Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL— T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). rrllE next Term begins on January 14th, 1908. A JL number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following diys. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 910, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis. tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. "Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg." THE L. C. C. WELSH EVENING CLASSES are now being held at the HUGH MYDDELTON SOHOOL, Corporation Row, Clerkenwell (3 minutes from Farringdon St. District Railway Station) Elementary: Monday Evenings, 7.0 to 9.30 Advanced: Friday „ Fee for Session, 2s. 6rf. Teacher: GORONWY OWEN, M.A. Correspondence to FF. ITHEL MORGAN, Whitehall House, Charing Cross, S.W. ALORIDGE9s HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. WELSH PRINTERS, 211, Gray's Inn Road.
-------LCYFRAN CYMRU. L
LCYFRAN CYMRU. L Ers amryw fisoedd bellach mae ymddygiad y Bwrdd Addysg yn Llundain tuag at Ysgol- ion Canolraddol Cymru. wedi achosi cryn lawer o bryder a beirniadaeth ymhlith ar- weinwyr addysgol ein cenedl. Gan mai Mr. M'Kenna, aelod Rhyddfrydig tros ranbarth Mynwy, yw Llywydd y Bwrdd ar hyn o bryd, nid oedd Cymru yn meddwl ar y cychwyn fod angen gwylio ei symudiadau gyda'r un manylder ag y bu. raid gwylio gwaith y rhai oeddent bob amser yn cy- hoeddi eu gwrthwynebiad agored i fudiadan C3, addysgol ein gwlad. Pan aed i archwilio ei ffigyrau ynglyn a dosbarthiad yr arian a roddir yn flynyddol tuag at gynnal yr ysgol- ion canolraddol caed ei fod yn ymddwyn yn llawer mwy ifafriol tuag at ysgolion Lloegr nag y gwnai at ysgolion Cymru. Bu amryw o'i gefnogwyr yn ceisio esponio y gwahan- iaeth, a bu Mr. M'Kenna ei hun yn ym- drechu—gyda chywreinrwydd teilwng o gefnogydd y Diffyndollwyr-profi fod Cymru ar ei mantais tan ei dref aiant ef i'r hyn a fyddai pe dosrenid yr arian ar gyfartaledd, yn ol hyn a hyn am bob disgybl yn yr ysgolion. Yr oedd Cymru, tan ei gynllun, i gael am y tair blynedd nesaf £3 15s., V,4 5s. a Y,4 15s. tuag at bob disgybl, tra yr oedd Lloegr i dderbyn £ 5 yr un am y cyfnod- Nid gwaith hawdd oedd egluro'r gwahan- iaeth, ac hyd yn awr, nid yw cefaogwyr yr ysgolion hyn wedi cael yr un boddhad yn yr esponiad a geisia Mr. M'Kenna a'i gefnog- wyr roddi i ni fel gwlad. Dydd lau diweddaf, modd bynnag, aeth nifer o'n gwyr blaenllaw ar ymweliad a Mr. M'Kenna i ddadlu yr achos o'i fiaen, ac i ddangos yr anhegweh ynglyn a Chymru yn ol fel y deallent ei gynllun. Gosodwyd cwyn Cymru yn glir ger ei fron, ac ar derfyn areithiau ein cynrychiolwyr caed ateb gan Lywydd y Bwrdd Addysg. Rhaid addef ar y cychwyn fod hwn yn un tra anfoddhaol; yn anfoddhaol o ran ei arddull a'i gynnwys. Yng nghyntaf ceisiai Mr. M'Kenna briodoli y cyfan i fudiad gwleidyddol, gwrthwynebol iddo ef fel aelod o'r Weinyddiaeth. Siar- adai yn chwyddedig am eu beiddgarwch yn dod ger ei fron, fel pe bae yn wr wedi ei alw i fod yn fath o genad dyngarol tros addysg yn y ddwy wlad. "Yr ydych," meddai, "wedi camesponio y cyfan a chamliwio fy ngwaith mewn modd cywilyddus," a gallesid m.eddwl y disgwyliai i Gymru fyned ar ei gliniau i ddiolch iddo ya hyfcrach nag am.9u ei degwch tuag at ein cyfundrefn addysg. r5 Ond ar ol ceisio profi ei anffaeledigrwydd, wele ef yn addef ei barodrwydd i ymdrin a Chymru ar yr un tir a Lloegr, ond i Gymru dderbyn yr un telerau a Lloegr. Dyma esgusawd olaf y Sais bob amser, a'i ddinas noddfa pan fo unrhyw anhegwch yn cael ei ddangos iddo. Paham y rhaid i Mr. M'Kenna newid y telerau yn awr nis gwyddom, na pha angen sydd am reoli Cymru ar yr un llinellau a Lloegr ar ol i'n cyfundrefn brofi mor llwyddianus tan y drefn G-ymreig. Mae'n amlwg fod Mr. M'Kenna yn dra awyddus i gau i fynu yr adran Gymreig yn hollol, a rhedeg yr holl fusnes ar linellau Seisnig. Dyna yn ddiau yw dymuniad mawr y Bwrdd Addysg yn Llundain, a dyna sydd wedi bod yn. felldifch i addysg Cymru ar hyd y blynyddoedd. Yr oeddem yn disgwyl rhywbeth yn amgenach oddiwrth aelod Cymreig na hyn, ond mae'n amlwg ein bod wedi cam-fesur Mr. M'Kenna. Rhaid i G-ymru ymladd ei hawliau yn ani- bynol o'i gefnogaeth ef ac os yw ein cyn- rychiolwyr ereill yn fvw i'w dyledswyddam nis gadawant y cwestiwn yn llonydd pan agorir y Senedd. Dylai Mr. M'Kenna gofio fod creill wedi esgyn i swyddi uchel yn ogystal ag efe, ac wedi llwyddo i gadw eu Ily penau heb chwyddo, na myned i gredu eu bod hwy yn fodau gwell a mwy dysgedig na phawb arall. Byddai yn werth iddo ddilyn eu esiampl, oherwydd mae'n fwy gweddus i ymddwyn yn deg a chyfiawn ar y dechrem gyda phynciau o'r fath., na chael ei orfodi gan Senedd i wneud fel y ceisia Cymru ganddo ar hyn o bryd.
[No title]
Devon. Cafodd y Rhyddfrydwyr gurfa nodedig yn etholaeth canolbarth Devon yr wythnos ddi- weddaf. Daeth yr etholaeth yn wag trwy i'r aelod blaenorol dderbyn y swydd o Farnwr oddiar law y Weinyddiaeth, ac er mai sedd Ryddfrydol oedd wedi bod er's blynyddau, a'r mwyafrif bob amser yn un tra sylweddol, fe drodd y waith yma yn eithafol o Doriaidd. Mae llawer wedi bod yn ceisio egluro y gurfa, ond oil yn gwbl ofer. Mae un ffaith eglur ynglyn a'r etholaeth sy'n werth sylw. Yr oedd yr aelod Toriaidd yn wr lleol, tra nad oedd cynrychiolydd y blaid Ryddfrydig ond megys tramp o dre." Caed yr un wers beth amser yn ol pan roddwyd sen i S.L.H." yng ngogleddbarth Lloegr, ac mae'n hen bryd i'r blaid gofio hyn. Mae dyn cyhoeddus cartrefol yn llawer mwy gwerthfawr yngolwg y werin wledig na rhyw ddieithrddyn pwysig a geisir ei an- rhydeddu gan y blaid yn Llundain. Pan ddaw rhagor o leoedd yn wag hyderwn na chollir golwg ar y wers hon. Un peth arall, nid yw'r wlad yn foddlawn ar yr ysbryd cymodol yna sy'n nodweddu y Weinyddiaeth. bresennol. Nid yw'r aelodau yn ddigon gwrol tros eu daliadau fel ag i haeddu ym- ddiriedaeth y cyhoedd, ac hyd nes y ceir mwy o benderfynolrwydd a rhagor o waith wedi ei gyflawni, mae'n rhaid i ni ddisgwyl cael y fath wers ag a roed yr wythnos ddiweddaf yn Devon. Yr Eglwys a'r Gymraeg. Ar hyn o bryd mae cryn helynt yng nghylchoedd eglwysig Cymru oherwydd fod Sais uniaith wedi cael ei benodi i fieeriaeth. Tonna-ardal wledig ger Aberdulas, Mor- ganwg. Mae'n debyg mai nid penodiad yr esgob yw, eithr bywioliaeth yn rhodd rhyw deulu parchus, ac mae cynrychiolwyr y teulu wedi gosod y fywioliaeth i beraon o'r enw Mr. Lindsey. Ardal wledig Gymreig ydyw Tonna; a dywed y Parch. D. Bankes Williams, ficer Cwmavon, y dylai'r offeiriad fod yn abl i siarad Cymraeg. Mae'r plwyfolion yn Tonna," meddai, sy'n tain am eu crefydd yn hawlio y dylai'r gwr weinyddu iddynt yn eu hiaith eu hunain. Mae'r gwasanaeth yn yr holl gapelau ymneill- duol yn y cyleh yn cael ei gynnal yn Gym- raeg. Tu allan i furiau'r Eglwys, Cymraeg yw iaith yr ardal bron yn hollol," a cheisia y gwr Cymroaidd hwn ar i Mr. Lindsey wrthod y fywioliaeth a gadael i Gymro gael ei benodi yn ei le. Dengys y penodiad fel mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cael ei Ilygru a'i Seisnigeiddio. Dyma ardal lie mae pob capel bron yn cynnal y gwasanaeth yn iaith y genedl, a'r unig eithriad yw Eglwys Loegr, yr hon a ddug yr holl waith 0 c;1 ymlaen yn Saesneg, a gofala fod Sais uniaith yn cael ei benodi i'r fywioliaeth! NicL rhyfedd fod y Cymro wedi chwerwi tuag at yr Hen Fam, a throi ei gefn arni; ac os ceir rhagor o engreifftiau cyffelyb i hyn, ni fyddant ond mudiadau ychwanegol er hyr- wyddo Dadgysylltiad, a gallem feddwl yn ol y protest wneir gan rai offeiriaid y tro hwn, fod mwyafrif yr Eglwyswyr eu hunain ya dyhell am y dydd gobeithiol hwnnw.