Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cleber y Clwb.

News
Cite
Share

Cleber y Clwb. Nos Fercher. Yr oeddem yn gynulliad distaw o gylch an cysurus heno, a phawb yn darllen ei bapur pan ddaeth Brymor i fewn. Eistedd- ai'r doctor Tomos ym mhellafoedd yr ystafell gyda'r holl bapurau Methodistaidd ar y bwrdd o'i flaen. 'Roedd yn awyddus am weled beth oeddent yn ddyweyd am ei hen gyfaill y Vincent, yr hwn oedd wedi rhoddi lianner can punt yr wythnos flaenorol at un 0 gapelau'r Hen Gorff. Ynghanol yr ystafell 'roedd yr Esgob wedi cymeryd meddiant o bapurau'r Eglwys ac yn prysur ddrachtio o'u beirniadaethau ar benodiad ficer Seisnig i ardal fel Tonna. Yn y gadair fraich ger y 4an eisteddai Gomer yn darllen cymaint ag a allai am y Bedyddwyr, ac 'roedd Norick yr fochr arall yn torri dalenau y cylchgronau Anibynol, fel nad oedd dim ar ol i Brymor ond papur y Wesle'—oherwydd yr oeddwn innau wedi gofalu am y Geninen er mwyn darllen y gweddill o'r hyn gyhoeddwyd gennych yr wythnos ddiweddaf. Cyn pen pum mynud wele Brymor yn aflonyddu ar y cwmni, ac yn gofyn mewn Ilais awdurdodol—A yw yr Eisteddfod wedi mynd yn beth enwadol hefyd ? Seiliai ei holiad ar y ffaith fod y papur Wesle yn nodi mai Wesle oedd yr ysgrifennydd hynaf, ac fod amryw o Wesleaid, heblaw eu gweinidog, ;ar y pwyllgor cyffredinol. Bu'r holiad yn ddigon i droi pawb i chwilio i hanes enwadol pob swyddog oedd wedi ei enwi yn y CELT diweddaf. Mor bell ag y gwyddai'r cwmni, Proedd pob enwad yn cael ei chynrychioli. Y Methodistiaid oedd yn y mwyafrif, a deuai'r Anibynwyr yn ail, ond nid oedd ond un Eglwyswr ymhlith yr holl haid, ac Arglwydd Aberdar oedd hwnnw. Pan ddeallwyd fod Dr. Hartwell Jones, ac eglwys- wyr enwog ereill ar y pwyllgor, teimlai pawb mai culni o'r fath waethaf, neu anwybodaeth anesgusodol oedd yn cyfrif na osodasid rhai o honynt mewn swydd, fel ag i sicrhau pob plaid a gradd ar y pwyllor, a thrwy hynny osgoi pob cais at feirniadaeth neu -achwyniad. Tra yn son am Dr. Hartwell Jones, dylas- wn ddweyd mai'r Parch. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield, wyf yn feddwl. Nid oedd pawb yn y Clwb heno wedi clywed ei fod wedi ennill y gradd o D.D. yn Rhydychain yn ddiweddar. Dywedodd Pennant wrthym fod y traethiad a ysgrifennwyd gan Dr. Hartwell er sicrhau ei D.D. yn gampwaith llenyddol yn ogystal ag yn drysor ym myd yr esponiadau diwinyddol. 'Roedd Gomer yn methu'n lan a deall pa eisieu ysgrifennu na thraethodi oedd er cael y D.D. Yr oedd ef wedi ei gael yn yr America pan aeth yno i Ffair y Byd, yn ddigon hawdd, ac ni roddodd ond thenciw, Syr," am dano, chwaith. Er hynny, addefai ei fod wedi gorfod darlithio yn agos i bum cant o weithiau, ac eto heb orffen cyflawn ddisgrifio'r anrhydedd a'r ,Ffair y bu yn ymweled a hi. Ond does ryfedd fod y Parch. Hartwell Jones wedi esgyn mor uchel yn y byd addysgol. Hana o linach enwog o lenorion Oymreig. Ei dad oedd y Parch. Edward Jones, yr hwn a fu yn offeiriad yn Nantglyn (lie gan- wyd Hartwell); wedyn yn Llanfaircaereinion a Llanrhaiadr-ym-Mochnant, ac yn y lie olaf y bu farw, yn fuan ar ol golygu argraffiad o weithiau Goronwy Owen, ac ysgrifennu rhag- ymadrodd rhagorol i'r cyfryw. Mab oedd y Parch. Edward Jones i'r argraffydd adna- byddus John Jones (Pyll), Llanrwst, enw yr hwn oedd ar holl gerddi ein hieuenctyd. Cyhoeddodd Pyll amryw lyfrau gwerthfawr, yn eu mysg yr argraffiad a nodwyd o Goronwy Owen, Caniadau Caledfryn, &c. Pyll drachefn oedd fab i Ishmael Jones o Drefriw—yntau hefyd yn hen gyhoeddwr llyfrau a phamffledau yn ei ddydd. # # Yna, i fyned yn ol gam ymhellach, yr oedd ei hendad, Ishmael Jones, yn fab i Dafydd Jones (Dewi Fardd) o Drefriw, cy- hoeddwr a chasglydd y Blodeugerdd, y Cyd- ZD ymaith Diddan, ac amryw lyfrau poblogaidd o'r fath. Efe a brynnodd y wasg a gododd Lewys Morus yng Nghaergybi—un o'r Morrisiaid-a dyna yn ddiau ei ddechreuad fel argraffydd. Yr oedd Lewys Morus, fel ereill, yn fwy chwannog i rwgnach at waith ereill a dywedai mewn llythyr at y Prydydd Hir, fod Dewi Fardd wedi llofruddio llyfr da trwy roddi ynddo weithiau y penbyliaid mwyaf yn y greadigaeth." Ond bu yr hen argraffydd carbwl a gwladaidd o fawr was- anaeth i lenyddiaeth wedi'r cwbl. Dafydd Jones, Myfyriwr yr hen bethau," y geilw ei hun yn un o'i lyfrau. Nid yn ami y ceir pum cenhedlaeth o lenorion fel hyn yn dilyn eu gilydd, a phob cenhedlaeth yn gwella wrth fyned ymlaen. Diau y daw adeg pan y cydnebydd Cymry Llundain, yn ogystal ag Esgobion Cymru, bersonau diymhongar ond dysgedig fel Dr. Hartwell. Tuedd y blynyddoedd hyn yw moliannu'r gwr sydd yn gwthio ei hun flaenaf i'r ffrynt; ac fel rheol, y bobl sydd a lleiaf o ddysg ynddynt a hawliant y lleoedd mwyaf urddasol bob amser. A wel Cymry ieuainc y ddinas yn ddoeth i roddi'r arwein- iad y flwyddyn nesaf pan yn penodi llywydd newydd-dyweder i Undeb y Cymdeithasau Llenyddol-pwy yn fwy teilwng o'r fath safle na'r rheithor dysgedig o Natfield ? Yr oedd pawb yn teimlo fod lie i achwyn gan yr Eglwyswvr, ac adrannau ereill o'r cylchoedd Cymreig, am nad oeddent wedi cael eu cydnabod pan yn dewis y pwyllgor. Dylid cofio mai gwyl Genedlaethol yw'r wyl i fod, ac nid doeth yw cyfyngu gormod ar ei gwaith na'i phersonoliaeth. Gan mai dechreu y mae'r pwyllgor, nid yw'n rhy hwyr i wella'r diffyg, a hyderaf y gwnant hynny hefyd mewn ysbryd boneddigaidd a dirwg- nach. Ap SHON.

[No title]

A BYD Y GAN.