Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Nodion Ned Llwyd

News
Cite
Share

Nodion Ned Llwyd YN MYND. Mae y Parch. Wynn Davies, Bangor, wedi derbyn yr alwad a gafodd i fyned yn olynydd i'r Parch. Robert Jones, Rhosllannerchrugog. Drwg gennyf am hyn, oblegid colled fawr i ddinas Bangor ydyw colli dyn o allu a dawn y Parch. Wynn Davies, a sicr gennyf y teimla y myfyrwyr oddi wrth hyn. Tyrrai llu mawr o'r Cvmry ieuainc i Twrgwyn pan fyddai y gweini- dog gartref, ac mi a wn fod deiseb wedi cael ei llawnodi gan nifer fawr o ieuenctvd yr eglwys yn dymuno arno aros; ond mynd y mae. Dar- llenwyd llythyr oddi wrtho yn y Rhos nos Saboth diweddaf yn derbyn yr alwad, a mawr oedd v llawenydd yno. Mae ei briod yn gan- tores enwog, ac wedi bod yn yr R.A.M., a rhoddodd ei gwasanaeth gwerthfawr yn rhad droion at achosion teilwng. Bydded llwyddiant mawr ar ymdrechion y ddau o blaid pob daioni. Caiff pobl y Rhos a'r cylch, areithiwr gwych i gefnogi dirwest a Rhyddfrydiaeth, ac arweinydd eisteddfodol profedig. Annodd cael ei ragorach ar lwyfan. LLANEFYDD- Llongyfarchaf Dewi Mai o Feirion ar ei fuddugoliaethau yn yr Eisteddfod fu yma y Llungwyn. Ennillodd y gadair a gwobr luall- gwelais hefyd fod Percy Jones, y Rhyl, wedi ennill gwobrwyon am ganu ac adrodd. Mae ef a'i frawd talentog, Thomas Henry Jones, wedi cipio rhai ugeiniau o wobrwyon, er nad vdynt eto ond ieuainc. Nid rhyfedd ydyw fod y tad a'r fam yn falch o honynt. Gan fod y Weekly News wedi estyn ei derfynnau cyn belled a'r Rhyl, yr wyf yn meddwl galw yno i edrych beth a welaf ac a glywaf. Mae yn y dref ami i hen gyfaill ac y carwn ei weled. Cyn gadael Llanefydd, yn sicr dylwn ddatgan fy llawenydd am lwvddiant Mr. Robert Edmunds, Dinbych, yno gyda'i gorau. Nid yw ennill gyda chor yn beth newydd iddo o gwbl. Cofion ato. LLWYDDIANT PENLLYN. Gwelais hanes y brawd hwn yn ennill cadair arall y Llungwyn yn Llanuwchlyn. Rhaid fydd iddo falu rhai o honynt i ddechreu tan yn fuan, neu gael ty mwy i'w cadw. Awdl goffa i'r arwr Michael D. Jones y Bala oedd v testyn, ac Elfed yn feirniad. 0 ba le y daw y nesaf, Penllyn? Naturiol ydyw fod pobl Colwyn yn teimlo yn falch o'r bardd a'r pregethwr. Daliwch ati, frawd, hyd nes y daw y gadair genedlaethol. EGLWYS BACH. Methais a mynd i'r ffair eleni, er fod yno lawer yn disgwyl am danaf. Yr oedd Roger Hughes a'r mab yn brysur-yn wir, y ddau fab. Mae y tri yn iach a chryf a chalonnog, ac os am weled gardd ffrwythlon, dyma lie y ceir hynny, a digon o rosynnau heirdd. Clywais fod An- thropos i fod yn pregethu yn addoldy y M.C. y Sul nesaf. Fel arfer, rhaid fydd iddo roddi tro trwy yr ardd a chael Mygyn dygyn diogel." Caraswn fod gydag ef. Nid yn ami y daw i'r ardal, ond rhoddir croesaw cynnes iddo bob amser, a theilynga Anthropos hynny. Siomwyd D. O. am na fuaswn wedi mynd i'r ffair, ond yn wir nid oeddwn yn gofalu llawer am fyned i'w olwg pLr ol i mi glywed yr hyn ddywedodd y dydd o'r blaen. Sylwodd rhywun wrth basio ei weithdy yn ymyl y graig, Hen dro na fuasech wedi cael gwneud arch i'r Brenin." Mi fuasai yn well gennyf wneud un i Ned Llwyd o lawer." O'r goreu, D. 0., mi gofiaf am danat, er na ddisgwyliaf gael un mor gostus ac Edward VII., a digon tebyg na fydd dim cymaint o helynt pan yn fy nghladdu, a dim yn agos cynnifer o bobl yn yr angladd. Cefais air o Lundain oddi wrth un oedd yn edrych ar yr orymdaith, ei bod 'yn cyrraedd am ddwy filltir. Wedi ymdrech galed, yr oedd hi wedi Ilwyddo i gael bod rhwng milwr a hedd- geidwad, ac yn gallu gweled y cwbl. Mae wedi anfon llythyr yn disgrifio y cwbl, ond nis gallaf ei gyhoeddi. Bu Catrin a minnau yn meddwl mynd i weld yr orymdaith, ond ofnem y buasem yn cael ein gwasgu yn ormodol. Mi gawn fyned i weled golygfeydd eraill v brif- ddinas pan fydd yna lai o bobl. Dyma fi wedi cychwyn y patagraff yma yn Eglwysbach ac yn diweddu yn Llundain. Mor grwydredig ydyw meddwl dyn, onide, ac mor gyflym y symuda o'r naill le i'r llall? Mae adegau y mae yn llawer mwy tueddol i grwydro; felly vr wyf fi yn teimlo heno. Tybed fod yr Hal- leys Comet" yma yn dylanwadu arnaf? Hon sydd yn cael sylw mwyaf gan rai y dyddiau hyn, a'r nos hefyd. Tra yr wyf fi yn ceisio vsgrifennu y nodion hyn, mae ugeiniau, os nad cannoedd, wedi casglu at eu gilydd i le heb fod nepell oddi yma i ddisgwyl am ymddanghosiad V comed. Mae rhai mewn ofn a braw, ac yn llawn pryder einioes. Mae rhai wedi terfynnu eu heinioes yn anamserol oblegid iddynt gredu v byddai i'r comed ddinistrio pawb a phobpeth. Mor hawdd ydyw cyffroi natur ambell un, onide? COR Y MOELWYN. Dychwelodd y cor enwog hwn yn ol yr wyth- nos ddiweddaf, a rhoddwyd croesaw teilwng iddynt gan y Ffestiniogiaid. Gwyliais gyda dyddordeb eu hanes vn yr America, ac yr oedd vn dda iawn gennyf weled adroddiadau mor ffafriol am y croesaw a'r derbyniad roddid iddynt. Canmawl mawr oedd i bob cyngherdd, ac yr oedd yr unawdwyr a'r cor yn cael eu hailalw yn barhaus. Yn ol v Drych a gefais heddyw, gwelaf fod Miss Marv King Sarah am aros yn v wlad am amser. Mae Pwyllgor Eis- teddfod Utica wedi dod i delerau gyda hi i ganu yno y Calan. Hiraethaf am glywed ei llais unwaith eto yng Nghvmru anwyl. Caiff hithau groesaw cynes pan ddaw yn ol. A GLYWSOCH CHWI'R GOG? Yr oeddwn i wedi myned i ofni na chawswn mo'i chlywed eleni ond er fy llawenydd, pan oeddwn yn agos i Fryn Pydew y dydd o'r blaen, disgvnnodd ar fy nghlust Ei dau nodyn deniadol." Fuaswn i ddim yn hoffi i'w hamser i ganu fynd hebio heb i mi ei chlywed. Yr oedd yn hwy, mi gredaf, eleni heb anturio i ganu. Bu'r tywydd yn oer a gwlyb, ac nid hawdd i'r gog, mwy na-dynion, ydyw canu pan fo y tywydd felly. Y tywydd braf sydd yn tynu yr adar i ganu, ac amgylchiadau ffafriol a llwyddiannus sydd yn peri fod- dynion yn teimlo yn galonnog a gallu canu. "Anhawdd canu yn y gwlaw," meddai Tanymarian gynt. RHYL. Gofidus iawn oedd y ddamwain a ddigwydd. odd yn yr orsaf yma ddydd Iau diweddaf. Yr oedd Mr. W. J. Jones yn prysuro i ddal y tren. Gwelodd y tren yn cychwyn, ceisiodd neidio i fewn iddi, ond Ilithrodd ac aeth i lawr rhwng y cerbydau a'r llwyfan, a chollodd ei fywyd. Yr oedd Mr. Jones yn adnabyddus iawn yn Llanrwst a Llandudno. Yn y lie cyntaf bu yn fasnachwr am flynyddau yn Elwy House. Yr wyf yn ei gofio yno yn dda. Cydymdeimlir yn gyffredinol a'r teulu yn eu trallod oherwydd y digwyddiad galarus. LLANSANNAN. Anfona cyfaill ataf i ofyn i mi fyned gydag ef i'r Eisteddfod sydd yma ar Wyl y Banciau. Nis gallaf gydsynio, er mor dda gennyf fuasai hynny, ac heblaw hynny mae arnaf ofn- pe buaswn yn cychwyn mai aros ar y ffordd a wnawn. Mi a wn am ddau o Fangor ddarfu gvchwyn yno y Llungwyn, gyda'u deurodau, ond collasant y ffordd tua Llangernyw. Pe buasent wedi troi i'r Post Office i ofyn, caw. sent bob cyfarwyddyd, a chawsent hefyd, fe. allai, gwpanaid o de. Rhai iawn am wneud te a chroesaw ydyw M'rs. Parry a'i phlant talent- og. Peth siwr ydi o na fuaswn i ddim yn pasio heb droi i fewn. Bu raid i'r ddau ddychwelyd i Fangor heb weled Llansannan wedi'r holl daith. WELL DONE." Dyma ddywed pawb am waith Mr. Maurice Williams, Llanrwst, yn llwyddo i atal ceffyl rhag rhedeg y dydd o'r blaen ar un o heQlydd v dref. Pwy wyr beth fuasai y canlyniadau oni bae am y llwyddiant fu ar ymdrech y brawd? Pe buaswn i yn gyfoethog, cawsai dlws teilwng i'w wisgo ar ei fron i gadw mewn cof yr hyn a wnaeth. NED LLWYD. Weekly News Office, Conway.

Nodion Llywarch Hen

...---.---LLANDDULAS.

---.-.. Cymanfaoedd Canu.

Advertising

ILlanrwst and the Late King.

Advertising