Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

Am Gymry-Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. CYNGERDD CENEDLAETHOL.—Deallwn fod rhagolygon y cyngerdd a geir yn Castle Street nos Sadwrn nesaf yn dra addawol. Dylid sicrhau tocynau ar fyrder, oherwydd bydd yn un o'r gwleddoedd Cymreig goreu yn ystod y tymor. CYMANFA'R YMNEILLDUWYR.—Nos Iau Desaf am saith o'r gloch y cynhelir yr wyl hon yn y City Temple. Mae dau o brif ddoniau y pulpud i bregethu yno, sef y Parch. T. C. Williams ar ran y Methodistiaid a Pedr Hir ar ran y Bedyddwyr. ST. PAULS.—Y noson ddilynol, nos Wener, am saith, bydd Cymanfa'r Eglwyswyr yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul. Pregethir eleni gan Arglwydd Esgob Tyddewi-gwr cymwys i gadw yn fyw goffa yr hen Sant a roddodd fodolaeth i'w Esgobaeth eang. WALHAM GREEN. Dechreuir heno ar gyfres cyfarfodydd blynyddol yr Eglwys hon, a pharheir hwy dros y Sul a'r nos Lun. Y doniau eleni ydynt Parchn. William Jones, gynt o Treforris, a Mordaf Pierce, Llanid- loes. CINIO GWYL DEWI.—Er mwyn hwyluso gwaith y trefnwyr ynglyn a'r wledd hon mae dymuniad taer ar i bawb a fwriadant fod yn bresennol anfon gwybodaeth yn gynnar i'r ysgrifennydd fel ag i sicrhau lleoedd priodol. Rhaid i'r diweddariaid bob amser gymeryd y seddau fyddant heb eu sicrhau, ac ond gwneud y cais yn gynnar, gellir sicrhau y seddau mwyaf manteisiol. YR EISTEDDFoD.Mae'r gwahanol bwyll- gorau yn gweithio yn ddyfal gyda'r testynau yn awr, a disgwylir y bydd adran helaeth o honynt yn barod i'w cyhoeddi yn lied fuan. Os oes gan rywrai o'r tu allan un- rhyw awgrymiadau i'w rhoddi, neu wobrau i'w cynnyg, goreu po gyntaf y gosodir y manylion o flaen y pwyllgor. LLE YR WYL.—Un o anhawsterau hyr- wyddwyr yr Eisteddfod yw penderfynu pa le i gynnal yr Wyl. Gwir fod llu mawr o neuaddau yn Llundain, ond ychydig yw nifer y rhai sydd yn addas i gadw gwyl Gymreig ynddynt. Mae llawer o siarad am gael y Palas Grisial am un diwrnod er cael y corau mawr, ac yna sicrhau rhyw neuadd ganolog at y cyngerddau a'r mgn gyfar- fodydd. Yna mae ereill wedi enwi yr Agricultural Hall, yr Olympia, Albert Hall, yn ogystal a'r neuadd newydd a godir yn awr yn Shepherd's Bush. Beth yw barn y darllenwyr ar hyn o fater. CINIO'R AELODAU.—Ni waeth beth yw barn y cyhoedd am yr Aelodau Cymreig rhaid addef fod y ciniaw blynyddol a roddir iddynt, gan Syr Alfred Thomas, yn wledd benigamp, a pbawb yn mwynhau eu hunain hyd yr eithaf. Ni chlywid lawer am bynciau Cymreig yn y wledd a roed yn Devonshire Club nos Wener diweddaf, ond cydnabyddai pawb a fuont yno fod Syr Alfred wedi gwneud ei ran yn ddeheuig er mwyniant a chysur yr oil o'r gwahoddedigion. BORO'Nos Iau, Chwefror 13, cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod te a'i chyng- herdd blynyddol. Gwelsom Mrs. J. Jones, Union Road Mrs. M. John, Dover Street; Mrs. J. B. Evans, Highgate; Mrs. J. E. Evans, St. George's Road; Mrs. E. M. Evans, North Cross Road, Dulwich Mrs. H. A. Jones, Cable Street; Mrs. H. D. Thomas, Roman Road; a Mrs. D. Powell, Bow Road, yn gweinyddu wrth y byrddau yn cael eu cynorthwyo gan y Misses Kate Llywarch, Kate Jenkins, E. Jones, May Evans, S. Mitchell, Daisy John, Sarah Davies, Dora Davies, Jenny Jones, Jenny Evans, Mri. G. Jenkins, Emrys R. Jenkins, D. C. Davies, ac ereill. Cadeirydd y cyng- erdd oedd Mr. Charles Stone, Lewisham, yr hwn a wnaeth ei ddyledswyddau yn effeithiol a gweddus. Canwyd gan y Misses Louie James, Maggie Williams, Gwladys Roberts, Mri. Gwynne Davies, a Madoc Davies. Chwareuwyd ar y crwth gan Mr. Evan Williams, ac ar y berdoneg gan Miss Jenny Jones, A.R.C.M. Gwnaeth pob un ei ran yn rhagorol fel y profai cymeradwyaeth y gynulleidfa iddynt. Hwn oedd ymddan- gosiad cyntaf Mr. Evan Williams fel crythor yn y dref, ac yn ddios daw yn un o gryth- wyr blaenaf yr oes os deil i efrydu ac ym- berffeithio megis y gwna yn bresennol. Aed rbagddo medd ei gydgenedl. Dang- osodd y ddwy gantores leuanc Miss Louie James a Miss Maggie Williams allu mawr. Meddant leisiau cyfoethog dan reolaeth dda, a chanant yn loyw, deallus, cynnes, a gog- leisiol. Canai y tri arall yn ol eu harfer yn orchestol. Hwn, yn ddiau, oedd un o gyng- herddau goreu y tymor. ANGLADD.—Prydnawn Sabbath, Chwefror 9fed, cafwyd Mr. John Jenkins, Brushfield Street gynt, yn farw yn ei wely yn 56, Newington Causeway, S.E. Methiant y galon oedd achos ei farwolaeth. Ganwyd ef yn 1821 yn agos i Bridgewater Square, Aldersgate. Magwyd ef yn Llettem Sais, plwyf Llanddewi, yn Sir Aberteifi. Priod- odd merch Rhiwen, gerllaw Nebo Llannon, a buont dros ryw ysbaid fyw yn eu tyddyn eu hunain, Penybont, Nebo. Daeth i fynu i Lundain, a bu yn Narllawdy Whitbread. Addolai yn eglwys Gymraeg Aldersgate (Barrett's Grove yn awr), yn yr hon yr oedd yn ddiacon. Doniol dri yn yr eglwys honno oedd Edward Edwards, Deptford, Stephen Davies George, Harman Street, a John Jenkins. Brushfield Street. Hedd i'w gweddillion. Collodd John Jenkins ei briod yri 1897, yr hon oedd ddynes ragorol. Bu y Parchedigion D. C. Jones, Morris Roberts, Lewis Roderick, Mr. Enoch Jones, Royal Hill, Greenwich, ac ereill, yn garedig iawn iddo yn ei henaint. Claddwyd ef ym meddrod ei briod yn Ilford, dydd Gwener, Chwefror 14, pan ddaeth nifer liosog o'i gyfeillion i'w gynhebrwng, yn yr hwn y gweinyddwyd gan y Parchn. Lewis Roderick a D. C. Jones. Gadawodd Mr. Jenkins un ferch ar ei ol—Mrs. Jenkins Morgan. UNDEB Y GWEINIDOGION.—Cynhaliwyd yr uchod, Chwefror 10, yn anneddfa y Parch. Peter Hughes Griffiths, dan lywyddiaeth y Parch. Iorwerth Owain. Battersea Rise. Dylanwad athroniaeth y Groegiaid ar Grist- ionogaeth oedd mater yr ymdrafodaeth. Cyfarfod gwerthfawr oedd. WOOD GREEN (M.C.).-Cafodd yr Eglwys hon golled ddirfawr yr wythnos ddiweddaf drwy farwolaeth Mr. David Jones, Acacia Road, y blaenor hynaf a berthynai i'r swyddogaeth, yn ddisymwth a dirybudd. Ni fu ond pum niwrnod yn sal, ac ni feddyliai neb fod awr ei ymddatodiad mor agos. Dydd Mawrth diweddaf claddwyd ei wedd- illion yng nghladdfa gyhoeddus Tottenham, pryd y daeth llawer iawn o'i gydnabod ai gydaelodau i dalu y gymwynas olaf iddo. Oynhaliwyd gwasanaeth yn y capel ar y ffordd i'r gladdfa, pryd y gwasanaethpwyd gan y Parchedigion J. E. Davies, Jewin, R. 0. Williams, a D. C. Roberts, Dowlais. Gadawodd weddw a phump o blant i alaru ar ei ol. Brodor o Blaenanerch oedd Mr. Jones, lie y ganwyd ef 73ain o flynyddoedd yn ol. Bu yn aelod ffyddlawn a gweithgar o eglwys Iesii dros ei oes, ond yn Aberdar, o dan weinidogaeth yr anfarwol Dr. Saunders. Abertawe, y dyfnhawyd y teimladau cref- yddol i'r fath raddau fel na ddilewyd hwynt byth. Anfynych y byddai yn dweyd ei brofiad yn y Seiat, na chrybwyllai am y bregeth fythgofiadwy, a byddai pawb o'r gwrandawyr yn mwynhau yr adroddiad eil- waith a thrachefn. Yr elfen fwyaf amlwg yn ei gymeriad oedd ei ffyddlondeb ym mhob cysylltiad. Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn gweithio gyda'r un ffirm am dros 40ain mlynedd. Cyn cychwyn yr achos yn Wood Green yr oedd ef a'i deulu yn aelodau gyda'r Presbyteriaid Saesoneg yn Wood Green, lie y bu ef am agos 30ain yn gweithio yn ddistaw a diwyd. Yr oedd hefyd yn un o'r pwyllgor fu yn gweithredu i godi addoldy yno, ag sydd yn ddigon eang i gynwys, ac a lenwir yn feunyddiol gyda, cynulleidfa o fil o addol- wyr. Nid oes amheuaeth nad iddo ef yn bennaf y perthynai y fraint o gael bod yn brif offeryn i sefydlu yr achos Methodistaidd yn Wood Green. Ymunodd a'r achos pan yr oedd yn wan a dilewyrch, ac ymlynodd wrtho er gwaethaf llawer o wrthwynebiadau, a chafodd y pleser o weled llwyddiant ar ei ymdrechion. Mae Eglwys Wood Green erbyn hyn a dyfodol disglair iddi: gobeithia fod deuparth o'i ysbryd wedi disgyn ar ei gydswyddogion, am ba rai y gellir dyweyd Ereill a lafuriasant, a chwithau a aethoctL i mewn i'w llafur hwynt." Yr oedd yn amlwg i bawb ei fod yn byw yn agos iawn i'w Dad nefol, ac yn dal cymdeithas gysson ag ef. Yr oedd ei wybodaeth o'r ysgrythyr- yn eithriadol o dda, ac er mwyn cadw mewn cof yr hyn ddysgasai yn ei ieuenctyd, byddai yn ysgrifennu yr adnodau bob nos ar ol dychwelyd o'i waith. Gresyn na fyddai yr arferiad hwn yn fwy cyffredinol ymhlith crefyddwyr yr oes oleu hon. Clywsom ef yn dweyd ei fod wedi darllen yr holl ysgryth- yrau trosodd a throsodd. Bu farw fel y bu fyw a'i bwys ar ei Waredwr. Y geiriau olaf ddaeth dros ei wefusau yn floesg a thoredig pan yr oedd ei lygaid yn cau yn yr angau oeddent, Y parch a'r bri." Gwiri- wyd yn ein hen gyfaill didwyll eiriau yr Apostol, "Byw i mi yw Crist a marw sydd. elw." Ein gweddi wrth ochr ei wely oedd, "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr un- iawn," a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau. Dyma ddywed fy nghyfaill Mr. Evan Daniel am dano: Cefais y fraint o adnabod Mr. David Jones am tua deugain mlynedd, a chredaf yn ddibetrus fod ei fywyd pur, unplyg, a gonest wedi gadael argraffiadau da a dwfn ar fedd- yliau pawb ddaethant i berthynas agos ag ef ym mhob cylch o fywyd. Cristion cywir, cydwybodol, a dihoced, oedd efe o flaen popeth arall. Arferai gadw y Testament Newydd-chart ei fywyd-o fewn cyrraedd iddo bob amser, nid yn unig yn ei gartref7, ond hefyd pan wrth ei orchwylion beunydd- iol, a'i hyfrydwch pennaf, ar adegau o seib- iant ynghanol llafur y dydd, fyddai darllen y Beibl, a myfyrio ar ei gynwys a mwy na hynny, yr oedd ei fywyd glan, a'i eiriau: gwir, yn esboniad ymarferol ger bron y byd ar yr egwyddorion nefol a ddysgir yn y gyfrol sanctaidd. Da fuasai gennyf allu talu teyrnged fechan o barch i'w goffadwriaeth trwy roddi fy mhresenoldeb yn y cyfarfod ond o dan yr amgylchiadau, ofnwyf i hynny beryglu fy iechyd."—" UN A'I HOFFAI." JEWIN NEWYDD.-Nos Fawrth diweddaf cafwyd dadl ddyddorol iawn yn y lle uchod rhwng y Gymdeithas Ddiwylliadol a Chym- deithas Ddirwestol Merched y lie. Y testyn oedd "Pa un yw yr effeithiolaf i .gryfder cymeriad-llwyrymwrthodiad, ynte cymed- roldeb ? Arweiniwyd dros y Gymdeithas Ddirwestol o blaid Llwyrymwrthodiad gan Mr. D. D. Gealy, a thros y Gymdeithas- Ddirwestol o blaid Cymedroldeb gan Mr.