Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

NODION NED LLWYD.

News
Cite
Share

NODION NED LLWYD. Dyma wyliau y Nadolig wedi ein gadael eto. Hyderaf fod y darllenwyr wedi cael gwyliau llawen a llwyddianus. Cynhaliwyd amryw eis- teddfodau yma ac acw, ond rhywfodd nid ydyw eisteddfodau yn rhyw lwyddianus a phoblog- aidd yn awr. Credaf nad oes cymaint o frwd- frydedd gyda hwy ac a fu amser yn ol. Beth all fod y rheswm am hyn, tybed ? Mae pwyligorau yn darparu yn dda ar gyfer ymgeiswyr, ond nid ydynt yn troi i fyny i gystadlu. Nid felly y mae gyda'r bel droed, mae tyrfaoedd lliosog iawn yn casglu at eu gilydd i faes y bel, a brwdfrydedd anghyffredin i'w weled yno, Clywais fod rhai cannoedd wedi myned gyda thren arbennig i Fangor o Gaernarfon dydd Sadwrn diweddaf. Er i'r tywydd fod yn anffafriol, nid oedd hyny yn oeri dim ar eu sel a'u ffyddlondeb. Tipyn yn ddigalon mae yn debyg oedd y dyrfa fawr honno yn dychwelyd gartref, oblegyd clywais mae colli ddarfu gwyr traed Caernarfon. Am y manyl- ion, Please apply to Lord Vigilant.' LLWYDDIANT MAWR, Brawd ag sydd yn adnabyddus iawn ydyw Mr. Tegfan Roberts, gan ei fod yn ymwelydd cyson a Dyffryn Conwy a'r cylchoedd. Mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangoed dydd Llun diweddaf, enillodd Tegfan yno gyda chor mawr. Efe hefyd a gipiodd y wobr am y ped- warawd, triawd, deuawd, a dau neu dri o un- awdau. Enillodd hefyd yng Nghonwy ddydd Sadwrn. Yn sicr y mae llwyddiant eithriadol fel hyn yn haeddu gair o longyfarchiad, oblegyd yr oedd gystadleuwyr da. Y beirniad cerdd- orol yn Llangoed oedd Mr. J. Tudor Owen, Ffes- tiniog. Mae ef yn gymeradwy iawn yn Llan- goed, fel mannau eraill. Hwn, mi gredaf, oedd y trydydd tro iddo fod yno yn olynol. Nid wyf eto wedi cael llawer o fanylion am yr eistedd- fodau sydd wedi eu cynnal y Nadolig ond de- allaf i Dewi Mai o Feirion ennill gwobr ym Mhen- machno, ac Ap Huwco, Mon, yn yr un lie. Eryl Menai oedd y goreu am englyn i'r Pur o galon." Drwg gennyf nad yw yr englyn wrth law i'w roddi i fewn yma, gan fod yr beirniad yn canmol yr englyn yn fawr. Clywais hefyd fod Samuel Tudor Hughes, Ap Eryl Menai, wedi bod yn fuddugol am adrodd Hwiangerdd Sul y Blod- au," a chael gwobr hefyd mewn lie arall yr un diwrnod am chwareu y berdoneg. Da iawn, onide ? PENMAENMAWR. Yr wyf wedi clywed gair yn ddistaw am y swper Hen Lanciau fu yma yn ddiweddar. Gan fod arnynt ofn i mi roddi eu hanes yn y Nodion," gwell gennyf beidio rhag ofn i mi bechu gormod. Yr oedd yn dda gennyf weled fod pobl Salem wedi penderfynu cael eistedd- fod y plant yn nechreu Mawrth. Cyfaill calon i'r plant ydyw yr Athraw W. J. Roberts, llywydd y pwyllgor. Sicr gennyf y bydd yn llwyddiant. BANGOR. Yn y prawf gyngherdd a gynhelid yn addoldy y Bedyddwyr yma nos Sadwrn gwasanaethai Mr. Josef E. Jones, Conwy, fel beirniad cerddorol. Yr oedd efe yno gyda hwy y llynedd hefyd. Nid oedd rhif yr ymgeiswyr yn lliosog yno, ond yr oil a gystadleuodd wersi a chvnghorion pri- odol gan Mr. Jones. Mr. James Defiard, Ban- gor, oedd y goreu ar yr her-unawd, y wobr yn 15s. Dywedodd Mr. Jones pe buasai y wobr yn gymaint ddwywaith, y buasai y datganiad vn teilyngu hynny. Rhanwyd y 15s. a gynygid am chwareu y berdoneg rhwng Hannah Eardley, Dean-street, a J. D. Williams, Glanadda. Aeth y ddwy wobr am adrodd i Minnie Gowld, Porth- dinorwig. Mr. J. H. Roberts, B.A., Colwyn Bay, a Mr. C. D. F. Humphreys a feirniadai yr adrodd. Cyfeiliwyd yn feistrolgar fel arfer gan Pencerddes Arfon. Merch yr ysgrifennydd. Perorydd Menai, oedd yr oreu am ganu Telyn- au'r Saint." Nid oes le i fanylu ar y cyfarfod. Prysur iawn fu Mr. Caerwyn Roberts tua'r gwyliau. Nos Sadwrn yr oedd yn arwain a beirniadu yn y Graig, ger Bangor, a dydd Llun yn Llangoed, Mon. Enillodd Miss Maggie Wal- ford yn y Graig am adrodd, ac enillodd hefyd yn Llangoed. Tepot arian oedd y wobr yno. Da iawn merch a'i henillodd, onide ? Daw yn hwylus iawn. Gwilym Owain, Llansadwrn, -oedd y bardd buddugol yno, a chafodd goron arian hardd. Coronwyd ef gyda hwyl. Ar y prif adroddiad cynygid cwpan arian hardd, ac enillwyd hi gyda chymeradwyaeth galonog gan Mr. H. Aethwy Pritchard, Bangor. Dyma'r ail iddo ennill y flwyddyn hon. Enillodd y Hall yn Prestatyn y Llungwyn, pan yr oedd niter fawr iawn yn ymgeisio. Hwyl a llwydd i chwi oil, gyfeillion anwyl. COLWYN BAY. Tra yn son am yr Eisteddfodau yma, gwell fyddai i mi roi gair o gymhelliad i chwi i ddyfod yn llu i'r Pafiliwn dydd Sadwrn. Mae Penllyn yn dweyd fod rhagolygon ardderchog. Bydd Ap Eos y Berth ac Eos Dar yno, a phe na byddai ond hwy a Llew Tegid yno, byddai pawb yn sicr o gael gwerth eu pres. LLANFAIRFECHAN. Dyna stroke dda a wnaeth Cor Meibion Llan- fairfechan yn Lerpwl, ennill y wobr a'r clod, pan yr oedd pedwar o gorau eraill yn eu herbyn. Yr oeddwn i'n meddwl y buasent yn ennill, gan mor dda yr oeddynt yn canu. Fel yr oeddwn i hefyd yn dymuno, fe enillodd Cor Meibion Mr. O. T. Jones. Well done, y ddau gor. Mr. Joseph G. Thomas, Cwmyglo, oedd y beirniad yn Llanfairfechan. Da oedd gen|i glywed am mab arweinydd y cor, Mr. Ivor Caradog Jones. Deallaf ei fod wedi enill yrradd o A.C. Da iawn. Rhwydd hynt i chwi. YN AWR NEU BYTH. Mawr ydyw yr ymdrech a wneir gan y Toriaid i sicrhau llwyddiant yn yr etholiad presennol. Teimlant, mae yn debyg, os nad enillant yn awr y bydd ar ben arnynt. Mae pob rheswm yn galw ar i'r Rhyddfrydwyr ddangos yr un sel a ffyddlondeb. Byddai colli y cyfle presennol yn golled ddifrifol. Flynyddau lawer yn ol, yr wyf yn cofio bod mewn cyfarfod mawr Rhyddfrydol, ac yr oedd yr anwyl Tom Ellis yn un o'r areith- wyr, a choflaf iddo wneud defnydd da o'r stori ganlynol, yn cymhell yr oedd ar i'r gwrandaw- wyr fod yn fyw i'w cyfrifoldeb. Yn awr ydyw yr amser," meddai, i ni waeddi am ein hawliau. A glywsoch chwi y stori am y ffermwr a'r gwyddau ? Byddai ffermwyr yn yr amser gynt yn arfer bragu gartref. Yr oedd un ffarmwr neilltuol wedi bod wrthi yn bragu un diwrnod, ac wedi iddo ddarfod, fe daflodd y soeg allan i'r buarth. Ymhen amser daeth y gwydd- au i'r buarth, a dechreuasant fwyta y soeg. Y canlyniad fu iddynt fyned yn farw feddw i gyd. Pan y daeth y ffarmwr yno a'u gweled yn y cyflwr hwnnw, gorchymynodd fyned a hwy i'r ty a'u pluo. Felly y gwnaed. Ond yn fuan ar ol iddynt gael eu pluo, dechreuasant glegar '7' dros y lie, a daeth y ffarmwr yno, ac meddai, '¡PéJ,m na fuasech yn clegar wrth gaal eich pluo ?"' Mae y wers yn eglur. Ofer fydd i ninnau gwyno ar ol cael ein pluo. Yn awr am dani. Nid anghofiaf byth yr effaith gafodd ar y gynull- eidfa oedd yno. LLANDUDNO. Rhyfedd gennyf ddeall fod y Parch. Tom Dav- ies yn myned yn ol i'r De. Yn ol a glywais, bydd yn dechreu yn Llandyssul y Sul cyntaf ym Mawrth. Gan ei fod wedi penderfynu myned, nid oes gennyf ond dymuno pob llwydd iddo yn ei gylch newydd. Mae wedi bod yn weinidog ffyddlon yn Llanbedr a Llandudno, a chwith fydd ei golli o'r cylch. Rhag ofn na welaf ef cyn mynd, goddefwch i mi ddweyd Ta-ta wrtho. Ned Llwyd," Weekly News Office, Conwy.

[No title]

Nodion Llywarch Hen

Advertising

-_._----Cyfarfod Misol Dyffryn…

-------.-.. Adolygiad y Wasg.

Advertising

IDenbighshire Licences Withdrawn.

--.---Elusen Sgweiar Griffith,…

Advertising

Llanrwst Petty Sessions.

....--... Hotel Metropole,…

----.--Complaint Against Welsh…

Advertising

Death and Funeral of Miss…

----.--A Deganwy Sensation.

-----.:.. Vale of Conway Agricultural…

Nodion Llywarch Hen