Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

AR DRAETH 1908.

Gwaith y Flwyddyn.

News
Cite
Share

Gwaith y Flwyddyn. Gyda thoriad gwawr blwyddyn arall, a'r son am gyfarfyddiad y Senedd, mae'r gwleid- yddwr cyffredin yn dechreu siarad am waith y tymor. Cred y dosbarth yma mai yn nadleudy Westminster y gorwedd iachaw- dwriaeth Cymru, a pharhant i ddirwyn allan eu haddewidion yn ddiri; ond ca'r oil eu hanghofio cyn daw haul y gwanwyn i daftll ei wenau tyner arnom. Mae gan Gymrll waith pwysicach o lawer na gwrando ar yr areithiwr gwleidyddol a'i eiriau hudolus, ac mae arwyddion fod yn ei bwriad i weitil- redu yn anibynol ar y dosbarth hwn rhag- llaw. 0 dipyn i beth, mae'r ysbryd cened- laethol yn dod yn fwy tanbaid yn y meibion. glew a droir allan wrth y cannoedd o'i hysgolion a'i cholegau y naill flwyddyn ar ol y llall, a chyn hir bydd i'r rhai hyn droi yn arweinwyr diogel i'r gwahanol fadiadau a berthynant i ni yn arbennig fel cenedL Nid yw'r pulpud heddyw mor wasaidd at wasan- aeth y BLaid Ryddfrydol ag y bu, ac nid yw'r yswain sirol mor ddylanwadol fel ag i beri ychwanegiad at gynffonwyr y Sais. Gwel C3 gwyr ieuaine y genedl—a hwy ydynt freudd- wydwyr breuddwydion pob gwlad—fod yn bryd ymysgwyd o'r hen hudlan a throi tu newydd er adfer y wlad i'w bri cyntefig; a'r gwaith cyntaf sydd ganddynt i'w drefnu yn awr yw cael undeb priodol yn y rhengoedd cenedlaethol: gofalu fod pob cwestiwn crefyddol a gwleidyddol i gael ei benderfynu ar linellau cenedlaethol, a hynny yn ani- bynol i ddaliadau pob plaid neu ddosbarth a ddigwydd fod o fewn ein tir. Riiai(I i ni dalu mwy o sylw i lenyddiaeth y genedl; hawlio mwy o sylw i iaith ein tadau a gofalu mai nid rhyw wladgarwyr mewn enw yn unig a fyddwn o hyn i maes. Mae llu o ysgolion canolradd heddyw heb gydnabod safle'r iaith mae mwyafrif ein cynghorau lleol yn ymdrin eu gweithrediadau mewn Saesneg bratiog mae rheolwyr ein colegau cenedlaethol yn Saeson gwrth-Grymreig eu hysbryd; mae gwaith ein Colegau Diwin- yddol yn cael ei ddwyn ymlaea bron yn hollol yn nhafodiaeth yr estron; a lla o fan rwystrau i'w symud oddiar y ffordd cyn y gellir hawlio ein hiawnderau ac ond i ni yn ystod y flwyddyn hon wneud rhywbeth er goresgyn neu ddifodi un o'r pethau hyn, byddwn gam ym mhlellach ar daith Iwydd- ianus ein hadferiad. Gadawer i ni felly wneud ein rhan er cyflawni un o'r gweith- redoedd bychain hyn yn yatod 1908

[No title]