Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

MODION NED LLWYD.

News
Cite
Share

MODION NED LLWYD. CONWY. Deallaf fod y cyfarfod cyhoeddus gafwyd yn y Neuadd Drefol nos Fawrth cyn y diweddaf, wedi troi allan yn llwyddiant mawr. Gwnaeth Mr T. C. Lewis gadeirydd rhagorol, ac yr oedd ei anerchiad yn dda neilltuol. Er ei bod yn. siomedigaeth i liaws na ddaeth Mr Ure, A.S., i'w gyhoeddiad, da gerwiyf nad eff-eithiodd ei absenoldeb ar frwdfxydedd y cyfarfod. Catoda Mr J. 'P. Griffiths hwyl axdd-erotiog, a chofir yn hir yr anexchiad doniol a da gafwyd gan y Parch. Daniel Hughes. Gresyn na fuasai rhai o'r arglwvddi ffol a rhyfygus yn y cyfarfod iddynt gael gweled a chlywed beth yw bam y Cymry am danynt. Mae wedi dyfod yn ddydd barn arnynt, ac yn bersonol yr wyf yn hyderus iawn, yr argyhoeddir hwy o wirionedd yr ym- adrodd Trech gwLad nag arglwydd." Brwydr ofnadwy fydd hon-yn awr netu byth am dani. Mae udgorn rfiyfel yn galw i'r gad bob dyn. wr i wneud yr hyn all o blaid sicrhau mwyafrif eta i'r blaid Ryddfrydol. Bydd yn ddifri-fol arnom pe y digwyddai yn wahanol. Diolch_i Rhyddtfrydrwyr Conwy am roi cychwyn mor dda. Diau y ceir eto gyfarfodydd brwdfrydig yn yr un lie cyn yr elo y frwydr fawx hon heibio. COR Y MOELWYN. Yr oeddwn yng Nghonwy dydd lau, ac yr oedd Vl1 ofid i mi orfod gadael y dref cyn cael cyfle 1 wrando y cor enwog hwn. Balch oeddwn i ddeall fod y cyagherdd yn llwyddiant mawr, aC fod yr hen gyfaill, Mr Cadwaladr Roberts, U.H., yn ei hwyliau goreu, a'r cor yn canu mor ar- dderchog. Profodd Bryfdix ei hun yn arweinydd medrus, a pha ryfedd, onid ydyw yn hen law gyda'r gwaith. ? Mae wedi arwain rhai cannoedd o gyngihexddau, &c., felly, nid rhyfedd oedd ei fod mor gartrefol a hwyliog. Gofod a balla i m sylwi ar yr oil oedd yn cymeryd rhan yn y cyngherdd. Mae Miss Mary King-Sarah yn parhau i ganu mor effei thiol ag erioed, a bydd hi yn sicr o gael derbyniad croesawgar yr ochr arall i'r dwr ac yn ol Y Drych," mae dis- gwyliad mawr am y cor. a'r cantor ion oil yng ngwiad yr Iauici. Nos IVenCT nesaf rhoddir cyfle i bobl Penmaenmawr i gael clywed y cor, ac yr wyf yn sicr y bydd yno gynulliad teilwng. COLWYN BAY. Gwelaf fod gryn gynhwrf yma gyda gwg ar safle pabell yr Eisteddfod. Gwylir y ddadl gan liaws o Eisteddfodiwyr yma ac acw yn y wlad, a hyderir y gellir dyfod i delerau heddwch. Nid oes gennyf awydd ymyryd yn y mater, oblegyd mater iddynt hwy yng Ngholwyn Bay ydyw yn bennaf. Enillir un peth yn arbennig trwy y ddadl, sef cael sylw y wlad at vr Eisteddfod, a bydd hynny yn fanteisiol yn y pen draw. Tra yn son am yr Eisteddfod, fe gofir i bobl Bangor symud at gaell yr Eisteddfod yn 1912, a phan y crybwyllwyd hynny ar ddydd cyhoeddiad Eis- teddfod Colwyn Bay, sicrhawyd hwy nad oedd neb arall wedi gwineud cais. Yn awr, amlwg ydyw fod pobl LeTpwl, yn selog am dani yn y flwyddyn honno. Bydd dadl ddyddorol ar hyu yn amser Eisteddfod Colwyn Bay, a cheir gweled pwy a Iwyddo, RHODD DEILWNG. Llonwyd calonau lawer bore Sadwrn diwedd- af wrth we Led hysbysiad fod y boneddwr, Mr J. Pritchard Jones, U.H., Llundain, wedi addaw £ 12,000 at Goleg newydd Bangor. Yr oedd wedi rhoddi f3.,coo o'r blaen. Codir neuadd ynglyn a'r Coleg sydd i gostio .fr5,ooo, felly bydd Mr Jones wedi cyfranu digon i dalu am honno, a gelwir hi ar ei enw ef. Diolch i'w galon hael. Bydd ei enw yn aros yn anwyl i'r oesau a ddel am ei gariad a'i haelioni at amcan mor dedlwrtg. Nid oes llawer o nynyddoedd er pan yr aeth yr un boneddwr i draul fawr i godi neuadd yn Niwbwrch, Mon, ei le genedigol. Ceir yn y neuadd honno lyfrgell ardderchog, ac. ar wahan i hynny, mae yno hefyd nifer o da; wedi eu codi. a rhoddir hwy yn rhad i hen bob? o'r lie, a dhyfrana hefyd yn wythnosol tuagat eu cadw yno. Pwy na theimla yn ddiolchgar am y fath esia.mplau o haeliioni? Gwyn fyd nad efelychid ef gan eraill sydd yn meddiianmi ovfoeth lawer. TARO YN GALED AI nos Snl yn ddiweddar yr oedd gwraig wedi myned i addoldy a baban'ar ei braich. Gan nad oedd y byohan yn deall fawr o'r hvn oedd yn myned ymlaen, aeth yn aniddig, a dechreu- odd grio. Yn fuan cododd y fam, gan feddwl myned ag ef allan, pryd y sylwodd y pregethwr Peidiwch a mynd ag o allan dewch ag ef ymlaen i'r set fawr yma. ac mi trvaga yn union deg." Nid yw yn debyg fod yr un o'r blaenor- iaid hynny wedi gofyn. am gyhoeddiad arall i'r pregethwr hwnnw. PENMACHNO. Da y gwnaeth y frawdoliaeth vma gyflwyno dyste-b i'r cyfaill Hyfreithon ar ei fynediad odd;- yma i fod yn weinidog. Bu y brawd yn ffydd- lon a gwasanaethgar gyda gwahanol achosion yn yr ardial. Pobl gaTedig ydyw pobl Penmach- no bob amser.—Gwelais fod Mr Owen Jones wedi ei ddewis yn orga-nydd yn yr eglwys yma. Anhawdd iawn fuasai cael neb gwell, ac nid oes eisiau pryderu na ddyry efe foddlonrwydd cyffredinol. Pan at i'r lie, mynnaf droi i'r eg- lwys i'w glywed. Mi garwn ei weled yn chwareu cyfeiliant i'r Per-son a'r "Y gweinidog," pegalliai y ddau gytuno i ganu y ddeuawd ihonno Mae Cjmry'n barod DOLWYDDELEN. CydymdeiimliT a'r hen gyfaill Mr Ellis Wil- liams, Berth 'Bos, oherwydd lddo gvfarfod a damwain yn ddiweddar. Brysied wella, on-de ni fydd fawr o drefn ar y lie heb ei wasanaeth ef. Mae yn wir fod yno Ellis arall, sef Elis o'r Nant; ond rhaid cael y ddau yn iach cyn y bydd pethau yn iawn yno. AT OHEBWYR. Mae yma lythyrau wedi dod i law, ond rhaid eu gadael hyd yr wythnos nesaf. Os gwelwch yn dda, peidiwch ac anfon llythyrau Saesneg yma, onide, mi fyddaf yn digio. NED LLWYD," Weekly News Office, Conwy.

---...... YT Nodion Llywarch…

Advertising

[No title]

North Wales Coast Football…

N.W. Coast Wednesday League.

The Living of Clynnog-.

Advertising

West Denbighshire Liberals.

A Rhos-on-Sea " Traveller."

__-._. Christmas Puddings.