Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Am Gymry .Y Llundain.
Am Gymry .Y Llundain. Y PWYLLGORAU.—Yr wythnos hon bu gwahanol bwyllgoran Eisteddfod 1909 yn trefnu eu rhaglenni. Mae argoelion y ceir rhai testynau allan cyn adeg y Pasc. GWYL BATTERSEA.—Mewn colofn arall ceir rhagor o fanylion am Eisteddfod Battersea. Da gennym ddeall fod y rbagolygon yn addawol, a dylai pob un sydd am gystadlu anfon ar fyrder at yr ysgrifenyddion. CYNGERDD JEWIN.-Nos Iau nesaf cynhelir y cyfarfod mawr hwn. Dyma un o gynull- iadau mwyaf poblogaidd yr Eglwys ar hyd y flwyddyn, a chyda'r fath atyniadau ag a geir eleni ar raglen y cyngerdd, diau y bydd y lie yn orlawn. CEDYRN YR AREITHFA.-Mae Jewin wedi bod yn ffodus iawn eleni yn newisiad y ddau bregethwr sydd i wasanaethu yn y cyfar- fodydd pregethu blynyddol ddiwedd yr wythnos nesaf, Ionawr 18 a 21. Cydna- byddir y Parch. John Williams, Brynsien- cyn, fel "John Elias" yr oes hon, ac y mae'r Dr. Moelwyn Hughes yn un o ysgol- heigion goreu yr enwad yn ogystal ag yn "bregethwr hynod o alluog. PRIODAs.-Dydd Mercher yr wythnos ddi- weddaf, sef dydd Calan, unwyd mewn glan briodas David Jones, Buarth Road, Aberyst- wyth, a Rahel, merch ieuengaf Mrs. Roderick, 2, Maury Road, Stoke Newington, a Bow Street, ger Aberystwyth. Yng nghapel Wilton Square cymerodd yr amgylchiad dyddorol le, pryd y gweinyddwyd gan y parchus weinidog, sef Parch. Gwilym H. Havard, M.A.B.D. Rhoddwyd y briodas- ferch i ffwrdd gan ei brawd Robert, a bu Miss Annie Morgan, Lambeth, yn gwein- yddu fel llawforwyn. Cafodd Mr. David Jones gynorthwy Mr. David Rees, Mare Street, Hackney. Yn ystod y dydd yma- dawodd y par ieuanc am Westcliffe-on-Sea, lie treuliant eu mis mel. Yr oedd yr an- rhegion yn lliosog ac yn ddrudfawr. Bwr- iada Mr. a Mrs. Jones ymsefydlu yn 406, Forest Road, Walthamstow. Oes hir a phob bendith a'u dilyno yn eu cartref newydd.
[No title]
PARHAU yn oer iawn mae'r hin dros Gymru i gyd. Ni pharhaodd y rhew diweddar ond am ychydig ddyddiau ond mae'r gwlaw a'i ddilynodd wedi achosi llawer o golled. Dy- wed gohebydd o Lanberis nad oedd y rhew yn ddigon caled i effeithio ar Lyn Llanberis. Mae'n debyg na welwyd in. ar y llyn hwnnw er y gauaf caled a gaed yn 1895. BWRIADA Mr. Horace Evans, mab Mr. S. T. Evans, K.C., ddilyn yr un galwedigaeth a'i dad, a'r wythnos ddiweddaf llwyddodd i fyned trwy'r arholiad cyntaf am y Bar. Un o efrydwyr y Middle Temple fydd y mab fel y tad, a gobeithio y bydd mor llwyddianus hefyd ag yntau, pan wedi cael ychydig flynyddau yn y gwaith. MAE'R Times, papur mawr y byd Seisnig, wedi ei sicrhau gan gwmni newydd, tan reolaeth Mr. C. A. Pearson, perchenog yr Express a'r Pearson's Weekly. 0 hyn allan bydd yr hen newyddiadur yn bleidiol iawn i Ddiffyndollaeth, ac yn geidwadol i'r earn yn ei ddaliadau gwleidyddol. CAFODD y Parch. II. Barrow Williams groesaw cynnes iawn gan y Cymry yr ochr draw i'r Werydd ac i ddangos eu parch a'u hedmygedd o hono llwyddasant i gael un o'r prifysgolion yno i gyflwyno y gradd o M.A. i'r pregethwr galluog hwn. UN o'r Cymry mwyaf gweithgar yn America yw y Parch. Jenkin Lloyd Jones, Chicago. Mae ganddo lyfr newydd yn y wasg, yn dwyn yr enw Love and Loyalty." Llyfr dyddorol fuasai llyfr ar Gymry America, yn rhoddi eu hanes ym mhob cylch. Dywed The Munsey Magazine fod y y Cymry wedi cyfodi ystad foesol America, a rhydd glod mawr i bobl "gwlad fach fynyddig Cymru am eu gwaith. Sonia am Gymry masnachol, Cymry mewn bywyd cyhoeddus, Cymry fel llenorion a cherddor- ion, gan nodi dau Gymro, o'r enwau George a Frederick Evans, a daethant a'r newydd- iadur cyntaf allan dan yr enw Workinginaris Advocate." Dywed fod y Cymro wedi gwneuthur enw iddo ei hun ym mhob talaeth yn yr Unol Dalaethau, ac y mae yn diolch am Gymry, Cymru, a Chymraeg. SONIR fod y Clwb Cymreig ar gael ei symud o'i gartref presennol yn Whitehall Place i ystafelloedd gwell yn Hanover Square. YN ol y cyfrifon enwadol ar derfyn y flwyddyn, y mae lleihad dirfawr i'w ganfod yn nifer aelodau yr eglwysi yng Nghymru. Nid yw hyn ond canlyniad naturiol i'r brwdfrydedd DiwygiadoL
Advertising
Cyfarfod Pregethu Capel Stratford- IonaatF 25ain, 26ain, aV 27ain, 1908, Nos Sadwrn, 7.30, a Boreu Saboth, 11.0- Parch. D. M. Phillips, M.A., Ph.D., Tylorstowc, Prydnawn Saboth, 30- Parch. T. Eynon Davies, Woodford (yn Saesneg)" Nos Saboth, 6.30, a Nos Lun, 7.30— Parch. D. M. Phillips, M.A., Ph.D. Casgliadau at Gronfa yr Adeilad. THE WELSH TABERNACLE. KING'S CROSS, N. H GRAND- "Mu CORCEBT STBKZK6 will be held at the above Chapel, on THURSDAY, FEBRUARY 6th, 1908. ARTISTES- Miss TOWENA THOMAS Miss GWLADYS ROBEITS Mr. JOHN ROBERTS Mr. MADOC DAVIES Organist and Conductor- Mr. DAVID RICHARDS During the evening the Choir will render the Cantata" Lauda Sion (Mendelsohn), and other Choruses. Chairman- W. LEWIS WHITE, Eso. .r-r'J-r" To commence at 8. Admission, 2s. and Is. Further particulars may be obtained from the- Hon. Sec., E. H. GRIFFITHS, 5, Kennet Road, Paddington, W. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE, W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets, Upper and Lower from « £ 4. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled. Siaredir Cymraeg os yn fwy dymunol. ALDRIDGE'S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE ion business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDGE'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON W.C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday amS Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. WELSH PRINTERS, 211, Gray's Inn Roadm
A BYD Y GAN.
I've a beautiful Sonata which is guaranteed to start a Perspiration in a patient who has fever in his veins; And my Arias, alluring, are quite capable of curing Every form of Mania nascent in a human being's brains. I have feats of vocalism which will conquer Rheu- matism, And my Instrumental Doses are for every known disease; There are Solos for Conniptions and some Orchestral Prescriptions Which will make a Diagnosis read in any way you please. Now if you would care to try them, you would be obliged to buy them, As the price of Tone Vibration has been lately mounting higher, But professional conviction, which I state without restrictidh, Is that one good application will be all that you'll desire. EISTEDDFOD QUEEN'S HALL.—Y mae y corau meibion canlynol eisoes wedi anfon eu lienwau i mewn i'r gystadleuaeth:-(I) Meibion Dar (Aberdare) (2) Mid-Rhondda (3) Cambrian United; (4) Ravenhill (Swansea); (5) Morriston (6) Blaengarw; (7) London Welsh. Gan fy mod yn anfon y llith hon i'r Wasg bedwar diwrnod cyn i'r rhestr gael ei chau, y mae lie i obeithio y bydd enwau ereill yn cyrraedd yr ysgrifenyddion. Pe na bae ond y saith uchod, modd bynnag, gwelir fod argoelion am gystadleuaeth -ardderchog Y mae tua lianner cant o entries eisoes mewn Haw yn adranau yr unawdau, deu- awdau, &c. Y mae cwmni y G. W. Railway wedi dodi hysbyslenni ar hyd a lied y wlad, a bydd trains rhad yn dod a'r cantorion ac ereill o Oymru. Eisteddfod Gerddorol fydd hon drwyddi draw. Bydd yno heddwch (harmony) heb fygwth dadwain cledd a hawlio atebiad neu fe gollir gwaed Y mae y gwobrau mawrion gynygir yn golygu fod gan y brodyr yn St. David's," Paddington, lawer iawn o ffydd, a chan eu bod yn gweithio yn unol er sicrhau llwydd- iant yr Eisteddfod hon, o dan gyfarwyddyd ysgrifennydd o gerddor profiadol, ym mher- son Mr. Tom Jenkins, mawr hyderaf y ceir ad-daliad mewn elw sylweddol, a gwledd gerddorol uwchraddol.