Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

TYMOR Y CHWYLDROAD.

News
Cite
Share

TYMOR Y CHWYLDROAD. Er cymaint helbulon y Senedd y dyddiau hyn, a'r daroga.n am ymddiswyddiad y Prif Weinidog, rhaid addef fod y Mesurau sydd newydd eu dwyn o flaen Ty'r Cyffredin yn ddechreu cyfnod o chwyldroad yn ein hanes fel gwlad. Os ydyw'r Blaid Ryddfrydol wedi ymddangos yti bur ddifater hyd yn hyn, y mae'n amlwg fod gobaith deffroad o fewn ei rhengoedd, ac nad yw'r hen ysbryd ceid- wadol ac ofnus i'w llyffetheirio yn hwy. Yr oedd y wlad yn dechreu colli el hymddiried- aeth ynddi, ond os yw'r mesurau. yma yn ernes o'r hyn fwriada gyllawni, bydd yn sicr o gael cefnogaeth. galonog gan bawb a gar ryddid ac iawnder, yn ogystal a gwlad sobr ac iachus, yn lie Prydain feddw a phecha- durus, fel ag y mae yn awr. Ddydd Gwener diweddaf, bu'r Ty yn dweyd ei farn ar y pwnc o roddi pleidlais i ferched, a gwnaeth hynny yn deg a gonest. Penderfynodd gyda mwyafrif mawr fod eisieu cyfnewid y gyfundrefn gaeth bresennol, ac er na lwyddir, feallai, i gael y Mesur ar ddeddflyfr y wlad am flwyddyn neu ddwy, y mae'n arwydd daionus i gael y cydnabyddiad hwn o degwch yr egwyddor a bleidir drosti mor hynod gan y rhyw deg heddyw. Mae Mr. McKenna wedi gosod seiliau cedyrn i'w fesur yntau er symud yr aaghyfiawnderau lliosog ynglyn a'n Hysgolion, a bydd cael cefnogaeth y Ty i'w gynllun yn gymorth i gael gan y wlad fod yn gefnogydd parod i'r blaid pan ddaw'r tymor i ben i ofyn am ail-ymddiriedaeth yr etholwyr ymhen dwy flynedd eto. Ac am Fesur Mr. Asquith yn ymwneud a'r Trwyddedau, diau na chaed yn hanes y Fasnach Feddwol yr un gwr mor feiddgar ag yw'r Canghellydd presennol. Os llwyddir i gael rhan o hwn ar ddeddflyfr y wlad, bydd yn gam pwysig ar ran sobrwydd a thegwch. Bwriedir y I drwyddo i leihau nifer fawr o'r ttfarndai. Ceisir adfer yr awdurdod, ynglyn a gosod trwyddedau a'u hattal, i ddwylaw yr awdur- dodau lleol; a rhoddir terfyn ar waddoli y drwydded i wyr y dafarn. Trefnir y taf- arndai o hyn allan yn ol nifer y boblogaeth ym mhob ardal, ac os llwyddir i basio y cynllyn fel y mae ger bron y Ty yn awr, bydd o leiaf 30,000 o dafarndai yn llai ym Mhrydain cyn pen deng mlynedd nag sydd heddyw. Yn y ddau Fesur mawr hyn daw holl alluoedd yr Eglwys a'r Dafarn i ymosod ar y Rhyddfrvdwyr, a diau y gwelir un o'r gornestau caletaf yn y Senedd ya ystod y tymor presennol. Ond pa un a lwyddir a'i peidio i osod y naill neu'r llall ar lyfrau y wlad, y mae'n amlwg, fod yr ysbryd chwyl- droadol wedi meddiannu y tir, ac unwaith y ceir y werin i gefnogi y fath fudiadau dyn- garol a llesol a hyn, nis gall y Senedd rwystro y cynlluniau ond am amser byr. Mae eisieu y fath ddiwygiadau, a goreu po gyntaf i Brydain y gellir dyfeisio rhyw gyn- llun i roddi terfyn ar yr anhegwch presennol ym myd addysg, yn ogystal ag yn naliadau trwyddel y tafarnwyr.

NOSON GYDA " ISLWYN."

Advertising