Hide Articles List

11 articles on this Page

The Late Mr. James Sugden,I…

Advertising

Nodion Ned Llwyd.

--.-.-NODION

News
Cite
Share

NODION Llywarch Hen. Nadolig Lawen iwch oil. Gwyl y teulu yw'r Nadolig, amser bwyta, eistedd wrth y tin a myned dros hen adgofion. A mwyaf guro'r ystormydd, melusaf fo'r tan a'r darpar o fewn. Y nefoedd a roddo hedd i'r ael- wydydd di-Nadolig, lie nad oes gynhesrwydd na llawnder bwyd. Onicl yw cymdeithas fel llether mynydd, un pen yn neioedd moelh a llawnder, a'r llall yn nyffrvn prinder i lawr ar y gwaelod. Ni ddaw un pen i lawr am yr hoffent wastraffu eu llawnder mawr, nid a'r pren arall i fyny am y mynant wastraffu eu pethau prin. Pwy echub gyrli dynion ? Gwaith hoft yw ceisio gwella eu heneidiau, ond anhawdd eu hachub o afeilion cym- deithas a'u hachub rhagddynt eu hunain. « Collwyd Trefi Maldwyn. Cefnodd Syr J. D. Rees ami. arhosodd i'r awr olaf fel y medrai ei gwerthu drosodd i ddwylaw ei gyfeillion newydd. Buasai gan v Rhyddfrydwyr well gobaith pe wedi cael gwybod yn gynt, a chael ychydig hamdden i gynefino eu dewisddyn a'r etholwyr. Nid yw'r Col. Pryse Jones yn siaradwr medrus nac yn wleidyddwr o fri. Ond y mae'n feistr llawer, yn feistr da, yn wr yng nghanol ei bobl, ac yn gymydog diddan a da iddynt oll. Wele'r Due Marlborough yn benaeth Ysgol o Broffwydi. Ymgynhyrfodd yn ddigllawn o achos son am wyr teitlog Prydain yn byw yn fras ar Ddoleri America, a goddaethiodd marwor ei ddig i fflam ysbryd proffwydo. Ni bydd y Vet.) byth yn ddeddf, byth yn ddeddf, yw unig wcledigaeth yr Ysgol New- ydd. Os felly, paham yr ymegniodd y Duciaid er troi'r Rhyddfrydwyr i'r comin. Dylai gwir broffwydi tyw yng ngoleu gobaith eu proffwydoliaeth. Ond os proflwydi gau ydynt, gwnaethant yn ddoeth dorchi eu llewis, a gornestu am eu bywyd dros eu plaid. Peroresiwn areithiau cyn y pol yw Vox populi, Vox Dei sef Llais y bobl, llais Duw." Anghofir hyn yn yr areithiau wedi'r pol. Can y gorchfygwr glod ei weision, a'i gefnogwyr a gogonedda eu sel, a'u hvm- roddiad dros egwyddorion mawrion eu plaid. Rhaid i'r collwr foddloni ar grystiau sychion fel Want of Time," Irish Vote," Screw," Lack of vehicles," The Old Register," Faulty Organisation," "Scurrilous misre- presentations," a Swing of the pendulum." Ni char neb gario baich ei bechod eu hun, rhaid cael bwch i'w gario i'r anialwch. A thyna enwau'r buchod. Och och ogoniant trueiniaid y ddau ffigwr. Rhyw bedwar ugain mwy neu lai, gafodd gwron Merched y Bleidlais yn Llun- dain, a nifer tebyg fu cwtws rhyw Geidwadwr yn Yscotland. Cawsant achos da i laesu gên, a chyngor da i wybod dyfnder yr afon cyn dechreu ei rhydio'r tro nesaf. Medrant ym- gysuro yn yr olwg ar un peth, sef fod eu pleidleisiau'n bleidleisiau drudion, y rhai drutaf yn yr Etholiad—yn werth o leiaf bum punt yr un o arian Lloegr." Teimla Mr. Balfour awydd i son am faint mwyafrif y Rhyddfrydwyr cawscm gan hir ar y pwngc pe rhan un Rhyddfrvdvvr fuasai 84 o bleid- leisiau, neu ddim 2 o fwyafrif fel yr aelod Ceidwadol dros Mile End. Ca'r Blaid Rydd- frydol waredigaeth amlwg ambell dro rhag craster balchter ei gclynion. Boed hysbys i'r byd a'r Bettws, y clirir a1 lan hen gel.'i'r Etholiad, y pctiau a growyd gan bawb yn ol ei anian i'w bwrpas ei hun. Buont beth mantais i'r Blaid fawr gyfan- soddiadol, yr hon o'i chymeryd ar ei gair ei hun, yw echel yr Ymerodraeth Brvdeinig, a throell natur yr holl greadigaeth. 1. Miloedd ar filoedd o gardiau denu, ar- graffedig mcwn llylhyrenau aur, a delw arbeisiau ar eu conglau. Rhoddwyd pris uchel o aur Lloegr am eu llunio, gwerthir hwy yn rhad, neu rhoddir' hwy yn rhad i'r neb a ledro eu defnyddio i'w hamcan cyntaf. Wele engraiff o bertrwydcl yr ymadroddion —" Ty'r Arglwyddi, ty'r bobl," Llais yr Arglwyddi, llais y bobl Yr Ar- glwyddi ddiogela hawliau'r bobl," Yr Ar- glwyddigeidw'r Germaniaid draw .c Yr Ar- glwyddi yw cefn yr Eglwys ac asgwrn cefn y Wladwriaeth," Ni thaflodd yr Arglwyddi'r Gyllideb allan, ac ni laddasant erioed yr un Abel gyfiawn o fesur," Ni wnaethant niwe 1 i neb ond iddynt eu hunain," Yr Arglwyddi yw angeu Sosialiaeth a meistriaid Cwydd- elod." 2. Yn eisiau, gwr ieuangc tafodrydd a thalentog, nid yn rhy foneddigaidd nac yn rhy ddoeth, i gymeryd o gwmpas Shoiv fwyst- filod Mr. F. E. Smith. Nid yw'r cyfrifoldeb yn fawr ar hyn o bryd, o herwydd wood- cock a chwanen oedd yr unig anifeiliaid ynddi ar ei hagoriad cyntaf yn Southport. Rhaid iddo fod yn Geidwadwr yn ol sel, o herwydd ni fedr Mr. Smith ymddiried ei miWIkctg; M ) t J ffydd. 3. Pum pleidlais Arglwydd Rosebery i'w rhoddi allan fel relics i'w dangos mewn am- gueddfa clwb Ceidwadol. Y mae'r breudd- wyd olaf h\\n o eiddo'r Goliath sy'n herio rhwng y byddinoedd yn wreiddiol i'r awdwr, ac Yn llawysgrifen yr awdwr ei hun. Deff- rodd, fel cawr yn deffro o win, a llcfodd pum pleidlais yn llai, dim ond pump yn llai, a'm holl feirw a fyddant fvw a chawn deilwrio'r Ail Siamber yn ol ewyllys ein calonau ein hunain. Y mae'r breuddwyd gwrach hwn ar femrwn glân, o herwydd er ei cllymi, ni wnaed fawr ddefnydd o hono. Ceidw'n dda, o achos y mae digon o nodd Geidwadol ym mysg ei ansoddau a thS.1 am ei gadw, pe ond i ddangos oferedd gweledigaethau gwleid- yddol. 4. Yn eisiau Ceidwadwr bonheddig i ofalu am ful Arglwydd Lansdowne—en%v'r anifail yw" Referendum." Bridiwyd ef gan Mr. J. L. Garvin, a phorthwyd ef yn ystablau'r Dailv Mail. Bendithiwyd ef gan Arglwydd Lansdowne, cyfrwywyd ef gan Mr. Balfour, a marchogwvd ef gan agos holl farctiogion Arthur. Rhaid ei gadw mewn gweirglodd feddal, neu fawnog, fel y tyfo ei garnau, y rhai wisgwyd i'r byw yn yr Etholiad diwedd- af. Nid yw ei ogoniant "llwyd yn ddim Uai am i'r Morning Past aIw ei fref yn fref lleidr. a'i alw vntau vn Dodge." Pan ddelo etholi td eto, rhaid ei ddwyn i'r wlad drachefn vn ebol ijortliianus. Caift ei bedoli o newydd ym mhatlwr Arglwydd Lans- downe gan Garvin neu Blatchford, neu rhyw euruch cvflogedig arall, a fo yng ngwasan- actli v Blaid, a'i iro'n dda a golden ointment. Rhaid ei gadw'n gudd rhag y Morning Post, Mr. A. Chamberlain, a Mr. F. E. Smith. 5. Ar werth hen Ysbienddrych Plaid," am nad yw ei wydrau up to date, na'r pell a dvnn yn agos ond tiroedd hud Garvin a Blatch- ford. (Jwelir trwyddo holl ddynion y LIcÙcl Rvddfrydol yn goracliod, Asquith wedi ei ffrwyno, George yn Welsh traitor, y mwyafrif o'u canlynwyr vn Sosialiaid, a'r gweddill yn Wyddelocl. Hen Ysbienclclrych gwych yw'r hen Ysbienddrych main. Gwelir trwyddo pan y mynoch holl longau Germany yng ngenau'r Daiwys, a Llundain a.r dan o long- au'r gelyn. Dengys betliau mor fyw, hyd oni chred dynion gwan mai pethau gwir yw'r dychmygion welir trwyddo. 6. Yn cislaii gof ncwvdd i wella hen beir- iant" TariH Reform." Wrth ei droi gan bob cawr a chorach am dair Ftholiad yn ofer, acth ei dreiliau'n rhydd. Tra'n segur, heb sedd yn y Senedd, fe ymgymcr Mr. Bonar Law ag arolygu'r adgyweirio. 7. Hen gorpws Doleri America." Trcng- odd v llabwst hwn o doriad calon falch am i Mr. Punch goeg chwerthin am ei ben. Hwyr- ach y cymer Liverpool drugaredd ar yr esgyrn, o herwydd y mae ganddi hi galon a medr i ymdrybaeddu mewn cwerylon diflas rhwng cenedl a chenedl yn achos eu crefydd. 8. Canoedd o ddelwau saint o Ulster-y tvbiwyd mesmeirio tyrfaoedd i lewygn a'r rhaiu n yr olwg ar y chwareu merthyru. Uvfais ddibwrpas iu hon. Rhoddir ei holl gelfi ymaith yn rhad, gan bydd eu hangen byth mwyach. Buont yma lawer gwaith o'r blaen cartrefant yma'n dda. 9. Tomen o feddyliau drwg, a geiriau anwir, a barotowyd i dduo cymeriad John Redmond Gan na wnaeth pobl Lloegr un cyfrif o honynt, a chan na ddaw Etholiad eto yn fnan. rhaid eu rhoddi ymaith. Ni chadwant, o herwydd mcddyliau drygionus a budrant, a'u drvgsawr a ladd eu caredigion. Boed hysbys am y glanhad enfawr hwn ym mhob congl. Boed hysbys am dano yn y dafarn, yn y swyddfa, vm mhlith y cychod, a chonglau'r strvd. Rhaid en carthu ymaith o herwydd y mae Garvin, Blatchford, a'r Observer am gynysg- aeddu'r Blaid a chelfi newydd grai. Y maent eisioes yn y dyfeisdy, a brysiant: achos v mae bywyd a bod Ty'r Bendefigaeth mewn dirfawr berygl.

---.--Incorporated Society…

----.. Croes Honotius."

[No title]

The Abergele Charges.I

■ -.---Gazette News.

--....--.. Death of Mr. J.…

----.-.---Death of Father…