Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). rpHE next Term begins on January 14th, 1908. A 1 number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 910, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. "Oes y Byd i'r laith Gymraeg." THE 17c C. WELSH EVENING CLASSES are now being held at the HUGH MYODELTON SCHOOL, Corporation Row, Clerkenwell (3 minutes from Farringdon St. District Railway Station) Elementary Monday Evenings, 7.0 to 9.30 Advanced: Friday „ „ Fee for Session, 2s. 6d. Teacher: GORONWY OWEN, M.A. Correspondence to FF. ITHEL MORGAN, Whitehall House, Charing Cross, S.W. ALORIDGEIS H REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10 30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON W C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. THE GREAT WELSH REMEDY, j NA\/| CTQ'Q RELIEF FROM COUGH IN 5 J FOR COUGHS, FOR COLDS, FOR ASTHMA, FOR BRONCHITIS, FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA, A § ■ A FOR COUGHS, FOR SORE I ;I I [ (-i I—I THROAT, MOST SOOTHING, VU W VJi A I WARMS THE CHEST, DISSOLVES THE PHLEGM. FOR SINGERS, FOR PUBLIC SPEAKERS. MI XT U R E t V < < t < L— 25 9D. Postage, 3D. Proprietor. HUGH DA VIES. Chemist, Machynlleth. i .London Agents: Mr. Morgan, Chemist, Tavistock Place, g C;! Mr- Thomas, Chemist, Upper Baker Street, W 8 Wholesale: Barclays, 95, Farringdon Street. 8 A +,CAN HE W Y DO 144, SOPRANO NEU DENOR. M !E3 CT,' GAN ELSIE ROBERTS. GEIRIAU GAN EIFION WYN. CYFIEITHIAD I'R SAESNEG GAN E. ANWYL, M.A. FRIS SWLLT. Copiau i'w cael gan David Jenkins, Mus. Bac. (Cantab), Aberystwyth. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST 10, TAVISTOCK PLACE. W.C. Single Teeth from 5/- Oomplete Sets, Upper and Lower from 24. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg os yn fwy dymnnol
Y SENEDD A CHYMRU.
Y SENEDD A CHYMRU. Er nad oes yr un cyfeiriad arbennig at Gymra yn Araith y Brenin, a draddodwyd y dydd o'r blaen gan ei Fawrhydi wrth agor y Senedd, nid ydym i gymeryd yn ganiataol fod ein holl ofynion i gael eu hesgeuluso am y tymor. Mae argoelion eisoes fod dau neu dri o bynciau pwysig i gael eu dwyn ger bron, a bydd raid wrth holl allu ein cyn- rychiolwyr yn y Senedd i'w penderfynu yn llwyddianus. Feallai mai'r cwestiwn a rydd fwyaf o anhawster yw'r syniad o greu Bwrdd Addysg i Gymru, neu yn hytrach adran addysg i ymwneud a'n holl gyfundrefn, o'r ysgolion elfenol hyd at y brifysgol. Mae ein harweinyddion wedi bod yn siarad llawer ar y pwnc, ac wedi gosod ein hawliau yn lied ddeniadol, o bryd i bryd, o flaen yr etholwyr, a hynny gyda chymeradwyaeth a'r wythnos hon aeth catrawd o'r aelodau a'r achos ger bron Mr. M'Kenna, yr hwn a roddodd glust ymwrandawiad lied ffafriol i'r awgrym. Addawodd y gwnai'r Weinydd iaeth roddi pob ystyriaeth i'r pwnc" ond iddynt osod eu cais ar seiliau ymarferol, a bydd yn werth sylwi yn awr pa faint o'r gallu cynyrchiol sydd ymhlith yr Aelodau. A ydynt yn ddigon unol ar hyn o bryd i drefnu Mesur neu Benderfyniad priodol i'w osod o flaen y Senedd ar hyn o fater ? Dyma gyfle iddynt i brofi i'w hetholwyr eu bod wedi deall beth yw gwir angen y genedl, a sut i'w dwyn allan o'i thrybini addysgol presennol. Pe buasent yn blaid gadarn, unfarn, a chenedlgarol gallent yn hawdd osod eu cais yn glir o flaen y Weinyddiaeth ond ofnwn mai fel arall y bydd, ac na chaiff y ddau neu dri fyddant yn gyfrifol am y mater, gefnogaeth y gweddill o'r aelodau. Daw galw hefyd am undeb pan fydd Mesur y Fasnach Feddwol dan ystyriaeth, a rhaid i Gymru ofalu ar y cychwyn na roddir rhagor o ryddid i'r darllawyr i eangu eu dylanwad anffafriol ymhlith ein cenedl. Oes mae gan ein cyarycbiolwyr ddigon o waith am y tymor, a hyderwn na fydd iddynt laesu dwylaw na chadw draw o'r Ty, er nad yw Araith y Brenin yn gosod eu cwestiynau arbennig hwy yn amlwg yn ei genhadaeth flynyddol i'w Seneddwyr.
EISTEDDFOD DEWI SANT.
EISTEDDFOD DEWI SANT. CYNULLIAD MAWR YN QUEEN'S HALL. COR LLUNDAIN YN ENNILL. Fel "Eisteddfod Dewi Sant" yr adna- byddid y cyngerdd cystadleuol mawr a gaed yn Queen's Hall nos Iau, Ionawr 30ain, ac mae'r brodyr ynglyn ag Eglwys Dewi Sant, Paddington Green, i'w Ilongyfarch ar lwydd- iant yr wyl. Buont yn ddigon anturiaethus i sicrhau un o neuaddau mwyaf y ddinas at eu Heisteddfod, a rhoddi gwobrau digon mawr i ddenu cystadleuwyr penigamp a rhoddasant gyhoeddusrwydd dyladwy i'r cyfan nes denu'r lluoedd yno i lanw'r neuadd hyd yr ymylon. Dyna'r unig ffordd i sicr- hau gwyl lwyddianus a da y gwnel pwyll- gorau cyfarfodydd cyffelyb, i gymeryd gwers oddiwrth y rhai fu yn trefnu yr wyl bob- logaidd hon. Amcan pennaf y cyfarfod oedd sicrhau ychydig gynorthwy tuag at gronfa adeiladu "I Eglwys Dewi Sant, Eglwys sydd wedi gweithio dan anhawsterau lawer oddiar ei dechreudad, a da gennym ddeall fod elw sylweddol wedi ei sicrhau, ac fod pobpeth wedi troi allan y tuhwnt i ddisgwyliadau v rvwvll crnr. PARCH. W. KIOHARUS, B.A., Eglwys Dewi Sant. Caed nawddogaetb lliaws o wyr blaenaf y cyJchoedd Eglwysig yn Llundain i'r wyl hon. Gwasanaethodd Syr J. H. Puleston fer llywydd y pwyllgor, a daeth i'r Eisteddfod i lanw'r gadair pan ddeallodd fod Mr. Nay lor, y cadeirydd apwyntiedig, ar yr awr olaf wedi methu dod yno oherwydd ei afiechyd blin. Yn drysorydd rhoddwyd Mr. W. D. Jones, un o wyr ieuainc pobloffaidd y gynull- eidfa, a chaed gwasanaeth diflino Mri. Tom Jenkins a D. J. Lloyd fel ysgrifenyddion. I gloriannu gwyr y gan sicrhawyd presen- oldeb Mri. S. Coleridge Taylor a Wilfrid Jones, dau gerddor nad oedd eisieu eu rhag- orach. Gofalodd Miss Nancy Pierce am y cyfeiliant, a chaed detholiad ar yr organ gan Mr. J. E. Davies (Clwydian) yn bur feist- rolgar. Arweinydd yr wyl oedd y Parch. T. Edwards, "Gwynedd," a gwnaeth ei waith yn ganmoladwy, a haedda diolch arbennig am roddi ychydig o Gymraeg i'r gynulleidfa oddiar y llwyfan. Oni bae am dano ef byddai'r cyfan yn Saesneg. Darnau Seisnig oedd defnydd y rhaglen drwyddi, ac mae hyn i'w briodoli i arwydd