Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

Advertising

Am Gymry-Llundain.

News
Cite
Share

David Thomas. Daeth cynulliad mawr ynghyd, a chafwyd dadl fywiog dros ben- y boethaf fu yn Jewin era tro. Ar ddiwedd y cyfarfod cafwyd danteithion rhoddedig gan Mrs. Rees Williams a Mrs. W. H. Jones, a gwnaeth hynny heddwch pawb. PRIODAS.—Dydd Sadwrn, Ohwefror 15fed, unwyd mewn glan briodas Oeorge C. Stalkers, C.E., o Southampton, a Miss M. A. (Polly) Hughes, 6, Elinor Street, Islington, ail ferch i'r diweddar Mr. a Mrs. Hughes, y rhai fuont mewn cysylltiad ag achos y Wesleyaid Oymreig am dros ddeugain o flynyddoedd. Oymerodd y briodas le yn eglwys St. Peters, Islington. Daeth nifer o gyfeillion i fwyn- hau gwledd ragorol oedd wedi ei pharatoi yng nghartref y briodasferch. Ymadawodd y par ieuanc yn ystod y dydd am eu cartief newydd yn Southampton. DEWI SANT, PADDINGTON.-Te a Chyngherdd. —Nos Fawrth, Chwefror lleg, yn neuadd Dewi Sant, o dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol a Cherddorol, cafwyd te a chyng- herdd. Rhoddwyr y te a threfnwyr y cyngherdd oeddynt Mr. a Mrs. Lloyd, Kings- gate Road, Kilburn un o'r teuluoedd mwyal haelionus tuag at yr achos yn eglwys Paddington.