Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Am Gymry Llundain. .'

News
Cite
Share

Am Gymry Llundain. QUEEN'S HALL.—Dyma lie bydd tynfa pob Cymro yr wythnos nesaf. Mae dis- gwyliad am lond y lie nos Iau i wrando ar y cystadlu brwd ynglyn ag Eisteddfod Dewi Sant. CQRAU; QXMREIG.—Bydd trens rhad yn rhedeg o bob, paith o'r Delieudir i Lundain nos Fercher,: a clieir presenoldeb rhai o'r prif gorau meibion nos Iau yn Queen's Hall. EISTEDDFOD BATTEBSEA-Gan y byddwn wedi myned i'r wasg cyn y cawif ddyfarn- iadau yr wyl hon, rhoddir yr holl fanyliop. am dani yn ein nesaf. COLEG BANGOR.—Bwriada Llew Tegid dalu ymweliad a'r ddinas am rai dyddiau cyn bo hir, i roddi achos y coleg newydd ger bron y Llundeinwyr. Mae'r apel a wnaed beth amser yn ol wedi cael derbyniad ffafriol iawn, a diau pan wneir hanes y coleg, a'i anhawsterau, yn fwy cyhoeddus, y rhoddir mwy o gefnogaeth i'r mudiad. DEWI SANT, PADDINGTON.-Y Gymdeithas Lenyddol.Nos Fawrth ddiweddaf cafwyd cyfarfod hynod ddifyr o dan lywyddiaeth y Parch. W. Richards, icaplan, pryd ycymer- wyd rhan ynddo gan Mri. Arthur Williams (piano), D. Hughes, 'Griffith Ellis James, Mrs. Williams, Chelsea; Miss William's, Alice Watkins, y Misses Emily Thomas ac Anne Mary Jones. Eisieu rhagor o gyfar- fodydd o nodwedd y cyfarfod diweddaf yma sydd arnom yn y lie hwn. Yr oedd pawb mewn hwyl ac yn mwynhau y gymdeithas. Gwnaeth Mr. Arthur Williams ei ran yn rhagorol fel cyfeilydd. Marwol(ieth.-Bydd yn ofidus gan lawer glywed am farwolaeth Mrs. Davies, gweddw y diweddar Eos Llechyd, a mam Mrs. W. Richards. Claddwyd hi yn Llanberis, dydd Llun, lonawr 20ain. CAPEL Y WESLEYAID CYMREIG, CITYROAD. Priodas.Dydd Mercher, lonawr laf, unwyd mewn glan briodas Mr. Evan Arthur Evans (mab ieuengaf Mr. Edmund Evans, Crouch Hill, N.) a Miss Annie Hughes (merch Mr. a Mrs. Hughes, Finsbury, E.C.). Gwein- yddwyd gan y Parch. John Humphreys. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd hynaf, a gwasanaethwyd arni gan bedair o law-forwynion, sef Miss Jennie Jones, aelod ffyddlon a'r achos yn City Road, ynghyda Misses Gwladys Morgan a Gwen- doline Hughes (nithoedd i'r briodasferch), a Gwladys Evans (nith i'r priodfab). Mr. Eddie Evans (brawd y priodfab), oedd y dyn goreu. Yr oedd nifer dda yn y gwasanaeth, a thua hanner cant yn y croesaw a gynhal- iwyd yn nhy y par ieuanc yn Devonshire Road, Hackney. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog a gwerthfawr, yn dangos yr edmyg- edd o honynt gan eu cyfeillion. Dymunwn iddynt fywyd maith a dedwydd. SIBLEY ROAD, EAST IIAM.—Cafwyd dadl fywiog iawn nos Iau cyn y diweddaf ar y testyn, "Pa un sydd fwyaf ei ddylanwad, Cerddoriaeth ynte Barddoniaeth ? Agor- wyd yn ddeheuig gan Mr. B. D. Jones dros gerddoriaeth, ac yna gan J. D. James dros farddoniaeth. Yr oedd y ddau wedi gwneud dadl gryf, fel yr oedd pob bardd a cherddor oedd yn bresennol wedi eu deffro pan ddaeth eu hamser hwy i gymeryd rhan yn yr ym- ddiddan. Nid y gwyr yn unig fu yn siarad y noson hon, ond yr oedd pob merch hefyd yn llawn brwdfrydedd, yn sefyll i fyny dros ei chredo, a gwnaethant hynny mewn Cym- raeg bur, ac yr oedd pob gair a lefarwyd ganddynt yn llawn o gerddoriaeth, fel nad oes angen dweyd pa un o'r ddau destyn gafodd fwyaf ei ddylanwad yma. Cerddor- iaeth aeth a hi. CASTLE STREET.—Daeth cynulliad mawr ynghyd i'r lie hwn nos Sadwrn diweddaf i wrando ar Mr. T. Huws Davies yntraethu ar "Gymru a Sosialaeth." Torrodd Mr. Davies dir newydd fel diwygiwr, a gosododd y blaid Ryddfrydig megys un ar ei phrawf olaf. Gobaith Cymru y dyfodol, yn ei dyb ef, oedd y grefydd newydd a ddadleuid mor gadarn drosti ganddo. Nid oedd ei araith,, er mor hyawdl ydoedd, yn ddigon argyhoedd- iadol i'r hen Ryddfrydwyr" oedd yn bres- ennol, a chaed amddiflyniad i'r "hen ddull- iau" gan Mri. John Hinds a Watkin Jones, tra yr oedd Mri. P. W. Williams ac ereill yn dangos arwyddion o edifeirwch tan genhad- aeth y grefydd wleidyddol newydd. Liy- wyddwyd yn ddeheuig gan y Parch. Herbert Morgan, B.A. JEWIN NEWYDD.—Profodd cyngerdd blyn- yddol Jewin eleni yn un o'r gwyliau pennaf a gaed yn y lie. Yng nghyntaf oil caed llond y capel eang o wrandawyr brwdfrydig, yn ail caed cantorion o'r rheng flaenaf yin myd y gan, ac roedd y rhain ar eu goreu, ac yn olaf caed cadeirydd dawnus a hael i goroni'r cyfan. Y cantorion oeddent Madame Eleanor Jones Hudson, Miss Eira- Gwyn, Mr. John Roberts, a Mr. Emlyn- Davies, ynghyd a Mr. Walter Hughes wrth yr offeryn. Or pedwarawd lleisiol yr oedd dau yn rhai newydd i Gymry'r ddinas, sef Miss Gwyn a Mr. Roberts, a chanasant yn rhagorol, a rhoddwyd derbyniad calonog iawn iddynt. Am yr hen rai, Madame Eleanor Jones a Mr. Emlyn Davies, digon yw dweyd iddynt gadw i fyny urddas eu henwau; da, a does an gen am well canmoliaeth. Yr oedd eu caneuon yn chwaethus, amryw 0' honynt yn Gymraeg, a'r oil yn dda. Mr. Vincent Evans oedd yn y gadair. Un o fechgyn Jewin yw Mr. Evans, a phriodol oedd ei anrhydeddu am y tro, a dangosodd yntau ei gydnabyddiaeth o hyn trwy roddi HANNER CAN PUNT at y gronfa adeiladu, Pwy na fydd am gael Y Finsent yn gadeirydd ar ol hyn CITY ROAD.-Credwn y bydd yn ddydd- orol i Gymry y ddinas gael ychydig 0 hanes mewn perthynas a'r "Coffee Suppers" y tymor hwn. Yr ydym wedi cael cynlliui gwahanol, sydd wedi profi yn llwyddiant. Rhoddwyd y cyntaf gan yr hen lanciau, a chafwyd elw o dros ddeg punt. Yn yr aily aeth y gwyryfon ati, a rhaid oedd curo yr hen lanciau, ac felly y gwnaed elw o dros ddeg punt. Yr oedd y trydydd, yr hyn a gyn- haliwyd lonawr 2fed, yn cael ei roddi gan y gwragedd priod, yr elw dros £14. Yn iuan, bydd y gwyr priod yn rhoddi y nesaf, ac y maent hwy yn amcanu i gael o leiaf Ju20. I fynu bo'r nod. Yn y naill a'r llall o'r cyfar- fodydd cafwyd canu, adroddiadau, &c., o. radd uwchraddol, a chyfranwyd yn helaeth. gan y rhai a gymerasant y gadair. Y Gym- deithas Ddiwylltadol.—Da gennyf ddweyd fod y Gymdeithas eto eleni yn gwneud gwaitit da. Cafwyd dadleuon a phapurau ar des- tynau dyddorol, pa rai ydynt yn sicr o adael' effaith ffafriol ar y bobl ieuainc sydd yn exi mynychu. Yr ydym yn cael cymorth syl- weddol yn y cyfarfodydd hyn gan ein. llywydd, Parch. John Humphreys. BORO'.—Nos Iau, lonawr 16, cynhaliodd Oymdeithas Lenyddol yr eglwys uchod gyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth fedrus Mr. R. D. Hodges. Cymerwyd rhan drwy ganu, adrodd, a chware ar olTerynau- cerdd gan y canlynol, Misses G. Goff, Jennie Evans, Nancy Parry, Bessie Hamer, S. Jones, Jenny Evans, Winnie Edwards, Jennie Jones, Mrs. Ellis Richards, Mri. E. D. Morgan, Evie Jenkins, J. Islwyn Lewisy Richard Wood, John Lewis, D. Cardigan Pritchard, Trevor Evans, Timothy Morgans, a Harold Carter. Gwnaeth pob un ei waith yn fedrus ac effeithiol, a rhoddodd datgan- iadau Miss Nancy Parry ac ereill hwyl uehel: i'r cyfarfod. Rhoddodd y cadeirydd anerch- iad gwerthfawr i bawb oeddynt bresennol, a diolchwyd iddo am lywyddu mor effeithiol a medrus, ac i'r rhai gymerasant ran yn y gweithrediadau. CYSTUDDIOL.—Bydd ei chyfeillion a'i chyd- nabod o ardal Cilcenin ac Aberairon yn lion

A BYD Y GAN.