Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CERDDORIAETH I'R BOBL.-Mewn ymgom .:ag Ellmyn y cefais destyn yr ysgrif hon. Nid yw y meddylddrych yn un newydd, ac y mae llawer wedi, ac yn cael, ei wneud yn Lloegr a Chymru i ddarparu cerddoriaeth i'r bobl. Dadl y boned dwr y cyfeiriwyd ato, modd bynag, ydoedd fod y gweithiwr cyffredin yn Lloegr yn fwy o ddiotwr na'i frodyr yn yr Almaen a Ffrainc; a bod cerddoriaeth yn chwareu rhan bwysicach ac yn dylanwadu yn fwy, yn ddyfnach, arnynt hwy nag ar fywyd y Sais o'r -an dosbarth. Os yw hyn yn wir, y mae y mater yn un cwbl deilwng o ystyriaeth yn y golofn hon, ac yng ngholofnau holl newyddiaduron y wlad. Fod llai o feddwi ar y Cyfandir nag yn Lloegr, mi wn. Er wedi bod amryw weith- iau yno ni welais ond un dyn meddw yno erioed, a hynny ger Christiania, ar Wyl y ski. Yn ol barn y gwr y cyfeiriais ato, melldith Lloegr ydyw y tafarndai, a'r ddiod sydd yn angerddoli'r syched po fwyaf yr yfir o honi. Ac y mae y Llywodraeth yn elwa ar y stwff sydd yn damnio miloedd bob blwyddyn! Os yw y ddiod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o lawer o bechodau y byd, yna os na ellir wneud i ffwrdd a hi yn gyfangwbl, dylid ei gwneud yn burach ac yn llesol i'r corff. Hysbysir fi nad yw gwinoedd rhad ac ysgeifn yr Almaen, er engraifft, na'r cwrw—y Lager -yn niweidiol, neu, o leiaf, ni yfir hwynt i'r un graddau ag yr yfir diodydd yma ac y mae yr amgylchoedd yn wahanol yno. Dyma hwy: el y gweithiwr i'r "gerddi," gyda'i wraig-a'i blant, os bydd rhai. Yno geilw -am ei lasiaid o Lager. Yn ystod ei arhosiad yno mwynheir cerddoriaeth ragorol. Hwyr- ach, yn ystod y noson, y cymer ail lasiaid, ond dyna'r cwbl. El adref wedi mwynhau gwledd gerddorol chwaethus, yr hon a gyst iddo tua chwe cheiniog, ac y mae yn gwbl sobr ar ei therfyn. Y mae mynychu y lleoedd hyn yn beth mor gyffredin a chyson yn Ffrainc, yr Almaen, &c., fel ag y mae'r bobl gyffredin yn byw ym myd cerddoriaeth a mwyniant diniwaid y gerddi y cyfeiriwyd atynt. Ein dull ni yn Lloegr a Chymru ydyw denu y gweithiwr i'r dafarn, ac odid na fydd yn feddw fawr pan y daw amser cau, pryd yr ymlysga tuag adref, a'r fath gartref y mae mochyn o'r fath yn ei haeddu A'r -fath esiampl ydyw i'w wraig a'i blant! Nid wyf yn pleidio dros ddiod gref mewn un modd, ond gan nas gwelaf yn awr y tebygolrwydd y gellir gwneud ymaith a hi, dylai'r Llywodraeth ofalu am ei phuro; a gallai'r awdurdodau lleol ar hyd a lied y wlad drwyddedu gerddi tebyg i'r rhai geir ar y Cyfandir, a threfnu cerddoriaeth offer- ynol a lleisiol chwaethus i'r bobl. Os byddai hyn yn ychwanegu at y trethi, byddai yn ysgafnhad i dreth y tlodion a threthi ereill, rhai ydynt yn drymion o herwydd y drwg y mae y diota yn nhafarndai ein gwlad yn ei achosi. Os oes gan gerddoriaeth neges foesol i'r 'byd, dylid gwneud ymdrech i ddod a hi yn agos ato ac wrth weinyddu yn y ffordd a enwyd i'r bobl gyffredin a'u plant, bydd hoffder at gerddoriaeth yn ail natur (second nature) yn y genhedlaeth sydd yn codi; a thrwy y cyfryw, symudir yn sicr yn y cyf- eiriad bendithiol o sobreiddio y wlad-peth sydd i'w wir ddymuno MRS. CORDELIA RHYS.—Deallaf y bydd y gantores hon a'i merch Miss Kate, yn ym- weled a'r Unol Daleithau yn ystod yr haf dyfodol, ar daith gerddorol. Er marwol- aeth Llewelyn o'r ddinas hon, y daeth Miss Kate Rhys i sylw fel cantores Penill- ion," a gwyr llawer o'm darllenwyr pa mor lwyddianus y mae wedi bod. Y mae yn galondid meddwl os syrthiai un i'w fedd, fod un arall wrth law i gymeryd ei le. Cymerwn gysur, gan hynny, y mae yn par- hau yn ganol-dydd yn hanes ein pennill- ion." Un o gyn-efrydwyr Coleg Aberystwyth ydyw Mrs. Cordelia-Edwards-Rhys. Un hefyd o ddisgyblion y diweddar Dr. Parry. Bu hi yn bur boblogaidd ar hyd a lied y wlad fel cantores, yn enwedig gyda darnau o nodwedd y ballad. Mor fynych yr ymgeisia datganwyr gyf- Iwyno caneuon allan o'u cyrraedd, am fod cantorion mawrion yn eu canu Nid felly Mrs. Rhys. Y canlyniad yw, fod swyn yn ei chanu hi yn awr-yn hir wedi i lawer ereill gilio i'r cysgodion STERNDALE BENNETT.—Y mae cofiant y gwr hwn, cyfansoddwr y gwaith byd-enwog The Woman of Samaria," newydd ddod o'r wasg. Yr ysgrifeanydd ydyw mab y cyfan- soddwr, set Mr. J. R. Sterndale Bennett. Os ydyw enw Sterndale Bennett yn anwyl i gerddorion ieuainc, o herwydd purdeb a thlysni ei gerddoriaetb, sicr yw y bydd dar- llen y cofiant hwn yn ei wneud yn fwy anwyl fyth iddynt. Bywyd llafurus iawn ydoedd yr eiddo ef, ac o herwydd unplygrwydd ei gymeriad a chywirdeb ei amcanion, enillodd le sicr yn serch a meddwl y byd cerddorol. Y peth mwyaf dyddorol yn y llyfr ydyw yr ohebiaeth a fu rhyngddo a dynion mawr, megys Schumann, Mendelssohn, &c. Yr oedd yr olaf a enwyd yn gyfeillgar iawn ag ef, fel y deallir oddiwrth y nodyn a ganlyn My Dear Bennet,-Shall I dine to-morrow with you and drink ten pints of porter ? Or rather not ? Yours Ergebenstly, Felix Mendelssohn Bartholdy. Wrth gwrs cafodd atebiad doniol. Gwnaeth Bennett ei oreu i gael Schumann i ddod i Loegr adeg yr Arddangosfa Fawr. A dyma ran o lythyr Schumann ato, dydd- iedig Diisseldorf, Ionawr yr ail, 1851 \Ve would arrive in London in the be- ginning of May, and could be back again by the 1st of June The question now is, could we in so short a time earn enough to cover the cost of journey and living, which we estimate at £ 100 at least If you think so, we would wish for nothing further. Another thing I should like to mention. You will think it natural, and you touch upon it in your letter, that I should not like to remain idle at my wife's side, but should also like to show myself as a musician, namely as a conductor, which is my greatest desire. Now, could you negotiate this, as, for instance, with the Philarmonic Society, so that there might be some chance of bring- ing it about ? I have many works which I believe might find favour in England: Paradise and the Peri,' an overture and incidental music to Byron's 'Manfred'; a new Symphony lately completed, and much besides, which to you, above all, I should have such great pleasure in showing." Ond gofidus ydyw dweyd na threfnwyd i Schumann ddod yma yn ol ei ddymuniad. Pe buasai fyw yn awr, buasai y byd cerdd- orol Seisnig yn falch o dalu iddo swm llawer mwy na chan punt am ei hanrhydeddu a'i bresenoldeb Dyma hanes mawrion y byd yn rhy fynych. Ni adnabyddir hwy yn iawn hyd nes y byddant yn y bedd.
[No title]
MAE y Parch. W. J. Nicholson, Porth- madog, yn un o garcharorion yr anwydwst, ac yn gyfyngedig i'w dy.
Cleber y Clwb.
Cleber y Clwb. Nos Fercher. Yr oedd amryw o honom wedi dod ynghyd heno er cwblhau'r trefniadau ynglyn a'r gwahanol gyfarfodydd oedd i gymeryd lie yn ystod y pum niwrnod nesaf. Yn un gongl i'r ystafell gwelid Pedr Hir mewn dwys fyfyrdod fel pe'n cyfansoddi englyn newydd i'w draddodi yn y City Temple, a cherllaw iddo yr oedd y Parch. T. C. Wil- liams yn yfed o gynnwys y papur newydd ac yn prysur ddadrys cywreinion y Mesur Addysg oedd wedi ei gyhoeddi yn y boreu. Hawdd gweled fod urddas yr Ymneillduwyr yn gorwedd ar ysgwyddau cedyrn y flwydd- yn hon, fel nad oedd angen rhoddi un math o gyfarwyddyd iddynt pa fodd i weithredu. Ond ar ol cael eu sylw, dyma Tim yn mentro gofyn iddynt am ba faint o amser yr ydych yn bwriadu pregethu eich dau ? Yr oedd beiddgarwch y cwestiwn yn peri peth syndod i ni, ond cymerodd y ddau bregethwr y gofyniad fel un hollol briodol ac amserol. "Wel," meddai Pedr Hir, dyn ifanc yw cynrychiolydd y Methodistiaid, ac ni fydd ganddo ef bregeth faith, ac am dana i, rwy'n ddigon hir o ran y corff, fel nad oes angen i'r bregeth fod yn hir hefyd." Rhoddodd hyn foddhad i Tim, oherwydd yr oedd y canu yn rhan bwysig o'r addoliad yn ei olwg ef, ac 'roedd am i honno gael chwareu teg. Yr oeddem fel cwmni yn teimlo fel eisieu rhoddi'r cwestiwn, am y ffaith mai, peth an- hawdd iawn yw cael tyrfa o bobl ieuainc yn Llundain, i eistedd mewn lie o addoliad am dros ddwy awr ar noson waith, ar ol llafur a lludded y dydd. Hawdd y gall y pre- gethwr siarad am odfeuon hirion a oddefir gan bobl yn y wlad, ond mae'r gyffelybiaeth yn hollol anaddas. Pan geir cyrddau mawr yn y wlad daw fel gwyl achlysurol, a gwneir trefniadau ar eu cyfer; ond gan Gymry Llundain mae'r fath nifer o gyfarfodydd hwyrol yn ystod yr wythnosau hyn, fel mae'n syndod pa fodd y gallant fforddio yr amser, heb feddwl am gadw'r nerth corfforol yn ei gywair arferol. Pobl ieuainc y masnachdai fydd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn y City Temple nos Iau. Mae'r rhai hyn yn gweithio hyd tua banner awr wedi chwech o'r gloch, a mwy na'u hanner yn gorfod bod i fewn yn eu llety wedyn cyn unarddeg. Gan fod pellder ffordd gan amryw o honynt i deithio adref, heb son am gyfle i gael ychydig luniaeth ar y daith, y mae'n anheg eu cadw yn rhy hir i glywed ail-adrodd yr un hen storiau, a dy- muniad pawb oedd ar i bregethwyr blyn- yddol y City Temple geisio dysgu'r wers o gael pregethau a ellir eu traddodi yn hawdd yng nghymydogaeth yr hanner awr. Cadwer y bregeth awr i fod yn wasanaethferch i uchel wyliau pobl hamddenol y wlad. Tra yn son am feithder pregethau, wele'r Esgob yn dod i fewn yn siriol ac yn ymuno yn yr ymgom. Yr oedd ef i bregethu yn Sant Paul nos Wener, ac addefai nas gallai wneud cyfiawnder a'i destun tan ddeugain mumid. Yr oedd un peth, meddai, yn y dathliad Eglwysig oedd yn rhagori ar yr hyn a geid yn y City Temple, sef y bywiog- rwydd a nodweddai yr holl wasanaeth. Ceid gorymdaith i ddechreu, a brass band i gynorthwyo y canu nes cadw'r dorf mewn hwyl a dyddordeb o'r cychwyn i'r diwedd. Am y bregeth yr oedd raid iddo, meddai, wneud sylwadau coffhaol am yr hen Ddewi, oherwydd efe oedd yn llanw ei sedd yn yr Esgobaeth yn awr ac er cymaint y gwahan- iaeth barn am gymhwyster addysgol yr Esgob, nid oedd yr un o honom nad ym- falchiai fod Cymro trylwr, beth bynnag, yn llanw cadair Tyddewi ar hyn o bryd. Ap SHON.