Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NODION PEDR ALAW AR YR WYL.

News
Cite
Share

NODION PEDR ALAW AR YR WYL. EISTEDDFOD QUEEN'S HALL.—Dyma'r Wyl Gerddorol Gymreig bwysicaf gafwyd yn Llundain er's amser maith, a pharai syndod imi feddwl y gallai achos crefyddol gwan fel ag ydyw hwnnw yn Paddington fentro ar wyl ar y fath raddfa! Ond felly y bu, a gwelwyd pa beth ellir ei wneud gan bobl o ddifrif-rhai a digon o ffydd ynddynt eu hunain Yr oedd cyfanswm y treuliau yn bur fawr, ond cafwyd cynulliad mawr: llanwyd yr adeilad eang. Llanwyd y gwran- dawyr hefyd a boddhad digymysg, mi gredaf, canys cafwyd cystadleuon uwch- raddol o ran teilyngdod. Llongyfarchaf y pwyllgor ar ei ddewisiad o gerddoriaeth o'r fath nodwedd, yn enwedig yr unawdau, megys Break, break" (gan Carey), a Come out, my dears (Dessauer). Am chwareu ar y berdoneg, yr oreu o ddwy ydoedd Miss Winifred Martin, Pem- bury Grove, Clapton—disgybles i Mr. Fountain Meen. Ar yr unawd i gontralto, Break, break," yr oreu ydoedd Miss Miss Alice Coppin, o Ipswich. Un cor plant ddaeth ymlaen. Sut y bu felly, tybed ? Cor Capel Mile End ydoedd hwn, o dan arweiniad Mr. Evan Morris. Yr oedd y rhai bach yn ieuainc iawn, a chan fod y darn yn rhedeg yn uchel ac yn gofyn nerth yma a thraw, yr oedd yn syndod fod y donyddiaetk yn cael ei chadw mor dda, yr MR. W. D. JONES (Trysorydd). hyn, fel y sylwodd Mr. Coleridge Taylor, ydoedd yn gredyd i'r arweinydd. Canodd y darn Hyfryd Ganaan yn ddymunol iawn. "The children sang remarkably well, ex- pression well attended to, voices fresh and well balanced," oedd geiriau y beirniad uchod. Cawsant y wobr, wrth gwrs. Ar yr Unawd Bass, "Honour and Arms," bu nifer fawr drwy y prawf, ond fel y dywedodd Mr. Wilfrid Jones, nid oedd y gystadleuaeth hon yn gwbl foddhaol. O'r tri ddewiswyd i'r llwyfan, aeth y wobr i Mr. Tom Williams, Blaengarw. Llais lied ysgafn sydd ganddo, ond y mae yn gallu. gwneud llawer 0 hono ac o'r gerddoriaeth. Dau gor cymysg ymgeisiodd ar y gydgan, How lovely are the messengers (Mendels- sohn), sef cor Essendine a'r Willesden United. Ffurfiol iawn ydoedd datganiad y blaenaf, tra yr ydoedd y don yn burach a'r lleisiau yn cyfuno yn well yn yr ail gor, heblaw fod y mynegiant gryn lawer yn well. Yr olaf wobrwywyd. Ar y Ddwyawd "Y Ddau Arwr" (W. Davies), y buddugwyr oeddynt Mr. David Miss NANCY PIERCE.

EISTEDDFOD DEWI SANT.