Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
SYR SAMUEL EVANS.
SYR SAMUEL EVANS. Gwaith anhawdd, ar y dechreu, fydd annerch Mr. S. T. Evans wrth. ei deitl newydd, oherwydd yr oedd wedi dod yn eilun cenedl bron tan y ddwy lythyren, S. T." 'Doedd neb yn breuddwydio am roddi Mr." o flaen ei enw, na K.C." ar ei ol, ond fel pob gwr mawr arall gelwid ef wrth ei enwau cartrefol, Sam," neu S.T." Da gennym, er hynny, weled fod y wlad yn gyffredinol yn llawenhau yn ei ddyrchafiad diweddar; pob gradd a dosbarth, a phob plaid yn ddiwahaniaeth. Nid yw pawb yn gwybod hanes y gwr hwn fel y mae wedi esgyn i'r safleoedd uchel presennol o'i ddechreu di-nod mewn ardal wledig o Mor- ganwg. Dyma gipdrem o'i fywyd, fel y rhoddwyd ef yn y Weekly Mail diweddaf, gan Cemlyn :— Ddoe yr oeddym yn llawenhau yn llwydd- iant digymar Mr. Lloyd-George; heddyw dyma S. T." yn cael ei alw i'r Weinyddiaeth, a gwyr Cymru yn gyffredinol, a Morganwg yn arbennig, nad yw hyd yn oed Llwyd o Wynedd yn rhagori arno yn ei ymlyniad with yr heniaith a bywyd goreu Cymru. Er ei fod wedi eyfyngu ei sylw i uchel-lysoedd y gyfraith yn y blynyddoedd diweddaf, ac na chafodd odid gyfle i loewi ei Gymraeg tra'n dilyn ei oruchwylion, y mae S. T." yn Gymro diledryw, hyddysg yn hanes a llen- yddiaeth ei wlad, ac yn gefnogwr selog i'r aefydliadau hynny sydd wedi gwneud Cymru yr hyn ydyw heddyw. Gwyr Morganwg yn dda am ei fedr fel cerddor ac arweinydd cymanfaoedd, ac er bron wedi cyrraedd pinacl uchaf ei broffeswriaeth, ymhyfryda o hyd ym myd y gan. Saif ar ei ben ei hun ym mysg ei gyd-aelodau yn Nhy y Cyffredin yn y cyfeiriad hwn. Y mae'r rhan fwyaf o'r aelodau Cymreig wedi bod ar yr oriel ym mysg y cantorion ar ddydd y Gymanfa Ganu, ond nid wyf yn credu fod un o honynt oddigerth S. T." wedi bod yn arwain cymanfa; ac oni bai fod ei ddyledswyddau yn y llysoedd yn bwyta ei holl amser, o'r bron buasai ei glod yn y cyfeiriad hwn led- led y wlad. Ond nid yw hon ond un eng- raifft o lawer allesid nodi i ddangos ei ymlyniad wrth fywyd goreu ei wlad. Aeth drwy holl swyddogaethau Coleg y Werin- yr Ysgol Sul; bu'n athraw ar ddosbarth o bobl ieuainc am flynyddau lawer, a llanwodd swydd arolygwr gydag urddas. Yn wir, tra'r ymgartrefai yng Nghymru, nid oedd ei ffyddlonach i'r Ysgol Sul, a thaflai holl angerddoldeb ei natur i'r gwaith. Pa ryfedd fod Morganwg mor hoff o S. T." ? Mor- ganwg sydd yn ei adnabod oreu, a Morganwg -ei sir enedigol-gar yntau oreu o bob sir. Ar ryw olwg, yr oedd yn golled i Gymru ei fod wedi ennill cymaint o hynodrwydd yn y llysoedd, am fod y mynych alwadau am ei wasanaeth yn ei analluogi i ddod i'n prif wyliau; a'i arfer ydyw gwneud popeth yr ymaflo ei law ynddo a'i holl egni. Fodd bynnag, deuai yn awr ac eilwaith i Undeb yr Anibynwyr Cymreig, ac yr oedd yn un o'r siaradwyr yn yr Undeb yng Nghastellnedd y llynedd. Dywedir fod ei anerchiad yn gampwaith, ac fod ei Gymraeg mor loew a mirain ag erioed. Hawdd gennyf gredu hynny, oblegid yr wyf yn ei gofio yn lly- wyddu un o gyfarfodydd yr Undeb yn Nol- gellau flynyddau lawer yn ol. Nid oedd y wlad yn gwybod am dano yr adeg honno, ond gwnaeth y fath argraff drwy ei anerch- iad fel nad ystyrir yr Undeb byth er hynny yn gyflawn heb S. T." Y prif siaradwr yn y cyfarfod hwnnw ydoedd Dr. John Thomas, Lerpwl,a chyda'i graffder arferol proffwydodd ddyfodol disglair i'r cadeirydd fel gwladwein- ydd, er nad oedd hyd yn oed yn ymgeisydd Seneddol yr adeg honno ond un o'r pethau fwynhawyd oreu yn y cyfarfod ydoedd dadl boeth rhwng y cadeirydd a'r Dr. parthed geiriad un o'r testynau. Cenedligrwydd," ebe'r cadeirydd cenedlaetholdeb," ebe'r Dr. a dyna lie bu'r Dr., a'i lygaid yn pefrio, yn pwysleisio'r gair drwy ei holl anerchiad, ac yn cloi pob ymresymiad i fyny a Cenedlaetholdeb-cenedlaettioldeb, Mr. Cadeirydd." Ond er na allent gytuno ar y mater hwn, 'doedd neb wedi cael y fath wledd a Dr. John Thomas, a bron nad oedd rhai o honom yn barod i gredu y mynnai wneud y cadeirydd yn Aelod Seneddol y noson honno. Onid Dr. John Thomas hefyd, gyda llaw, welodd ddefnydd gwladweinydd yn Mr. Lloyd-George ? Ac yn awr, dyma'r ddau Gymro wedi cyfarfod fel aelodau o'r un Weinyddiaeth, a phawb yn ddiwahaniaeth yn canu eu clodydd. Wedi'r cyfan y mae'n talu'r ffordd—hyd yn oed yn yr oes faterol hon-i lynnu wrth y Gymraeg. Yr ydym wedi cael engreifftiau da o hyn yn ystod y blynyddoedd diweddaf hyn. Am ami i Sais-Gymro a aeth allan o'n gwlad byddai'n ddyddorol gwybod beth yw hynt y bechgyn hynny droisant eu cefnau ar bopeth goreu eu gwlad-ei chrefydd, ei hiaith, a'i thrysorau llenyddol—ac a ysgorn- ient bob cynghor i fod yn ofalus rhag colli'r llwybr sy'n arwain i anrhydedd. Pa le y maent erbyn heddyw, tybed ? Un peth a wn i sicrwydd—nid yw'r Saeson na'r Cymry yn eu hadnabod ond gallwn fod yn sicr eu bod wedi derbyn eu gwobr am efelychu ein cymydogion yn eu pethau salaf. Ond tra nad ydynt hwy ond edlychiaid diegni ym mysg ein cymydogion, y mae'r Cymry ieuainc gofiodd wers ein hen gymwynaswyr tra yn ymbaratoi yn y colegau yn ennill gwarogaeth car ac estron, a'r naill a'r llall yr un mor awyddus i'w hanrydeddu.
[No title]
MAE Mr. Arthur Hughes, B.A., o Fangor, ar fin cyhoeddi cyfrol yn cynnwys detholiad- au o Gywyddau Cymreig. Yr ydym eisoes wedi cael casgliad o Ganeuon Cymru, a bydd yn ddyddorol gweled a gaiff y cywydd gystal derbyniad. BYDDWN yn adwaen enwogion Cymru i gyd cyn bo hir. Mae'r Parch. Joseph Evans, Dinbych, newydd gyhoeddi Geiriad- ur Bywgraffyddol o bregethwyr y Methodist- iaid yng Nghymru. Dyna waith da iawn. DYWED yr Athro Lewis Jones, o Fangor, mai ffiloreg yw galw Twm o'r Nant yn Shakespeare Cymreig. Er cystal y gwaith a wnaeth Twm, nid oedd ond labwr anwy- bodus. Byddai'n ddyddorol i'r Athro roddi rhestr o weithiau y labrwr gwybodus yr un cyfnod Y CLERIGWR yn Eglwys Loegr sydd wedi bod mewn urddau am y tymor meithaf yng Nghymru ydyw y Parch. Watkin Williams, Nannerch, yr hwn a gafodd ei ordeinio yn 1843. Cafodd yr Archddiacon W. L. Bevan, Aberhonddu, a'r Prebendari Morgan Evans, Llanddewi, Aberarth, eu hordeinio yn 1844. DYWEDIR fod Syr Henry Campbell-Banner- man wedi heneiddio tipyn yn ei olwg tra bu ar y Cyfandir, ond ei fod o ran ysbryd cyn llawened ag erioed, a'i fod ef yn disgwyl gallu ymaflyd yn ei ddyledswyddau eto a'u cyflawni gyda'i egni arferol. Y mae efe yn weithiwr caled ac yn wr rhadlon a bodlon, ond yn ol pob tebyg, yr oedd ei waeledd yn fwy difrifol nag y deallodd y wlad, ac mae sibrwd eisoes fod Mr. Asquith i gyflawni y rhan drymaf o'i waith yn ystod y flwyddyn hon. HYSBYSIR fod y Parch. Thomas Levi, Aberystwyth, wrthi yn paratoi ei atgofion i'r wasg. Byddant yn ddyddorol yn ddiameu. Mae Mr. Levi yn bedair blwydd a phedwar ugain oed mae yn golygu Trysorfa'r Plant" ers pum mlynedd a deugain; bu'n teithio yn y Dwyrain, ac y mae yn fardd, llenor, darlithiwr, a phregethwr.
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH, One of the Constituent Colleges of the University of Wales PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIP AL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). mHE next Term begins on January 14th, 1908. A JL number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Decrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, £ 10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DA VIES, M.A., Registrar. "Oes y Byd i'r laith Gymraeg." THE L.C C. WELSH EVENING CLASSES are now being held at the HUGH MYDDELTON SCHOOL, Corporation Row, Clerkenwell (3 minutes from Farringdon St. District Railway Station) Elementary Monday Evenings, 7.0 to 9.30 Advanced: Friday „ „ Fee for Session, 2s. 6d. Teacher: GORONWY OWEN, M.A. Correspondence to FF. ITHEL MORGAN, Whitehall House, Charing Cross, S.W. THE GREAT WELSH REMEDY. DAVI ES'SEE™C0UGHIN 5 MINUTES. FOR COUGHS, FOR COLDS, FOR ASTHMA, FOR BRONCHITIS, FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA. FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA. FOR COUGHS, FOR SORE liljll I CA 1—1 THROAT, MOST SOOTHING. Vjv/ U VoJ I I WARMS THE CHEST, DISSOLVES THE PHLEGM. FOR SINGERS, FOR PUBLIC SPEAKERS. | By Chemists everywhere 15. 1D..t IVI I XV < V-/ iu 25 90. Postage, 3D. M I XT U R E By Chemists Proprietor, HUGH DAVIES. Chemist, Machynlleth. London Agents: Mr. Morgan, Chemist, Tavistock Place, W.C.; Mr. Thomas, Chemist, Upper Baker Street, W. Wholesale: Barclays, 95, Farringdon Street. MR. HENRY MORGAN, SIJRGEON DENTIST 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets. Upper and Lower from £ 4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol. D. COOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. (Price List on application.) 266, UPPER STREET, ISLINGTON, and 52, AMWELL STREET, PENTONVILLE. Carriage Department 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, NORTH. yyELSH pRWTllfi 'Vr: