Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
CASGLU'R BLODAU.
CASGLU'R BLODAU. SHON BWL, wrth yr hogyn Cymreig Tyrd ymlaen; chei di ddim tyrmu'r blodau yna I y yn ystod y tymor presennol. I sylw yr arweinyddion fuont yn y Queen's Hall. DEBUSSY.—Y mae y cerddor Ffrengig hwn yn ty-unu cryn sylw y dyddiauhyn, oblegid y neillduolrwydd a berthyn i'w gynyrchion cerddor ol. Fel Richard Strauss, dyn anghyffredin ydyw, un yn gweithredu, nid yn ol rheolau caeth y llyfrau, eithr yn ol argyhoeddiadau ei feddwl ei hun. Fel rheol, gweision ydyw cyfansoddwyr i reolau. G-yda Debussy, y rheolau ydynt y gweision. Nid ffrwyth myfyrdod dwfn-feddyliol ddylai cerddoriaeth fod, yn ol ei farn ef, eithr dylai awgrymu teimladau yn y ffordd symlaf. Goddefer imi ddyfynnu yn y Saesoneg beth a ddywed No fixed rule should guide the creative artist: rules are established by works of art, .and not for works of art." Y mae y rhan olaf o'r frawddeg hon o leiaf yn wir. Fel y gwyr y darllennydd y mae rhai o Ramadegau Cerddorol goreu y bvd wedi eu seilio, o ran y rheolau sydd ynddynt, ar weithiau cerddorol y prif Feistriaid Cerddorol. Y mae llawer o gerddoriaeth y byd wedi eu greu cyn i reolau ddod i fod Sylwer ar a ganlyn geiriau a ddyfynnir gan edmygwr o Debussy:- According to the views expressed in Debussy's articles, the principle of sym- phonic development should be excluded from the musical drama as out of keeping with the uninterrupted movement and progression that benefit the action. The music must not comment upon the drama, but become part of it-the atmosphere through which the dramatic emotion radiates. Moreover, all vocal parts should be written in strict accordance with the natural rhythm and accent of the words thus only can true ex- pression and suitable melody be invented." Y mae y geiriau hyn yn haeddu ystyriaeth -fanol pob cerddor meddylgar. Gobeithio y cant y cyfryw ystyriaeth gan y darllennydd. Hwyrach y cymeraf hamdden yn fuan i wneud sylwadau arnynt.
[No title]
BWRIADA tref Castellnedd anrhydeddu Syr S. T. Evans, A.S., ar ei ddyrchafiad diwedd- ,ar trwy gyflwyno ryddfreintiau'r Fwrdeis- dref iddo. GALLEM feddwl fod cryn alw am lyfrau ■CJymreig, yn enwedig rhai ail-law. Yr wythnos hon daeth rhestr hirfaith o lyfrau Cymraeg ail-law i ni o'r America, ac mae Llyfrgell rydd Caerdydd wedi cyhoeddi rhestr faith o lyfrau mae'r llyfrgellydd am werthu, am fod yno gopiau ereill o honynt.
SYR JOHN PULESTON A'R TYLAWD.
SYR JOHN PULESTON A'R TYLAWD. GWLEDD FLYNYDDOL CYMRY YR EAST END. Dydd Mercher, Chwefror 5ed, cynhaliwyd y 29ain o'r cyrddau rhoddedig gan Syr John Puleston mewn cysylliad a'r genhadaeth ddinesig. Ar ol i dyrfa gydgyfarfod i fwyn- hau te rhagorol a chyfarfod iddynt eu hunain yn ddilynol yn y capel, dechreuwyd y cyfarfod hwyrol am 7 o'r gloch, dan lywyddiaeth Syr John ei hun, ac yr oedd yn bresennol ar y llwyfan ei ferched a'i wyresau, a chyflwynodd yr olaf cheques at y genhad- aeth. Traddodwyd anerchiadau gan y Llywydd, ynghyda'r Parchn. Howell Watkins, Bridge Street; Edmund Evans, City Road D. Oliver, Mile End G. H. Havard, Wilton Square P. Hughes Griffith, Charing Cross; a J. E. Davies, M.A., Jewin. Datganwyd yn swynol gan Mrs. Williams, Miss Annie Pearce, Mrs. Price, a Mrs. Nellie Jones, Barrett's Grove, ynghyda chor Mile End, oedd yn fuddugol yn Eisteddfod yr Eglwys Gymraeg. Cyfeiliwyd gan Miss James a Mrs. Nellie Jones. Hefyd cafwyd adroddiad rhagorol gan Mr. Eddie Evans. Da oedd gennym weled y llywydd a'i wyneb siriol arferol, a chofio ei garedigrwydd blynyddol ym mhob ystyr. Dymunwn flynyddau eto o hapusrwydd iddo ef a'r teulu. Gwnaed cyfeiriadau at rai oedd wedi myned o'n plith, sef y diweddar Mr. R. S. Williams a Mr. David Thomas. Yr oedd Syr T. Lipton wedi cofio am anfon te eleni eto i'w ranu ym mhlith y cyfeillion. Cynygiwyd ac eiliwyd y diolchiadau arferol gan y cenhadon T. J ones a Llewellyn Davies. Yr oedd y cen- hadwr Phillips a'i briod yn hapus yn y cyfarfod, ac er nad oes rhyw ysbaid fawr er pan yr ymgymerodd a'r gwaith yn yr East End (fel olynydd Mr. Williams) y mae wedi profi yn weithiwr difefl, ac y mae y gwasan- aeth Sabbothol a'r cwrdd nos Fercher yn Silver Street yn deilwng o gefnogaeth ein cenedl. Fel un sydd wedi cael y cyfleustra o fod ymhlith y cenhadon am agos 20 mlynedd, yr wyf yn cyfaddef fod y profiad a sylwadaeth yn dysgu fod y gwaith cenhadol yn fwy anhawdd, ac yn hawlio mwy o gef- nogaeth a chydymdeimlad nag a farna llawer, ond y cysur yw, er fod y gwaith yn ddistaw, y mae yn effeithiol. Y mae cael cwrdd blynyddol yn fanteisiol, ac yr ydym yn ddiolchgar am arwyddion y byddant yn barhaol, gyda diolch i'r nefoedd am godi boneddwyr sydd yn meddu ar galon i sirioli y dosbarth mwyaf anffodus ym mrwydr bywyd Bydd yn dda gan bob un o'r cenhadon gael cefnogaeth yr Eglwysi yn eu cylch, ac hyderwn nad anghofir hwy. Diolchir yn gynnes i bawb am eu rhan yn y cyfarfod.— MAELOR.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. JONES, PLAS, CILCENIN.-fluinodd y wraig rinweddol uchod nos Fawrth, Chwefror 4, am hanner awr wedi saith, yn nhy ei merch a'i mab yng-nghyfraith, Mrs. a Mr. Thomas Evans, 5, Copenhagen Street, Barnsbury. Merch oedd i John a Mari Morris, Cefn- grugwen, Llanddeiniol, Oantref liar, yn Sir Aberteifi. Ganwyd hi yno Mai 1, 1823, a derbyniwyd hi yn aelod eglwysig yn Elim, Carog, yn 1839. Yn 1846 priododd ag Evan Jones, mab John a Jane Jones, Ciliau Uchaf, Dyffryn Airon ac aethant i fyw i'r Plas, Cilcenin, lie y gwelsant lwyddiant mawr dan wenau Duw. Bu iddynt wyth o blant, set Mari, John, Jane, Elizabeth, Jane, Thomas, Evan, a Jenkin. Aelodau oeddynt gyda yr Annibynwyr yn Cilcenin, a meddai Mrs. Jones barch diffuant i goffadwriaeth sanctaidd yr hybarch weinidog Thomas Jones. Bu teulu y Plas yn golofnau i'r achos yno am o flynyddoedd, a bu hynny yn elw bythol iddynt. Collodd Mrs. Jones ei phriod yn 1873. Claddwyd ef yn Ciliau Airon gerllaw beddrodau ei hynafiaid, ac wrth ei onhr yr huna pedwar o'i blant. Parhaodd Mrs. Jones i fyw yn y Plas hyd 1880, pryd y rhoddodd ofalon amaethyddol o'r neilldu, ac yr aeth i fyw i'r Bancbach gerllaw. Yn 1881 aeth i fyw i 2, North Road, Aberairon, ac ymaelododd yn Peniel, dan weinidogaeth yr Hybarch William Evans. Symudodd i Lundain at ei rnerch dair blynedd yn ol, gan yr hon a'i theulu y derbyniodd bob gofal, ymgeledd, a thynerwch caredig hyd ddydd ei hymddatodiad. Breintiwyd hi gan rag- luniaeth a chorff talgryf, llathraidd, a phryd- ferth. Nodweddid ei meddwl gan nerth, craffder, arafwch, a chrefyddolder. Meddai gof cryf a chywir, i'r hwn y cynhauafasai ystorfa lawn o wybodaeth fuddiol, yn ar- bennig o air Duw. Gweinyddodd filoedd o gymwynasau yn ddistaw i dlodion ei hardal- oedd; lleddfodd boen a siriolodd unigedd ami i weddw ac amddifad tlawd; a bu yn blaid i achos lesu dros ei hoes faith. Rhoes i Ion hir wasanaeth,—a'i law Ef A'i cynhaliai'n helaeth; Mae'n awr-a ni mewn hiraeth, Ym mro Nef-nid marw wnaeth." Perthyn i'r Methodistiaid oedd teulu Mrs. Jones. John Morris, ei thad, oedd flaenor yn Elim, Carog. Dau o'i feibion oeddynt bregethwyr parchus gyda'r Methodistiaid, sef Morris Morris ac Edward Morris, y rhai a ymfudasant yn genhadon i'r America, lie y buont farw. Bu Edward ei brawd farw tua 1868, a'i chwaer ieuangaf, Mrs. Edwards, Cefngraigwen, yn ddiweddarach, ac a gladdwyd yn Llanddeiniol. Dechreuodd dau o feibion Mrs. Jones, John ac Evan, baratoi eu hunain i waith y weinidogaeth, ond buont farw pan yn paratoi. Dydd Mawrth, Chwefror 11, claddwyd Mrs. Jones ym medd Thomas, ei mab, yng nghladdfa gyhoeddus Bow, yn ol ei dymuniad. Daeth torf o'i chydnabod i'w harwyl, a chafodd gynhebrwng parchus iawn. Gweinyddwyd gan ei gweinidog, Parch. D. C. Jones, Borough. Boed nodded dros y perthynasau oil. ARALL.—Dydd Mercher, Chwefror 5, bu farw William Ernest Bowen, trydydd mab y Parch. W. Bowen, Hermon a Llansadwrn, yn 13 mlwydd oed. Gafaelodd y dolur gwddf