Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

ANGEN PENNAF CYMRU.

News
Cite
Share

ANGEN PENNAF CYMRU. A barnu oddiwrth helyntion gwleidyddol Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf gellid meddwl mai ym mhwnc Dadgysyllt- iad y gorwedd holl iachawdwriaeth y genedl. Mae'r gwahanol arweinwyr enwadol wedi dyrnu cymaint ar y mater yn ystod y deug- ain mlynedd hyn nes pery i fwyafrif y werin feddwl nad oes yr un anghyfiawnder arall yn bodoli o gwbl. Gwir fod yna lu o an- fanteision ynglyn a safle bresennol yr Eglwys estronol yn ein plith, ac ami i achos o anhegwch a gorthrwm eto credwn fod yna bynciau ereill yn fwy hanfodol i'n bywyd cenedlaethol nac hyd yn oed y cri mawr am Ddadgysylltiad. Yr hyn sydd ei eisieu yn bennaf ar hyn o bryd yw cael cydnabyddiaeth parhaol o'n bodolaeth fel cenedl oddiar law y Sais a'r Senedd. Byth a beunydd dygir mesurau i fewn yn ymwneud a Lloegr a Chymru fel pe baent yn UN ym mhob dim, a gofynion y naill yn cyfateb i ofynion y Hall. Rhoddir cydnabyddiaeth i'r Gwyddel a'r Albanwr eu bod yn bersonau tra gwahanol ac yn hawlio triniaeth wahanol oddiar law y Senedd ond gorfodir Cymru i lyncu yr hyn a arlwyir iddi yn nghysgod gwelliantau'r Sais. Pe buasai ein cynrychiolwyr yn unol yn eu credo genedlaethol diau y buasem cyn hyn wedi cael Adran Gymreig yn ymwneud a'n holl gyfundrefn addysg, a thrwy hynny gael cydnabyddiaeth o'n nodweddion gwahanol yn hyn o faes i'r hyn ydyw yn Lloegr ond y mae un peth arall y dylent ar bob cyfrif ei sierhau i ni, a goreu po gyntaf eu deffroir i bwysigrwydd y cais, sef cael Ysgrifennydd dros Gymru yn y Weinyddiaeth ar yr un tir ag y caniateir Ysgrifennydd i'r Iwerddon a'r Alban. Ond sicrhau hyn o safle deuai y gweddill o'n ceisiadau yn haws. Byddai y person a benodid i'r fath safle yn gyfrifol am ein holl ddeddfau, a gosodid pob cais o Gymru drwy ei enau ef. Hwn fyddai yn gyfrifol am Fesur o Ddadgysylltiad ac am ddiwygiad yn neddfau'r Fasnach Feddwol; a than ei gyfarwyddyd ef y gosodid holl reolaeth wleidyddol ein cenedl. iuae yn hen bryd i ni wasgu'r mater hwn ar ein Seneddwyr, ac ar ol cael y fath arweinwyr ag sydd gennym ar hyn o bryd yn ein cyn- rychioli yn Westminster, diau y cawsai y mudiad gefnogaeth unol, a thrwy hynny y genedl ei chydnabod fel un yn hawlio trin- iaeth arbennig fel ag a roddir yn awr i'r Alban a'r Iwerddon.

[No title]

A BYD Y GAN.