Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. DEWI SANT, PADDINGTON.—Y Gymdeithas Lenyddol.-Cynhaliwyd cyfarfod o'r Gym- deithas yn neuadd Dewi Sant, nos Fawrth, Chwefror 18, pryd y darllenwyd papur dyddorol ar y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), gan Mr. James Williams (Gwyddfryn). Bardd offeiriad ydoedd leuan, yn blodeuo rhwng 1731 a 1789. Ystyrid ef yn un o ddysgedigion pennaf ei oes, a phery rhai o'i linellau barddonol tra y pery yr iaith Gymraeg, megis ei englynion i Lys Ivor Hael, Arglwydd Maesaleg." Llywyddwyd gan y caplan, y Parch. W. Richards, a siaradwyd ym mhellach gan Mr. David Evans, Hampstead, Hugh Jones, a Mr. Daniel Jones, ysgrifennydd y Gym- deithas. Y GYMANFA DDIRWESTOL.-Ceir un ogyfar- fodydd mwyaf dyddorol y tymor ynglyn a'r mudiad Dirwestol nos Fawrth nesaf yn Jewin. Ceir clywed yr hen arwr dirwestol Plenydd yn ein plith eto, ac yn ei gef- nogi ar y llwyfan bydd Mr. Leif Jones, A.S., llywydd yr U.K.A., ac un o'r siaradwyr goreu ymysg y Saeson. Gan fod cymaint o gyfarfodydd yn ystod yr wythnos hyderwn y gwna cefnogwyr yr achos ymdrech arbennig i fod yn y lie ar y noson hon. Y SENEDD A DIRWEST.-Nos Fawrth ddi- weddaf caed papur dyddorol ar Hanes Cyfreithiau y Fasnach Feddwol," gan Mr. Wilfred Rowlands, ger bron Cymdeithas Ddirwestol y Tabernacl. Mae cysylltiad y wladwriaeth a'r fasnach hon yn henafol iawn, ac 'roedd clywed am y gwahanol fudiadau ynglyn a'r Trwyddedau yn benod ddyddorol ac addysgiadol dros ben, ac ni ellid cael neb mwy priodol i'r gwaith na chyfreithiwr ac ysgolor o safl e Mr. Rowlands. HEN BENNILL. Dywed Mr. Llewelyn Williams, A.S., iddo glywed hen faledwr yn canu y pennill canlynol ar un o heolydcf Llanelli ddydd Gwener diweddaf, a chred mai darn yw o hen garol Gymreig sydd wedi dod i lawr o oes i oes er adeg yr hen Ddiwygiad Ymneillduol yiog Nghymru. A oes rhywrai o'n darllenwyr wedi ei glywed o'r blaen. Dyma'r oil allai Mr. Williams gofio Creulon Iddewon A'i hoeliodd ar y groes A'i gorff a geisiodd Joseph, Ac yn ei fedd a'i rhoes. Mair oedd yn wylo A mofyn Iesu cu, Ein Iesu da a gododd A brynodd nef i ni. Pan y canai'r hen faledwr yr ail benill gwnai arwydd y groes a'i ffon ar y llawr, a phan ofynodd iddo paham y gwnai felly ni allai roddi yr un eglurhad rhagor mai dyna fel y dysgwyd ef yn blentyn. Pwy all roddi awdwr y pennill i Mr. Williams ? LLWYDDIANT CYFREITHIOL.—Gwelwn enw Mr. Alun E. Davies, mab Mr. W. E. Davies, ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol, ym mhlith y gwyr ieuainc a lwyddasant yn y gyfraith yn yr arholiadau diweddaf. Enillodd Mr. Davies y safle anrhydeddus o first-class honours, ac ni lwyddodd ond tri ereill trwy'r deyrnas i sicrhau'r un sane. Un o ddisgyblion Mr. R. 0. Davies, cyfreith- iwr, Blaenau Festiniog, yw'r gwr ieuanc addawol, a diau fod iddo yrfa lwyddianus yn y gyfraith wedi ennill y fath nod ar ddech- reu ei alwedigaeth. BARRETT'S GROVE.—Profodd y cyngerdd blynyddol a gaed yma nos Iau cyn y di- weddaf yn un o'r rhai goreu yn hanes yr Eglwys. Sicrhawyd gwasanaeth cantorion o'r radd flaenaf, a rhoddasant o'u goreu am y tro, ac 'roedd y cynulliad yn fwy na llond yr adeilad. Yr unawdwyr oeddent Miss F. Jenkins, Miss Gwladys Roberts, Mr. Herbert Emlyn, a Mr. D. Brazell. Disgwylid Syr John Puleston i lanw'r gadair, ond oherwydd gwaeledd methodd a bod yn bresennol, a llanwyd ei sedd yn ddeheuig gan Mr. T. W Glyn Evans, King's Cross. Da gennym oedd clywed gan yr ysgrifennydd fod rbag- olygon llewyrchus i'r Eglwys ar hyn o bryd, ac fod mudiad ar droed i sicrhau bugail yno eto. Ar hyn o bryd gwasanaethir gan ddoniau o'r hen wlad. Y Sul diweddaf pregethai'r Rybarch Ddr. Owen Evans yno, ac am y ddau Sul nesaf gofelir am y praidd gan y Parch. T. Eli Edwards, Llanfair, Ceredigion. SHIRLAND ROAD. Y n ein hadroddiad yr wythnos ddiweddaf dywedasom mai Mr. a Mrs. Price oedd wedi darparu'r lluniaeth a roed yng nghwrdd croesawu'r Parch. T. F. Jones. Nid yw hyn yn gywir. Rhoddwyd y wledd gan aelodau'r Eglwys, a Mr. a Mrs. Price fyddai'r olaf i dderbyn clod am yr hyn nad ydynt yn gyflawn haeddu. GWLEDD GWYL DEWI.-Dyma fyd d yr atyn- iad mawr nos Lun nesaI. Mae rhagolygon lied addawol am gynulliad mawr yn yr Hotel Cecil, a chan fod llu o wyr enwog y cylchoedd Seneddol i ddod yno, diau y ceir noson lied hwyliog hefyd. NODACHFA.—Gwelir fod y cyfeillion yn Falmouth Road yn trefnu gogyfer a chael nodachfa eang yno cyn diwedd Hydref nesaf. Dyma beth yw paratoi mewn pryd, ac ond gwneud hyn, dylai'r mudiad fod yn llwydd- iant mawr. EISTEDDFOD CITY ROAD.-Dywed yr ys- grifennydd fod llu mawr o gystadleuwyr i ddod i'r wyl hon nos Iau nesaf. Y prif gorau fyddant Cor King's Cross, Falmouth Road, Willesden District, City Road, a Jewin United. Yn adran y plant, disgwylir corau o Mile End, Falmouth Road, a Jewin. Gwyr y gan ewch yno yn llu.

CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.

[No title]

Bwrdd y Gol.