Skip to main content
Hide Articles List

16 articles on this Page

Drama Gymreig.

News
Cite
Share

Drama Gymreig. Dewis Aelod Seneddol. MEWN UN ACT. Golygfa Pwyllgor yn un o Ystafelloedd y Dref. Ysgrihnvdd Anwyl Gyfeillion chwi wyddoch oil amcan ein cyfarfod, sef dewis Aelod Seneddol. o leiaf dewis gwr cymwys yn Ymgeisydd. Er mwyn trefn, fel y medrom symud ym mlaen yn rheolaidd, a wnewch chwi ddewis Cadeirydd ? Aelod Mr. Ysgribin, yr wy'n cynyg William Llwyd, Pant y Carw. Aelod A minau yn eilio. Ysg. Pawb o'r un farn ———— Mrs. Griffiths Yn araf deg. Yr ydwyf finau yn cynyg Mrs. Stanley, Rose Villa. AIrs. Pugh A minau yn eilio. Ysg. Yr oeddem bron wedi pasio William Llwyd cvn i chwi godi Mrs. Griffiths. Mrs. Grifiiths Bron oedd hi. Y mae'n bosibl dal y march, pan na chaffo ond ei ben allan. John Jones: Holo Diwrnod golchi ynte? A phob amser, pan fo'r lleidr yn stryd ni, y mae'r plisman mewn stryd arall. Mrs. Griffiths Chwi ddylech, o good man- ners, ganiatau i foneddiges fel Mrs. Stanley gael ei dewis. Onid yw resyn fod pobl mor anfoneddigaidd. Prin y byddai'n ddoeth i ni gamol ein hunain, a gwell i ni ddewis yn foneddigaidd, na saethu'r naill y llall. Ysg. Beth a wnawn ni, gyfeillion ? Mrs. Pugh: Pleidleisio. Rhaid i chwi bleidleisio. A gofelwch am gadw'r merched yn gaethion. John Jones: Holo Gan sicred a bod bedwen uwch y pistyll, dyma Syffra Gets yn eu lliw eu hunain. Mrs. Pugh Ha, ha. Wala ha, ha, ha. Da iawn, John Jones. Syffra Gets Da iawn. John Jones: Da y clybu'r byddar, os clyw o beth. Ysg. Trefn, gyfeillion. Rhaid i ni symud ym mlaen. Mrs. Griffiths Gan eich bod yn son am drefn, y drefn oreu y gwn i am dani fyddai i Mr. Llwyd wrtkod cvmeryd ei cnwi, a chan- iatau i Mrs. Stanley i s/ael ei dewis. Yr wyf yn apelio at Mr. Llwyd i dynu yn ol. Peid- iwch rhedeg eich hun ar draws boneddiges. John /ones Gan wired a'r Pader, Syffra Gets yw'r rhein. Mi ddaw yn fellt a thar- anau cyn pen yr awr. Pwy ydyw'r ladies yma, Mr. Ysgrifenydd ? Ydyw eu gwyr yn gwybod eu cerdded ? Y mae'r bara yn siwr o losgi, a hwythau yn y fan yma yn codi eu hwyliau i'r gwynt. Ysg. Trefn. Treln. Rhaid i ni votio, os gwelwch yn dda, Mrs. Griffiths. O'm rhan i, chwi gewch ymladd ei hochr hi wedi i ni ddewis Cadeirydd. Pawb sydd dros Mrs. Stanley. Un, dwy, tair. Tair. John Jones: Oes gan Mrs. ———- Ysg. Mrs. Stanley. John Jones: lë, Mrs. Stanley, hawl i votio drosti ei hun ? Ysg. Pawb sydd dros William Llwyd. Chwech. John Jones Good boy. Chwech, heb i neb votio trosto ei hun. Ysg. Y mae'n bleser calon i mi alw ar William Llwyd i'r gadair. A oes heddwch ? A mnw Heddweh. William LlWHl Gyfeillion,—Diolch i chwi am yr anrhydedd. Er i mi feddwl ein bod am gael storom, a hono yn anisgwyliadwy, daeth hindda fel hwyrnos ym Mai. Rhaid i mi apelio atoch am gydweithrediad o hyn i ddiwedd y Pw) llgor. Y mae genym waith pwysig, sef dewis Ymgeisydd, un i sefyll yn yr Etholiad nesaf; un i redeg hefyd am y Senedd, ac i gyredd yno yn gyntaf. Y mae Mr. Siriol Siriol, Yswain, o Bant Eistedd, yn rhoddi ei swydd i fyny. Bu Mr. Siriol yn aelod campus, ac anhawdd iawn fydd cael ei gystal. Y mae yn adnabod pawb yn y lie yma. Yn adnabod pawb wrth ei enw. Rhoddodd yn hael at bob achos agorodd bob Basar a Chyngherdd yn y wlad yma er's amser Noah. Hon oedd ei ddawn benaf, a gwnaeth ddefnydd campus o honi yn ein plith. Er mai siaradwr cyffrcdin ydoedd, yr oedd ei farn yn ddiogcl iawn, a rhoddodd hi bob amser i'n plaid ni. Un o'r hen stamp yw Air. Siriol, riistaw oddi cartref, a byw i waith adref. Talodd bob amser ei dreiliau i'r Senedd, a thalodd yn dda i ni am ei helpio. Mrs. Griffiths Cwylnos Mr. Siriol Siriol, Yswain, y diweddar aelod dros Sir Ddoe ac Echdoe. Er cof am ei elusenau gartref, a'i ddistawrwydd yn y Senedd. Yr olaf o hen farwniaid Cymru, y rhai a dalasant yn ddrud am gael myncd i'r Senedd wrth eu pwys, i ddim ond ysmocio a siarad yn yr ystafell ginio. Mi gyll beef a gwin Ty'r Cyffredin un o'u caredigion penaf, a chaiff yr esmwvth- faingc hamdden i gael ei cliefn ati. Huned mewn hedd. Cadeirydd Nid da gormod o ddim, Mrs. Griffiths. Yr oeddwn heb gwbl orffen fy anerchiad. Mrs. Griffiths Ho A oeddech wedi ei pharotoi ? Cadeirydd Rhaid i bawb feddwl beth i'w ddyweyd ar amgylchiadau pwysig. Mrs. Griffiths Hen gastiau'r dynion eto. Chwi wyddech mai chwi fvddai'r Cadeirydd. Twyll i gyd oedd y tipyn votio. John Jones Gan wired a'r Pader, rhai dewr yw'r Syffra Gets yma. Ti darewaist yr hoel ar ei phen, 'y mechan i. Nid rhyfedd i'r haid hono roddi tro ar natur Lloyd George, nes i'w thu Qljwith ddpd i'r golwg. Cadetrydrl Wei, ein pwngc fit yw dewis olynydd i Mr. Siriol Siriol. Y mae pedwar o bobl gymwys i ymddangos o'n blaen, a'n gwaith yw dewis y goreu. A oes genych rhyw brif nodau, fel pethau anhebgor aelod newydd ? Y mae'n ymddangos na thai yr hen wcnith cartref ? rhaid i'r merched gael peilliad tramor, o herwydd y mae eu blus hwy am grempogau. Walter Morgan Y mae cyfeillion Llan- gam wedi'm hanfon i yma i bleidleisio yn union fel ffon. Y mae acw giam," a giam yn dinistrio pob peth. Rhaid i'r bobl acw gerdded yn nhraed eu sanau rhag gwylltio'r giam. Os giam Pharoah oedd y soflieir hyny gafodd Israel, rhaid mai i'r fan acw y dont yn awr. A'r felltith yw, ni cha'r bobl acw eu rhoddi yn eu crochanau. A phe lladdai'r cwn un o honynt, rhaid i'w berchenog hel ei bac i Batagonia. Da chwi, os na fedrwch gael aelod heb fod yn ffrind i'r giam," treiwch gael un ddaw a brid newydd o gwn i ni. 0 achos y mae cwn Llangam acw yn casau'r giam a chas cyflawn, ac am eu lladd bod ag un. A rhwng fod y cwn yn eu casau, a'r boneddigion yn eu caru. y mae Llangam acv/ yn Waterloo giam." Cadeirydd. Mesur bvr, gyfeillion. Ewch trwy eich stori yn fvr, rhag i ni golli llawer o amser. John Jones Beth pe'r anfonech Col. Jackson, Llangam Hall, i'r Senedd ? A phan bydd ef yn cerdded ol a blaen i bleid- leisio ar fan bethau, ac yn chwilio am gwn yn caru pheasants, chwi gewch chwithau hamdden i ollwng Tango a Nero ar dda pluog Llangam. Moms Morgan Chwareu teg i gwn Llan- gam. Y mae eu meistri a hwythau bron o'r un anian. Mrs. Griffiths Yr ydym ni'r merched wedi hen flino ar y son am v giam," deddf- au r tir," Dadgysylltiad," a "Iasnach Rydd." Y mae'r enwau yma fel cerddi ceiniog, yn cael eu canu ym mhob ffair. Bancri Etholiad ydynt. Tynir hwy allan o'r box ar adeg Etholiad, a phan elo hono trosodd, rhoddir hwy yng nghvmdogaeth y box drachefn, hyd oni ddelo amser arall o bysgota votes. Rhaid i ni. gael ymgeisydd a. roddo bleidlais i ferched. Yr ydym cvn galled a'r dynion, yn dioddef caledi fel hwvthau, ac vn gorfod talu ugain swllt y bunt ym mhob man. A phwy glywodd am ferched vn magu giam i boeni neb ? Qldrris Morgan Magu llwvnogod er mwyn cael hela, a chael golwg ar y bonedd- igion, dyna felltith ein ladies. John Jones: Pleidlais i ferched. Dyna'r glusthir o'i gwal o'r diwedd. Mi aroglais i onion pan welais y rhein gyntaf. Mr. Cad- eirydd, fedrant hwy bobi, ysgwn i, a thylino, a phobi bara ceirch, a smwddio, a chweirio'r gwelyau ? Mrs. Stanley 0 medrwn siwr a gwerthu bustach hefyd. Rhaid i ni ofalu am danom ein hunain, a rhaid i rai o honom bobi i'n gwyr hefyd, neu fe newyna'r creaduriaid anfedrus, a phendew. John Jones: Twt, twt. Mrs. Stanley Twtiwch chwi faint a lynoch arnoch eich hunain. Y mae yn hen bryd i chwi ddechreu, yn lie cadw slaves hyd yn od i osod eich gwallt mewn trefn. Gwilym Wyn Gadewch i ni, Mr. Cadeir- ydd, ddal v ciorianau'n deg, a cherdded yn araf. Rhed y cyfeillion hyn bob un ar ol yr eiddo ei hun. Rhowch i ni symud yn y lianw daioni, y daioni penaf i bawb, yn lie ceinioca a'n shopau gwynion ein hunain. Onid vw egwyddorion eang Rhyddfrydiaeth yn cynwys bendith i bawb ? Ein hangen yw, dyn yn credu'r rhai hyny a gwr digon llydan ei galon i'w byw ym mhob man, a'u gweith- redu at bawb. Gwr dynha'n gyliawn gor- tynau'r giam," gwr rydd Bleidlais i ferched," Ddadgysyllta'r Eglwys," leiha'r tafarnau, a rydd fanteision addysg i bawb, ac a geidw gwpwrdd pawb yn llawn o dan fendith Masnach Rydd." Morris AInrgan Pob un yr eiddo ei hun," meddai Mr. Wyn y mae peth synwyr yn hyny. Cof da gen i glywed y Mynyddog yn canu am i bawb rwyfo ei gwch ei hun." Myn cebystr, yr wyf fi am neidio i'm cwch fy hun. Y mae'r ardreth yn uchel, a'r trethi gan uched ag Eryrod Eryri. A thyma ychain Canada yn dod i'r wlad wrth y mil- oedd. Beth am y doll ? Gwilym Wyn Os yw'r tir yn uchel tynwch ef i lawr. Gwesgwch y cryf yn ogystal a'r gwan. Wrth lefain am doll ar fwyd, cofiwch am ein railiynau tlodion, ein gweddwon, a'n hamddifaid. Cadeirydd Heb ddadleu ychwaneg, fe alwn ar yr ymgeiswyr, er cael eu barn am bvnciau'r dydd. A chewch chwithau ofyn iddynt unrhyw gwestiwn a phan ddelo'r diwedd, ni gawn rydd ymddiddan, a dewis y goreu. Mr. Y-grifenydd, a wnewch chwi alw ar Syr Arthur Wynn, Yr Hendref. (Syr Arthur Wynn yn dod i fewn.) Syr Arthur Wynn: Dydd da, bonedd- igions. Cadeirydd Dydd da i chwi Syr Arthur. Rhowch i ni air bach o'ch credo wleidyddol. Ni wyddom oil am danoch fel cymydog car- edig, a'ch gweithredoedd da. Ond rhaid i ni ofalu yn y dyddiau hyn, dyddiau'r twll du, am bobl o rhyw syniadau pendant o ran eu gwleidyddiaeth. Chwi gofiwch ei bod yn llawer mwy pwysig beth fo dynion yn ei gredu, na beth fo dynion yn cu wneyd. Beth yw eich barn ar Home Rule," Llwytho Llongau," Y Fasnach Opium," a phob helynt bell arall. A phellaf fo'r helynt, melusaf fo'r mel. Syr Arthur Wynn Wei, Mr. Chairman a Gentlemen. Fi coho dynion mawr yn y gwlad yma. Fi dim yn gwbod llawer am Baliour a Asq'iith. Ond fi yn gwbod am bob hen gwr clawd yn y glad yma, a gmig fi gwbod am bob lien graig clawd yn can i milltir round. Cadeirydd Diolch i chwi, Syr Arthur. One beth yw eich barn am Home Rule" ? Syr Arthur Home Ritle 0, ma Lady Wynn yn edrach ar ol fi, a fi yn edrach ar ol Lady Wynn. Cadeirydd Esgusodwch fi, Syr Arthur. Home Rule" i'r Iwerddon. Syr Arthur O dear rue. Gwyddel dyn neis iawn dyn neis iawn. Ond ma fo cyn wyllted a colcarth nos Clangaea. A pan fo fo wedi gwylltio, waeth canddo fo tori pen chi, mwy na tori cynffon lamb. Walter Morgan A ydych chwi am gadw llawer o giam," Syr Arthur ? A bleidiwch chwi ddeddf yn gwahardd eu magu, dim ond y rhai a fago'r tir yn naturiol ? Syr Arthur Giam," Walter Morgan ? Ma fi'n magu rhyw 'chydig dwsins, er mwyn cael rhai i hanfon i cymdogion a ffrends at Christmas. Mi daru mi danfon cwpwl i chi, Walter. Oeddan nhw'n da, Walter ? Gwilym Wynn Y mae eich tir yn ddrud, Syr Arthur. Syr Arthur Tir fi'n uchel Mi daeth Mrs. Gronwy, Siglan Ganol, ataf fi chwe mis yn ol, a medda fo, Tir chi, Syr Arthur, yn rhy drud. Ond fi gwedi mynd yn hen, methu farmio, a rhy clawd i fyw heb frarmio. Beth 'na i, Syr Arthur ? Oh," medda fi, y ma cin fi plan i chi fyw fel gwr byn- heddig. Faint ydi maint ffarm chi ? Cant a haner o acrcs," medda fo. A faint ydi rhent chi ? Cant a haner o punau," medda fo. Gosodwch y tir ar Sale." Mi gnaeth. Mi aeth tenantiaid fi yno, a rhoddasant dwy punt yr acer am bob cwys. Dvna fo. Ma fi yn cal cant a haner o rent, a ma Mrs. Gronwy yn cal cant a haner am fyw yn y ty. Y ma'r hen graig anwl yn cal cant a haner, a chal aros yn i wely tan ddeg y bore. Ac os licith o, mi geith fynd i glwydo o flacn yr iar. John Jones Tu yma i glawdd y mynydd, ni chlywais y fath beth. Campus, campus, Syr Arthur Nid oes guro ar hen frid y wlad. Mrs. Stanley A ydych chwi yn barod i roddi pleidlais i ferched ? Syr Arthur I he your pardon, mam. How do you do ? How are they all at home, mam ? Wei, mam, mi gwedodd hen person wrtha i, a Lady Wynn, a hen gwr duwiol oedd o hefyd. Syr Arthur," ebra fo, un ydych chwi a Lady Wynn mwyach, a'r hyn a unodd Duw na wahaned dyn." A mi daru i ni cymryd cyngor yr hen gwr Duw. Mi byddwn ni yn mynd am dro yn yr un car, ac yn yfed te o'r un te pot. Un pwrs pres sy gynon ni. Mi bydda i yn rhoi ei benthyg o i Lady Wynn i prynu overcoat i mi, a mi fydd hithau yn rhoi ei benthyg o i mi i brynu het smart iddi hithau, a ma'r dau bron yr un bris. Gai ofyn cwestiwn i chwi, Mrs. Stan- ley ? Mrs. Stanley Faint a fynoch. Syr Arthur Qes gynoch chi gwr ? Mrs. Stanley Oes. Syr Arthur Pa diwrnod yw hi heddyw ? Mrs. Stanley Dydd Llun. Syr Arthur Y mae Lady Wynn yn edrach ar ol y merched yn colchi a phobi heddyw. Sut y ma chi'n gneyd ? Mrs. Stanley Anfcn y dillad allan y byddaf fi, Syr Arthur 0 felly; y ma'r dillad yn medru'r ffordd ar ol y graig. Pwy sy'n talu ? Mrs. Pugh Hollol anfoneddigaidd, Syr Arthur. Syr Arthur Oh How do you do, mam, I beg your pardon, mam. More fine leathers. Dydd da, mam. (Myned allan.) Cadeirydd: Y nesaf yw Mr. Cymydog Jones. (Mr. Cymydog Jones yn dod i fewn.) Air. Cymydog Jones Chwi wyddoch fy marn i ar bynciau'r dydd. Nid oes i mi ran na chyfran ym mhethau pell y byd. Doeth- ach i'm tyb i yw dechrel1 gartref. Y mae'r tlodi a'r cyni sydd yn y wlad wedi'm harwain i gredu y rhaid wrth gyfnewidiau trylwyr yng nghvmdeithas. Rhaid cael Ilai o Longau Rhyfcl, llai o segurwyr yn Llundain yn cael cyiiogau mawrion, a miloedd yn ncwynu yng nghvsgod eu drws. Rhaid rhoddi'r Raihcavs i'r Llywodraeth, a'r tir i'r bob!, a'r giam i bawb a fedro eu dal a'u coginio. John Jones Walter Morgan, dyma'r dyn i Langam. Mi gewch ginio giam gan hwn. Ewch ym mlaen, 'y machgen i. Cymydog Jones Rhaid plygu cymdeithas vn ei haner, fel y delo'r pen goludog i gyredd angen y pen tlawd. Dylai'r diwaith cyfoethog, am na fynant weithio, gynorth- wyo'r diwaith tlawd, am na chant waith. Home Rule i bawb, i bawb a phleidlais i ferched, i bob mab a merch dros un ar hugain. Anfoner i'r Senedd ein pobl oreu, a thaler eu treiliau. Mrs. Griffiths A lioffecli chwi weled merched vn aelodau o'r Senedd ? Cymydog Jones Prin y mae'r cwestiwn hwn wedi cael ystyriacth eto. Mrs. Griffiths Credo dda, ond gwr cloff o'i glun. David Davies Beth am y ddiod feddwol ? A roddweh chwi eich pleidlais i symud pob tafarii o'r wlad ? Cymydog Jones Dewisiad lleol dan rai amgylchiadau.

Advertising

Cyfarfod Ysgolion M C. Dosbarth…

Advertising

NODIONI Llywarch Hen.

Advertising

---.-Pobpeth yn Dod i'w Le.

-----.iGIIaC:---Y Pethau a…

......--.-Congl yr Awen.

Advertising

Abergele Sparks.

---.----Denbighshire Roads.

Colwyn Bay Doctor in South…

Advertising

Drama Gymreig.

NODIONI Llywarch Hen.