Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

Advertising

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

ynddo yn yr ysgol yn Oaterham, Kent, a dilynwyd y dolur hwnnw gan barlysiad, a bu farw drwy fethiant y galon. Claddwyd ef yn Hermon y Llun diweddaf yng ngwydd torf liosog. Bachgen rhagorol ac addled iawn oedd Ernest. Bu farw yn hyderus iawn. Nodded Duw dros ei rieni a'i ddau frawd hiraethlon. BORo'Cafwyd dadl gan y Gymdeithas Lenyddol yn y lie uchod yr wythnos ddi- weddaf ar "Fasnach Rydd a Masnach Gaeth." Arweiniwyd dros Fasnach Rydd gan Mr. W. 0. Roberts yn ledrus a nerthol, a thros Fasnach Gaeth gan Mr. B. Lake Thomas yn gryno, grymus, ac enillgar. Cafwyd cwrdd dyddorol a buddiol. Mater- ion teilwng 0 ystyriaeth ddofn yw paham y rhaid cael toll o gwbl. Os yw toll yn llesiol, paham na thollir yn drymach, a gwahardd dan benyd marwolaeth i neb ddwyn nwyfau tramor i'n traethau. Pwy sydd yn gorfod dioddef yn herwydd tolliad nwyfau, a'i y wlad garia nwyfau i fewn, ynte y wlad esyd doll arnynt ? Baich y dadlu yw mai Masnach Rydd sydd iawn, ond na all Prydain fforddio dilyn yr iawn, pryd nad yw gwledydd ereill yn gwneud hynny. Ceir Masnach Gaeth yn yr Idal a'r Unol Daleith- au, a cheir yn y ddwy wlad fwy o dlodi a mwy o weithwyr allan o waith nag a geir ym Mhrydain, lie y mae Masnach Rydd. Mae yr ymdrech wneir i arwain y wlad yn ol at Fasnach Gaeth yn ffiaidd; nid yw ond ymgais i osod gweithwyr tlodion Prydain dan iau ormesol tirfeddianwyr ydynt yn ofni eu safle yng ngwyneb cynnydd yr ysbryd gwerinol a chymdeithasol, sydd yn lefeinio cymdeithas i'w holl gyrion eithaf. Angen Prydain heddyw yw tiroedd rhatach i'r bobl, a sicrwydd arhosiad ynddynt. Dylesid hefyd drethu y tiroedd brydlesir i adeiladu tai arnynt. Nid ar linell Masnach Gaeth y cyrhaedda ein gwlad y milflwyddiant. GWYL DEWI.-Gan mai ar y Sul y daw Gwyl Dewi eleni mae'r dathliadau arferol wedi eu gwasgar dros amryw ddyddiau. CYFARFODYDD.—Dechreuir gyda gwyl yr Ymneillduwyr yn y City Temple nos Iau, yna daw yr Eglwyswyr a'u gwyl fawr yn St. Paul nos Wener, a cheir cyngerdd Oymraeg, tan lywyddiaeth Mr. Lloyd-George, ar nos Sadwrn yn Castle Street, i derfynu'r wythnos. CINIAWAU.-Y nos Lun dilynol, yr 2fed o Fawrth, ceir y ciniawau mawr. Yn Holborn Restaurant ymgynulla Cymdeithas yr Hen Frythoniaid, tra yn yr Hotel Cecil bydd y cinio cenedlaethol tan lywyddiaeth Mr. W. Llewelyn Williams, A.S. Mae argoelion y gwelir y mwyafrif o'r aelodau Cymreig yn y Cecil y tro hwn. DEWI SANT. Y Gymdeithas Lenyddol.- Nos Fawrth, Chwefror 4ydd, o dan nawdd y Gymdeithas hon, yn neuadd Eglwysig Dewi Sant, cafwyd darlith ragorol gan Mr. Thomas Jones, cenhadwr, ar y testyn Gwirionedd yr Oesau." Eglurid y ddarlith drwy gyf- rwng yr hud-lusern. Yr oedd y cenhadwr yn ei hwyliau goreu, a'r darluniau yn ys- blenydd. Swm a sylwedd y ddarlith ydoedd, Iesu Grist, yr un ddoe, heddyw, ac am dragwyddoldeb. Efe yw Gwirionedd yr Oesau." Mae hon yn ddarlith glasurol, ac yn werth ei chlywed. Llywyddwyd gan y Parch. W. Richards (caplan). Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r darlithydd mewn modd medrus, gan Mr. David Evans, Hampstead, ac eiliwyd yn ddeheuig gan Mr. Evan Lloyd, Kilburn. Gwasanaeth Cer- ddorot.- Yn Eglwys Dewi Sant, am 3.30, prydnawn Sul, Chwefror 9fed, cafwyd gwas- anaeth cerddorol o radd uchel. Gwasan- aethwyd gan y Central London Orchestral Society, dan arweiniad medrus Mr. David J. Thomas, organydd yr wyl genedlaethol Gymreig yn St. Paul's. Dyma drefn y gwasanaeth Gweddi, Coronation March (E. German) Overture, Euryanthe (Weber); Scena, "0 Divine Redeemer" (Gounod), gan Miss Ethel Lewin Largo (Handel) Evening Hymn, 0 Gladsome Light" (Sullivan), gan y Central London Choral Society; Salut D'Amour," solo violin (Mr. Ernest Rose); March, Le Prophete (Meyerbeer). Anerchiad Saesneg ar Addoliad," gan y Caplan. Cafwyd gwasanaeth ardderchog, yr eglwys yn orlawn o wrandawyr astud. Ceir gwasanaeth cyffelyb iddo eto ym mis Mai. WALHAM GREEN- Y Gymdeithas Ddizoylliadol.- Yng nghyf- arfod y Gymdeithas hon a gynhaliwyd nos Fercher, y 5ed cyfisol, darllenwyd tri o bapurau dyddorol ac adeiladol gan dri o aelodau ieuengaf y Gymdeithas, sef y Mri. Tom Davies, W. Parry Jones, a John James Evans. Gan Mr. Davies caed papur ar Gerddorion enwog"; ac "loan Jones o Ruthyn" ydoedd testyn Mr. Jones, ac yn olaf darllenwyd papur maith gan Mr. Evans ar Yr Hen Gymry-eu traddodiadau a'u hofergoelion." Llywyddwyd gan Mr. Thomas, llywydd y Gymdeithas, a diameu gennym fod pawb a ddaethant ynghyd wedi eu boddhau yn fawr yn y cyfarfod hwn. Cyn ymadael cyflwynwyd mewn modd unfrydol ddiolchgarwch gwresocaf y Gymdeithas i'r tri brawd hyn am eu papurau rhagorol, a mawr obeithiwn nad dyma'r tro olaf i'r un o honynt ymddangos gerbron Cymdeithas Lenyddol Walham Green. R. Y TABERNACL.-Noson o bapurau oedd rhaglen y Gymdeithas hon nos Sadwrn ddi- weddaf. I ddechreu, caed papur addysg- iadol a disgrifiadol iawn ar Handel a'i waith gan Mr. Gregory Kean, yna drem ar fywyd Williams o'r Wern gan Mr. E. Owen, ac yn olaf adolygiad byw ar Camp yr Adroddwr," sef casgliad Elfed o ddarnau at wasanaeth yr adroddwyr, gan Mr. J. Evans. Yr oedd yr oil yn chwaethus, yn ddyddorol, ac yn llawn addysg i'r gwrandawyr. Llywyddwyd gan Mr. T. Davies. COR Y TABERNACL.—Nos Iau, Chwefror 6, caed cyngerdd arbennig gan gor y Taber- Dad, tan arweiniad Mri. D. Richards, A.R.C.O., a Stanley Davies, a phrofodd yn un o'r gwleddoedd cerddorol goreu a gaed ers talm yn y cylchoedd Cymreig. Prif waith y cor oedd rhoddi perfformiad o'r gantawd Lauda Sion," o waith Mendelssohn, ac er y disgwylid datganiad canmoladwy, addefid yn gyffredin fod y cor wedi tra-ragori yn y gwaith. Dangosai fod y cyfan wedi cael disgyblaeth drwyadl gan Mr. Richards, ac fod detholiad rhagorol wedi ei wneud er sicrhau defnyddiau priodol yn y cor. Yn ychwanegol at y gantawd, caed y ddau chorus, The heavens are telling (Haydn), a "Ein Hior ben-llywydd dae'r a nen" (Emlyn Evans), yn bur effeithol. Yr un- awdwyr am y noson oedd Miss Towena Thomas, Miss Gwladys Roberts, Mr. John Roberts, a Mr. Madoc Davies, ac 'roedd y pedwarawd ar eu goreu, a bu raid iddynt ateb ail-alwadau droion. Feallai mai dau em y cyngerdd oedd can Miss Gwladys Roberts, Through Love to Light," a Mr. John Roberts yn Come into the garden Maud." Caed detholiad gan Mr. Richards ar yr organ yn ei ddull meistrolgar, a llywyddwyd gan Mr. W. Lewis White. Dylai'r cor ym- gymeryd eto a rhyw waith clasurol er mwyn dyrchafu y safon gerddorol yn ein plith. YR UNDEB.—Gwneir trefniadau gogyfer a chyfarfod mawr i ddiweddu tymor Undeb y Cymdeithasau Llenyddol eleni ar ddiwedd Mawrth. Mae'r Undeb yn gwneud Ilawer er gwelIa safle y gwahanol Gymdeithasau yn ein plith, a nos Lun diweddaf caed dadl fywiog yn y Boro', tan lywyddiaeth Mr. John Hinds, ar y cwestion p'un a'i plaid Llafurol ynte plaid Genedlaethol fyddai y mwyaf manteisiol i Gymru. Bu cynrychiol- wyr y gwahanol Gymdeithasau yn dadlu yn frwd, a phenderfynwyd ar y terfyn mai, plaid Llafur, ar gynllun Mr. Hugh P. Roberts, King's Cross, fyddai y goreu i. Gymru. JEWIN.—Nos Fawrth ddiweddaf caed ethol- iad Seneddol yn Jewin, pryd yr ymddangos- odd tri o ymgeiswyr—Radical, Llafur, a Thori-i ofyn am lais y Gymdeithas. Bra yno ddadleu brwd dros y naill a'r Hall, a chadwyd y llywydd—y Parch. J. E. Dayies M.A.—mewn gwaith caled o'r dechreu i'r diwedd. Ar derfyn y ddadl caed mai Mr. D. Edwards, y Rhyddfrydwr, oedd dewis- ddyn yr etholaeth am y tro, a chafodd groesaw cyffredinol ar ei fuddugoliaeth. PLAID DIRWEST YN Y SENEDD.—A'i buddiol i'r achos Dirwestol fyddai cael plaid Ddir- westol yn y Senedd ? Dadlu ar hyn fu Cymdeithas Ddirwestol y Tabernacl inosi Fawrth. Ymddangosai Mr. Glyn Evans.. dros, a Mr. T. J. Evans yn erbyn y syniad, a chaed areithiau difyr dros y naill a'r Ilall. Ar derfyn yr ornest yr oedd y syniad yn gyffredinol dros ffurflo plaid Ddirwestol-, anibynol yn y Senedd. Llywyddid yn fedrus gan Mr. T. Davies.