Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

The Late Mr. James Sugden,I…

Advertising

Nodion Ned Llwyd.

News
Cite
Share

Nodion Ned Llwyd. DIOLCH. Mae Catrin a minnau yn teimlo yn ddiolch- gar iawn i'r bardd Penllyn am ei englynion da yn y rhifyn diweddaf, ac hefyd am ei wahoddiad carcdig i 'Steddfod y Calan. Mae yn debyg yr awn yno. Nid wyi wedi colli yr un o honynt ers blynyddau, ac nid yw yn debyg y collaf hon, beth bvnnag. Am Catrin. nis gallaf tod yn sicr a fydd hi yno ai peidio, ond mi a wn ei bod yn hoff iawn o Delynores Gwyngyll a'i thelyn, ac y mae wedi clywed ei bod hi yn gwasanaethu yn y 'Steddfod eleni. Cawn weled sut y bydd pethau. Mae gennym ddau gyhoeddiad arall cyn hynny. sef 'Steddfod Conwy y Nadolig yma (bydd yno le da, fel arfer), a Bethlehem, Colwyn Bay, nos Fawrth. Mae Mr. Jones, yr ysgrifennydd. yn garedig iawn wedi trefnu lie i ni ein dan. Da iawn y gwnaeth y pwyllgor YiJa yn nodi y Parch. D. S. Owen, B.A., yn feirniad yr adrodd- un o blant yr eglwys, ac un sydd yn Jprysur ap ddringo i safleoedd uchel. Mr. Vaughan Davies yw beirniad y canu yno. Mae yn ganwr ardderchog ei hun, ac wedi beirniadu llawer. Pa le bynnag y cynhelir cyfarfodydd yn y cylch yr wyf yn hyderu y ceir hwyl a heddwch ynddynt ac ar ol iddynt fyned heibio. Mae rhagolygon da am Iwyddiant yn Eglwys Bach, Penmachno, Trefriw, &c. Nid wyf yn guy bod llawer o'r manylion am danynt yn y lleoedd hyn, ond mi a wn yr arferir cael cyfarfodydd hwyliog a lIwydd- ianus. ac mae'n debyg y byddant felly eleni hr-fyd. PENMAENMAWR. Edrychir ymlaen at y Nadolig gyda llaw- enydd mewn llawer teulu. Amser i fod felly ydyw y Nadolig, ond y mae ffyrdd Rhaglun- iaeth yn dywyll. Daeth cwmwl du i ddau o deuluoedd ,y lie hwn pan oeddynt yn edrych ymlaen am lawenydd y Gwyliau. Cyfeirio yr wyf at y brofedigaeth chwerw ddaeth i gyfartod Mr. D. H. Owen, Arcade, a'r teulu, ym marwolaeth Mrs. Owen, a hynny mor sydyn ac anisgwyliadwy. Yr oedd Mrs. Owen yn un o'r gwragedd mwyaf siriol a charedig, ac yn anwyl a pharchus gan bawb. Mae a Mr. Owen a'r teulu gydymdeimlad llawer yn yr amgylchiad. Cledd a min yw claddu mam," a chredaf mai hyn ydyw teimlad v plant oil. —Yr amgylchiad arall ydyw marwolaeth Mr. Williams, un o feibion v Parch. Caleb Williams. Bu farw oddi cartref. Galwyd ef ymaith ym mlodau ei ddyddiau, Dyg- wyd ei gorft gartref, a chatodd angladd barchus a lliosog. Gotidiwn nad allaswn fod yn yr angladd. Bydded i'r teulu oil gael nerth i ymgynnal yn nyfnder y brofedig- aeth ddu." CLAN CONWY. Clywais ganmol mawr ar y cyngherdd fu yma yr wythnos ddiweddaf vn Fforddlas. Yr oedd Mr. Will Roberts, Bangor, a'i fab, Master Jack Roberts, yno yn canu, ac yn cael hwyl ardderchog. Yr ocddwn mewn cyfariod heno, lie yr oedd y mab yn canu, a rhaid i mi ddweyd ei fod yn ffafryn y, gvnulleidfa. Nid oes eisiau synnu at hyn, pan gotir ei fod yn un o'r choristers gan Dr. Rogers yn Eglwys Gadeiriol Bangor. Y NADOLIG. Yr oeddwn wedi meddwl y buaswn yn cael hamdden i ysgrifennu ystori at y Nadolig yma. Dyna welir mewn llawer o bapurau. Pan oeddwn yn dychweiyd gartref heno yn y tren, ceisiwn feddwl a chofio am rywbeth allai fod yn ddyddorol. Cofiais am dair ystori a glywais am fyfyrwyr Cymreig, a dyma hwy :— MERCHED Y FFARM. Un nos Sadwrn, yr ocdd myfyriwr yn myned i'w gyhoeddiad ym Mon. Can fod y lie gryn filltir o'r orsaf, yr oedd yn arferiad anfon cerbyd i gyfarfod y pregethwr. Fel rheol, byddent yn arfer aros gyda Mr. a Mrs. Owen, fiermwyr parchus a chvfrifol. Y gwas anfonid amlaf i'r stesion gyda'r cerbyd, ond ar v nos Sadwrn hwn aeth Mr. Owen, ac nid oedd wedi cymeryd fawr o amser i dwtio llawer arno ei hun. Pan oeddynt yn myned ymlaen ar y daith, soniodd y myfyriwr am y teulu yr oedd yn myned i aros gyda hwy, a thybiai mai y gwas oedd gydag ef. Dech- reuodd holi. Oes acw lawer o ferched ? Ydyn' nhw yn rhai go diysion ? Ydyn' nhw yn werth tipvn o bres ? Oes ganddvnt gar- iadau ? a llawer o gwestiynau eraill i'r un cyfeiriad, ac atebai Mr. Owen vr oil fel gwas. Cyrhaeddwyd at y Harm. Safodd y cerbyd wrth y drws. Galwodd Mr. Owen y gwas i ddod yno a rhoddi y ceffyl i fewn, &c., a'r pryd hyn y gwelodd y myfyriwr pwv oedd ei gerbydwr. Noson anesmwyth iawn a gafodd wedi hyn, a buasai yn well ganddo na Ilawer pe gaIlasai ddianc oddi yno. Maddeuodd Mr. Owen iddo, ond byth er hynny y mae yn fwy gofalus pan yn myned i'w gyhoeddiadau. Gan nad wyf yn rhoddi ei enw, disgwvliaf y bydd iddo yntau faddeu i minnau am roddi y stori i fewn. MYN D I ELD1. Dyma un arall. Yn ardal y mae addoldy o'r enw Elim. Un nos Sadwrn elai myfyriwr i'w gyhoeddiad yno. Yr oedd wedi aros yn hwyr cyn cychwyn. Yr oedd y lie yn ddieithr iddo, ond cerddai ymlaen. Gwelai oleuni mewn ffenestr llofft ty ar fin v ffordd. Penderfynodd ofyn iddynt yno am gyfarwyddid. Curodd y drws. Agorwyd y ftenestr, a dvma'r ymddiddan fu yno :— Pwy sydd yna ? Ellwch chwi ddweyd wrthyf, os gwelwch yn dda, pa ffordd yr af at Elim ? Pwy ydych ? Pregethwr ydwyf, ac eisiau mynd at Elim." Ewch adref, rhag eich cywilydd eisiau mynd at r Elin yr adeg- yma o'r nos." Ac i ffwrdd y bu rhaid iddo fynd ar hyn CAEL EI DF) kL. Ar nos Sadwrn yn yr haf, aeth un myfyr- y iwr i'w gyhoeddiad i un o drefi glan y mor. Gan ei fod yno yn gynnar, aeth am dro. Eis- teddodd i lawr ar un o'r eisteddleoedd ar y Promenade. Yn ei ymyl cisteddai merch ieuanc, a llyfr yn ei llaw. Yn fuan aeth vn sgwrs rhwng y ddau am y tvwydd, &c. Wedi bod yno felly am amser, sylwodd y ferch ei bod yn myned gartref. Cymerodd yntau fantais ar hynny i ofyn gawsai fyned i'w danfon. Teimlai hi yn amharod i gydsvnio. Holai ef o ba le yr oedd yn dyfod ? A oedd am aros yn y lie yn hir, &c. ? Dywedodd mai trafaehwr ydoedd, a'i iod yn treulio ei wyliau yn y lie. Yn gweled golwg barchus arno, ac yn credu ei dystiolaeth am dano ei hun, caniataodd y ferch iddo fyned gyda hi i gvfeiriad ei chartref. Cwahanwyd ar y dealItwriaeth eu bod i gyfarfod drachefn nos Lun. Bore Saboth aetii y myfyriwr i'r capel, ac i'r pulpud. Cododd i fyny i roddi yr enivn allan, ac er ei fraw pwy welai wrth yr offeryn ond y ferch ieuanc yr oedd wedi bod yn dweyd yr an wired dau wrthi nos Sadwrn. Felly cafodd ef ei ddal. Dyna'r tair ystori. I-e allai y bydd rhyw- rai yn amen nad ydynt wirionedd. Wrth y cvfryw yn unig dywedaf y gallaf roddi ciia-ait y tri pe angen. Y PUSMYN. Mae llawer o honom yn mcddwl mai bywyd dibryder a diberygl ydyw bywyd y rhai hyn, ond darllenwn yn ami eu bod yn dioddcf llawer. Mae yr hyn sydd wedi cymeryd lie yn Llundain y dydd o'r blaen yn sicr o fod yn ein gwneud yn iwy parod i gydym- deimlo a'r heddgeidwaid. Mae yn ofnadwy o beth fod dynion yn cael eu llofruddio fol hvn prtn yn cyflawni en dyledswyddau. Nid oes gennyf ond gobeithio y llwyddir i ddal y lladron gwaedlyd hyn, ac y cospir hwy cr esiampl i eraill Dyma y Nodion olaf gaf ysgriiennu cyn y Nadolig. Alac Catrin a minnau o galon yn dymuno Nadolig Llawen i'r holl ddarllenwyr ac i'r staff i gvd. NED LLWYD." Weekly News Oifice, Conwy.

--.-.-NODION

---.--Incorporated Society…

----.. Croes Honotius."

[No title]

The Abergele Charges.I

■ -.---Gazette News.

--....--.. Death of Mr. J.…

----.-.---Death of Father…