Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
NODIONI NED LLWYD.
News
Cite
Share
NODION NED LLWYD. PA LK Y MAENT? Wedi yr holl ymdrech gan Mr. S. Thompson, Mr. Tilby, a Mr. R. O. Roberts, ym Mon, a Mr. Vincent druan, mae y pedwar yn cael aros gartref, ac y mae yn sicr y bydd Mri. Arthur Hughes a D. Rhys yn derbyn yr un dynged heddyw. Yfory y mac vn debyg y bydd y ddau hyn yn cael gwybod en safle. Mae y pedwar cyntaf a enwais eisioes yn gwybod, ac wrth gwxs yn cysuro eu gilydd. Yr oeddwn yn Nghaefna>r fo-n pan oedd canlyniad etholiad y bwrdeisdrefi yn cael ei wneud yn hysbys, ac edrychai Mr. Vincent yn dcljirifol o ddigalon. Yr oedd ef a'i bleidwyr wedi meddwl yn sicr y buasai yn tynu y mwyafrif i lawr rai cannoedd, os nad yn enill y frwydr. Xi arbedodd ei gefn- ogwyr un rhyw ddichell i sjyraedd yr amcan. Cy- hoeddwyd rhai pamphledau digywilvdd a saT- haus iawn gianddynt. Amheuaf a oedd Mr. VinOtmt ci hun yn cymeradwyo yr oil o honynt. Lledaenwyd llenyddiaeth y Tariff Reform yn ddiarbed, a gorchuddid panvydydd pob lie a darluniau y fath ag oeddynt. Gwariwyd anan yn didiarbod gan y blaid, ond er eu gwaethaf cafodd Mr. D. Lloyd George fwyafrif o 1,078. Ac nid anghofiaf y llawenydd ddanghoswyd wedi deall y canlyniad. Pe buasai yr aelod anrhyd- eddus wedi aroa gartref i weithio, ac i ymweled vn ami a'r gwahanol leoedd yn ddios y buasai yn eymaint os nad yn fwy o lawer na'r tro o'r blaen. Wyddoch chwi mae rhai pobl amolchgar dros ben? Yr wyf yn gwvbod am hen wr a'i briod yn cael .;s. yr un o bensiwn, ac eto yr hen wr yn rhoddi ei bleidLais i Dori. CONWY. DioLch i Ryddfrydwyr Conwy a'r cylch mi wnaethant waith da a lhvyddianus. Buasai yn dda genyf roddi enwau amryw o'r gwyr ffydd- lawn—rhai na flinasant o gwbl yn y frwydr—rhai a weithiodd mewn amser ac allan o amser yn deg ac anrhydcddus i sicrhau buddugobaeth, ond mi a wn fod eu llawenydd yn y llwyddiant. Cefaist y fraint o fod yn y cyfarfod cyhoeddus oedd yn y dref nos Fercher, a balch oeddwn i waled y neuadd yn llawn o wrandawyr brwd- frydig. Mae yn rhy hwyr yn awr i sylwi ar yr hyn a glywais yno. Amheuaf a fu y lie cyn llawned ag oedd v noson hon. Pan y daeth arwr y cyfarfod i fewn gyda'i briod ac erailI, rhoddwyd croesaw calonog neillduol iddyrut. Y mysg y dyrfa sylwais fod amryw wedi dy- fod yno o Llanrwst, Trefriw, Llanb-edr, Roe wen, Panmaenmawr, Bryn Pydew, Llandudno, &c. CYNHWRF. Clywais fod cynhwrf mawr yng Nghaernarfon nos Sadwrn, a hyny yn benaf, oblegyd rhyw bamphledyn a gyhoeddwyd ar fin y frwydr wedi ei arwyddo Mr. I-Lovd Charter, cyfrcithiwr, & dyfodiad nifer o heddgerdwaid o Fanoeimon n dref. Pwy tybed oedid wedi galw am danynt? Nid oedd yr un o honynt yn v golwg dydd Llun, a chlywais i'r rhai oedd o honynt yn Nghaer- narfon gael eu hanfon yn gryn i le o ddiogelwch, a bod rfiai o honyn-t wedi gorfod myned gartref heb eu helmets. Yr oeddynt yn ddynion leuamc cadarn yr olwg arnyn.t, ond yr oedd y dyrfa yn gryfach. na hwy. Torwyd rliai ffenestri perthyn- 01 i Geidwadwyr. Ni chlywais fod neb wedi derfjyii niweidiau corfforol. 1a.e yn debyg na fu y teimladau mof uchel er's llawex o flynydd- oedd. Caiodd hynv oedd o heddgeddwaid Man- ceinion ym Mangor bob llonyddwch. Torwyd ffenestri rhai personau yn v ddinas gan y Toriaid artl i'r Rhvdtlfrydwyr yn gyntaf, medda nbw,dori ftenestr y mas,aachdy He y gvvneid arddanghosiad riv.ldau tramor. Pellach, disgwyliaf y ceir heddweh a chymydogaeth dda. Yr oedd yn na-tur-iol i'r Rhyddfrydwyr fod \m llawen, ac yr oadd yr un mor naturiol i'r Toriaid fod yn siouiedig a blin dan yr amigylchiadau. Yr oedd pawb o hoTifOaxi wedi ôin llyncu i fyny i ryw raddau gan yr etholiad, ac yr oeddym yn fyr iawn ein hmynedd, pob ochr yr un. fath. S lawns na chawn hamdden bellach i ddychwelyd i'n pwyll, ac i feddwl vchydig am rhywbeth arall. Mae rbai wedi colli mwy ar eu cwsg yn ystod Yr wythnosau diweddaf nag a wnaethant erioed o'r blaen, trwy fod yn awyddus i gael y Re- ,j"ts bob nos. Unaf \"111 galonog i waeddi Lloyd George for ever," Herbert Roberts for cref," Wm. Jones for ever," Ellis Jones- Griffith for ever, Ellis Davies for ever." Crwaitli rhy fawr i'r Ceadwadwyr fydd symud yr mi o'r rhai h.yn. CYFARFODYDD. Bu y Rhyddfrydwyr yn llwyddianus iawn i g.a.el cyfarfodydd "heddychol a llwyddianus neill- duol yn Llaiiigefni dydd Lau diweddaf. Cafwyd cyfarfod eithxiadol. Yr oeddid wedi myned i draul fawr i sicrhau pabell, ac yr oedd hono yn llawn ymiiell cyn amser dechxeu y cyfarfod. Areithiwyd yno gan Mr. Lloyd George, Mr. Ellis J. Griffith, a'r Parch. John Williams, Bryn-1 siorijcyn. Y tri yn neillduol o eifeithiol, ac nid oes ddadl na fu gan y cyfarfod hwn Lawer i'w wrueud tuag at sicrhau y fath fwyafrif i Mr. Ellis Jones-Griffith. Llvwyddwyd gan Mr. J. N. Thoanas, Caergybi. I gadw'r d}'rfa yn ddiddig hyd nes y daeth y canghellydd, &c., i fewn rhoes Mr. D. S. Owen, B.A., adroddiad o Sion T Jones a'r cloc yn hwyliog iawn, ac adroddwyd Carwn ein gwlad gan Deiniol Fychan, a chanwyd ainryw o ganeuon yr etholiad gyda hwyl. Cyn diwedd yr un dydd yr oedd Mr. Lloyd George yn cymeryd rhan mewn dau gyfar- fod cyhoeddus yn Neuadd y Penirhyn ym Mangor. Cynulleidfaoedd lliosog a brwdfrydig Lawn yn y ddau gyfarfod. Yn un o honyn/t yr OOd-d Dewi Meirion yn adrodd Buddugoliaeth ^wirionedd (Hiraethog), ac wedi gwneud cyf- addasiad priodol iawn o hono ar gyfer y Gyllideb. Bydd son yn hir am y cyfarfodydd gafwyd dydd Ialt, ac am yr anexchiadau roeo ynddynt. Yr oedd dylanwad araeth y Parch. John Williams, Brytisiencyn, yn Llangefni a Bajigor, yn anghyffredin. Pan oedd Mr. Lloyd George yn diolch dydd Llun ar y maes yng Nghaernarfon sylwais fod y dagrau yn treiglo i lawr dros ruddia u y gwr enwog o Fryn- sie<acyn, a svlwodd eraill hefyd. Rhaid ei fod yn teimlo yn falch. BETH FYDD Y DHVEDU? Dyn.a ofynir yn ami yn awr, mae yn agoshau at hyny. Amlwg ydyw na fydd gan y Weinydd- laeth ond mwyafrif cydmarol fyclian. Anhawdd fydd cario y gwaith yn mlaen, a rhaid i ni aros nes gweled, pa gefnogaeth a roir gan y pleidia-u eraill. Awgryma rhai y cawn etholiad yn fuan eto. Hyderaf na svlweddolir hyn, oblegyd nid ar lecsiwn yn unig y bydd byw dyn. AT GHEBWYR. Diolchaf am eich hamynedd. NLte genyf am- ryw lyithyrau mewn Haw, ond nid oedd yn bosibl c.ael lie iddynt yn ddiweddar, na sylwi arnynt. Os byw ac iach a fyddwn yr wythnos nesaf cawn sylwi arnyrat, ac feallai cyhoeddir rhai o honynt. Cyinhellaf eraill i anfon gair. Maddeued pawb i mi am fod mor ddidrefn y tro hwn. NED LLWYD. Weekly News, Conwy.
Advertising
Advertising
Cite
Share
I THE WELSH CURE." ■ I Have You Cough 1 I or Cold ? I ij.f | Will Cure You. | I INVALUABLE IN NURSERY. 1 Cash Prioes, 1/- or 2/6.
---------INodion Llywarch…
News
Cite
Share
Nodion Llywarch Hen Bravo Lloyd George. Llawen chwedl i Gymru oil a IJoegr Ryddfrydol oedd ei fuddugoliaeth. Curai calon y wlad yn ei gofal am dano. Gwyddom am lu fuasai'n wylo'n hidl, pe Lloyd George, rhoddwr y Pensiwn, wedi colli. Heb os, Lloyd George yw eulun gwleidyddol Cymru, a dyn gwerin y deyrnas i raddau pell. Gofid i bawb oedd helynt Caernarfon. Ond gan fod dynion beilchion yn hoffi celiwair a than rhaid iddynt ddiodde'r llosgi. Gan i'r ochr arall ymostwng i ddifrio'n bersonol, er bostio cvfeillgarwch, lid oes ganddynt le i gwyno. Y mae gan Ryddfrydiaeth lawer o dir i'w enill yn Arfon eto. Dirgelvvcli i mi yw, paharn y mae'f etholiadau hyn vn llwyr a hollol yn Haw Toriaeth dro ar ol fro. Heb betruso, hwy he!ar.t bob brasder i'w plaid eu hunain. < Druan o Mr. Lloyd Carter, bwngleriodd yn enbyd yn y cytiirwfwl hwn, wrth ymrwyfo a'o ddyfnach i'r gors. Cododd Erledigaeth '68 i'r gwynt. Canodd ei gorn hda i giodfori'r Tir- feistri. Camgymerodfi, deffrodc1 hen adgofion yn eu bed dau, a chodasant i adrodd eu stori brudd. Cyhoeddodd daflen-bregetii dr s (jymdeithas AmddilTyu Eiddo," gan bviodoli ei chredn i Syr Robert Thompson. Gwadodd Syr Robert y geiriau briodolid iddo. Y wedd oreu fedr Mr. Carter roddi ar bethau ywfod rhyw v.'as cyflog yn foddlon inyiid ar ei hv dros ei gwiredd. Beth sy'n fwy naturiol na fod pawb yn foddlon ymgroesi uwch ei greadigaeth ei bun. Darn arail o'r amddiffyniad yw na wadwyd hyn hyd yn ddiweddar. Y mae hwn yn ddull hynod newydd o ymresymu, sef fod celwydd yn sefyll fel gwir os na wedir ef y cyfleu cyntaf. OscailT anwir amser i sefyll, ei hulen sydd wirionedd. yn ol y rhesynieg nor). 0 barth Mr. Lloyd Cicorge bur cabiu a'r camliwio mor ofnadwy nes peri i bob calon ddiolcli bron am fywyd cuddiedig a thawel. Gwae'r g\\r a esgyno yn uchel. Y rnawr ei glod mawr ei anglod hefyd. Pe David Lloyd George yn wr o waed, cawsai driniaeth esmwythach, ond gan ei fod yn un o'r bobi rhaid ymlid y Dafydd hwn fe! y Dafydd arall fel petrisan mynydd. Cenadwri Mr. Sam Thompsin i'w gyfeillion galarus ydoedd, fed Cymru wedi deifro i anhegweh pin" fiscal conditions y daw'r wlad i gorlan glyd y Fasuacii Gaeth y y man. Onid llefain heulwen deg yn y nos yw hyn, a thywydd teg yn nanedd y ddrycin ? Oni fedr dynioa droi eu han- ffodion yn ganeuon melus pan fo hynny er eu inantais eu hunain. Cododd mwyafrif Syr Her- bert Roberts o 1603 i 3025. Mynd y mae'r bobl am eurbyrth Masnach Rydd, gan gefnu'n galonog ar aposlolion y dorth b-ich. Brwydr foneddigaidd oedd brwydr Gorllewin DinbyiJi. Aeth y ddau arwr i'r maes heb fostio eu cariad at eu gilydd, daethant ohoni heb glwyfo'r naill v Hall, yn fwy cyfeillion nac ar v dechr-u. Ymgalonoged Syr Herbert Roberts, a chymered Mr. Thompson yr awgrym pendaut gafodd gan vrethohvvr. Os Hwyddodd cwrw Gwrecsam," ni hvyddodd gwianen Dre Newydd." 0 dan yr amgylchiadau fe lwyddodd Mr. J. D. Rees yrn anhygoel. Eriillodd y frwydr, a chaiff India ei chynrychioli am amser yn ein Senedd eto. Gwr gwrol ydyw, a medd doraeth dda o anibyniaeth. Y mae'r arglwydd a'i rysgodai wedi mynd i'w le ei hun. Bellach defnyddied Mr. Rees ei ddeheurwydd yng ngwas- anaeth ei wlad, fel y caflo amser gwell yn nydd yr ystorom nesaf. Ugly figure" yw tri-ar-ddeg," ebrai'r Cyrnol Jones, a golyga rybudd i ymadael y tro nesaf. Nid mor hyll, nid mor eiddil; bu'r undeg tair pleidlais hyn yn ddigon i gadw holl gad Toriaeth o Gaerfaldwyn. Gorchfygwyd y Cyrnol a'i lu gan 13." Dywedodd y Cyrnoi Jones ymhellach fod yr etholiadau yn cyfiawnhau'r Arglwyddi," ac fod y Gyllideb yn gelain gegoer. Do, claddwyd hi ym monwent fawr Ty'r Ar- glwyddi, ond y mae'r wlad yn darllen gwir ddiogel obaith uwch ei phen." Daw iddi dranoeth teg yn nn o'r boreau nesaf. Nid doeth beichio melltith hyd yn oed wedi colii etholiad. Collodd y Ceidwadwyr ym Mon, ebrai Mr R. O. Roberts, y gwr geisiai'r sedd. o achos v Pensiwn, y Gyllideb, ac ymddanghosiad Mr Lloyd George ymhlith yr Ynyswyr ar yr Iau o flaen y dydd ethol. Oni wnelai Mr. Roberts gymwynas i hanes pe cyhoeddai gyfrol o'r rhesymau paham y collodd y Ceidvvadwyr bob brwydr ym Mon er's canrif a chwaneg. Ni byddai hynny yn un anfantais i eraill farnu drostynt eu hunain. Os efengyl gau oedd efengyl Mr. Ellis J. Griffith, pa fodd v Hwyddodd gymaint mwy na Mr. R. O. Roberts, prophwyd efengyl y Fasnach Gaeth." Paham nad aeth Mr. Roberts o amgylch a ilefain, matiau Niwbwrch wedi mynd," "esgidiau Llanerchymead wedi mynd," copar Mynydd Parys wedi mynd" ? A ydyw hen law-organ Chamberlain wedi colli ei chan ? A chaniatau mai'r Pensiwn," y "Gyllideb," a Lloyd George," laddodd eu miloedd ym Mon, dengys hyn y medr gwleidyddiaeth amserol gyffwrdd ym mhen, calon, a gwaed pobl y deyrnas fach tuhwnt i'r Fenai. Rhaid i bob collwr brwydr gael esgus dros ei anffawd. < < Y mae Sir Faesyfed yn ddarlun teg o Gymru pan gollo ei hiaith pobl ydynt fel y Daniaid yn preswylio eu hunain. Collasant eiriau eu hen iaith, a siaradant Gymraeg yn Saesneg, Cofiant, fel mewn breuddwyd, eu bod Gymry. Ond oherwydd colli'r iaith ac ymddieithro oddi wrth ein bywyd heddyw, ni wyddant am frwdaniaeth Gwlad y GAn." Pan gyll Cymru ei hiaith, a'i brwdaniaeth Celtaidd, daw Ceidwadaeth trosti fel penllwvdni. Plentyn ein gwladgarwch yw ein Rhyddfrydiaeth bresennol. Rhesymau eraill roddir dros golli Maesyfed. Hwyrach y gellid ei chadwoni bai am Saeson Llandrindod a'r "Out- side Voters." Ond pe buasai Maesyfed yn byw'n nes i galon Cymru, nid ar law y ddwy gadrawd hyn y bnasai troad v frwydr. Ni chryna Cymru wrth swn cerddediad awgrym. Y mae Lord so and so a General so and so yn dod i Cymru i bleidleisio meddai'r organ Doriaidd. Hhyw su sacth o fwa hir i lesgau gliniau'r gwan oedd y cyhoeddiad. Nid yw gwerin Cymru mor wasaidd a'r Newyddiaduron sy'n bod i ddadleu dros y mawrion. Ciliodd y nos bellach, ac y mae'r goleuni sy'n tywynu ar y wlad yn iroi yn nertli yn ei phreswvlwyr. Pa ddiben canu Cymru Rydd," os yw awgrym yn ein trawsnewid a pberi i ni ofni ? < Gorfcledda Syr A. Acland-Hood ddarfod i Geidwadaeth enili yngNghymru. Campus. Dwy sedd, a mwyafrif y ddwy yng nghyd yn 22 Ugly figure." Er y rhaid i ni addef i 8 Bwr- deisdrefi Dinbych a q. Maesyfed agor ddorau'r porth a throi Rhyddfrydiaeth dros y drws. Na orfoledded y Chwip," pan orffenno Cymry bydd tri o bob pedwar o'i hetholwyr wedi condemio'r Arglwyddi, a phleidio Dadgysylltiad. Diolch i'r Esgobion am ein helpio i ddal y cysylltiad a'r Wladwriarth o flaen y wlad, Ni fedrant wadu yn awr na chafodd sylw, canys gwnaethant hwy eu goreu dros eu cyfoeth, fel pob parti cyfoethog aralLyn yr ymrafael. Ni ddyrchafodd Cymru erioed ei llais fel v tro hwn. A oes rhywbeth fel etholiad am dynnu'r lien oddi ar gulni, a gollwng yn rhydd genawon ysbryd y canol oesoedd—yn eu brychni hagraf? Onid yw'r cylchlythyr canlynol yn rhyfeddnod yn hanes crefydd y ganrif ? Y Parch Lewis D. Thomas, ficer St. John's, Plumstead, a'i hanfonodd allan i wahodd ei saint ef ynghyd, i fawl a hunan- orfoledd: "Special thanksgiving service to Almighty God for the timely deliverance of Woolwich and Plumstead from the hands of the Socialists and Sabbath-breakers." There will be four celebrations of the Holy Communion at 7 a.m., 8 a.m., mid-day, and after the evening service. All Communicants are earnestly invited. The Te Deum will be used instead of the processional and recession- al hymns. LEWIS D. THOMAS, Vicar." Anhawdd dirnad ansawdd y meddwl esgorodd ar y cabledd uchod. Pan dyfo sel yn vvyllt, ei ifrwyth fel rheol yw ynfvdrwydd ac anghvmedrol- deb sur. Mr. Will Crooks oedd v gwr y gorfol- eddid am eu gwaredu rhagddo-y gwr y wylodd tlodion ei ddosbarth oherwydd idd,) g^lli'r frwydr. Tan dieithr Corah oedd hwn. Y fdth ryfyg ofnadwy. Aeth 130 o wyr Woolwirh i'r Egiwys yn ol y gwahoddiad uchod, a phan godudd yr offeiriad .1 i'w hanerch, codasant hwythau ac nethaitt allan yn brotest yn erbyn celiwair a phethau nnvyaf 1 cysegredig crefydd i arncanion politicaidd. Ym- ddengys ddarfod i'r Parch, L. D. Thomas gan fod peth o hagrwch ei ymddygiad, ac anfonodd i'r pencadlys Rhyddfrydol i ymddiheuro. Gwrthod- asant ei edifeirweh, a da y gwnaethant. Y goreu yw troi draw oddi wrth wyr o'r fath heb sylwi ar eu galar, nid ydynt werth sylw. yw troi draw oddi wrth wyr o'r fath heb sylwi ar eu galar, nid ydynt werth sylw. Photo Edge Ltd.. Block by courtesy of the "Llandudno Llandudno. -I Advertiser." MR. WILLIAM JONES, M.P.
---Llywarch HeR a'r Etholiad.
News
Cite
Share
Llywarch HeR a'r Etholiad. AT OLYGYDD Y Weekly News. SYR,—Synaf yn fawr at Nodion Llywarch Hen yn eiah rhifyn diweddaf. Yr oeddwn bob amser dan y syniad mai rhyw lane ieuanc oedd, a thrwy ei ddull o ysgrifenu, yn ceisio gwneud enw iddo ei hun. Ni synais fwy erioed pan glywais y dydd o'r blaen fod y Llywarch yn wirioneddol nes i fod yn hen nac yn ieuanc. Deallaf hefyd ei fod yn Bregethwr yr Efengyl yng Nghymru-gwlad a ddeallwn sydd mar grefyddol o dan awen Ym- neillduaeth. Nid wyf yn gweled llawer o grefydd yn Nodion Llywarch Hen," ac yn wir mae yn hynod o anghysoiii a'r grefydd ag y mae yn ei phroffesu. 1'igo brychau y mae o lygaid ei frodyr pan nad yw yn gweled y trawst sydd yn ei lygad ei hun. Fel gweinidog, fe fuasai yn llawer harddach iddo beidio yinyraeth a politics," canys pethau y byd ydynt. Wrth reswm, os ydyw yn un mor ddiwyd nias gall atal ei law oddiwrth yr ysgrif- bin, ni fyddai ambell brcgeth ar brif egwyddor- ion Cristionogol yn anghymwys, hyd yn oed, mewn ne yddipdiii- oddiwrth wr o'i safle ef, ac yn wir fe fuasai yn Ilawer gwell (ag i ddefnyddio un o'i eiriau yn y Nodion cyfeiriedig) na'r nonsense" a ysgrifenodd yr wythnos ddi- weddaf. Cyfeiriwn at y paragraph cyntaf. Syml dros ben A ydyw ddim yn ystyried fod pobl diwylliedig yn ogystal a. phlant bach yn darllen yr adran Gymreig o'ch, newyddiadur? Gyda golwg ar ystyr y gair Tory," os oes gan y Llywarch Eiriadur Saesoneg wrth ei ymyl, fe wel fod y gair fel y dywed ym tarddu o'r Wyddeleg "toiridhe," end ei ystyr ydyw pur- suer, neu un yli, myned ar ol arall gyda'r bwr- iad, nid yn uing o'i ddal, ond hefyd myned heibio iddo. Er enghraifft, yr un ffunud ag y Hwyddodd y Rhyddfrydwyr yn eu brwydr yn 1906, ac hefyd fel y mae y Ceidwadwyr yn ym- ladd y frwydr bresenol mewn ffordd onest. Felly, na ymdreched v Llywarch bwnio y fath roii;sense i bennau poobl Cymru Sydd na Chymru Fydd Dywed fod tafarnau Birmingham yn agored ar hyd ddydd eu Hetholiad. Yn sicr eu bod., a y I beth. am hyny? Mae'r tafarnwyr yn talu eu treth am ddiwrnod yr etholiad fel pob diwrnod arall, ac mae cyfraith Prydain yn goddef iddynt agor am bob dydd y talent v dreth. A all ,efe brvfi fod y tafarnau crybwylledig yn agored a 1 chroesaw calon i bawb fwynhau'r goch yn rhad "? Ni ohredaf mohono, ac mae'n sicr nas gall yii-taii brofi yr hyn a ddywed os nad oedd yno ei hunan, ac mae'n debyg nad oedd. Dy- muniaf grybwyll fy mod i yno, ac i mi alw mewn tafarn ni welais o fy nghwmpas yno unrhyw un yn cynyg i neb wydriad rhad. Telais am yr hyn a gefais heb orfod dweyd iechyd da wrth neb, ac felly amryw a ddeuais ar eu traws. Gwr sychedig yw gwerinwr Lloegr," meddai Llywarch Hen." Onid y'w y frawddeg hon ar unwaith yn dangos cylch mor fechan y mae y T.ly7warch yn troi ynddi? E10, a all efe brofi fod Mr. Vincent yn dangos nwyddau wedi en gwneud ym Mangor fel made in Cennany?" Mae'n sicr y cvdnabydda pawb ar a adwaenant Mr. Vincent ei fod vn feddianol ar fwy 0 anrhydedd nag i wneud peth o'r fath. Mae'r Llywarch yn rhoi ar ddeall ei fod yn gwybod llawer mwy am ddinas Bangor na Mr Vincent, ond nid yw hyny nemawr bwys. Cyfeiria hefyd at yr Eglwys Sefydledig gan ddweyd mai Iachawdwriaeth i'r Eglwys fydda'i I dadgysylltu." Btiasai wedi bod dipyn yn fwy dadgysylltiad." Buasai wedi bod dipyn yn fwy cyjixhwys a chyfadaas iddo fod wedi ychwanegu y pum' gair canlynol, sef yn fy marn fach i." Pan yr oedd yn rhoddi i lawr gyflog yr Esgob a ydyw yn sicr na thorodd y Degfed Gorchymyn ? Ni welaf fai o gwbl ar Llywarch Hen ym cocli ei blaid ei hunan hyd entrych nen, ond na darostynged yr ochr arall mor isel. Bydd yn dipyn lletach ei farn, a thrwy hynny gwnai llaAver mwy o les.—Yr eiddoch, CEIDWADWR O'R DYFFRYN. 00_
Congl yr Awen.
News
Cite
Share
Congl yr Awen. ENGLYNION CYF ARCHIADOL I Mr Sydney W. Trentham, Handsworth, Bir- mingham, a Miss Bessie Wynne Jones, Y Bull, Llanrwst, ar eu huniad mewn glan briodas Rhagfyr 29am, 1909. Brawd hynaws ti wnest briodi, —lion wraig, Ya Llanrwst eleni Tost iawn fvddai arnat ti, Oni buasai am Bessi. Gwên Naf ciddunaf i'r ddau-oes 0 fei, Oes faith loch dral\odau Gwydd wanwyn, ac hardd weHau Addien o'i cylch fyddo'n cau. lor y Nen a'i adenydd—vn gadam A'u cysg-odo bcunydd A didor fywyd dedwydd, Ag einioes faith,-gynes fydd. Llannvst. T. HERBERT HUGHES.
Advertising
Advertising
Cite
Share
EVANS' CELEBRATED LLANDUDNO TOFFEE, obtainable from leading confectioners or direct from manufacturer, Moistyn-avenue, Lkradudno. Tel. iiy. 1107
----IICanghellydd y Trysorlys…
News
Cite
Share
Canghellydd y Trysorlys Cymreig. (GAN MR. ELEAZER ROBERTS, U.H.). Yn rhifyn Ionawr o Yr Ymwelydd Misol dechreuir cyfres 0 erthyglau dan y penawd Ein c 'Haelodau Seneddol,' ac yn briodol iawn de- chreuir gyda y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd Gsorge. Ysgrifennir yr erthygl hon gan y Cymro poblogaidd o Lerpwl, Mr. Eleazer Ro. berts, U.K., a ceir darluniau ynddi o Mr. Lloyd George, ei dad, fain, a'i ewythr. Dywed Mr. Roberts yn ei erthygl ddyddorol:— Ya y rhifyn o'r Vmwelydd" am Ionawr, 19°5, ymddango.-iodd ysgrif ar Mr. Lloyd George yn y gyfres o Enwogion Cymru," a defnydd- iwycl y geiriau a ganlyn wrth derfynnu yr ysgrif — Yr ydym fel cenedl yn gwylied symudiadau -————————————-———-———— Lloyd George gyda dyddordeb, manylrwydd, ac ediiiygeud mawr. Ac eto, nid ydym yn gwneyd hvnny h-eb ryw gymaint o bryder. Gwyddom fod tueddiad llais y wlad fel awel gref yn ei yrru vmlaen yng nghyfeiriad porthladd swyddogaeth, ac nid ydyw ond iawn iddo gymeryd mantais ar v cyfryw awel: ond gwyddom ar yr un pryd, fod creigi.au peryglus o'i flaen yn y cyfeixiad hwn, crcigiau politiciaeth plaid a hunanfantais, a bod inorio trwy y cyfryw weithian yn enbyd,' ac y gall ei lestr ddeflbyn niwed mewn rhyw ddeufor- gyfariod anisgwyliadwy. Byddwn, meddaf, yn gwybcd symudiadau y llestr o dan y cyfryw am- gylchiadau gyda rhyw gymaint o bryder. Ond y mae llywyddia-sth y llestr yn y gorffenol yn rhoi pob hyder i ni yn y Capten am y dyfodol0 ac yn ernes y cyrhaedda y porthiadd dymunol yn daw-el, a'i gymeriad politicaidd personol, ac an- rhydedd y genedl sydd yn ymddiried cymaint vnddo, heb eu llychwino yn y radd leiaf." Ar ol pum mlynedd o wylied pryderus fel hyn, carwn wneyd ychydig o sylwadau ychwanegol ar v Cymro enwog hwn fel y penaf o Seneddwyr Cymru Cymro gwir Gymreig, sydd yn nesaf at y I)rlf Yteinidog. \rth weled fel y mae wedi hwylio ci lestr yn ystod y pum mlynedd diwedd- af y mac pob pryder bellach wedi diflannu, a hyder dwfn wedi cymeryd ei le. Yr ydymi wedi gweled ei fod yn meddu ar wroldeb a medrus- wydd dihyspydd. Pan yn fachgen yn ysgol Llanystumdwy, cofiwa ei fod wedi sefyll yn erbyn yr awdurdodau dros yr hyn a vs-tyriai ef yn fater cydwybod, a bu yn fuddugoliaethus ac nid oes ynom un ofn yn awr, er ein bod yn ys- j grifenu fel hyn ym merw, trwst, a chyffro v frwydr, 11a fydd y gad y mae efe yn un o'i phrif arweinwyr yn yr ymgyrcli presenol yn erbyn duc- iaid ac arglwyddi y Ty uchaf yr un mor fuddu- goliaethus. Wrth edrych ar linellau ei wymebpryd yn ei ddarlun, y mae yn anhawdd penderfy-nil pa un ai sirioldeb a hynawsedd ynte penderfyniad di- ildio sydd amlycaf. Mae yn amlwg iawn fod llo-nd ei fynwes o dynerweh a charedigrwydd ond y in-ae gormes ac anghyrfiawnder ar unwaith yn enyn ynddo FFLAM 0 WROLDEB a phenderfymiad anorfod. Pan oedd John Bright gynt yn wylo ar ol colli ei briod, desgrifiodd Cobden wrtho y trueni oedd yn y wlad mewn canlymiad i ddeddfau yr yd, ac enynwyd ynddo fllam o atgasrwydd tuag atvnt nes y penderfynodd fyned allan gyda'i gyfaiil Cobden i ymladd yn erbyn y deddfau gor- thryinus hynny. Ac ni orphwyswn," meddynrt, nes gorchfygu." A gorchfygu a wnaethant.' Er mor echrydus ydyw yr olygfa ax faes y gwaed, y mae brwydr egwyddorion, when truth and falsehood grapple," chwedl Milton enwog, yn olygfa fendigedig. Dyina'r frwydr v mae Lloyd George wedi bod yn ei hymladd er pan y torodd allan gyntaf. Dywed y Parch. T. Morgan yn ei lyfr bychan y dyddorol yn cynwys hanes bywyd Lloyd George, mai ei araeth wleidyddol gyntaf, pan yn brentis yn Porthmadoc, oedd gwrthdys-tiad yn erbyn tan- beIcniad Alexandria. Y tanbeleniad hwnnw a baiodd i John Bright roi ei swydd i fyny vng ngAveinyddiaeth Cdadstone, ac a gyffrodd ddig Henry Richard. Ie, ymladd brwydrau egwydd- d- orion, gwrthwynebu twyll a thrais a chain, a wnacth I.lovcl Getorge o r dydd cyntaf vr aeth i Senedd PryJain hyd yn awr. Bod ganddo fesur prioclol o uchelgais sydd ddiamheuol; ond nid dyrchafiad personol, ond dyrchafiad gwirionedd, mi gredaf, ydyw prif amcan ei fywyd. Yn hyn y mae yn sefyll mewn gwrthgyferbyniad i Cham- berla.in a'r diwed-dar Argiwvdd" Beaconsfield. Cyfaddefai yr olaf unwaith wrth John Bright mai cyrhaedd c-n.wogrwydd personol oedd ei bxif nod yn ei yxfa Seneddol. Amcan iselwael, onite? Yr ydym yn cael ein hargyhoeddi yn iwy o ddydd i ddvdd, wrth sylwi ar gamrau ei fywyd, fod Lloyd George yn anrhaethol uwch Jaw hyn. Ac yr ydym yn rhoddi mwy o bwys ar feddu Y GONF.STRWYDD AMCAN hwn na phob dawn a medr o ba natur bvnag. Pa Gymro,—a Sais o ran hynny,—nad yw yn y d'yddiau hyn yn manwl syllu ar weithrediadau Mr. Lloyd George? mae yn sefyll ar binacl uchaf enwogrwydd. Mae -ei symudiadau yn ac allan o'r Senedd yn cael eu croniclo o ddydd i ddydd yn y newyddiaduron. Nid wyf am geisio myned dros ei hanes hyd yn oed am y pum mlynedd diweddaf. Ni chaniatta gofod i mi wneyd hynny, ac yn wir, y mae y peth yn afreid- iol, mae llvgaid pawb arno er pan y mae dill- ad y Brenin," chwedl yntau, am dano. Dywed- ir iddo ddewis y swydd o Lywydd y Bwrdd Mas- nach er mwyn ei alluogi i gario allan egwyddor- ion Rhyddfasnach. Gwyddai am gynlluniau a chynllwynion Chamberlain yn erbyn yr egwydd- orion hynny, a rhoes ei fryd ar eu gwrthweithio. Rhaid i mi addef fy mod yn ofni am ei anrhyd- edd pan wnaed y dewisiad yn hysbys, ac ym petruso ai tybed mai hon oedd y swydd a ddvgai fwvaf o glod iddo yn ei chyflawniad. Credwn hefyd fod ei elynion yn barod i ddarogan y deuai i warth wrth geisio Ilenwi y swydd. Ond ym- dafiodd gydag ymroad digyffelyb i'w gwaith, a gwyddis erbyn hyn sut y bu. Synwyd pawb gan ci fedrusrwydd anghydmarol ar y naill law, a'r hynawsedd a'r ymroad a ddangosai ar y ILaw arall. Gorfodwyd hyd yn oed y blaid wrth- wymebol iddo i'w ganmol am y modd dihafal y cyflawnai ei waith. Gwelwyd fod ynddo dalent I a medrusrwvdd annisgwyliadwy. Dangosodd mai ei brif amcan oedd gwneyd CYFIAWNDER I BOB DOSBARTH ac er gallu gwneyd hynny, ymgynghorai a'r rhai a wyTddent trwy brofiad am fanylion y budd- I iannau mewn cwestiwn. Gwrandawai ar eu cwynion yn amyneddgar, a cheisiai eu symud os oedd modd. Gwyr pawb am helynt streic gwyr v rheil- ffyrdd. Yr oedd v wlad mewn gwir berygl ar y pryd. Nid oes neb a all ddyfalu y niwed a all- asai y fath anghydfod ei achosi trwy ataliad yn y 23,074 o filldiroedd o reiiffyrdd y deyrnas, ac yn y rhai y mae cyfalaf cymaint a 1,287,375,000 o bunnau a arian wedi eu budd-soddi. Yr oedd y dynion mor benderfynol a'u meistriaid uchelfry-d o fynnu eu ffordd ond cyfryngodd Mr. Lloyd George yn y modd mwyaf deheuig a naturiol i heddychu y pleidiau. Dangosodd hynawsedd a thymer dd.a ar y naill law, a phenderfymiad a gwroldeb ar y llaw arall, ag oedd yn destyn edmygedd pawb. Mae y wlad yn cofio mai yn y cyfwng hwn y collodd ei Fair Eluned anwyl, canwyll ei lygad, ac am dano yn myned i GriccLe-th i dywallt dagrau hidl ar lan ei bedd dan bwyso ar fraich ei ewythr hybarch, ac iddo yn union wedi hynny brvsuro i Fanceinion i atal streic arall golygfa a barodd iddo suddo )"11 ddyfnach i galon y genedl nag erioed. Ond nis gallwn fyned dros y lliaws gweithred- oedd rhagorol a gyflawnodd Lloyd George yn ystod y misoedd y mae wedi bod mewn swydd, na myned dros v mesurau jhag-orol v mae wedi eu hyrwyddo drwy'r Senedd gyda'r "fath fedr a d-eheurwydd anghydmarol. Cymerai eu henwi a'u h-egluro ormod o le ac onid ydynt yn ys- grif-enedig yn llyfr cronicl brenhinoedd,"—ie, gwir frenhinoedd,—Prydain, a d-darllenir pob dydd ?an bawb. Gwneir, fe g-roniclir areithiau Lloyd George yn llawn ym awr, ac fe'u darllenir gyda theimlad dwfn gan ei garedigion, a chyda dyddordeb pryderus hyd yn oed gan ei wrthwyn- ebwyr. Mae ym anhawdd darllen ei areithiau pan yn desgrifio cyflwr yr hen a'r methiantus. ac yn dadIeu eu hawl i gynhaliaeth gan y wlad heb lygad llaith a bydd bendith v cyfryw yn ei ddih-n byth am y modd y cariodd efe v mesur ar eu rhan "drwy Dy y Cyffredin. Clywsom am un o'r cyfryw, vchydig amser yn ol, yn eistedd yn y set yn y Capel Cymraeg yn Llundain ym nesaf ato, a'r ddau yn cydgofio am angeu y Gwaredwr. Golygfa fendigedig. Ond yr hyn sydd wedi gosod yr enwogrwydd mwyaf arno, feallai, ydyw y Gyllideb anghyd- marol a ddygwyd i mewn i'r Ty ganddo ym mis Ebrill diweddaf mewn araeth hyawdl, glir, ac ar. gyhoeddiadol, a barhaodd am dros bedair awr. Buwyd yn dadleu y mesur hwn am chwe mis, ac fe safodd Lloyd George i fyny ddydd a nos yn dadleu o'i blaid, ac yn chwalu pob rhith o reswm a godwyd yn ei erbym, a hynny mewn mood ag sydd wedi peri syndod ac edmygedd cyffredin ol. Ar y pedwerydd o fis Tachwedd, pasiodd y mesur y trydydd darlleniad trwy fwy- afrif o 230. Pan aeth o flaen Ty yr Arglwyddi, dad leu wyd arno am chwe diwrnod yn unig,— mesur a chwiliwyd ac a chwaIwyd yn drwyadl ym Nhy y Bobl am chwe mis,—a thaflwyd ef all-an dan yr esgus ei fod yn fy 1 rhy bwysig i'w basio heb gael barn v wLad arno Ac y mae y wlad v dyddiau hym yrughanol berw etholiadol ac yn penderfynu nid tynged y mesur yn gymaint fel y gofyna Ty yr Arglwyddi, ond tynged yr Arglwyddi eu hunain, a'u hawl i lywodraethu ar v bobl a diddvmu a llurgunio mesurau Ty y Cyffredin. Mae y fnvydr sydd yn awr yn cael ei hymladd yn un or rhai pwysicaf a gymierodd le er y flwyddyn 1832, a phan enilla Lloyd George y fuddugoliaeth gyda i Gyllideb,—ac nis gallwn am foment ameu y gwna,—bydd ei enw ym sefyll ar restr flaenaf gwladiweinwyr Prydain. Mae y safle y mae wedi ei gyrhaedd ym marn y wlad, am y medr a'r gwrhydri a ddangosodd yn ystod y tymor y mae wedi bod mewn swydd, ym gyf- ryw fel pan grybwylhr ei enw mewn unrhyw gyfarfod cyhoeddus, derbynir ef gyda chymer- adwyaeth bob amser, a phan ar v llwyfan ei hunan, teimlir fod ei hyawdledd a'i resvmau vn anwrthwynebol. Mae ei holl yrfa Seneddol, yn xvir, yn syndod. A mwy: y mae wedi gosod ANRHYDEDD AR Y CYMRY FEL CENEDL. A goddefer imi ddweyd gyda phwyslais fod ychwanegu dylanwad Cymru yn amcan arbenig yn ei olwg pan ym mymed i'r Senedd gyntaf. Sydwer ar ei eiriau ym ei Anerchiad i etholwyx bwrdeisdrefi Sir Gaernarfon :—" Yn eu tro," meddai, y mae pob cenedl yn cael galwad i wneyd ei rhan mewn cario alLan rhyw gyfran neu gilydd o waith mawr dvnoliaeth, ac y mae cenhedloedd bychain wedi cael eu hanrhydeddu a chenhadaethau mawrion fel y cenhedloedd mwyaf. Fy nghred ddirifol i, ac y mae y gred hon yn cyfansoddi egvvydd-or ly-,vo-draethol fy mywyd politicaidd, yw fod tro Cymru wedi dod, ac os bydd ei holl feibion a'i merched, a'r dieithr o fewn ei phy-rth yn gwneyd eu dyledswydd, pob un yn ei gylch ei hun, y bydd hanes ein gwlad fechan yn deilwng o le yn hanes cenhedloedd sydd wedi gwneyd pethau mawrion i helpu plant dynion ar hyd llwybrau geirwon a serth at beth- au gwell." Delfryd fendigedig! Cadwed ein cenedl ei nodweddion goreu. ac na fydded iddi ddilyn y Saeson yn eu pethau salaf. A goddefer i mi ofyn yn y cysylltiad hwn, tybed nad ydyw dysg- eidiaeth y diweddar Henry Richard wedi lefeinio ein cenedl gymaint fel ag i feddu dylanwad nioc ddwfn ar Brydain drwyddi, ag a bar iddi droi ei holl nerth i wrthweithio yr ysbryd milwrol sydd yn y tir, ac i alw gyda bloedd anwrthwynebol am leihad yn ein darpariadau milwrol yn hytrach nag am ychwanegiad. Yr wyf ym mawr obeithio v gwelir y dydd y bydd 'Mr. Lloyd George ym troi y dydanwad mawr y mae wedi llwyddo i'w enill i gyfeiriad diarfogiad. ac y ceir ei weled yn eistedd i gvnrvchioli Prydain yn un o Gynnadleddau Heddwch yr Hague, ac y der- bynir ef ar ei ddyfodiad adref, nid fel Disraeli gynt yn gludydd Peace with honour ffugiol. ond Heddwch ac anrhydedd gwirioneddol.
I. .--..--LLONGYFARCHIAD
News
Cite
Share
LLONGYFARCHIAD I Mr. Christmas Jones a Chor Meibion Penmaen- mawr ar ei berflormiad penigamp yng Nghol. wyn Bay, Dydd Calan IglO. Roedd pawb a gwrddais heddyw, Yn tychan ac yn fawr. Yn talch o fuddug-oliaeth Cor Meibion Penmaenmawr A chlywais eco'r creigpiau Yn eilio'r brwd lnvre. Roed iddo yn Eisteddfod Dydd Calan, Colwyn Bay. Fe gfanodd On the Ramparts," Nes swyno'r dyrfa fawr; Y tencrs mwyn i tynv, A'r bassa-rs" cryf i lawr. Mor debygr oedd v marches Iftirches gwyr y g-âd. Nes ofnais fod bvddinoedd Germanaidd yn ein gwlad. Pe byddai corau'r Cilgwyn A Rhuthin wedi dod, I Benmaenmawr ddoi'r wobr 'Run fath. a mwy o glod. Mae'n medru suo-gfanu, A gwneud y fiiano 'n bur, A dal v nodau uwchaf A 'r double forte n hir. Ardderchog feib y creigiau, Rhoddasoch newvdd fri Ar fawredd ac enwogrwydd Fy ardal anwvl i Ewch rhagoch mewn perffeithrwjdd Cerddorol ddysg o hyd. I drechu corau Lloegr, LIanrwst, a Chymru i gyd. Parhewch i loewi'ch arfau, Bob sain i fyny a lawr, Er llorio y gelynion Yn "mrwydr Baltic fawr. Mae genych wyeh arweinydd. A lieisiau fel y môr,- Pwy WIT na eihv'r Brenin Am Christmas Jones a'i g6r. E. E. EDWARDS.
[No title]
News
Cite
Share
How is it that ministers often attain such amazing fluency of speech? One minister once admi+ted to a friend that it was the result of practice. Said he When I go out for a walk, I say to my stick, "Long stick, hard stick, strong stick, thick stick, light stick." His wag- gish listener promptly added Dry stick, and left him
Advertising
Advertising
Cite
Share
OUR TEIZM_s GOODS TO TKE V ALOE Of 15 depaslt 15/ weekl, paymua, 118 £10 381- 2/8 115 451- ,,318 120 801- 41- 925 151- 4/8 £58 "151/ ,,8/- ASTON'S MANGLES L Any''aBBBiit*!r» rata list Item. WITH REVERSIBLC COSMIOM.^H DISCOUNT TERMS. ^■CAPPED. WEIGHT'gfcCWTS Ui U6/9^^r| 10percSmS^mentw|thia 74178 from delivery. 5 per cent. for settlement witbiu 16 weeks from delivery. for settlement within 6 y JF nett afterwards. jSr 'V And 5 per cent, interest on overdue accounts 10 per c«nt. on deport per ovnt- on rwpttodir 01 7 i per ftnt. OD whOle II in 5par ceøt OD who It "tuad In v 21 per on wbole It eetUed Ie 12 moatbl No pt Settlement BLAF-K LOUIS CABICIET 4FT WIDE,7fTtilC,-t WITH 4 BEV ELLEO SHAFED tilRROR-, 7t -ill,-1 HAU 37 AHD CH, KA CuPSCAStD, FUMFDOAK .12.17. 3 113 0 t- ESTIMATE5 F (ATAWGUEJ FPJE lemma-"