Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION NED LLWYD.

News
Cite
Share

NODION NED LLWYD. ETHOLIAD '68. Mae yn dehyg mai hwn oedd yr etholiad pwysicaf yn hanes Cymru. Dyma'r pryd y daethom yn rhydd o afaelion Toriaeth er gwaethaf dylanvvad pob sgriw. Yn ddiweddar gwnaeth Mr. Lloyd George gyfeiriad at y nifer a drowyd allan o'u ffermydd yr amser hyny, a pharodd hyn i Mr. Lloyd Carter, Caernarfon, ei alw i gyfrif am y sylw, am ei fod yn anwireddus, meddai ef. Carwn wybod a all ef wadu hyn. Yn etholiad cyffredinol Meirion yn 1859 safodd rhai yn erbyn anhegwch y sgrivv, gan resymu dros hawl pob etholwr i bleidleisio yn ol argy- hoeddiad ei gdwybod. Gwrthododd rhai tenant- iaid bleidleisio am nad allai en cydwybod leisio dros ormes. Pleidleisiodd eraill yn erbyn eu meistri tiroedd mewn ufudd-dod i lais eu calonau. Trodd Mr. R. W. Price, Rhiwlas, saith o'i denant- iaid o'u ffermydd, nid am bleidleisio yn groes i blaid eu meistr, oblegid ni roddasant eu pleidlais i'r un ochr. Bu farw dau ohonynt ar ol hyny, sef John Jones, Maes y Gadfa, ac Ellis Roberts, Frongoch—dan gyfaill crefyddol a gwir ragorol. Cododd Barwnig Wynnstay rent unarddeg o'i denantiaid ag oeddynt wedi pleidleisio, a throdd o'u ffermydd bump ag oeddynt wedi pleidleisio yn erbyn y Toriaid, a chafodd Mrs. Mary Jones, o'r Weirgloddwen, gweddw y Parch. Michael Jones, sylfaenydd Coleg Anibynvvyr y Bala, ei throi o'i fterm pan yn 75 oed, ar ol byw yno am bymtheng tnlynedd ar hugain. Yr oedd ei mab, y Parch. Michael D. Jones, wedi bod yn gwasgu ar feddyl- iau etholwyr y ddyledswydd o bleidleisio yn ol eu cydwybodau ac heblaw troi ei hen fam o'i char- tref, cafodd capel Soar, ag oedd dan ei ofal, ei werthu i'r uchaf ei gynnyg, fel yr oeddid wedi gwerthu capel arall o'r enw Soar yn Maldwyn. Codwyd addoldy newydd yn Llandderfel, yn lie y Soar a werthwyd, a galwyd ef Ramah, er cof am y diniwaid a orthrymwyd o achos eu crefydd. Mae yr arysgrifen hon ar farmor uwch porth yr addoldy ADEILADWYD Y CAPEL HWN YN 1868, ER COF DUWIOL AM lOAN JONES, MAES-Y- GADFA, ELLIS JONES, FRONGOCH, A MARY JONES, WEIRGLODDWEN, MER- THYRON Y GWIRIONEDD." Fe ddylai cofio pethau fel hyn bed ein bod yn sefyll yn wrol dros Ryddfrydwyr, a gwneud y hyn allom er sicrhau eu dychweliad yn yr ethol- iad presennol. Yn ol pob arwyddion bydd mwy- frif mawr o'r ymgeiswyr Rhyddfrydol ym Mon, Arfon, Meirion, a Dinbych, a dylai fod felly ar bob cyfrif. BANGOR. Cefais y pleser o fod mewn cyfarfod cyhoeddus yma nos Fercher diweddaf, cyfarfod lliosog a gweddaidd neillduol. Canwyd amryw o ganeuon etholiadol gan y Cor sydd yn y ddinas dan ar- weiniad Mr. Griffith D. Jones, Berea, ac yr oedd myn'd da arnynt. Canwyd hefyd Mae George yn ffrynd i mi" gan ei hawdwr, a'r dyrfa yn canu y cydgan, ac adroddwyd hefyd "Carwn ein gwlad," Daeth Mrs. Lloyd George a Richard y mab i fewn, a roed derbyniad calonog iawn i'r ddau. Llywydd y cyfarfod oedd Mr. T. J. Wil- liams, St. Paul's, brawd galluog a doniol, ac un sydd wrthi a'i holl egni yn y frwydr hon. Arwr mawr y cyfarfod oedd Mr. Rufus Isaac, y bar- gyfreithiwr enwog. Siaradodd gyda dylanwad am awr a haner, a barn onest pawb oedd yno yn gwrandaw oedd fod y cyfarfod politicaidd goreu fu ym Mangor erioed. Yr oedd yr un gwr wedi bod yn annerch cyfarfod arall yn yr un lie (Pen- rhyn Hall) y prydnawn, a'r Henadur Henry Lewis, U. H., yn llywyddu. Mae yntau wedi ym- daflu i waith yn yr etholiad hwn fel ymhob etholiad. Talwyd diolch cynnes i Mr. Rufus Isaac, ar gynygiad Dr. Price, ac eiliad Mr. R. Muir. Yr wythnos nesaf bydd Mr. Caradoc Rees, Birkenhead, yn annerch cyfarfod ym Mangor. LLAIS O'R BEDD. Dyma fel yr ysgrifenai yr arwr mawr Rhydd- frydol, Mr. Henry Richard, yn 1868, a chredaf ei fod yn apelio atom ni yn y dyddiau hyn. Wedi marw yn llefaru eto." FY ANWYL GYDWLADWYR, Yr ydwyf yn gofyn caniatad i'ch anerch mewn ychydig eiriau, gyda golwg ar yr ethol- iad sydd wrth y drws, a'r unig esgus sydd genyf dros yr hyfder hwn, yw y cariad sydd genyf yn fy mynwes at hen wlad fy ngenedig- aeth, a'r eiddigedd yr wyf yn deimlo dros ei rhyddid a'i hanrhydedd. Mae y cyfnod presenol yn un o bwys an- nhraethadwy, mae dau beth yn enwedig yn cydgyfarfod i'w wneuthur felly. Yn un peth, mae'r bobl wedi dyfod i feddiant o lawer mwy o allu yn llywodraeth y wlad nag a gawsant erioed o'r blaen ac i'r un mesur ag y mae y gallu wedi cynyddu, y mae en cyfrifoldeb wedi myned yn fwy difrifol, ac ar yr un pryd ag y mae y gallu hwn wedi dyfod i ddwylaw y bobl, y mae cwestiwn wedi cael ei osod o flaen y wlad, sydd yn cynwys egwyddor, yn yr hon y gweddai i Gymru deimlo y dyddordeb gwres- ocaf. Yr wyf yn teimlo mwy o bryder nas gallaf fynegu am i hen wlad ein tadau ym- ddwyn yn deilwng o honi ei hun yn y fath gyfnod a hwn. "Mae'r awdurdod wedi dyfod i law y werin. ac mae'n dda genyf ganfod y wlad yn dechreu ymysgwyd, ac ymgynhyrfu drwyddidraw. Yr ydych wedi cael gofal fy nghydwladwyr, mewn amryw fannau, ar ddynion sydd yn werth ymladd drostynt—dynion sydd yn deall y wlad, ac yn medru cydymdeimlo a'ch egwyddorion a'ch dymuniadau. Nid oes genyf un peth i ddweyd yn erbyn cymeriadau personol y boneddigion sydd yn ymddangos fel ymgeis- wyr Toriaidd ar y maes etholiadol. Ond y mae genyf bob peth i ddweyd yn erbyn eu hegwydd- orion gwleidyddol. Os edrychwch ar hanes y blaid y maent yn perthyn iddi, chwi gewch weled mai hwy sydd wedi bod yn gwrthwynebu, yn y modd mwyaf ffyrnig a phenderfynol, bob gwelliant a diwygiad yn sefydliadau y wlad, ac yn amgylchiadau y bob!. Maent wedi bod bob amser a'u holl egni yn sefyll yn erbyn rhyddid o bob math—yn erbyn rhyddid gwladol, yn erbyn rhyddid crefyddol, yn erbyn rhyddid masnachol, yn erbyn rhyddid y caethion, yn erbyn rhyddid y wasg, yn erbyn rhyddid ethol- iadol a thros bob math o ormes, a gwastrafF, ac anghyfiawnder, ac yn enwedig, ac uwchlaw y cwbl, syhvch, fy nghydwladwyr, fod aelodau y blaid hon wedi gwrthwynebu hyd yr eithaf, ac ar bob aclilysur, bob cynyg a wnaed erioed yn y Senedd tuagat sicrhau ac eangu iawn- derau yr Anghydffurfwyr. A phlant ac etifeddion politicaidd y teulu hyn sydd yn awr yn hawlio pleidleisiau Cymru ryddfrydig ac anghydffurfiol A ddewiswch chwi y rhai hyn i'ch cynrychioli yn y Senedd ar y fath gyfnod pwysig a'r un presenol? Na wnewch, mi wn, os cewch chwareu teg. Ac yr wyf yn yn credu fod yn ddichonadwy i chwi FYNNU cbwareu teg i chwi eich hunain, os y bydd i chwi ymuno a'ch gilydd, a sefyll yn bendeifynol dros eich egwyddorion Deallwch un peth, fy nghydwladwyr, yn eithaf eglur, mai chwi bia'r bleidlais, a neb arall. Ymddiriedolaeth ydyw wedi ei gosod yn eich dwylaw chwi, gan y llywodraeth i gael ei hymarfer geftych yn ol eich cydwybod, er lies eich gwlad. Nid oes gan un meistr tir, na meistr gwaith, nastiward, na chyfreithiwr, fwy o hawl i gymeryd y bleid- lais oddiarnoch, trwy orfodaelh neu fygythion, nag a fvddai ganddynt o ddal pistol wrth ben un ohonoch, i'ch gorfodi i roddi fyny iddynt y ceffyl goreu yn eich ystabl, neu yr eidion goreu yn eich bendy. Lladrad haerllug yw y naill fel y llall. A chofiwch hyn hefyd, fy nghydwladwyr, nad yw yn bosibl i ormeswyr y dyddiau hyn i wneuthur, mewn diogelwch, y pranciau y bydd- ent arfer eu gwneuthur yn yr amseroedd a aethant heibio, y lIlae llygad y Wasg arnynt ymhob man. Mae rhai o honom, a mantais genym, trwy gyfrwng y Wasg a moddion eraill, i ddwyn y fath weithredoedd i oleu haul a llygad goleuni. Ac ni a wnawn hyny hefyd, nes byddo'r holl fyd yn gwybod. 'Am hyny, nac ofnwch hwynt, oblegid nid oes dim cuddiedig, ar nas dadguddir, na dirgel ar nas gwybyddir.' Gymry anwyl, mae miloedd o wir gyfeillion y Dywysogaeth yn Lloegr, yn edrych arnom ac yn disgwyl yn bryderus wrthym eleni. Yr wyf yn atolwg arnoch i fod yn fFyddlawn i'r ymddiriedolaeth bwysig sydd yn eich dwylaw. Nid er mwyn fy hun yr wyf yn apelio atoch fel hyn. Y mae bechgyn Merthyr ac Aberdar wedi penderfynu gofalu am danaf fi yn y modd mwyaf anrhydeddus. Maent yn sefyll fel cewri dros eu hachos a thros eu dyn yn wyneb pob dylanwad a hudoliaeth. Gwnewch chwi- thau yr un fath, fy nghydwladwyr, ac yna fydd y flwyddyn hon yn flwyddyn ogoneddus am byth yn hanesiaeth Cymru. Eich ffyddlawn was, HENRY RICHARD." Dylai darlleniad ystyriol o'r llythyr uchod apelio at galon pob Cymro trwy y wlad. Mor awyddus oedd y gwr enwog ar fod Cymru yn gwneud ei rhan, onide? Gwratidawed pawb ar y llais o'r bedd. Ysgrifenwyd y llythyr yn Hydref, 1868, a digwyddais ei weled mewn hen newyddiadur sydd yn fy meddiant. NED LLWYD, Swyddfa'r Weekly News, Conwy.

Ymgeisiaeth Syr Herbert Roberts.

Advertising

ICytarfod Rhyddfrydol yn Llanelian.

Nodion Llywarch Hen

Advertising

Cyfarfodydd Ysgolion.

Advertising

Nodion Llywarch Hen