Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION NED LLWYD.

News
Cite
Share

NODION NED LLWYD. SWN Y FRWYDR. Dyma sydd i'w glywed ymhob man y dyddiau hyn. Nid ydyw y brwdfrydedd mi gredaf wedi codi i'r pwynt uwchaf eto. Cyfyd y llanw hwnw fel ac y bydd dydd yr etholiad yn agoshau. Deallaf mae cyfarfodydd dipyn yn anffafriol oedd i Mr Thompson yn Eglwysbach a Glan Conwy. Mae yn sicr genyf nad ydyw ef na neb o'i bleidwyr am foment yn meddwl y bydd iddo gael ei ethol yn lie Syr Herbert Roberts, un sydd wedi profi ei hun yn wr anrhydeddus yn nghyflawniad ei ddyledswyddau yn y -Senedd. Boneddvvr teilwng ydyw ef, a diau genyf y bydd i'r etholwyr ddangos eu parch iddo eto trwy ei ddychwelyd gyda mwyafrif mawr. Yr oedd yn dda genyf ddeall fod cAn etholiadol "Searchlight" yn cymeryd yn dda yn y cyfarfodydd. LLANFAIRFECHAN. Bu cyfarfod cyhoeddus yma nos Fawrth, o blaid Mr William Jones, A.S. Siaradai tri o wyr galluog o Fangor gydag eraill, sef y Parch Thomas Hughes, Parch Wynn Davies, a Mr T. J. Williams, St. Paul's. Mae gan y tri hyn ddigon i'w ddweyd, ac yn gallu dweyd hefyd gyda hwyl. Deallaf fod y gymdeithas Rydd- frydol yma yn fyw iawn, dan lywyddiaeth Mr W. M. Eames, ac y mae ganddynt ysgrifenydd rhagorol, yn mherson Mr Griffith. Ewch ymlaen yn galonog gyfeillion, mae baner bnddugol- iaeth yn eich haros.—Drwg iawn genyf ddeall fod y Parch J. Arfon Davies yn wael, ac wedi ei gaethiwo i'w wely. Mae ef wedi cymeryd rhan amlwg gyda Rhyddfrydiaeth, a gwahanol achos- ion daionus yn yr ardal. Hyderaf y bydd iddo gael adferiad buan, ac y gwelir ef eto yn gallu cymeryd rhan yn mywyd cymdeithasol y lie.— Mae yma barotoi mawr at y cyfarfod sydd yn Horeb y Nadolig. Hei lwc y bydd i gor meibion Owen Thomas enill y wobr ynte ? PENMAENMAWR. Y dydd o'r blaen gwelais yma yr anerchiad hardd a gyflwynir ddydd Iau nesaf i'r boneddwr Colonel Darbishire, Y.H., am ei wasanaeth cy- hoeddus yn a thros Penmaenmawr. Ruasai yn dda iawn gennyf fod yn y cyfarfod, ond nis gallaf. Os bu boneddwr erioed yn haeddu anerchiad fel hyn, yn ddios y mae y boneddwr hwn. Nid oes mewn un lie yn y wlad deulu sydd wedi bod mor garedig a haelionnus at wahanol achosion a theulu Colonel Darbishire. Er ei fod ef vn awr yn bwriadu ymneillduo o fywyd cyhoeddus, o galon bur yr wyf yn dymuno iddo lawer iawn o flynyddau eto i wn.eud daioni, ac yr wyf yn sicr mai hyn ydyw dymuniad pawb sydd yn ei adna- bod. CONWY. Mae y Rhyddfrydwyr yma wedi dechreu ar eu gwaith, ac yr wyt yn deall fod y rhagolygon mor glir ag erioed. Mae yr amgylchiadau yn galw am i bob un wneud ei ran yn ddewr yn y frwydr hon. Mae enw Mr. Lloyd George yn anwyl gan y mwyafrif yng Nghonwv, ac y mae y gwaith mawr sydd wedi ei wneud ganddo yn ein cym- mell ni oil i wneud yr hyn a allwn tuag at ei ddy- chwelyd gydag anrhydedd. Mi a wn yr etholir ef, ond nid wyf yn foddlawn ar hynny yn unig; rhaid i ni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi y gwasanaeth gwerthfawr sydd wedi ei roddi ganddo, nid i ni yn unig, ond i'w genedl a'r wlad yn gyffredinol. Dyma gan a welais y dydd o'r blaen. Cenir hi eisoes mewn amryw leoedd "MAE GEORGE YN FFRYND I MI." (Meddai Mr Vincent yn Nghaernarfon, Y mae George yn ffrynd i mi "). Alaw Gwnewch bobpeth yn Gymraeg." Mae'r frwydr wedi dechreu, Fe ganodd corn y gid 'Rym ninan oil yn barod I sefyll dros ein gwlad Yn unol ymosodwn I godi hon i fri, Fe ddywedodd Mr Vincent, "Mae George yn ffrynd i mi." Mae George yn ffrynd i mi, Mae George yn ffrynd i mi, Mae pawb 'run farn a Vincent, Mae George yn ffrynd i mi. Bu'r ffarmwr diwyd gonest Yn dioddef, do yn hir, Gan geisio ei iawnderau Oddiwrth Arglwyddi'r Tir A hwythau yr Arglwyddi Yn gwrthod gwrando'i gri, Ond dywed y ffarmwr heddyw, Mae George yn ffrynd i mi." Mae George yn ffrynd i mi, Mae George yn ffrynd i mi, Ond dywed y ffarmwr heddyw, Mae George yn ffrynd i mi. Mae'r hen sydd yn y gornel, 'Rol bod am gyfnod maith Yn brwydro'n erbyn tlodi, Fel tystia llawer craith Mae yntau heddyw'n canu Wrth danllwyd braf o dan, Mae'n diolch am ei bensiwn, A dyma yw ei gan Mae George yn ffrynd i mi, Mae George yn ffrynd i mi, Mae pawb 'run farn a Vincent, Mae George yn ffrynd i mi. Mae pawb sydd am iawnderau, Yn bloddio heddyw'n glir, I lawr a'r holl Arglwyddi, Ymladdwn dros y gwir," Mae'r gweithwyr holl yn uno I ganmawl Dafydd ni, A dwed pob un o honynt, Mae George yn ffrynd i mi." Mae George yn ffrynd i mi, Mae George yn ffrynd i mi, Mae pawb 'run farn a Vincent, Mae George yn ffrynd i mi. Rhag. 18, 1909. DEINIOL FYCHAN. Yr oedd Mr Vincent yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ym Mangor nos Fawrth, yn y Penrhyn Hall, ac Arglwydd Penrhyn yn Gadeirydd. Dy- wedodd Mr. Vincent yn hwnnw fod yn ddrwg ganddo na fuasai yng Nghaernarfon yu gwran- daw ar yr araith ragorol oedd gan Mr Lloyd George. Pan y soniodd am yr enw rhoed clap calonog iddo gan ran fawr o'r gynulleidfa. Dywedodd mai nid y Gyllideb ydyw y peth pwysicaf yn yr etholiad, ond cael gwaith i'r bobl a chyflog am ei wneud a'r cynllun i sicrhau hynny, wrth gwrs, yn ol ei farn ef, ydyw Tariff Reform. Yr oedd hefyd gydag ef rhyw fargyf- reithiwr o'r enw Mr Henry-o ba le nis gwn. Siaradwyd yn Gymraeg gan y Parch. W. Morgan, M.A., St. Ann's. Dywedodd ef iddo fod yn Ffestiniog, ac iddo gael ymgom ynoi masnachwr o'r Ile hwnnw am y fasnach lechi. Dywedodd hwnnw wrtho nad oedd eisieu rhoddi toll ar lechi tramor ei fod ef yn adeiladu tai weithiau, a'i fod yn cael y llechi i'w toi o'r lie rhataf. Y casgliad naturiol oddiwrth yr ymddiddan oedd fod y masnachwr hwnnw yn toi ei dai gyda llechi tramor. Anhawdd iawn gennyf gredti hyn. Mae yn debyg fod yn yr ardal honno rai all gadarnhau hyn neu ei wrthbrofi, Cafodd Mr Morgan ei alw i gyfrif yn gyhoeddus gan Mr Pentir Williams ar fater arall yn y cyfarfod, ac yn fuan iawn ar ol hynny fe eisteddodd i lawr. Mae yn debyg y bydd y Rhyddfrydwyr yn y cyfarfod cyhoeddus nesaf a gynhelir yn adolygu areithiau y cyfarfod a gynhaliwyd nos Fawrth. Y NADOLIG. Cyn y caf ysgrifenu eto bydd y Nadolig wedi myned heibio. Mae rhagolygon gwych am Eisteddfod lwyddiannus yng Nghonwy fel arfer, ac yn Eglwysbach a Threfriw. Bydded llwydd- iant mawr ynddynt oil. Mae Catrin a minau yn dymuno Nadolig Lawen i'r darllenwyr a staff y Weekly News." Hwyl fawr ac iechyd i chwi oil. NED LLWYD," Weekly News Office, Conway.

Nodion Llywarch HenI

Advertising

.....--._.-Congl yr Awen.

..--. Trefriw Council School.

IFred W. Jones.

---.-.-...:-North Wales Coast…

.-.-..:-Colwyn Bay Conservative…

....--.---An Open Letter to…

Advertising

Mr. William Jones' Campaign.

COLWYN BAY.

Nodion Llywarch HenI