Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain.

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. COR MERLIN.—Ein llongyfarchiadau i Mr. Merlin Morgan ar fuddugoliaeth ei gor. Ni chaed gwell canu ers talm yn y Queen's Hall. MR. JOHN WALTERS.—Bu'r cantor adna- byddus hwn ar ymweliad a'r ddinas yn ddiweddar, a chanodd yn odfa'r hwyr nos Sul cyn y diweddaf yn Markham Square yn rhagorol iawn. Da gennym glywed ei fod wedi gwella o'i anhwyldeb, ac fod ei lais wedi ei adfer yn hollol bellach. Pob llwydd iddo eto ym myd y gan. GWYL DEWI.—Mae'r cyfeillion yn Castle Street wedi sicrhau nifer o gantorion gwych gogyfer a'r cyngerdd cenedlaethol a roddir yno ar y 29ain o'r mis hwn. Disgwylir Mr. Lloyd-George yno i lanw'r gadair, yn ol ei arfer, a diau y ceir araith sylweddol ganddo yn y cyfarfod Cymreig hwn. GWYLIAU EREILL.-Mae'r Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr yn myned i gadw eu cyfar- fodydd pregethu fel arfer, y naill yn Sant Paul a'r lleill yn y City Temple. Hyd yn hyn 'does ond ychydig o baratoi wedi ei wneud gogyfer a'r ddau gyfarfod. CINIAWAU.-Beth am y ciniawau mawr i ddathlu coffa yr Hen Sant ? Mae Cymdeith- as Cymru Fydd wedi marw ers talm, a phwy a geir i godi pwyllgor i gadw'r wledcl genedlaethol mewn bri? Dylid symud ar unwaith os am i'r cynulliad fod yn llwydd- iant. SAVONAROLA."—Dyna oedd testyn darlith ragorol a roed yn y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf gan y Parch. H. Elfet Lewis. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Philip Walters, y masnachydd enwog o Brompton Road. SENEDD LEOL.—Mae pobl Falmouth Road yn anfoddlawn ar y Senedd yn Westminster, a bwriadant ffurfio un leol nos Fawrth nesaf. Disgwylir llu o dalentau doniol y byd areith- yddol yno i ymdrin yn hwyliog ar Araith y Brenin. Ceir gweled a lwyddant i wella cynlluniau C.-B." CASTLE STREET.—Caed Eisteddfod hwyliog ynglyn a Chymdeithas Ddirwestol Castle Street nos Sadwrn ddiweddaf, pryd y lly- wyddwyd yn ddoeth gan y meddyg Evan Jones. Beirniadwyd y llenorion gan y Parch. Herbert Morgan, y celfwyr gan Dr. Ivor Thomas, y gwniadwaith gan Misses Sarah Evans ac A. Owen, a gwyr y gan gan Mr. Gregory Kean, King's Cross. Yr oedd rhaglen faith wedi ei threfnu, a chaed amryw o gystadleuaethau tra dyddorol. Cyn diwedd y cyfarfod rhoddodd y cadeirydd chwe swllt o wobr i'r goreu am araith ddi- fyfyr, a phedwar swllt i'r ail oreu. Caed areithio doniol am y pres ar y testyn Pleid- lais i ferched." Un Mr. Jones aeth a'r brif wobr, a daeth Ap Caeralaw yn ail. Gwob- rwywyd amryw dalentau am ganu ac adrodd, a man gystadleuaethau ereill, a theimlai'r oil eu bod wedi cael noson hapus dros ben. BUDDUGWYR MOORFIELDS.- Y prif enillwyr yng nghyfarfod cystadleuol Moorfields y dydd o'r blaen oeddent, Miss Annie Thomas, Hackney, ar yr unawd soprano (agored), a Mr. Stanley Davies, King's Cross, ar y baritone. A cantor hwn hefyd aeth a'r gamp am adrodd. Mae gan Stanley dalent ddyblyg i ddyddori cynulleidfa yn Llundain. COR MORRISTON.-Os na lwyddodd y corau Cymreig i enill y wobr yn Queen's Hall nos Iau cyn y diweddaf bu rhai o honynt yn ffodus iawn i gael amser braf yn Llundain. Dyna fu cyfran y cor hwn, oherwydd daeth yr aelodau a lliaws o'u cyfeillion i'r Frascati Restaurant amser cinio dydd Iau i dderbyn o haelioni a chroesawiad caredig Mr. J. Jay Williams. Gwyr pawb sy'n adnabod Mr. Jay Williams fod ganddo galon gynnes at bob Cymro, yn enwedig os yn dod o'i hen ardal gerllaw Abertawe. Pan ddeallodd fod bechgyn Treforris yn dod yma aeth ar un- waith at y gorchwyl o'u gwneud yn gartrefol yn Llundain, a chawsant wledd nodedig tan ei lywyddiaeth. Caed areithiau a chaneuon ar derfyn y wledd, a dymunodd Mr. Williams bob llwydd iddynt y noson honno. Er' dangos eu parch tuag at Mr. Williams an- rhegwyd ef gan aelodau y cor a ffon hardd". am yr hon y diolchodd Mr. Williams yn siriol iddynt. CROESAW MR. D. A. THOMAS, A.S.—Yn yr un lie, fel yr hysbyswyd yn ein rhifyn di- weddaf, rhoddodd yr aelod tros Ferthyr. wledd haelionus i fechgyn cor meibion Dar. Yr oedd yn agos i gant a hanner wedi dod; ynghyd, ac ni fu ball ar wresawgrwydd Mr. Thomas a'i briod ar yr amgylchiad. Daeth- ant yno i gydwledda a'r cor, ac ar derfyn y wledd caed areithio edmygol o'r aelod gan y Cynghorwr L. L. Williams, Mr. Miles, a Mr. D. M. Richards, Aberdar. Atebodd Mr. Thomas yn hapus iawn, a chaed araith golonogol i'r cor gan Mrs. Thomas, i'r hon y rhoed derbyniad cynnes iawn. Yr oedd hwn yn gor rhagorol iawn, a daeth yndrydeddyn- y gystadleuaeth y noson honno. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, Ionawr 29ain, cynhaliwyd un arall o gyfarfodydd ein Cymdeithas Ddiwylliadol am y. tymor hwn, pryd y cawsom ddarlith ragorol gan y Parch. John Thickens. Ei destyn ydoedd- Morgan Rhys a'i Emynau," ac er iddo siarad am awr a hanner, eto teimlai y dar- lithydd ei fod yn gorfod gadael y ddarlith ar ei hanner er mwyn terfynu y cyfarfod mewn amser rhesymol. Yr oedd yn llawen gennym, weled cynifer wedi dod ynghyd ar y noson hon. Cymerwyd y gadair gan Mr. R. Gomer Jones. Ar gynygiad Mr. John Hughes, ac eiliad Mr. Herbert Thomas, cyf- lwynwyd diolchgarwch gwresocaf y Gym- deithas i'r darlithydd am ei barodrwydd i ddyfod i'n gwasanaethu, a mawr obeithiwn nad dyma y tro olaf iddo fod yn ein plith.-R. RADNOR STREET.-Pi-iodas.-Dydd Mercher diweddaf cymerodd priodas ddyddorol le yra Nghapel Radnor Street, pryd y gwnaed Mr, William Jones (mab ieuengaf Mr. a iairs- John Jones, adeiladydd, Gray's Inn Road, Aberystwyth), a Miss Jennie Richards (ail ferch Mr. a Mrs. John Richards, 20, Redburn Street, Chelsea), yn wr a gwraig. Daeth lliaws o gyfeillion y ddeuddyn hapus ynghyd i wylio y gweithrediadau. Gwasanaethwyd ar y gwr ifanc gan ei frawd, Mr. T. Jones, a gwnaeth Miss Mair Griffiths ei rhan yn hapus fel morwyn y briodferch. Y Parch. J. Machreth Rees fu'n rhoddi'r cwlwm, a rhoddwyd y wraig ieuanc ymaith gan ei thad. Ar ol croesaw yn nhy rhieni y ferch, ^eth y par ieuanc i Brighton am eu gwyl fel. Bwriadant sefydlu mewn masnach yn High Street, Battersea. Pob llwydd iddynt yn eu,, cylch newydd. HOLLOWAY.—Caed noson gymdeithasol yn y lie hwn nos Iau, Ionawr 30ain, pryd y daeth torf o'r aelodau a'u cyfeillion ynghyd i fwynhau o groesaw y bugail a'i briod-y Parch. R. 0. Williams a Mrs. Williams. Trefnwyd gwledd gerddorol i ddilyn y te a roddid ar y dechreu, a chaed noson hwyliog iawn. Rhoddwyd unawdau offerynol gan Mr. Griff Edwards, Mr. H. Williams, Mr. Broom, Mr. Tucker, Mr. D. H. Jenkins, a chaneuon gan Miss Maud Williams, Miss- Lilly Jones, Miss Rosie Davies, Miss Katie Davies, a Mr. W. S. Roberts. Yn ychwan- egol at hyn caed adroddiadau a darnau cerddgar gan bedwarawd, fel y teimlai pawb- eu bod wedi cael arlwy ragorol am y noson. MR. W. P. ROBERTS, HONOR OAK.—Bydd yn dda iawn gan liaws gyfeillion Mr. Roberts. ddeall ei fod wedi troi ar wella ar ol afiechycl maith a phoenus.

NODION PEDR ALAW AR YR WYL.