Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CERDDORIAETII A GWYDDONIAETHNid yn ami y cysylltir y ddwy hyn. Nid wyf wedi darllen am nn cerddor ydoedd yn Wyddonwr. Yn wir, pur anaml y mae cerddor yn ddim heblaw cerddor-o leiaf dyna'r haeriad cyffredinol. Fel y dywedais yn y golofn hon lawer tro, dylai cerddor fod yn fardd o leiaf, ond nis gwn am fwy na thri o wyr ein gwlad oeddynt hynny, sef Llew Llwyfo, Eos Bradwen, a Ieuan Gwyllt, o ba rai y cyntaf ydoedd y mwyaf o lawer, fel bardd ac yr oedd yn ddiau yn un o feirdd mwyaf gwlad y beirdd. Wrth ddweyd nas gwn am gerddor ydoedd yn Wyddonwr, golygaf un ydoedd yn ymwneud a cberddoriaeth fel celfyddyd. Yr un modd gyda Gwyddonwyr, adnabum Tai oeddynt yn gerddorion? Y rheswm rydd rhai ydyw inai celfyddyd sydd yn apelio at y teimlad ydyw cerddoriaeth, ac nas gellir disgwyl i feddylwyr dwfn gym- eryd dyddordeb ynddi am y cyfryw reswm. Ond camgymeriad ydyw hyn, canys ni chynyrchwyd cerddoriaeth aruchel erioed gan rai nad oeddynt yn leddylwyr mawrion. Canfyddid hynny yn amlach pe bae gan ddynion lygaid i weled gwir ystyr llawer o gerddoriaeth y byd. Cymerer cerddoriaeth Wagner, er engraifft. Os bu meddyliwr mawr erioed ym myd cerddoriaeth, yr ydoedd hwn yn un; ac yr oedd yn fardd, hefyd, ac fe ddichon ei fod yn fwy o gerddor o herwydd ei fod gymaint o fardd. Arweiniwyd fi i ysgrifennu y llith hoa ar 01 darHen hanes dau Wyddonwr mawr, oeddynt yn hoff iawn o gerddoriaeth-y naill yn gerddorol o ran ei natur, a'r llall yn gerddor ymarferol. Cyfeirio yr wyf at Charles Darwin ac Arglwydd Kelvin. Dyma ddywed Darwin am ddylanwad cerddoriaeth arno:— I got into a musical set at Cambridge. From associating with these men and hearing them play, I acqnireda strong taste for music, and used very often to time my walks so as to hear on week-days the anthem in King's College Chapel. This gave me intense pleasure so that my backbone would sometimes shiver. I am sure that there was no affectation or mere imitation in this taste, for I used generally to go by myself to King's College, and I sometimes hired the chorister boys to sing in my rooms. Never- theless, I am so utterly destitute of an ear, that I cannot perceive a discord, or keep time and hum a time correctly and it is a mystery how I could possibly have derived pleasure from music." Yr hyn roddai iddo bleser mawr ydoedd gwrandaw chwareuad o rai o symphoniau Mozart neu Beethoven. Dywedai y diweddar Farnwr Herbert ddarfod iddo fyned gyda Darwin i'r gwas- anaeth yn King's College, ac yn un rhan o'r Anthem, trodd Darwin ato gan ofyn But y mae asgwrn eich cefn ?—yr hyn sydd yn gadarnhad o eiriau Darwin ei hun parthed y dylanwad a gaffai cerddoriaeth brydferth arno. Dyma hanesyn tlws am dano, un y bydd yn dda gan Gymry ei ddarllen, gan fod ynddo gyfeiriad at gerddoriaeth ein gwlad "In the evening-that is, after he had read as much as his strength would allow, and before the reading aloud began, he would often lie on the sofa and listen to my mother [medd ei fab] playing the piano. He had not a good ear, yet in spite of this, he had a true love of fine music. He used to lament that his enjoyment of music had become dulled with age, yet within my re- collection, his love of a good tune was strong. I never heard him hum more than one tune —the Welsh song, Ar hyd y nos," which he went through correctly he re- mained constant to what he liked, and would often say, when an old favourite was played, "that's a fine thing: what is it"? He liked especially parts of Beethoven's sym- phonies and bits of Handel. He was sensi- tive to differences in style He enjoyed good singing, and was moved almost to tears by grand or pathetic songs. His niece Lady Farrer's singing of Sullivan's Will he come was a never-failing enjoyment to him. He was humble in the extreme about his own taste, and correspondingly pleased when he found that others agreed with him." Fel y dywedais eisoes, yr oedd Arglwydd Kelvin, sef, cyn hynny, William Thomson, yn llawer mwy o gerddor na Darwin. Yr oedd yn chwareuwr da ar y cornet. Prawf y ffaith ddarfod i Dykes wrthod y swydd o Lywydd Cymdeithas Gerddorol Peterhouse, ac iddo ymfalchio yn meddwl ddarfod i'r gwr rhagorol hwnnw Thomson (Arglwydd Kelvin) ei chymeryd, fod Thomson yn deilwng iawn o'r anrhydedd. Mewn llythyr at Mrs. Cheape, chwaer Dr. Dykes, dydd- iedig Glasgow, Chwefror 23ain, 1896, dywed Kelvin I still came up from Glasgow in the May term, and continued my part-as 2nd Horn-in the Orchestra till (as far as I can recollect) your brother retired in 1847 on leaving Cambridge I well remember my first visit to your father's hospitable house in Wakefield, with your brother, in the Easter Vacation, 1844. I can never forget the kindness I received from all your family, including the extreme good nature of your father in giving me some instruction in the French Horn, and allow- ing me to play on it in his study when he was out at the Bank, and the, if possible, more extreme good nature of the rest of the family, in tolerating the noises that came from that room during many hours of each day of my visit." Dywed brawd i Dr. Dykes ei fod yn cofio yn dda am ymweliad Kelvin a chartref ei dad, ac meddai, er fod trosdri-ugain mlyn- edd er hynny, da y cofiaf trwst ofnadwy a wneid pan y rhoddai fy nhad wersi i Kelvin ar y Corn Ffrengig Gwelir fel hyn fod Kelvin yn chwareuwr da ar y cornet, ac yn hoff o'r offeryn y corn Ffrengig, un mwy anhawdd i'w chwareu a'i fod hefyd yn cael edrych i fyny ato fel cerddor, gan gerddor mor fawr a'r anfarwol Dr. Dykes.

LLEN GWERIN CYMRU.

Advertising