nid gwell cenedlaetholwyr. Yr ydym yn cofio am un awdwr diweddar yn ceisio honni mai'r peth pwysicaf bob amser oedd bod yn genedlaetholwr da, ac yna fod gobaith i ddyn fod yn grefyddol wedyn, ac mewn gwylfel hon, lie y dylai'r bywyd cenedl- aethol a'r dinesig gael cymaint sylw, yr oedd y ddau yn dueddol i ystyried yr wyl yn rhyw fath o gymanfa leol gyffredin. Testyn pregeth y Parch. T. C. Williams oedd Act 26, 19. Pregeth y weledigaeth nefol y gellir yn briodol ei galw, a phregeth ragorol i dyrfa o ieuenctyd. Testyn Pedr Hir oedd Heb. 2, 9. Yr lesu wedi ei goroni a gogoniant ac anrhydedd oedd y mater, ac ar ol pregeth ymarferol y pregeth- wr cyntaf, hwyrach ei bod yn swnio yn ychydig yn hen-ffasiwn ac amhenodol. Ond ar y cyfan ni raid i'r Ymneillduwyr ddi- galoni. Yr oedd gwyl 1908 yn llawn cystal a'r un y maent wedi gael hyd yn hyn. YN SANT PAUL. Wedi dechreu gyda'r wyl Ymneillduol nos Iau, yn y City Temple, caed cynulliad arall nos Wener yn hen Eglwys Gadeiriol St. Paul, a daeth tyrfa anferth yno fel yn y blynyddoedd gynt, gan lanw'r adeilad hyd y cyrrau pellaf. Yr oedd trefniadau helaeth wedi eu gwneud gogyfer a'r wyl eleni, a phan ddeallwyd y deuai'r Esgob Owen i bregethu yr oedd pawb yn teimlo y byddai yn un o'r gwyliau goreu a gaed, ac felly y profodd hefyd. Yn anffodus analluogwyd yr hen wron Syr John Paleston i ddod i lanw ei safle arferol eleni. O'r adeg y cychwynwyd yr wyl hon mae Syr John wedi cael darllen y llith cyntaf. ond oherwydd gwaeledd bu raid i'r Parch. H. Watkin, East End, gymeryd ei le y tro hwn, a darllenodd y Dr. Hartwell Jones yr ail lith. Llafarganwyd y rhan gyntaf o'r gwasanaeth gan y Prifathro Thomas (Home and Colonial College), a'r ail ran gan y Parch. L. Roderick, Camber- well. Gwasanaeth corawl oedd y gwasanaeth drwyddo, a chaed cynorfchwy sylweddol seindorf yr Irish Guards tan arweiniad Mr. G. H. Hassell, yn y gwaith. Gwasanaeth- wyd wrth yr organ gan Mr. D. G. Thomas a Mr. R. Meyrick Roberts, a gofalwyd am y trefniadau yn rhagorol gan Mr. D. Williams, yr ysgrifennydd, a Mr. J. Alason Williams, y trysorydd. Yr oedd torf enfawr o glerigwyr wedi dod ynghyd, yn ogystal a nifer o weinidogion Ymneillduol. Ymhlith. llawer gellir enwi'r Parchn. W. Davies (gynt St. Padarn), W. Richards (Dewi Sant), J. Crowle Ellis (St. Benet), a'r Archddiacon Sinclair. Rhoddodd Esyob Ty Ddewi bregeth addas iawn i'r wyl. Yr oedd wedi teimlo pwysigrwydd ac urddas yr amgylchiad, a pharatodd genadwri amserol i'w thraddodi. Gwnai y pregethwyr Ymneillduol yn ddoeth pe dilynent ei esiampl yn hyn o beth o leiaf. Seiliai ei draethiad ar Rhufeiniaid i. 16, ac mewn Cymraeg hyglyw anogai'r dyrfa, fel Cymry, i lynu wrth athrawiaethau yr hen dadau, ac i gadw rhag cael eu denu gan hudoliaethau Diwinyddol ac athrawiaethau. newydd y dyddiau diweddaf hyn. i CYNGERDD CENEDLAETHOL. Yn swn nodau hen alawon Cymru mae Cymdeithas Ddiwylliadol Capel Castle Street yn dathlu Gwyl Dewi ers blynyddau lawer, ac mae'r cyngerdd cenedlaethol a roddir ganddi y naill flwyddyn ar ol y llall, ar adeg Gwyl Dewi, wedi dod yn un o uchel- wyliau y genedl yn Llundain. Ar un adeg 'roedd y neuadd tan y capel yn ddigon mawr i gynnal y cynulliadau hyn, ond eleni bu raid cael yr holl gapel at eu gwasanaeth, a phrofodd hwnnw yn rhy fychan gan gym- aint y tyrru i wrando'r datganwyr penigamp oedd i ymddangos. Cymraeg o'r dechreu i'r diwedd oedd cywair y cyfarfod, ac am unwaith yn eu hanes bu raid i'r cantorion adael i'r caneuon Seisnig a thramor yn llonydd. Y prif ddatgeiniaid oeddent Madam Eleanor Jones Hudson, Miss Eira Gwyn, Mr. John Roberts, a Mr. Dan Price. Caed detholiad ar y delyn gan Misa Kathleen Purcell, ar y chwibanogl gan Mr. Eli Hudson, ac ar y berdoneg gan Mr. Merlin Morgan. Yn anffodus methodd Miss Tilley Boddicombe a Mr. Thomas Thomas fod yn bresennol oherwydd anwyd, ac er siomiant i lawer cadwyd Mr. D. Lloyd- George, gan ei alwadau ar y fnnud olaf, rhag dod i lywyddu'r cynulliad. Ond er cymaint y siom cadd pawb gyflawn dail am ddod i'r cwrdd. Yr oedd yr oil o'r cantorion yn canu'n rhagorol; mor ragorol, yn wir, fel mai afraid fyddai ceisio eu beirn- iadu na chanmol un ar draul anwybyddu y Hall. Fel cyngerdd Cymreig, yr oedd yn un o'r rhai goreu a gaed yma ers blynyddau lawer, ac mae'r Gymdeithas yn ddyledus i Mr. John Owen, yr ysgrifennydd, am drefnu gwledd mor gymeradwy i'r cyhoedd. Ar derfyn y cyfarfod caed ychydig sylwadau priodol gan Mr. John Hinds (yr hwn a lywyddai yn ab3enoldeb Mr. D. Lloyd- George), a chan y gweinidog, y Parch. Herbert Morgan, B.A. DATHLIADAU EREILL. Caed cynulliadau brwdfrydig yn New- castle-on-Tyne, lie yr oedd Syr Isambard Owen yn un o'r siaradwyr; yn Manchester lIe caed araith wladgarol gan Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. yn Liverpool drwy areithiau gan Cyrnol Ivor Herbert, Syr Harry Reichel, a Mr. J. H. Davies (Cwrtmawr); yn Birmingham gan Mr. Vincent Evans; yng Nghaerdydd lie buwyd yn clodfori Syr W. Thomas Lewis yn ei absen- oldeb yn Aberystwyth lle y bu'r efrydwyr mor weddaidd ag oedd bosibi, a llu o leoedd ereill nad oes ofod i ni draethu eu hanes. GWLEDD CYMRY LLUNDAIN. Un o'r gwleddoedd mwyaf poblogaidd gan Gymry'r ddinas hon yw'r wledd flyn- yddol a roddir yng Ngwesty Cecil er dathlu coffa Nawdd Sant y genedl. Nos Lun, Mawrth yr 2ail, rhoddwyd yr wyl eleni, a daeth ugainiau lawer ynghyd i dreulio noson wladgarol tan lywyddiaeth y seneddwr poblogaidd a chenedlgarol, Mr. W. Llewelyn Williams. Cyn dechreu'r wledd, croesawyd y dorf gan Mr. a Mrs. Williams, ac ymysg y rhai oedd yn bresennol gwelsom Cyrnol Syr Ivor Herbert, Mr. T. H. W. Idris, A.S., Mrs. Idris.Mr. a Mrs. Foulkes Jones,Mr. W. Price, Mr. J. Jay Williams, Mr. a Mrs. D. R. Daniel, Dr. Hartwell Jones, Mr. a Mrs. J. T. Lewis, Dr. D. L. Thomas, Mr. T. J. Evans, Mr. a Mrs. John Owen, Mr. a Mrs. John Hinds, Mr. P. W. Williams, Mr. J. Lewis, Mr. T. D. Jones, Mr. a Mrs. D. R. Hughes, Mr. Richard Roberts, Y.H., Mr. Glyn Evans, Mr. R. H. Edwards, Parchn. Herbert Morgan, Machreth Rees, D. Bryant, T. Huws Davies, Mr. and Miss Vincent Evans, Mr. G. W. Jones, a'r ysgrifennydd, Mr Arthur Griffith. Disgwylid Mr. Augustine Birrell i fod yn brif siaradwr y noson, ond, yn anffodus, y mae'r gwr hwnnw yn wael ers rhai dyddiau,