Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

Penmaenmawr Urban DistrictI…

FOOTBALL.

ABERGELE C.S. v. EPWORTH COLLEGE

Advertising

Talycafn Fat Stock Show.

..--... Llanrwst Board of…

Hockey Tit-Bits.

Folk Songs of Wales.

DEATH OF 4ctbl) gtlorenfia…

TillMEMBEB Sir James Bar and…

Llys Manddyledion Ffestiniog.

Achos Pwysig i Amaethwyr.

News
Cite
Share

Achos Pwysig i Amaethwyr. Yn Llys Manddyledion Lerpwl, ddydd Mawrth diweddaf, o flaen y Barnwr Shand, erlynai Mr Fred Golding, corn merchant, Liverpool, Mr. John P. Thomas, Pandy Mills, Penmachno, am swm a honid oedd yn ddyledus arno am feeding stuff" a werthwyd iddo gan Gynrychiolydd y Gofynwr yn Llanrwst. Ymddangosai Mr Clothier, Lerpwl, dros y gofynydd a Mr W. Twigge Ellis, Llanrwst, dros y diffynydd. Ym- ddengys fod Mr Thomas wedi talu yr arian i gynt-yciiiolydd y gofynydd, yr hwn a'i camddef- nyddiodd hwy, ac a sydd yn awr yng ngharchar. Dadleuai Mr Clothier dros fod y geiriau ar yr "invoice" yn dweyd fod yr arian i'w talu yn Lerpwl i Mr Golding, ac nad oedd gan Thomas hawl i dalu i'r trafaeliwr, a gofynai fod i Thomas dalu eto. Dadleuai Mr Twigge Ellis maecytundeb rhwng Thomas a'r trafaeliwr oedd fod yr arian i'w talu, a'r nwyddau i'w hanfon i Lanrwst, ac felly fod y cytundeb wedi ei chario allan. Wrth roddi y ddedfryd, dywedodd y Barnwr ei fod yn credu tystiolaeth Thomas ddarfod iddo gytuno gyda'r trafaeliwr i dderbyn y nwyddau yn Bettws-y-Coed ac i dalu am danynt yn marchnad Llanrwst, a'i fod wedi talu felly yn ol y cytundeb i'r trafaeliwr, a'i fod felly yn rhoddi y ddedfryd o blaid Thomas, ac i Golding dalu y costau oil.

BETTWS-Y-COED.

EGLWYSBACH.

LLANGERNYW.

TREFRIW.

TALYBONT.