Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION Llywarch Hen.

News
Cite
Share

NODION Llywarch Hen. Creuir nifer dda o Gymdeithasau Cym- mrodoiion. Hwy wnant les, hyrwyddant ymchwil i hanes a lien, a chadwant yn fyw ein teimlad gwladgar. Cadwer hwy rhag bod yn fendith i Ddic Shon Dafyddiaeth. Fei rheol Saesneg yw eu hiaith, a noddant y Gymraeg yn drugarog, fel pe bai'n hen wraig gloff o'r strud. Dylent gredu ynddi a mynu ei llwyddo o'r heol i'r aelwyd. Ni cha Mesur y Shio-pau fordaith holl- ol dawel pan ddaw oddi ar y blociau i ddeu- for gyfarfod ein Senedd. Cond-emnia'r ar- weinwyr Rhyddfrydol a'r enwadau crefydd- ol rai o'l adranau. Condemnia rhai y Mesur am y rhydd fantais i fasnachu i'r estroniaid a ddaw i'n gwlad, a halogi ein Sabboth. Rhy hunan-gyfiawn yw dedfryd o'r fath. A fedrwn ni ddal y rawf? Os na phrynwn, ni egyr neb ei shiop. Ofnaf yn onest, os ceir hawl i fasnachu, y gwelir Cymry glan yn troi eu troed oddi wrth y Sabboth. Felly, rhwydd hynt gaffo'r ymysgwyd i dori darnau o'r Mesur ymaith. Bydd ein gwlad cyn bo hit yn lan o bob gwahanglwyf, heb neb yn cwyno. Ni wnaed erioed gymaint er ein cael yn iach. Mud- iad mawr yw'r vmgyrch ar y Darfodedig- aeth. Ofnaf am ei wedd unochrog. Nid digon adeiladu sefydliadau iach i wella'r claf; rhaid myned l'n tai bychain a diawyr i ladd yr afiechyd ei hun. Os na leddir y cadarn ei hun, anhawdd dwyn y caffeiliad oddi arno. Ni fedraf gredu y gwadiad ohono fel anhwyldeb etifeddol, oherwydd hyd y gwelais, llinell teulu yw ei rodfa arferol. Mudiad arall canmoladwy yw gosod gwein- yddesau draw ac yma yn y wlad. Nid oes odid ardal heb nurse, hoffir hwy'n fawr gan y bobl, a bendithir eu gwasanaeth. Chware'] plant yw chwareu tan gwyllt ar ddydd Brad y Pwdr Gwn." Gwnaeth Guy Fawkes ei hun yn sant anfarwol, a chedwir ei wy 1 yn llawen yn ol yr arfer Babaidd o gadw gwyliau yn ein gwlad ganrifoedd yn ol. Ni wyr odid neb am y Brad ni wydd- ont amgen nad oedd Guy yn un o gymwyn- aswyr cymdeithas. Edrych yn ddistawddig v mae'r Pabyddion ar y chwareu. Iddynt hwy a phawb a wyr yr hanes y mae'r di- grifwch yn tdgofio hen falais Babaidd. 0 barch i deimladau, ac i bwrpas cymdogaeth dda, dylid rhoddi heibio'r digrifwch. Ond rhaid i ni fodloni, tra parhao, i ddioddef dingcod pechodau ein tadau. Un o feiau amlwg y Pabyddion yw eu hanfedr i ddi- oddef, a hyny pan dynont y gosb ar eu hysgwyddau eu hunain. Yn y "Times" cwyna'r Mri. Gilbey, perchenogion gwingafnau'r wlad, na bu ffrwyth eleni ar y gwinwvdd. Ni bu amser cyn waethed ers can mlynedd. Difethwyd hwy gan haf oerfelog, ac er cael Medi tesog ni fu'n foddion i roddi atwf yn y grawnwin. Moeth ddiangen yw gwin i bobl y wlad hon, a chwpanau pleser y gwr goludog. Gwir yr yf y Ffrancwr ei win fel dwfr, ac am dro cymered ddwfr yn lie gwin, fel y caffo fan- tais i ddeall ei fod well a rhatach na'r ddiod goch. Newydd drwg i lawer fydd y newydd am newyn gwin, n. gwaeth newydd i'r rhai sy'n byw yn dda ar ei bris uchel, nag i'r rhai sy'n caru ei flas. Cymered ein tlodion bwyll a hamdden i ystyried eu budd eu hunain yn y newid o gymorth plwyf i'r Bensiwn. Gwelaf fod rhai Byrddau Gwarcheidwaid yn brysio i'w gorfodi i gymeryd y Bensiwn. Ni fedd y Byrddau rith o hawl i ddim o'r fath, ac y mae eu gwaith yn gosod eu swyddogion i anog ar hyn yn gam byrbwyll o dan am- gylchiadau mor dywyll. Egwyddor y Ben- siwn yw helpio pobl sydd yn medru helpio ychydig arnynt eu hunain. Nid rhoddi pum swllt o Bensiwn fel swn digonol i fyw wnaeth Mr. Lloyd George, ond eu rhoddi i helpu rhyw arian arall. Cymorth i bobl heb ddim yw cymorth plwyf ni chant hwy weithio diwrnod o waith pe medrant heb fod rtlewn perygl o gael tynu eu pau blwyfol i lawr. Y mae gwaith y Byrddau yn ceisio bwrw eu baich ar Bwrs y Bensiwn yn fwrw ymaith eu cyfrifoldeb eu hunain, a byddant hwy a'r tlodion mewn anhawster yn fuan. Gwell i bob tlawd fedr enill ychydig ac sydd yn cael llai na phum swllt o'r plwy, gwell iddynt gymeryd y Bensiwn. Ond am y rhai llesg ac aflach a hollol ddi-help, gwell iddynt lynu wrth y plwy. Gall y bydd rhaid iddynt gael chwaneg na phum swllt yn fuan. GaHant gael hyny gan y plwy, ond ni chant ddim ond y pum swllt gan y Bensiwn. Y mae'r meddyg yn aros iddynt fel o'r blaen. v Math o bwyilgor i godi gwynt i faneri'r Blaid Geidwadol yw'r peth a eiwir yn Mudiad Reveille." Symbyla Mr. Balfour, a chan gorn hela croch, er codi ei blaid i ryfel yn ei erbyn. Daeth cryndod i arau'r mudiad pan welodd faner Unebiaeth yn ym- ollwng yn y gwynt. Rhaid cael gwynt i gyhwyfan hono deued a ddelo. Oherwydd fe fyddai colli'r Iwerddon fel march hwylus yn y redegfa wleidyddol yn golled anadfer- adwy Yn ol Cyhoeddiad y gwyr hyn, gelyniaeth, casineb, a llid" yw'r ysbryd- ion sy'n gweithio'r Blaid Ryddfrydol. A phan dderfydd y rhai'n, fe dderfydd am y blaid, am y deifydd ei chwant i anrheithio. Darnodiad hallt, ond hawdd i Geidwadwr goludog ei gredu, am fod bysedd Cvllideb Mr. Lloyd George yn myned yn lied ddwfn i'w llogellau. O'r ochr arall, eu hofn am y Blaid Geidwadol yw y llithra yn ddim am- gen than a mere trading concern prepared to barter any principle for any temporary advantage." Dyna farn y blaid am dani ei hun. Tradin concern oedd y Wleid- yddiaeith a'n cymhellodd i ryfel gostus De hun. "Trading concern oedd y Wleid- llaw cwmniau yw'r Wleidyddiaeth a lefa am fasnach gaeth i wella'r cyfoethog ar draul gwasgu'r miloedd anghenus. Oes, y mae gonnod o'r trading concern yn ein gwleidyddiaeth er pan ddaeth Mr. Chamber- lain i chwareu ei ran ynddi. Nid diogel gyru gormod. Tybiodd y Daily Mail fod y Ddirprwyaeth Eglwys- ig yn cysgu, aeth i chwilio am ddrws cefn ei phalas, daeth allan, gan gymeryd arno ei fod yn gwybod ei holl ddirgelion. Gyrodd i'r Ilefydd uchel, gan gyhoeddi ym mhob I man ei wel-edigaeth newydd. Cyn iddo gael un noswaith o gwsg dawel, dyma Ysgrifenydd y Ddirprwyaeth yn gosod darn o fedwen ar ei grwmp, gan edIiw iddo'n ddidderbyn wyneb ei anfoesgarwch a'i anwvbod amlwg o foesau da. Angen fawr v Dailv Mail yw pwyll. Yn lie maethu'r synwyr hwn gwerth ef yn rhad am grochaniad o bethau a wna damaid blasus i'w fwrdd. Hawdd deall yr amcan. Cychwyn can o glod i'r Eglwvs, cyn i'r ffeithiau eu hunain gael ^oleu dydd yw'r amcan. Nid rhif sy'n setlo r cwestiwn, ond egwyddor. Nid cyson a chyfiawnder nefoedd na daear yw gorfodi enwadau crefyddol i gynal enwad crefyddol faint bynnag fo ei rif. Nid cyson a rhyddid ein gwlad bellach yw noddi un enwad cre- ^ol, yr hwn sy'n llai nag un ran o bedair ontein crefyddwyr. Gan gofio, ni wyr y Mail lawer am egwyddor. I Y mae son am Ymreolaeth i'r pedair yn yr Ynys hon yn rhoddi natur eidwadwyr ar dan. Melltithant a phroff- wydant bob gae. Ond gwrandewch Mr. rmsby Gore, A.S., yn gogoneddu cyflwr anada: In Canada the Union Jack flies everywhere. The Canadians are more British than the English. We are one PeOpl-e, one Empire, one tradition, and one in a great future." Pa gysondeb sydd rhwng C, y fendith. wen hon a'r melltithion du a gy- iioeddir am danom ni? A fedr un feddwl i'r un fath o lywodraeth fod yn fendith a melltith o dan amgylchiadau mor debyg? A oes rhyw achos yn esbonio'r anghysondeb? Llefarant yn fenynaidd am wlad Canada, ein chwaer, yr hon sy'n rheoli ei phethau ei hun. Ond try eu holl feluster yn wermod ch-werwaf, pan feddyliont am eu brodyr -rartref o dan yr un palmwydd. Nid ydynt bobl onest. Nid yw eu wvlo am rwygiad "Vr Ymerodraeth yn ddim amgen na chast gwleidyddol, a chwedl gj-frwys i hudo'r an- wadal ei galoD. Gobeithxo na esgor em -/wleidvddol ar freibiaeth wleidyddol America. # # # America. Tin nerthynas yr Eglwys a Chwarenon yr Oes o dan ystyriaeth Cymdeithasfa'r Meth- odistiaid yng Nghaergybi. Trafodaeth ochelgar >xioedd, a sefyll ar dir canol, eis- tedd ar y gwrych, y mae'r Corff. Cred fod angien rhyw le icanol rhwng y Seiad a'r Dafarn, rhyw fan '.lai ysbrydol nag un, a llai niweidiol i .foes a bywyd na'r Hall—rhyw fan canol y medr dyn droi bywyd am ychydig yn chwedl ddoniol, esmwyth i gyd- wybod. Camgymerodd y Gymdeithasfa trwy gymeil ei hun i ddatgan barn ar y cwestiwn. Darn o fywyd cymdeithas yw chwareuon, a chamgymera. yr Eglwys mewn ymyraeth a'u trefnu. Nid oes a fyno'r Eg- lwys a threfnu Show amaethyddol," "Ym- Iyson aredig, neu "Gystadleuaeth saethu," a phaham yr ymyra a chwareuon eraill ein bywyd cymdeithasol? Nid yw gwaith rhai y eglwysi yn trefnu chwareuon i'w haelodau yn ddim ond mynachaeth chwareu. Os nad yw:r chwareuon yn gyfryw y medr yr ael- odau gymeryd rlian ynddynt yn eu cylch eu hunain, nid ydynt yn werth eu Sangteiddio a'u clytio ar wi^g yr Eglwys. Gwaith yr Eghvys yw gwilio pethau cymdeithas na bo cymdeithas yn codi pethau ac yn troi peth- au yn felltith i foes a bywyd. Gwell fuasai peidio datgan barn o fath yn y byd arnynt; oherwydd mater 1 gydwybod y dyn ei hun ydyw, fel y cig a aberthwyd i eulunod. Y mae rhai o gydwybod yn eu condemnio, eraill o gydwybod yn eu cymeradwyo. Nid ydym yn condemnio chwareu. Ond ni fedr un eglwys ei gymeradwyo heb archolli ei phobl inwyaf cydwybodol. Ac yn wyneb y ffaith amlwg o'r rhysedd sydd yn ein gwlad i droi ei bywyd yn chwarcu, dyledswydd yr F.elwys yw dal yr awenau yn lie eu taflu ar y war.

------.-Nodion Ned Llwyd.

Colofn yr Awen.

Advertising

Great Orme's Head Tragedy.

Advertising

Summer School of Temperance.

Welsh Crusade Against Consumption.

[No title]

Llandudno Charity Association.

Llandudno Field Club.

Yspytty Ifan Sheep Dog Trials.

Great Orme's Head Tragedy.