Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

Football.

..Oodow - COAST SENIOR LEAGUE.

...--..

Brief Football Results -

- - . -.:..-Welsh Amateur…

*tt .....&woJi nwnrc, iviaimgcress*…

News
Cite
Share

*tt &woJ i nwnrc, iviaimgcress* Cyfarfod Cystadleuol Trefriw Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol blynydtJol mewn cysylltiad a Chapel Peniel ddydd I-lun, pryd y cafwyd dan cyfarfod. Yr oedd rhagfen cyfarfod y prydnawn yn fwyaf arbenig ar gyfer y plant, ac yn yr adran yma cafwyd cystadleuaethau brwdfrydig. Yr oedd nifer y cantorion a'r adroddwyr yn lliosog1 iawn, a chafodd y beirniad mewn ami gystadleuaeth gryn waith i benderfynu. Yr oedd y rhaglen drwyddi yn un o r rhai imvyaf dyddoiol, a chanmolwn y pwyllgor ar en dewisiadau. Cadeirydd y Fvvyllgor oedd Mr Davies, Llys Gain yr ls-lywydd, Mr R. Roberts, Welby Cottage trysorydd, Mr Evans, Crafnant House a'r ysgrifenyddion diwyd oeddynt E. R. Thomas. Hill Crest, a J. Lloyd, Shop. Y beirniaid oeddynt Cerddoi iaeth, Mr O. Wil- liams, Eglwys Bach barddoniaeth, Parch O. Gaianydd Williams, Roewen-: adroddiadau, Parch W. E. Williams, Tal-y-Bont, a Mr T. W. Jones, Ysgoldy, iniaenaii rhyddiaeth, Parch Evan Davies a r Parch Henry Jones, Trefriw beirniaid yr amryw- iaeth a'r gelfyddydwaith oeddynt Mr Evans, Crafnant House Mr David Price, Llys Caradoc Mr Davies, Llys Gain Mr R. H. Williams, Mr R. E. Thomas, Mr Owen Jones, Mr R. Roberts, Mr S. Maurice Jones, Caer- narfon Mr Richard Jones, Victoria Terrace Mr Davies, Tal-y-Bont Mr Edwards, Wigfa Mr William Roberts (Gwilym Eigia) Mrs Owen, Guilder Rose Miss Hughes, Trefriw- terrace, a Miss Williams, Fir Villa, Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan Mr. Llewelyn G. Jones, Maes yr Haf, ac arwein- iwyd yn ddeheuig gan Mr. J. M. Williams, Gwynfa, Llanrwst. Cyfeiliwyd yn ystod y ddau gyfarfod gan Mrs. J. M. Williams. A ganlyn yw y rhestr o'r buddugwyrArholiad ar '• Rhodd Mam," dan w: I, Myfi Roberts, Tan-y-Bryn cydradd ail, W. T. Williams, Tan-y-Marian, ac Eigra Williams, Bryn Craf- nant 3, Julia Macguire, Trefriw. Adrodd (dan 10): I, Gwladys Owen, Plas Drain, Maenan 2, George Wilkins, Neuadd, Tref- riw; 3, Annie J. Jones, Aberllyn. Canu Dyma Feibl Anwyl lesu (dan 12): 1, Blod. Hughes, Ty'r Bont 2, E. J. Jones, Llan- rwst 3, Robert Williams, Nant Isa'; 4, Daisy Roberts. Hemio cadach I, Emily Williams, Nant 2, Katie Davies, Berthlwyd. Arholiad Safon IV. I, Blodweii Hughes, Ty'r Bont 2, J. M. Jones, Bee Hive. Eto Safon VII. I, Cecil Hughes, Paris House; 2, David Thomas, Hill Crest. Adrodd (dan 14): 1, Nancy Prysor, Uwch y Don 2, Dd. Thomas, Hill Crest. Traethawd," Hanes Joseph" Cydradd, Ted Roberts, Bryn Afon, Trefriw, a John Haydn Owen, 2, Carrington-terrace, Llanrwst. Canu Fendigedig Iesu (dan 16): r, Gertrude Davies, Bryn Pair, Trefriw; 2, Katie Owen, Plas Drain, Maenan. Arholiad ar Genesis: i, E. R. Thomas, Hill Crest; 2, E. LI. Roberts, Tan-y-Bryn 3, Lilian Hughes, Ty'r Bont. Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg: Miss Lei Williams, Regent House, Llanrwst. Deuawd, Y Faner Wen (dan 16): r, Annie C. Roberts a Gertrude Davies; 2, Gwladys a Katie Owen, Plas Drain. Casgiiad o bennau pregetliau i, G. Thomas, Rose Cottage 2, Cecil Hughes, Paris House; 3, Dd. Thomas, Hill Crest. Crochet tie: Miss Evans, Bryn Awel, Tref- riw. Canu y gan "Cartref," i rai heb ennill dros bum' swllt yn flaenorol Miss Leah Wil- liams, Hill Crest. Traethawd, Prif Nod- weddion Cymeriad Jacob r, Jesse Williams, Redditch. Corau plant Daeth tri chor > mlaen, sef C6r Peniel, Cor Eiranfa, a Chor Heol Scotland, Llanrwst. Goreu, Heol Scot- land (Mr. David Williams). CYFARFOD YR HWYR. Llywydd cyfarfod yr hwyr oedd Dr W. M. Williams, Trefriw, ac arweiniwyd gan Mr J. M. Williams. Y buddugwyr oeddynt :— Englyn, Dwr Cae Coch," Mr T. Herbert Hughes (Eryl Menai), Liatirwst. Ystori Nadolig Mr Jesse Williams, Redditch. Unawd Contralto neu Baritone Mr Robert Roberts (Trebor Crafnant), Trefriw. Traeth- awd i ferched, Dilyn CI ist U11 yn treio y tro cyntaf." "Casgliad o ddywediadau ein hynafiaid Edward Roberts, Bryn Afon, U e. VVytliawd Parti Mr Robert Ro- berts, Trefnw Prifadroddiad 1, Mr John Evans Henryd 2, Mr J. Lloyd, Shop, Tref- riw. Ffurfio deuddeg o gwestiynau oddiar y benod gyntat o'r Phillipiaid Mr Robert Evans, Crafnant House. Ffon Bugail Mr Richard Jones, Penybont, Llanddewi. Dar- luniad o wythnos o wyliati haf yn Nhrefriw Mr Davies, Llys Gain. Prif Draethawd Mr J. Llo) d, Shop, Trefriw. Canu y ddwy don, Tydvil ac Arabia Parti Mr Robert Roberts, Trefriw. Llythyr Serch I, Carwr Swil 2, Mr Robert Evans, Crafnant House. Hanes ac Ystyron Hen Fyrddynod Trefriw a'r Cyleh Mr Davies, Llys Gain. Her Unawd, Seren Bethlehem Mr Tim Evans, Llanbedr. Cyfansoddi darn i'w adrodd Ednant, Dolgellau. Prif Gystadleu- aeth Gorawl: Cor Trefriw (Mr Robert Ro- berts). Talwyd y diolchiadau arferol, ar gynygiad Mr Davies, yn cael ei eilio gan Mr -R. E. Thomas, a therfynwyd cyfartod da drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau."

--.----Llangernyw Competitive…

.-...---Llanrwst Competitive…

---.-..-...-Prize Day at Conway…

-----_.. Markets and Fairs.

COLWYN BAY.

RHOS-ON-SEA.

- CONWAY.