Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

RHOS-ON-SEA.

Advertising

COLWYN BAY.

ABERGELE.1

OLD COLWYN.

CONWAY.

LLYSFAEN.

News
Cite
Share

LLYSFAEN. Y GYMDEITHAS LENYDDOL.—Cyfar- fyddodd hon ieirgwaith, er pan vr ymddang- hosodd gair o'r blaen. Cawsom" gyfarfod amrywiaetihol Rhagfvr 6ed, yr hwn oedd wedi ei ymddiried i ofal Mr. John Roberts, Plas Ucha', a chafodd yntau, yn ol ei arfer, ddetnyddiau cyfarfod rhagorol cawsom ganu ac adrodd yn ogvstal ag amryw gys- tadleuaethau. Llwyddwyd v cyfarfod gan Mr. J. Roberts. Rhagfyr i3eg.—Yn ol y rhaglen, darlith oedd i fod y noson yma gan y Parch. D. Morris, Abergele, ond drwy i ddarlith arall digwydd y noson flaenorol, barnwyd yn ddoeth ei gohirio am beth, a ohael cyfarfod o'r un natur ag a gafwyd yr wythnos flaenorol. Llywyddwyd gan Mr. John Roberts, yr is-lvwydd. Caed cyfarfod bywiog a lliosog.—Rhagfyr 2ofed, cynhal- iwyd cyfarfod darllen, dan arweiniad ein Llywydd, y Parch. Daniel WilliLams. Ym- driniwyd ar y "Gair" yn v bennod gyn- tat o Efengyl loan. Cyfarfod buddiol i'r eithaf. Terfynwyd drwy ganu, a gweddi- wyd gan y llywydd. Y GYMDEITHAS DDIRWESTOL UN- DEBOL.-Y- mae v Gvmdeithas vma wedi dechreu yn bur lewyrchus. Rhagfyr 8fed, cafwyd y cyfarfod cyntaf, yr hwn a gynhal- iwyd yn addoldy y Bedyddwyr. Llywydd- wyd gan Mr. David Davies, Gwynfaen. Cafwyd anerchiadau gan Mr. J. R. Ellis a'r Parch. W. G. Owen (Llifon), y ddau o Abergele anerchiadau cryfion" a buddiol. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. John Ro- berts.—Rhagfyr ziain, cyfarfod amrywiaeth- ol. Cafwyd pedwarawd, parti y plant, un- awd, ac adroddiadau, yn ogystal ag anerch- iadu gan Mr. Hugh Roberts, arweinydd, a Mr. Hugh Evans, Pen' y Bedw. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. R. M. Hughes, Biyniau Cochion. DARLITH —Rhagfyr 12fed, yng Xghapel v \esleyaid, traddodwyd darlith benigamp gan Mr. W. Caenog Jones, Coedpoeth, ar y testyn gwych Fun a'i Llusern" (Florence Nightingale). Yn ol tystiolaeth gweinidog o'r tu allan in henwad ni, hon oedd y ddarlith oreu a glywodd erioed. Cy. merwyd y gadair gan Mr. David Evans, Maes y Fron. MARWOLAETHAU-—Y mae y symud gan y gelyn creulawn Angeu yn beth cy- ffredin yn ein plith yr wythnosau hyn. Yn ystod y ddwy wythnos gyntaf o'r mis pre- sennol cymerodd cynnifer ag wyth o far- woiaethau le. Cymerwyd rhai ymaith wedi cyrraedd oedran yr addewid, eraill yn ganol oed, ac yn ieuainc. Rhydd hyn rybudd i ninau, bawb o honom, mai fel lleidr yn y nos y daw, ac yn yr awr ni thybiom, felly dyledswydd pawb, hen ac ieuanc, vw "Bod yn barod. "-GOH..

GYFFIN.

ILLANDUDNO.

LLANFAIRFECHAN.

CARNARVON. j

Advertising

IHENMAENMAWR.

TALYBONT.

Advertising

GLAN CONWAY.

LLANDUDNO JUNCTION.

CAERHUN.

LLANDDOGET.